Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr Sir Simon Howarth a Rachel Buckler fuddiant sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 8a ar yr agenda, a hynny mewn perthynas â threth dwristiaeth.

 

2.

Cwestiynau Cyhoeddus

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gwestiynau cyhoeddus.

 

3.

Cyhoeddiad y Cadeirydd pdf icon PDF 317 KB

Cofnodion:

Wedi ei nodi.

 

4.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18fed Mai 2023 pdf icon PDF 306 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18fed Mai 2023 fel cofnod cywir.

 

Wrth wneud hynny nodwyd bod y Cynghorydd Sir Simon Howarth wedi bod yn bresennol.

5.

BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS GWENT: CYNLLUN LLESIANT pdf icon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor yr adroddiad i sicrhau bod Aelodau’n deall yr heriau sy’n wynebu Gwent a’r camau sy’n cael eu cymryd ar y cyd gan wasanaethau cyhoeddus yn y rhanbarth i fynd i’r afael â’r rhain ac i gymeradwyo Cynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent cyn ei gyhoeddi.

 

https://www.youtube.com/live/1pLYl1dkyzM?feature=share&t=476

 

Yn dilyn pleidlais, penderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhelliad:

 

Bod y Cyngor yn cymeradwyo'r Cynllun Llesiant cyn iddo gael ei gymeradwyo gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent.

 

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PRIF SWYDDOG AR GYFER PLANT A PHOBL IFANC pdf icon PDF 3 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc yr adroddiad i roi trosolwg i’r Aelodau o statws a pherfformiad y system addysg yn Sir Fynwy ac i roi persbectif y Prif Swyddog o’r cryfderau a’r gwendidau perthnasol yn y system, y risgiau y mae’r gwasanaeth yn eu hwynebu a’r cyfleoedd sydd ar gael i wella.

 

https://www.youtube.com/live/1pLYl1dkyzM?feature=share&t=1377

 

Penderfynodd y Cyngor nodi'r adroddiad.

 

 

7.

Cynigion i’r Cyngor

8.

Wedi eu cyflwyno gan y Cynghorydd Sir Richard John

Mae'r Cyngor hwn:

·       Yn nodi bod twristiaid yn cyfrannu bron i £200 miliwn i economi Sir Fynwy ac yn cynnal dros 3,000 o swyddi yn y diwydiant twristiaeth.

·       Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi pwerau i awdurdodau lleol i osod treth ar dwristiaeth erbyn 2026.

·       Yn cydnabod y niwed y byddai treth ar dwristiaeth yn ei achosi i'n diwydiant twristiaeth ac yn bwriadu ymwrthod rhag cyflwyno treth ar dwristiaeth yn Sir Fynwy.

 

 

 

Cofnodion:

Mae'r Cyngor hwn:

• Yn nodi bod twristiaid yn cyfrannu bron i £200 miliwn i economi Sir Fynwy ac yn cynnal dros 3,000 o swyddi yn y diwydiant twristiaeth.

• Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi pwerau i Awdurdodau Lleol osod treth dwristiaeth erbyn 2026.

  • Yn cydnabod y niwed y byddai treth dwristiaeth yn ei achosi i'n diwydiant twristiaeth ac yn diystyru cyflwyno treth dwristiaeth yn Sir Fynwy.

 

https://www.youtube.com/live/1pLYl1dkyzM?feature=share&t=9917

 

Datganodd y Cynghorwyr Sir Simon Howarth a Rachel Buckler fuddiant oedd yn rhagfarnu ac ni wnaethant gymryd rhan yn y drafodaeth.

 

Ar ôl cael ei roi i bleidlais a gofnodwyd, penderfynodd y Cyngor wrthod y cynnig:

Pleidleisiau O Blaid: 15

Pleidleisiau Yn Erbyn: 23

Wedi Ymwrthod: 2

 

Gadawodd y Cynghorydd Sir Simon Howarth y cyfarfod am 17:14

 

Recorded Vote
TeitlMathRecorded Vote textResult
Motion submitted by County Councillor Richard John Motion Rejected
  • View Recorded Vote for this item
  • 9.

    Cwestiynau gan Aelodau

    10.

    Gan y Cynghorydd Sir Richard John i’r Cynghorydd Sir Mary Ann Brocklesby, Arweinydd y Cyngor

    A yw’r Arweinydd yn medru gwneud datganiad am y berthynas sydd gan y weinyddiaeth â Llywodraeth Cymru?

     

     

    Cofnodion:

    A wnaiff yr Arweinydd ddatganiad am y berthynas sydd gan y weinyddiaeth â Llywodraeth Cymru?

     

    https://www.youtube.com/live/1pLYl1dkyzM?feature=share&t=13065

     

     

    11.

    Gan y Cynghorydd Sir Penny Jones i’r Cynghorydd Sir Rachel Garrick, Aelod Cabinet ar gyfer Adnoddau

    A  ydy’r Aelod Cabinet esbonio cynlluniau’r weinyddiaeth ar gyfer dyfodol safle’r hen Ysgol Gynradd yn Rhaglan a’r amserlen dan sylw?

     

     

    Cofnodion:

    A all yr Aelod Cabinet egluro, os gwelwch yn dda, gynlluniau’r weinyddiaeth ar gyfer dyfodol safle’r hen Ysgol Gynradd yn Rhaglan a’r amserlen dan sylw?

     

    https://www.youtube.com/live/1pLYl1dkyzM?feature=share&t=13596

     

     

    12.

    Cwestiwn Brys gan y Cynghorydd Sir Christopher Edwards i'r Cynghorydd Sir Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd

    Cofnodion:

    Mae Cas-gwent ar fin profi digwyddiadau cerddorol mawr dros dri diwrnod yn olynol lle bydd yn croesawu’r  nifer uchaf erioed o ymwelwyr i ardal sy’n enwog am dagfeydd traffig.

     

    Mae Cynghorwyr a thrigolion eisiau gweld busnesau’n ffynnu, Cas-gwent yn ffynnu, ac mae’r dref yn parhau i fod yn lle hapus i drigolion fyw, gweithio a chwarae ynddi. Mae pryderon preswylwyr yn real ac yn seiliedig ar dystiolaeth, ar ôl profi digwyddiadau a gweithgareddau o'r fath yn yr ardal ond ar raddfa lai.

     

    Pa sicrwydd y gall yr Aelod Cabinet ei roi i drigolion fy ardal i a’r wardiau cyfagos y bydd cynlluniau rheoli traffig y Cyngor yn gweithio ac na fydd preswylwyr yn teimlo’n gaeth yn eu cartrefi, neu bod eu strydoedd yn cael eu defnyddio fel ffyrdd i gwtogi ar deithiau neu’n feysydd parcio i ymwelwyr? A wnaiff y Cyngor hefyd ystyried adborth a ddarparwyd cyn ac ar ôl i’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Dros Dro ddod i rym, a gweithredu arno i wella bywydau trigolion?”

     

    https://www.youtube.com/live/1pLYl1dkyzM?feature=share&t=12685

     

     

     

    13.

    Dyddiad y cyfarfod nesaf – 20fed Gorffennaf 2023

    Cofnodion:

    Wedi ei nodi.