Agenda and minutes

Special Meeting, Cyngor Sir - Dydd Mercher, 8fed Mehefin, 2016 4.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

2.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o fuddiant gan Aelodau.

4.

Penodi Prif Swyddog , Adnoddau

Cofnodion:

Diolchodd y Prif Weithredwr i’r Aelodau am eu presenoldeb ac eglurodd mai diben y sesiwn oedd penodi Prif Swyddog, Adnoddau.

 

Fe’n cynghorwyd bod un ymgeisydd mewnol a gafodd gyfweliad gan Banel yn cynnwys yr Arweinydd, y Cynghorydd Batrouni, a’r Aelodau Cabinet Murphy a Hobson ar 26ain Mai 2016.

 

Y farn unfrydol oedd bod perfformiad Mr. Davies ar y diwrnod wedi rhagori ar y meincnod a ddefnyddir gan y Prif Weithredwr wrth ystyried penodi Prif Swyddog. 

 

Cynghorwyd Aelodau mai’r dewisiadau’n dilyn y broses gyfweld fyddai:

 

      I.        Gwneud cynnig i benodi;

    II.        Penderfynu na ddylid gwneud cynnig i benodi.

 

Cyflwynodd y pedwar cynghorydd a fu’n rhan o’r Panel ar 26ain Mai 2016 adborth cadarnhaol o’r cyfweliad. Yn dilyn trafodaeth croesawyd yr ymgeisydd a roddodd gyflwyniad ac a gyfwelwyd gan y Cyngor. Yna gofynnwyd i’r ymgeisydd adael y siambr.

 

Argymhellodd Arweinydd y Cyngor y dylid cynnig y swydd i Mr. Davies ac eiliwyd hyn gan y Dirprwy Arweinydd. Wedi’r bleidlais cytunodd yr Aelodau’n unfrydol â’r argymhelliad.

 

Dychwelodd Mr. Davies i’r cyfarfod, derbyniodd y swydd, a llongyfarchwyd ef gan yr Aelodau.