Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Sir Richard John wedi datgan buddiant nad yw’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 7a, a hynny yn sgil ei waith fel ymgynghorydd materion cyhoeddus, a chleient fel Cymdeithas y Diwydiant Rheilffyrdd.

 

2.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

 

3.

Cyhoeddiad gan y Cadeirydd pdf icon PDF 394 KB

Cofnodion:

Wedi ei nodi.

 

4.

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9fed Mawrth 2023 pdf icon PDF 488 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9fed Mawrth 2023 fel cofnod cywir.

5.

Cynllun Cymunedol a Chorfforaethol 2022-28 pdf icon PDF 152 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor yr adroddiad i geisio cymeradwyaeth ar gyfer Cynllun Cymunedol a Chorfforaethol newydd sy’n gosod y cyfeiriad ar gyfer y Cyngor a Sir Fynwy, gan fynegi pwrpas a blaenoriaethau’r Awdurdod ochr yn ochr â’r camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni’r rhain, yr Aelod Cabinet atebol a'r mesurau a ddefnyddir i olrhain cynnydd.

 

Amlygodd Arweinwyr y Gwrthbleidiau bryderon ond gan gydnabod bod angen i'r Cyngor gymeradwyo’r Cynllun a datgan y byddent yn ymatal yn ystod y bleidlais.

 

Yn dilyn pleidlais, penderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhellion:

 

  • Bod y Cyngor yn cymeradwyo'r Cynllun Cymunedol a Chorfforaethol.
  • Bod y Cyngor wedi mabwysiadu'r chwe nod yn y cynllun fel Amcanion Llesiant y Cyngor yn unol â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
  • Bod y Cyngor yn nodi'r targedau a osodwyd o fewn y fframwaith mesur, ynghlwm fel atodiad 2, ac yn rhoi tasg i'r Cabinet i sicrhau eu bod yn cael eu hadolygu a'u diweddaru dros oes y cynllun.

 

 

6.

Cynigion i’r Cyngor

7.

Cyflwynir gan y Cynghorydd Sir Richard John

Mae’r Cyngor hwn yn:

Cydnabod fod gwasanaethau bws Sir Fynwy yn gostwng teithiau car preifat, yn helpu i fynd i’r afael ag ynysigrwydd gwledig ac yn allweddol i’r dymuniad i sicrhau rhwydwaith cludiant integredig wrth ochr Metro De Cymru.

 

Pryderu’n ddifrifol y bydd dileu cyllid Cynllun Argyfwng Bysus Llywodraeth Cymru ar 24 Gorffennaf 2023 yn gweld bysus yng Nghymru yn gostwng i wasanaeth ‘sgerbwd’.

 

Penderfynu lobïo Llywodraeth Cymru yn gadarn i warchod gwasanaethau bws Sir Fynwy, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig lle maent yn rhaff fywyd ar gyfer ein preswylwyr.

 

Cofnodion:

Mae'r Cyngor hwn:

Yn cydnabod bod gwasanaethau bysiau Sir Fynwy yn lleihau teithiau mewn ceir preifat, yn helpu i fynd i’r afael ag arwahanrwydd gwledig ac yn allweddol i ddyheadau rhwydwaith trafnidiaeth integredig ar hyd Metro De Cymru.

Mae'n bryderus iawn y bydd y ffaith y bydd Llywodraeth Cymru yn dileu arian y Cynllun Argyfwng Bysiau ar 24ain Gorffennaf 2023 yn golygu y bydd bysiau yng Nghymru yn cael eu lleihau i fod yn wasanaeth 'sgerbydol'.

Yn penderfynu lobïo Llywodraeth Cymru yn ddwys i ddiogelu gwasanaethau bws Sir Fynwy, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle maent yn achubiaeth i’n trigolion.

 

Eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Rachel Buckler.

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd ei bod wedi bod yn lobïo’n ddwys am yr angen am ragor o gymorth, yn enwedig ar gyfer gwasanaethau bysiau gwledig, ers iddi ddod i’w rôl. Cefnogodd gynlluniau ar gyfer y dyfodol a'r symudiad i fasnachfreinio bysiau ond roedd ganddi bryderon ynghylch y cyfnod trosiannol. Roedd yr Aelod Cabinet yn awyddus i archwilio pob cyfle i ddiogelu'r ddarpariaeth bysiau a gwella'r gwasanaethau a ddarperir.

