Agenda and minutes

Cyngor Sir - Dydd Llun, 20fed Mawrth, 2017 2.00 pm

Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Prif Swyddog, Plant a Phobl Ifanc

Cofnodion:

Agorodd y Cadeirydd y cyfarfod ac esboniodd mai diben yr eitem gyntaf ar yr agenda fyddai penodi Prif Swyddog dros Blant a Phobl Ifanc.

 

Yndilyn y broses gais, dywedodd y Prif Weithredwr fod dau ymgeisydd wedi mynychu diwrnod asesu trylwyr. Cafodd y Cyngor adborth o'r asesiad a dywedwyd wrthynt bod un ymgeisydd, Mr. W. McLean, wedi rhagori ar y meincnod ac iddo gael ei wahodd i roi cyflwyniad 10 munud i'r Cyngor.

 

Hysbyswyd aelodau mai'r opsiynau yn dilyn y broses gyfweld fyddai:

I. Gwneud  cynnig o benodiad;

II. Penderfynu na ddylid gwneud cynnig o benodiad.

 

Yndilyn trafodaeth croesawyd Mr. McLean a roddodd gyflwyniad a chafodd ei gyfweld gan y Cyngor. Ynagofynnwyd i'r ymgeisydd adael y siambr er mwyn i Aelodau gymryd penderfyniad. Mewnpleidlais cytunodd Aelodau yn unfrydol gydag argymhelliad y dylid penodi Mr. McLean.

 

Dychwelodd Mr. McLean i'r cyfarfod, derbyniodd y penodiad, a chafodd ei longyfarch gan Aelodau.

 

3.

Adroddiad y Cadeirydd ac unrhyw ddeisebau sydd wedi eu derbyn pdf icon PDF 194 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y Cyngor adroddiad y Cadeirydd.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Sir S.B. Jones ddeiseb ar ran preswylwyr Felinfach gan fynnu fod gweithredu ar frys ar gerbydau sy'n goryrru drwy'r pentref, lle canfuwyd fod 99.1% o gerbydau yn goryrru.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Sir S. Howarth ddeiseb yn ymwneud â hawliau tramwy cyhoeddus yng Ngheunant Clydach, Gilwern a Llanelli Hill. Bu anghydfod ers 22 mlynedd am hawl tramwy 118 a gofynnwyd am gau fel mater o frys.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Sir V. Smith ddeiseb yn ymwneud â chyflymder a'r traffig cynyddol ar yr A472 Woodside i Felinfach. Fel arwydd o bryder preswylwyr, esboniodd y Cynghorydd Sir ei bod wedi ceisio ymgynghori gyda phob preswylydd ar hyd y llwybr hwnnw, a dim ond un unigolyn oedd yn pryderu mwy am fand eang na diogelwch ffordd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Sir P. Fox y derbyniwyd deiseb gan breswylwyr Pwllmeurig parthed goryrru ar yr A48, gan ofyn i'r Cyngor ystyried gostwng cyflymder maes o law.

 

4.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd Sir F. Taylor ddatganiad o fuddiant personol heb fod yn rhagfarnu yn dilyn Cod Ymddygiad Aelodau, yng nghyswllt eitemau 9d a 93 fel aelod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Sir S. Howard ddatganiad o fuddiant personol nad oedd yn rhagfarnu yn unol â Chod Ymddygiad Aelodau, yng nghyswllt eitem 9b, fel aelod o wasanaethau canolfan hamdden yn y Fenni.

 

 

 

5.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

None.

6.

Rhestr o Gynigion

Ni dderbyniwyd dim.

 

Cofnodion:

None.

7.

Aroddiad Aelod Cabinet, y Cynghorydd G. Burrows

7a

Datganiad Safbwynt - Gofal Cymdeithasol, Diogelu a Iechyd - Mawrth 2017 pdf icon PDF 207 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd Sir G. Burrows, Aelod Cabinet, ddatganiad safle ar Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd.

 

Wrth wneud hynny, diolchodd i Arweinydd y Cyngor am y cyfle dros y chwe blynedd ddiwethaf, gan ychwanegu iddi fod yn fraint.

 

Ar ran y Gr?p Llafur ac fel Cadeirydd Pwyllgor Dethol Oedolion, diolchodd y Cynghorydd P. Farley i'r Cynghorydd Burrows. Ychwanegodd y croesewid adroddiad 'diwedd tymor' gan bob Aelod o'r Cabinet.

 

Manteisiodd yr Arweinydd hefyd ar y cyfle i ganmol y Cynghorydd Burrows, gan gydnabod ei waith ar draws Gwent, sef cadeirio Pwyllgor Eiddilwch Gwent. Cydnabuwyd siom adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, ond nodwyd y prosiectau da sy'n mynd rhagddynt, megis Prosiect Rhaglan. 

 

 

 

8.

Adroddiadau'r Prif Swyddog, Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai:

8a

Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Ddiogelu o fewn Cynllun Kerbcraft yng Nghyngor Sir Fynwy pdf icon PDF 329 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y swyddogion Anne Marie Harkin a Ron Price o Swyddfa Archwilio Cymru, oedd yn bresennol i gyflwyno Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar y trefniadau diogelu o fewn cynllun Kerbcraft yng Nghyngor Sir Fynwy.

 

Mynegodd yr Aelod Cabinet siom gyda'r canfyddiadau yn ymwneud â chynllun Kerbcraft. Dymunai roi sicrwydd fod yr awdurdod yn gwneud ei orau glas i sicrhau amgylchedd mor ddiogel ag sydd modd ym mhopeth a wnaiff. Dywedodd y gwnaed llawer iawn o waith yng nghyswllt diogelu hyd yma a bod yn rhaid i ni gynyddu ein hymdrechion ymhellach. Er ei bod yn iawn i ni graffu ar yr adroddiad, ychwanegwyd na ddylem golli'r cyd-destun yn llwyr.

 

Yn dilyn cyflwyno'r adroddiad, siaradodd  Prif Swyddog , Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a dywedodd ei fod yn brofiad difrifol derbyn adroddiad yn dweud ein bod yn darparu gwasanaeth sy'n rhoi plant mewn risg oherwydd gwendidau parhaus mewn trefniadau diogelu. Ychwanegodd fod angen i ni weithredu gyda phenderfyniad, yn ystyrlon ac yn dryloyw i drin diffygion. Roedd yn bwysig cofio fod Kerbcraft yn wasanaeth pwysig a daeth i'r casgliad ei bod yn hollbwysig ein bod yn dysgu'r gwersi ehangach o'r adroddiad.

 

Nodwyd y pwyntiau dilynol yn ystod trafodaeth:

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r swyddogion am fod yn bresennol, gan nodi pwysigrwydd y negeseuon difrifol ac yn cydnabod y diffygion a ddynodwyd. Ychwanegodd, pe byddai'n ddigon ffodus i gael ei ddychwelyd fel Arweinydd ar ôl Mai 2017, fod gwaith pellach y gallwn ei wneud i gryfhau ein gwaith diogelu.

 

Ychwanegodd Aelod y byddai'r Gr?p Llafur yn sicrhau y byddai'r mater hwn ar yr agenda a phwysleisiodd y dylid hysbysu'r Cyngor am faterion mor bwysig.

 

Holodd Cadeirydd y Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc pam na fu'r adroddiad hwn drwy'r broses craffu. Nodwyd fod y Swyddog Craffu ymysg y rhestr o'r rhai yr ymgynghorwyd â nhw, ond nid oedd esboniad pellach. Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol fod natur yr adroddiad yn golygu fod angen ei ystyried gan y Cyngor llawn a bod yr amserlen yn golygu mai hwn fyddai'r unig gyfle ar gyfer craffu.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Howard am eglurhad am y grant ar gyfer Kerbcraft gan Lywodraeth Cymru a pham na chafodd hyn ei fanylu.