 

Clywodd y Cyngor fod swyddogion yn gweithio'n agos gyda Trafnidiaeth Cymru, yr Uned Cyflenwi Burns, a gweithredwyr i archwilio gwahanol gyfleoedd i ddiogelu a gwella'r gwasanaethau a ddarperir.

 

Roedd Arweinydd y Gr?p Annibynnol yn falch o weld cefnogaeth drawsbleidiol.

 

Awgrymwyd bod CSF yn arwain y ffordd i Gymru drwy gyflwyno cynllun peilot.

 

Gofynnwyd am sicrwydd na fyddai gwasanaeth Rhif 9 Gilwern yn cael ei leihau, er mwyn sicrhau cyn lleied â phosibl o’r sgil-effaith a ddaw o ran cau'r practis Meddyg Teulu.

 

Dywedwyd, o gydnabod nad yw datblygiad HS2 o fudd i Gymru, y gallai’r buddsoddiad hwnnw felly ganiatáu system drafnidiaeth gywir ledled Cymru.

 

Yn dilyn pleidlais, penderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhelliad.

8.

Cyflwynir gan y Cynghorydd Sir Steven Garrett

Mae’r Cyngor yn gresynu am fil mewnfudo anghyfreithlon Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n cynnig cadw mewn dalfa ac wedyn symud o’r wlad unrhyw un sy’n cyrraedd y Deyrnas Unedig mewn cwch bach, gan olygu na fydd y Swyddfa Gartref yn ystyried unrhyw un o’u hawliadau am loches heb ystyried os ydynt wedi ffoi rhag rhyfel neu erledigaeth.

 

Caiff y bobl hyn sy’n ceisio lloches wedyn eu hallforio yn ôl i’r wlad y maent wedi ffoi ohoni neu drydedd wlad ‘ddiogel’. Gallai’r drydydd wlad hon fod yn Rwanda neu wlad arall y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystyried ei bod yn ddiogel, efallai gyda record amheus ar hawliau dynol.

 

Bydd y ddeddfwriaeth annynol hon na chafodd ei hystyried yn ddigonol yn cosbi’r bobl fwyaf fregus o bob rhan o’r byd. Gofynnwyd cwestiynau os yw’r Bil yn gyfreithlon ac os yw’n cydymffurfio gyda’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol ac yn gydnaws gyda Chonfensiwn Ffoaduriaid 1951. Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig hefyd wedi ysgrifennu na all pobl sy’n dod i’r Deyrnas Unedig yn anghyfreithlon fanteisio o’n mesurau modern i ddiogelu rhag caethwasiaeth.

 

Mae’r Cyngor hwn hefyd yn nodi ac yn collfarnu’r iaith beryglus ac annynol a ddefnyddiwyd i gefnogi’r Bil hwn. Mae’r rhethreg yma yn meithrin ac yn rhoi llwyfan ar gyfer diwylliant o gamdriniaeth, hiliaeth a hyd yn oed drais yn erbyn ffoaduriaid, ceiswyr lloches a phobl o gymunedau du, Asiaidd a lleiafrif ethnig.

 

Fel ardal sy’n anelu i fod yn Sir Noddfa, mae’r Cyngor hwn a phobl Sir Fynwy wedi agor eu calonnau a’u cartrefi a chroesawu a derbyn ffoaduriaid a cheiswyr lloches am ddegawdau, yn neilltuol mewn cyfnodau diweddar yn dilyn rhyfel Wcráin. Gwnaeth hyn ein sir yn lle mwy diddorol, amrywiol a goddefgar.

 

Mae’r Cyngor hwn yn collfarnu gweithred Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyflwyno’r ddeddfwriaeth hon ac yn galw ar Brif Weinidog y DU a’i weinidogion i ddileu’r cynigion garw hyn.

 

Galwn ar Arweinydd y Cyngor i ysgrifennu at Brif Weinidog y Deyrnas Unedig yn y termau cryfaf posibl i amlinellu ein pryderon.

 

Cofnodion:

Mae’r Cyngor hwn wedi’i arswydo gan fesur mewnfudo anghyfreithlon llywodraeth y DU sy’n cynnig cadw ac yn ddiweddarach symud unrhyw un sy’n cyrraedd y DU ar gwch bach, sy’n golygu na fydd y Swyddfa Gartref yn ystyried unrhyw un o’u ceisiadau am loches, nid oes ots a ydynt wedi ffoi rhag rhyfel neu erledigaeth.