 

Dywedodd y Cynghorydd Howard na fyddai diogelwch plant fod yn fater ôl-weithredol, a gan fod y Cyngor yn ystyried rhannu gofod mewn rhai trefi yn Sir Fynwy, gofynnodd i'r Aelod Cabinet pa sicrwydd y gallai ei roi parthed y cynlluniau rhannu gofod. Mewn ymateb diolchodd y Cynghorydd Burrows i'r Aelod am y cwestiwn a chyfeiriodd at y Pennaeth Gweithrediadau. Clywsom fod cynlluniau rhannu gofod yn cyfeirio at sut yr ydym yn trin traffig o fewn ein priffyrdd cyhoeddus, bod asesiadau risg yn gynhenid o fewn y cynlluniau ac y rhoddir ystyriaeth i'r materion hyn.

 

Mynegodd nifer o Aelodau bryder a gofyn am sicrwydd nad oes unrhyw feysydd arall o'n darpariaeth lle adroddir pryderon. Roedd o gonsyrn neilltuol y dywedodd Swyddfa Archwilio Cymru eu bod wedi cael gwybodaeth rannol a chamarweiniol, a gofynnwyd am wybodaeth bellach parthed  ...  view the full Cofnodion text for item 8a

8b

Adroddiad Diogelu Cynnydd pdf icon PDF 167 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwydadroddiad i'r Cyngor i roi adolygiad i'r Aelodau o gynnydd diogelu.

 

Yn ystod trafodaethau nodwyd:

 

Roedd pryder am y datganiad ar ostwng yr hyfforddiant a ddarperir gan Fwrdd Diogelu Plant De Ddwyrain Cymru (SEWSCB), gan felly ychwanegu pwysau ar y Cyngor i ddarparu hyfforddiant. Gofynnwyd am sicrwydd bod hyn yn ymrwymiad yn hytrach na phwysau. Esboniodd y Prif Swyddog fod SEWSCB wedi adolygu'r ffordd y mae'n darparu hyfforddiant a'i bolisi hyfforddiant. Teimlentfod hyn wedi rhoi pwysau yn ôl ar yr awdurdod i ddarparu mwy o hyfforddiant o fewn y Cyngor. Mae'n rhaid i ni sicrhau fod pawb sydd angen hyfforddiant yn cael hynny, a'n bod yn cael y mewnbwn cywir o hyfforddiant rhanbarthol yn ogystal â'r hyfforddiant a gyflwynwn ein hunain fel Cyngor.

 

Mewn pleidlais penderfynodd y Cyngor gytuno ar yr argymhellion:

 

           Bod y Cyngor yn nodi'r cynnydd ac yn herio hunanasesiad Gr?p Cydlynu Diogelu yr Awdurdod Cyfan (WASCG)

           Bod y Cyngor yn cefnogi'r bwriad i ganolbwyntio'r rhaglen ddiogelu a gymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Gorffennaf 2016 ar bum maes blaenoriaeth allweddol.

 

 

9.

Adroddiadau'r Prif Swyddog, Menter: pdf icon PDF 4 MB

Dogfennau ychwanegol:

9a

Dyddiadur Cyfarfodydd 2017/18 pdf icon PDF 77 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad i'r Cyngor i gymeradwyo dyddiadur cyfarfodydd ar gyfer 2017/18.

 

Dywedodd yr Arweinydd y gall y Cyngor newydd ddymuno adolygu rhai dyddiadau, ac amserau cyfarfodydd y Cyngor, ac y dylid ychwanegu hyn fel eitem agenda ar gyfer y cyfarfod ffurfiol cyntaf.

 

Cyfeiriwyd at gynnwys cyfarfodydd gr?p ac ystyriwyd na ddylai'r rhain gael eu cynnwys.

 

Mewn pleidlais penderfynodd y Cyngor i gytuno ar yr argymhelliad:

           Cymeradwyo dyddiadur cyfarfodydd 2017/18.