 

Bydd y bobl hyn sy'n ceisio noddfa wedyn yn cael eu halltudio yn ôl i'r wlad y maent wedi ffoi ohoni neu drydedd wlad 'ddiogel'. Gallai’r drydedd wlad hon fod yn Rwanda, neu’n wlad arall a ystyrir yn ddiogel gan Lywodraeth y DU, gyda record amheus o bosib ar hawliau dynol.

 

Bydd y ddeddfwriaeth annynol hon yn cosbi'r bobl fwyaf agored i niwed o bob rhan o'r byd. Mae cwestiynau wedi’u codi ynghylch cyfreithlondeb y Bil ac a yw’n cydymffurfio â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR) ac yn gyson â Chonfensiwn Ffoaduriaid 1951. Mae’r Prif Weinidog hefyd wedi datgan yn ysgrifenedig os byddwch yn dod i’r DU yn anghyfreithlon “Ni allwch elwa ar ein mesurau amddiffyn yn erbyn caethwasiaeth fodern”.

 

Mae’r Cyngor hwn hefyd yn nodi ac yn condemnio’r iaith beryglus  a ddefnyddiwyd i gefnogi’r Bil hwn. Mae’r rhethreg hon yn meithrin ac yn darparu llwyfan ar gyfer diwylliant o gam-drin, hiliaeth a hyd yn oed trais yn erbyn ffoaduriaid, ceiswyr lloches a phobl o gymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

 

Fel Sir Noddfa uchelgeisiol, mae’r Cyngor hwn a phobl Sir Fynwy wedi agor eu calonnau a’u cartrefi ac wedi croesawu a derbyn ffoaduriaid a cheiswyr lloches ers degawdau, yn enwedig yn y cyfnod diweddar yn dilyn rhyfel yr Wcráin. Mae hyn wedi gwneud ein Sir yn lle mwy diddorol, amrywiol a goddefgar.

 

Mae’r Cyngor hwn yn condemnio camau gweithredu Llywodraeth y DU wrth gyflwyno’r ddeddfwriaeth hon ac yn galw ar y Prif Weinidog a’i weinidogion i dynnu’r cynigion aruthrol hyn yn ôl.

 

Rydym yn galw ar Arweinydd y Cyngor i ysgrifennu at y Prif Weinidog yn y termau cryfaf posibl i amlinellu ein pryderon.

 

Eiliwyd gan y Cyng Sir Sue McConnel.

 

Roedd rhywfaint o bryder ynghylch y geiriad a ddefnyddiwyd yn y Cynnig.

 

Mynegodd llawer o Aelodau siom  aty rhai a oedd yn beirniadu’r cynnig, gan ystyried y mesurau yn y Bil yn greulon ac annynol. Credwyd y byddai’r Bil yn creu rhwyg yn y DU.

 

Mynegodd yr Aelodau eu siom enbyd ynghylch y driniaeth a roddwyd i ffoaduriaid.

 

Roedd Aelod yn awyddus i drigolion lleol fod yn ymwybodol bod CSF wedi ei ddatgysylltu oddi wrth yr iaith a ddefnyddir gan Lywodraeth y DU.

 

 

 

9.

Cwestiynau gan Aelodau

10.

Gan y Cynghorydd Sir Ian Chandler i’r Cynghorydd Sir Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd

A all yr aelod cabinet roi dyddiad cadarn i breswylwyr yn Ynysgynwraidd a Cross Ash pryd y bydd y B4521 ger Fferm Trebella wedi ei thrwsio a bod y goleuadau traffig ‘dros dro’ yn cael eu symud?

 

Cofnodion:

A all yr Aelod Cabinet roi dyddiad pendant i drigolion Ynysgynwraidd a Cross Ash erbyn pryd y bydd y B4521 ger Fferm Trebella yn cael ei hatgyweirio a chael gwared ar y goleuadau traffig ‘dros dro’?

Eglurodd yr Aelod Cabinet fod y gwaith arfaethedig i fod i’wgwblhau erbyn diwedd mis Awst 2023. Yr amserlen estynedig oedd er mwyn sicrhau caniatâd cwrs d?r arferol ar gyfer atgyweiriadau draenio, ac i arolygon ecoleg gael eu cwblhau.

 

Fel cwestiwn atodol, gofynnodd y Cynghorydd Chandler faint yn fwy o arian fyddai'n cael ei wario ar y goleuadau dros dro a gofynnodd am sicrwydd y byddai'r atgyweiriadau yn digwydd o fewn yr amserlen a nodwyd. Gofynnodd y Cynghorydd Chandler hefyd i'r Aelod Cabinet gyhoeddi i drigolion ar draws y Sir gyfan y meini prawf ar gyfer gwneud penderfyniadau atgyweirio ffyrdd ac ail-wynebu, ynghyd â rhestr o'r holl waith atgyweirio sydd ar y gweill.

 

Roedd yr Aelod Cabinet wedi cael ei friffio gan swyddogion bod yna nifer o brosiectau heriol yn ymwneud ag asedau priffyrdd a bod angen buddsoddiad sylweddol ar bontydd a strwythurau amrywiol i sicrhau hirhoedledd a defnydd parhaus. Cydnabuwyd bod y gyllideb oedd ar gael yn annigonol ac yn achos pryder. Mae gwaith Trebella wedi’i raddio’n ambr gan nad oes perygl i’r cyhoedd, ond cytunodd yr Aelod Cabinet fod yn rhaid rhoi sylw i’r defnydd o oleuadau traffig dros dro.

 

11.

Gan y Cynghorydd Sir i’r Cynghorydd Sir Angela Sandles/Catherine Fookes, Aelodau Cabinet Cydraddoldeb ac Ymgysylltu

Mewn ymateb i bolisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fod angen dogfen adnabod gyda llun arni ar gyfer etholiadau yn Lloegr a’r Deyrnas Unedig, y mae llawer o arbenigwyr yn rhagweld fydd yn gostwng nifer y bobl ifanc a phobl ifanc o gymunedau difreintiedig fydd yn pleidleisio, a all yr aelod cabinet roi diweddariad ar gynlluniau i sicrhau y gall pob etholwr cymwys yn Sir Fynwy fwrw eu pleidlais yn yr etholiadau nesaf i senedd y Deyrnas Unedig?

 

Cofnodion:

Mewn ymateb i bolisi Llywodraeth y DU i ofyn am ddogfennaeth adnabod â llun ar gyfer etholiadau Lloegr a’r DU, a bod llawer o arbenigwyr yn rhagweld y bydd yn lleihau’r nifer sy’n pleidleisio ymhlith pobl ifanc a’r rheini o gymunedau difreintiedig, a all yr Aelod Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i sicrhau bod pob pleidleisiwr cymwys yn Sir Fynwy yn gallu bwrw eu pleidlais yn etholiad Seneddol nesaf y DU?

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet, y Cynghorydd Sir Angela Sandles, fod Deddf Etholiadau 2022 wedi newid y gyfraith i’w gwneud yn ofynnol i bleidleiswyr i gyflwyno dogfennaeth ffotograffig mewn gorsafoedd pleidleisio allu pleidleisio mewn etholiadau yn Lloegr a’r DU. Mae'r mesur yn ymddangos yn llym a byddai, yn debygol, o lleihau'r nifer sy'n pleidleisio ac yn effeithio ar ddemocratiaeth.

 

Ni effeithir ar bob etholiad yng Nghymru a bydd yn berthnasol i’r Etholiad Cyffredinol, Etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ond nid i’r Senedd na Llywodraeth Leol.

 

Mae cyfoeth o wybodaeth ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol. Bydd unrhyw bleidleisiwr yn gallu gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr am ddim gan eu Cyngor os nad oes ganddynt yr ID priodol. Argymhellodd y Cynghorydd Sandles bod pob Aelod yn cyfeirio eu preswylwyr at hyn.

 

Eglurodd y Cynghorydd Sandles mai un ffordd yr ydym yn paratoi yn CSF yw drwy allu gwylio’n ofalus yr hyn sy’n digwydd yn Lloegr yn yr etholiadau lleol sydd i ddod, a’n bod yn ddiolchgar i gyrff fel y Comisiwn Etholiadol sydd wedi rhoi llawer o amser ac ymdrech yn archwilio’r mater.

 

Mae'n ofynnol i CSF ganfasio pob eiddo yn y Sir bob blwyddyn i sicrhau bod cofnodion cofrestru pleidleiswyr yn gyfredol. Pan fydd hyn yn digwydd yn ddiweddarach eleni, byddwn yn ei ddefnyddio fel man cychwyn ar gyfer ein cynllun cyfathrebu ar gyfer hyrwyddo ymwybyddiaeth bod pleidleiswyr angen dogfennaeth ffotograffig. Bydd y cynllun hwnnw'n mynd â ni drwodd i'r diwrnod pleidleisio gydag ymgyrchoedd wedi'u targedu ar gyfer gwahanol ddemograffeg pleidleiswyr.