9b

Dyfodol Sir Fynwy: Model cyflenwi newydd arfaethedig ar gyfer Twristiaeth, Hamdden, Diwylliant a Gwasanaethau Ieuenctid pdf icon PDF 174 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Manteisiodd y Cynghorydd Sir Greenland ar y cyfle i roi diweddariad ar drethi busnes. Dywedodd ei fod wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet a byddai Aelodau yn gwybod fod Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi y cyflwynir cynllun cymorth £10m ar gyfer Cymru. Cyrhaeddodd manylion y cynllun yr wythnos ddiwethaf ac o gofio y caiff biliau trethi busnes eu dosbarthu yr wythnos nesaf, nid oedd hyn yn rhoi digon o amser i roi ystyriaeth i'r cynllun. Felly bydd busnesau yn Sir Fynwy yn derbyn biliau yn dangos y cynnydd llawn, a gobeithir y caiff ad-daliadau dyledus dan y cynllun eu gwneud ym mis Mehefin. Nodwyd y byddai llawer o fusnesau mewn risg mawr ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ysgrifennu eto at Ysgrifennydd y Cabinet yn gofyn i fusnesau fedru talu'r swm presennol a dim mwy tra byddant yn mynd drwy broses apêl. Ychwanegodd hefyd yn ei lythyr nad oedd wedi gweld unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r achos fod trethi busnes wedi codi gan 7% yn Sir Fynwy rhwng 2008-2015 tra'u bod wedi gostwng gan 3% yng Nghaerdydd.

 

Ychwanegodd Aelod y Cabinet fod cydweithwyr Ceidwadol wedi cytuno os oes gweinyddiaeth fwyafrif gan y Ceidwadwyr yn dilyn yr etholiad, y byddant yn cyflwyno cynlluniau i helpu busnesau drwy'r gronfa cymorth caledi eithriadol a allai fod ar gael.

 

Gwnaeth y Cynghorwyr Sir J. Higginson a R. Harris ddatganiadau o fuddiant personol nad oedd yn rhagfarnu yn unol â'r Cod Ymddygiad fel aelodau a benodwyd gan y Cyngor o Dribiwnlys Prisiant Dwyrain Cymru.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Sir S. Jones ddatganiad o fuddiant personol nad oedd yn rhagfarnu yn unol â Chod Ymddygiad Aelodau fel aelod o'r Fforwm Trethdalwyr a Chyfarwyddwr Consortiwm Manwerthu Cymru.

 

Dywedwyd yng nghyswllt stôr Morrisons yn y Fenni, y gobeithiant fod ar y safle ym mis Ebrill 2017 gyda dyddiad agor ym mis Tachwedd.

 

Cyflwynwyd adroddiad i'r Cyngor i roi achos busnes amlinellol a phapurau cysylltiedig i Aelodau sy'n ystyried ystod o wahanol fodelau darpariaeth ar gyfer Gwasanaethau Twristiaeth, Hamdden, Diwylliant ac Ieuenctid yn dilyn gwerthusiad annibynnol o opsiynau gan Anthony Collins Cyfreithwyr a cheisio cytundeb ar y cam nesaf.

 

Nodwyd y pwyntiau dilynol yn ystod trafodaeth:

 

Gofynnwyd am sicrwydd am ddyfodol y canolfannau awyr agored dan y model darparu arall. Esboniodd y Pennaeth Twristiaeth, Hamdden a Diwylliant y bartneriaeth gymhleth gyda chynghorau eraill. Er bod rhai cynghorau yn cilio o'r bartneriaeth, mae angen i ni gynnal partneriaeth gyda'r partneriaid sy'n dal i fod. Mae arwydd clir o i ba gyfeiriad y mae gwasanaeth yn mynd, ond bwriedir cynnal trafodaethau gyda phartneriaid dros y misoedd nesaf. O fis Ebrill, Blaenau Gwent fydd yr unig bartner llawn yn nhermau cyfraniadau ariannol ond maent yn edrych ar eu cynnig addysgol awyr agored eu hunain. Mae Torfaen wedi tynnu £60k dros y 2 flynedd ddiwethaf a byddant yn tynnu £60k arall y flwyddyn nesaf. Mae Casnewydd yn dal i fod yn berchen Talybont, Sir Fynwy yn berchen Gilwern a Pharc Hilston.