 

Gadawodd y Cynghorydd Sir Armand Watts y cyfarfod am 16:41pm

 

Fel cwestiwn atodol, gofynnodd y Cynghorydd Chandler i'r Aelod Cabinet ymrwymo i gondemnio'r gofynion am ddogfennaeth ffotograffig ymhlith pleidleisiwr ac yn hyrwyddo'r nifer sy'n derbyn Tystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr.

 

Cytunodd yr Aelod Cabinet ei bod yn condemnio’r gofynion ac yn cydnabod y byddai hyn yn difrïo llawer o bobl.

 

12.

Gan y Cynghorydd Sir Richard John i’r Cynghorydd Sir Catrin Maby, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd

Pa gynnydd a wnaeth y weinyddiaeth i gyflawni ei ymrwymiad maniffesto i ddileu’r holl dyllau mewn ffyrdd o fewn pum mlynedd?

Cofnodion:

 

Pa gynnydd y mae’r Weinyddiaeth wedi’i wneud tuag at gyflawni ei haddewid maniffesto i ddileu pob twll yn y ffordd o fewn pum mlynedd?

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet ei bod yn anodd mesur cynnydd gyda tharged sy’n symud yn barhaus a bod y gostyngiad mewn buddsoddiad mewn cynnal a chadw priffyrdd dros sawl degawd ar draws y DU, ac effaith newid hinsawdd wedi creu storm berffaith. Roedd yr Aelod Cabinet yn ymwybodol o Aelodau'r gwrthbleidiau a oedd wedi mynd ati'n rhagweithiol i annog trigolion i roi gwybod am dyllau yn y ffyrdd dros gyfnod y gaeaf a oedd wedi'i gwneud yn anodd mesur cynnydd.

 

Drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Awdurdod wedi:

 

  • Parhau gyda rhaglenni i fynd i'r afael â phroblemau draenio a cwteri.
  • Cynyddu nifer y dyddiau a dreulir ar ‘hotholing’ a drefnwyd tra’n cynnal yr un lefelau o waith cynnal a chadw ad-hoc.
  • Gwrando ar bryderon a godwyd gan y Cyngor ym mis Mawrth a buddsoddi cyllideb cynnal a chadw cyfalaf ychwanegol o £500,000.

 

Cydnabuwyd, wrth addo mynd i'r afael â'r mater, bod angen deall maint y broblem ac nad yw llenwi tyllau yn y ffordd yn ateb ymarferol ar gyfer gwella'r rhwydwaith yn y tymor hir ac roedd angen atebion mwy cynhwysfawr. Mae'r Weinyddiaeth wedi parhau i weithredu'r dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth o osod wyneb newydd ar ffyrdd a roddwyd ar waith gan y Weinyddiaeth flaenorol.

 

Roedd diwedd grant cyfnod penodol ar gyfer gwella ffyrdd yn golygu bod y gyllideb wedi gostwng £620,000 a olygai heriau sylweddol o ran cynnal a chadw'r rhwydwaith priffyrdd.

 

Mae gweithdy i'r holl Aelodau i'w drefnu i drafod ac egluro ymhellach y gwahanol agweddau ar waith priffyrdd.

 

Fel atodiad atodol, gofynnodd y Cynghorydd John pa fwy o hyblygrwydd y mae'r Weinyddiaeth am ei roi i beirianwyr priffyrdd fel y gallant wneud penderfyniad mwy gwybodus sy'n seiliedig ar dystiolaeth ynghylch sut y dylid trwsio tyllau yn y ffordd yn y dyfodol?

 

Ailadroddodd yr Aelod Cabinet y pwyntiau a wnaed a chytunodd fod angen atgyweiriadau parhaol, ac y byddai'n gwneud yr hyn a allai i sicrhau'r arian i wneud hynny.

13.

Gan y Cynghorydd Sir Richard John i’r Cynghorydd Sir Mary Ann Brocklesby, Arweinydd y Cyngor

Beth mae’r weinyddiaeth wedi’i gyflawni yn y flwyddyn ddiwethaf?

 

Cofnodion:

Beth mae'r Weinyddiaeth wedi'i gyflawni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf?

 

Mewn ymateb amlygodd yr Arweinydd y canlynol:

 

• Dosbarthu £379,800 mewn taliadau uniongyrchol o £150 i 1772 o gartrefi ar draws y sir i bobl anabl a rhai gyda phlant ar brydau ysgol am ddim.

• Darparu cynnyrch misglwyf i bob ysgol unigol.

• Mae’r dangosfwrdd tlodi bellach yn weithredol ac yn ein galluogi i weld mewn amser real yr ystadegau ar dlodi, digartrefedd, nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer tai, niferoedd ar gredyd cynhwysol ac ati.

• Cynnal sesiynau Costau Byw ym mhob tref i sicrhau bod yr holl grwpiau cymunedol yn gydgysylltiedig ac yn cael eu cefnogi.

• Cefnogi sefydlu hybiau cynnes i ddarparu gofod cynnes a diodydd am ddim i gefnogi preswylwyr.

• Wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i helpu cannoedd o bobl o Wcráin  i ffoi o'r rhyfel.

• Croesawu Cymdeithas Fwslimaidd Sir Fynwy i Neuadd y Sir a chynnal digwyddiad Iftar.

• Penodi ein Hyrwyddwr LHDTC cyntaf.

• Dod yn Sir Noddfa.

• Darparu darpariaeth chwarae haf. Cefnogwyd dros 11599 o blant gan gynnwys 620 o blant ag anghenion amrywiol.

• Rhwng Mehefin 2022 a Mawrth 2023 cafwyd gostyngiad o draean yn nifer yr oriau o angen heb ei ddiwallu mewn gofal cymdeithasol.

• Goruchwylio ymgyrch recriwtio lwyddiannus ar gyfer gofalwyr maeth.

• Mae'r amser aros ar gyfer addasiadau i'r anabl wedi gostwng 24%.

• Cynhyrchu a chymeradwyo cynllun ailgartrefu cyflym.

• Mae safle Ysgol Cil-y-coed wedi'i ddyrannu ar gyfer 100 o gartrefi fforddiadwy ac wedi derbyn caniatâd cynllunio.

• Creu gwasanaeth cynhwysiant cydlynol i gefnogi ein dysgwyr mwyaf agored i niwed.

• Ceisio hyrwyddo ein darpariaeth Gymraeg.

• Sicrhau cyllid teithio llesol Llywodraeth Cymru o £3.4m ar gyfer blwyddyn ariannol 22/23.

 

Fel cwestiwn atodol, gofynnodd y Cynghorydd Sir John pryd y byddai'r Weinyddiaeth yn rhoi'r gorau i oedi ar y materion mawr.

 

Ymatebodd yr Arweinydd mai ychydig iawn o adolygiadau polisi a fu o dan y Weinyddiaeth flaenorol, a nawr bod y Cynllun Corfforaethol a Chymunedol wedi'i gymeradwyo gan y Cyngor mae'r weinyddiaeth yn awyddus i symud ymlaen. Ychwanegodd fod yr adolygiadau cludiant ysgol a dalgylch yn dal i fod o fewn yr amserlen a gynlluniwyd a bod y CDLl Newydd wedi'i oedi ond ei fod yn ôl ar y trywydd iawn bellach gydag ymgynghoriad clir ar y gweill.

14.

Gan y Cynghorydd Sir Louise Brown i’r Cynghorydd Sir Martyn Groucutt, Aelod Cabinet ar gyfer Addysg

A all yr Aelod Cabinet roi ymrwymiad y bydd gan yr ysgol 3-19 newydd yn y Fenni doiledau un rhyw ar gyfer pob blwyddyn?

 

Cofnodion:

A all yr Aelod Cabinet roi ymrwymiad y bydd gan yr ysgol 3-19 newydd yn y Fenni doiledau un rhyw am bob blwyddyn?

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet fod ymgynghoriad manwl wedi ei gynnal gyda disgyblion yr ysgolion presennol, sef  Deri View ac Ysgol Gyfun Brenin Harri VII. Yn y cyfnod cynradd,  y cynllun yw y bydd toiledau un rhyw yn unig. Roedd gan y disgyblion uwchradd farn fwy coeth a byddai toiledau un rhyw ar bob llawr ond hefyd toiledau na fydd yn gwahaniaethu rhwng disgyblion. Bydd y waliau o'r llawr i'r nenfwd, ac ni fydd wrinalau mewn unrhyw doiled. Mae llais y myfyrwyr wedi ei ystyried yn ofalus ac  maent yn derbyn yr hyn y maent wedi gofyn amdano.  

 

Fel cwestiwn atodol, gofynnodd y Cynghorydd Sir Brown a oedd llais y rhieni, y Llywodraethwyr a'r Pennaeth hefyd wedi ei ystyried hefyd.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet fod yr ymgynghoriad wedi cynnwys adborth oedolion hefyd. Byddai gan bob toiled i fenywod a thoiledau neillryw gyfleusterau cynnyrch misglwyf.