 

Clywodd aelodau nad oedd unrhyw fygythiad i The Zone yng Nghil-y-coed. Ychwanegodd y Cynghorydd  ...  view the full Cofnodion text for item 9b

9c

Llywodraethiant Cymunedol yn Sir Fynwy pdf icon PDF 210 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i'r Cyngor i ofyn am gytundeb y Cyngor i dreialu set newydd o drefniadau ar gyfer llywodraethiant cymunedol yn Sir Fynwy.

 

Yn dilyn trafodaeth eang roedd cytundeb ymhlith aelodau'r gweithgor trawsbleidiol mai Opsiwn 2 oedd yr opsiwn a ffafrient ond gyda'r gwahoddiad ychwanegol i un cynrychiolydd o bob un o'r cynghorau cymuned neu dref yn yr ardal honno:

 

           Opsiwn 2) Cadw Pwyllgorau Ardal fel yr unig strwythur gyda chynnydd yn yr aelodau cymunedol a gyfetholir.

 

Cefnogodd y Cynghorydd D. Edwards yr argymhelliad i dreialu'r cynllun yn ardal Bryn y Cwm a soniodd am agweddau o raglen gwaith y pwyllgor ardal cyfredol.

 

Mewn pleidlais, penderfynodd y Cyngor gytuno ar yr argymhellion:

 

           Argymhellir bod: (i) yr adolygiad cyfredol o lywodraethiant cymunedol a lle cyfan yn cael ei gwblhau cyn gynted ag sy'n bosibl i alluogi'r Cyngor newydd i ddod i gytundeb am siâp a strwythur ymgysylltu cymunedol.

           Bod y strwythur llywodraethiant cymunedol a gynlluniwyd fel rhan o'r gweithgor aelodau yn cael ei dreialu yn ardal Bryn y Cwm. 

 

9d

Asesiadau llesiant ar gyfer y sir a gosod Amcan ar gyfer y Cyngor: pdf icon PDF 108 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiadau dilynol i'r Cyngor i geisio cymeradwyaeth ar gyfer cyfres o asesiadau a chynlluniau rhyng-gysylltiedig a gynhyrchwyd mewn ymateb i ddeddfwriaeth newydd.

 

Y pedair dogfen yw:

i) Yr Asesiad Llesiant a gynhyrchwyd ar ran y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus;

ii) Asesiad Anghenion Poblogaeth ar gyfer Sir Fynwy;

iii) Amcanion Llesiant a Datganiad Llesiant arfaethedig y Cyngor; a

iv) Blaengynllun Cydnerthedd Bioamrywiaeth ac Ecosystem.

 

Nodwyd y pwyntiau dilynol yn ystod trafodaeth.

 

Gofynnwyd am sicrwydd bod cysylltiadau gyda swyddogion perthnasol o'r Gr?p Trafnidiaeth Strategol yn eu lle. Atebodd y Rheolwr Polisi a Pherfformiad y cyfeirir at Gr?p Rheilffordd Magwyr. Mae trafnidiaeth yn fater a amlygwyd fel her ac fel cyfle. Mae swyddogion wedi dechrau edrych ar drafnidiaeth a'r bwriad yw dod â swyddogion a phobl ynghyd yn y cymunedau i sefydlu cynlluniau cadarn.

 

Mewn pleidlais, penderfynodd y Cyngor gytuno ar yr argymhellion:

           Cymeradwyo'r Asesiad Llesiant cyn ei gymeradwyo gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar 29 Mawrth.

           Cymeradwyo'r Asesiad Anghenion Poblogaeth.

           Cymeradwyo cyhoeddi amcanion a datganiad llesiant y Cyngor, yn amodol ar unrhyw ddiwygiadau a ofynnir gan y Cyngor heddiw, a gyda dealltwriaeth y bydd y Cyngor yn ailystyried yr amcanion yn dilyn etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2017.