15.

Gan y Cynghorydd Sir Christopher Edwards i’r Cynghorydd Sir Sara Burch, Aelod Cabinet Cymunedau Cynhwysol ac Egnïol

Mae cymuned o deithwyr wedi gwersylla’n ddiweddar ym  maes parcio Canolfan Hamdden Cas-gwent ddwy waith mewn cyfnod o 6 wythnos. Fel y gwyddoch, mae hwn yn faes parcio sydd hefyd yn ffinio Ysgol Cas-gwent. Mae hyn wedi tarfu ar breswylwyr, busnesau, yr ysgol a’r ganolfan hamdden, heb sôn am y gwaith ychwanegol i staff y cyngor a’r heddlu.

A all yr Aelod Cabinet esbonio pa opsiynau y bydd y cyngor yn eu cymryd yn y dyfodol i atal y maes parcio hollbwysig a prysur hwn yng Nghas-gwent, a ddefnyddir gan breswylwyr, rhieni, plant, defnyddwyr y ganolfan hamdden a thwristiaid rhag cael ei ddefnyddio a’i gamddefnyddio yn y ffordd hon? Mae safleoedd swyddogol i deithwyr yn Sir Fynwy, fodd bynnag caiff Cas-gwent ei gweld fel targed rhwydd a chaiff cyfleusterau’r cyngor eu cam-drin, gyda phreswylwyr hefyd yn methu manteisio’n llawn ar y gwasanaethau y maent wedi dod i’w disgwyl gan gyngor.

Cofnodion:

Yn ddiweddar mae cymuned o deithwyr wedi gwersylla ym maes parcio Canolfan Hamdden Cas-gwent ar ddau achlysur mewn mater o 6 wythnos. Fel y gwyddoch, mae hwn yn faes parcio sydd hefyd yn ffinio ag Ysgol Cas-gwent. Mae hyn wedi achosi aflonyddwch i drigolion, busnesau, yr ysgol a'r ganolfan hamdden, heb sôn am y gwaith ychwanegol i staff y Cyngor a'r heddlu. A all yr Aelod Cabinet egluro pa opsiynau y bydd y Cyngor yn eu cymryd yn y dyfodol i atal y maes parcio hollbwysig a phrysur hwn yng Nghas-gwent, sy’n cael ei ddefnyddio gan drigolion, rhieni, plant, defnyddwyr canolfannau hamdden a thwristiaid, rhag cael ei ddefnyddio a'i cam-drin yn y modd hwn. Mae safleoedd awdurdodedig i deithwyr yn Sir Fynwy, fodd bynnag, mae Cas-gwent yn cael ei weld fel targed hawdd a chyfleusterau’r Cyngor yn cael eu cam-drin, gyda thrigolion hefyd yn methu â manteisio’n llawn ar y gwasanaethau y maent yn dod i’w disgwyl gan Gyngor.

 

Cydnabu'r Aelod Cabinet fod y mater yn peri pryder mawr a chytunodd yn yr achos diweddaraf hwn nad oedd trigolion ac ymwelwyr yn gallu defnyddio'r rhan fwyaf o'r maes parcio am sawl diwrnod dros wyliau'r Pasg. Roedd y cyfleusterau'n parhau ar agor a mynegodd glod dyledus i staff MonLife a oedd wedi parhau i reoli'r safle gyda phroffesiynoldeb. Esboniodd yr Aelod Cabinet nad oedd unrhyw safleoedd teithwyr awdurdodedig yn Sir Fynwy ar gael i grwpiau o Deithwyr ac ychydig iawn o leoedd y gallent stopio yn gyfreithlon. Roedd canllawiau gan Lywodraeth Cymru i CSF yn nodi, pan fydd gwersyll diawdurdod yn digwydd, er ein bod am symud deiliad oddi ar y safle a bod o dan bwysau gan breswylwyr i wneud hynny, ein dyletswydd gyntaf yw lles y plant ac unrhyw oedolion agored i niwed i sicrhau eu bod yn gwneud hynny a’n sicrhau eu bod yn cael mynediad at dd?r, casglu sbwriel, toiledau a chyfleusterau ymolchi, a’n bod yn mynd drwy’r broses gyfreithiol i’w gwneud yn ofynnol iddynt adleoli os oes angen.