           Cymeradwyo'r Blaengynllun Cydnerthedd Bioamrywiaeth ac Ecosystem.

 

10.

Adroddiad y Prif Swyddog, Adnoddau

10a

Datganiad ar Bolisi Tâl pdf icon PDF 407 KB

Cofnodion:

Gadawodd Prif Swyddogion a Phenaethiaid Gwasanaeth Siambr y Cyngor ar gyfer y drafodaeth.

 

Cyflwynwyd adroddiad i'r Cyngor i gymeradwyo cyhoeddi polisi cyflogau Cyngor Sir Fynwy, gan gydymffurfio gyda'r Ddeddf Lleoliaeth.

 

Nodwyd y pwyntiau dilynol yn ystod y drafodaeth:

 

Mewn ymateb i gwestiwn am fand cyfartalog uwch swyddogion, p'un ai ar y top neu'r gwaelod, dywedodd Rheolwr Dros Dro Adnoddau Dynol y byddai hyn yn dibynnu ar y raddfa a gytunwyd adeg penodi a hyd y gwasanaeth. Gellid rhoi mwy o wybodaeth.

 

Teimlid y byddid yn cynnwys y cynnydd cynyddrannol drwy'r cyllidebau staffio arferol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Hayward fod y gymhareb 4:1 rhwng y swyddog ar y cyflog isaf a'r prif swyddog yn awgrymu mai £22,000 fyddai'r cyflog isaf a chredai fod hyn yn anghywir. Byddai Rheolwr Dros Dro Adnoddau Dynol yn rhoi mwy o fanylion am luosolion.

 

Mewn pleidlais, penderfynodd y Cyngor gytuno ar yr argymhellion:

 

           Bod y Cyngor yn cymeradwyo'r Polisi Cyflogau ar gyfer y flwyddyn 1 Ebrill 2016 i 31 Mawrth 2017.

 

           Bod y Cyngor yn cymeradwyo talu'r dyfarniad cyflogau a negodwyd ac a gytunwyd yn genedlaethol gan y Cydgyngor Cenedlaethol (JNC) ar gyfer Prif Swyddogion Gweithredol Awdurdodau Lleol. Caiff amodau a thelerau Prif Swyddogion Gweithredol eu gosod gan y JNC ar gyfer Prif Swyddogion Gweithredol Awdurdodau Lleol. Roedd y cytundeb Cyflog a wnaed yn 2016 ar gyfer Prif Swyddogion Gweithredol ar gyfer cynnydd cyflog o 1% yn weithredol o 1 Ebrill 2016 a chynnydd cyflog 1%, yn weithredol 1 Ebrill 2017.

 

           Bod y Cyngor yn cymeradwyo talu'r dyfarniad cyflogau a negodwyd ac a gytunwyd yn genedlaethol ar gyfer y staff hynny sy'n dod dan y JNC ar gyfer Prif Swyddogion. Caiff telerau ac amodau cyflogaeth a chyflogau Prif Swyddogion eu gosod gan y JNC ar gyfer Prif Swyddogion Awdurdodau Lleol. Y cytundeb cyflogau a wnaed yn 2016 ar gyfer Prif Swyddogion oedd cynnydd cyflog o 1% yn weithredol o 1 Ebrill 2016 a chynnydd o 1% yn weithredol o 1 Ebrill 2017. Mae'r Cyngor yn cyflogi Prif Swyddogion dan delerau ac amodau JNC a gaiff eu cynnwys yn eu contractau cyflogaeth. Mae'r JNC ar gyfer Prif Swyddogion yn negodi ar gynnydd blynyddol cost byw cenedlaethol (DU) ar gyfer y gr?p hwn, a chaiff unrhyw ddyfarniad ei benderfynu ar y sail hon. Mae gan Brif Swyddogion a gyflogir dan delerau ac amodau'r JNC hawl contractiol i unrhyw gynnydd cyflog cenedlaethol a benderfynir gan y JNC a bydd y Cyngor hwn felly'n talu'r rhain fel a phan y penderfynir yn unol â gofynion contract.