 

Pan fo Teithwyr yn meddiannu tir fel y maes parcio, mae Swyddogion Iechyd Amgylcheddol yn cynnal asesiad lles safle, yn gofyn am fwriadau ac yn cysylltu â’r landlord, sef MonLife yn y Canolfannau Hamdden, Priffyrdd mewn meysydd parcio ac ati i geisio eu symud os oes angen, gan weithio gyda gwasanaethau cyfreithiol CSF.

 

O ran gosod rhwystrau uchder, byddai hyn yn broblematig yn y meysydd parcio hyn gan fod yn rhaid iddynt aros ar agor ar gyfer cyflenwadau i ysgolion. Gallai hyn effeithio hefyd ar dwristiaid sy'n teithio drwy'r sir.

 

I grynhoi, dywedodd yr Aelod Cabinet y byddai rhwystrau’n cael eu hystyried lle bo’n briodol, byddai’n pwyso am ddatblygu safle tramwy rhanbarthol yng Nghoridor yr M4 ac yn cyflwyno safleoedd ar gyfer lleiniau parhaol ar gyfer teuluoedd Teithwyr lleol, ac yn adolygu’r protocol a sefydlwyd yn 2015 i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas at y diben.

16.

Gan y Cynghorydd Sir Christopher Edwards i’r Cynghorydd Sir Paul Griffiths, Aelod Cabinet Economi Gynaliadwy a Dirprwy Arweinydd

Ym mis Ionawr 2023 cadarnhaodd y Dirprwy Arweinydd wrth y cyngor hwn y caiff unrhyw welliannau yn y dyfodol i gylchfan Highbeech eu trafod eto gyda Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, ac y cysylltwyd ag ef i ofyn am astudiaeth bellach ar Gylchfan Highbeech ac y byddai’r Aelod Cabinet yn cynnal cyfarfod ddiwedd mis Ionawr gyda’r Gweinidog.

 

Gan fod Llywodraeth Cymru yn 2022 wedi dileu’r cyllid gwreiddiol a gytunwyd ar gyfer yr astudiaeth bellach hon, a all yr Aelod Cabinet gadarnhau os y cynhaliwyd y cyfarfod, beth yn union gafodd ei drafod a beth oedd canlyniad y cyfarfod hwnnw, ac unrhyw gyfarfodydd pellach a allai fod wedi eu cynnal ers hynny i edrych ar wella’r seilwaith yng Nghas-gwent y mae angen dybryd amdano.

 

Cofnodion:

Ym mis Ionawr 2023, cadarnhaodd y Dirprwy Arweinydd i’r Cyngor hwn y bydd unrhyw welliannau i gylchfan Highbeech yn y dyfodol yn cael eu trafod eto gyda “Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth” Llywodraeth Cymru a’i fod wedi cysylltu ag ef i ofyn am astudiaeth bellach ar Gylchfan Highbeech, a bod y yr Aelod yn cynnal cyfarfod ddiwedd y mis [Ionawr] gyda’r gweinidog.

 

 

Gan fod y cyllid gwreiddiol y cytunwyd arno ar gyfer yr astudiaeth bellach hon wedi’i dynnu gan Lywodraeth Cymru yn 2022, a all yr Aelod Cabinet gadarnhau a aeth y cyfarfod yn ei flaen, beth yn union a drafodwyd, a chanlyniad y cyfarfod hwn wedi hynny, ac unrhyw gyfarfodydd pellach a allai fod wedi’u cynnal ers hynny i ystyried gwella'r seilwaith yng Nghas-gwent sydd ei angen yn fawr.

Eglurodd y Dirprwy Arweinydd ei fod ef a’r Arweinydd wedi cyfarfod â’r Gweinidog dros Newid Hinsawdd ym mis Ionawr ac wedi pwysleisio i symud at y cam nesaf o ariannu gwaith dylunio Cylchfan Highbeech, ac roedd wedi pwysleisio’r achos yn yr un modd â’r Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth. Credai fod y ddau weinidog yn deall cryfder yr achos a'r angen am welliant. Nid oedd wedi gweld unrhyw gofnodion o gytundeb blaenorol i ariannu'r astudiaeth ond roedd wedi canfod rhwystr gan nad yw'r gyffordd erioed wedi ymddangos yng Nghynllun Cyflawni Trafnidiaeth Cenedlaethol Llywodraeth Cymru. Mae’r Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth wedi cynnig cyfarfod eto yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf i drafod cyflawni amcanion ariannu’r cynllun ar gyfer y gylchfan hon.

 

Bydd y cwestiynau'n cael eu hanfon ymlaen at swyddogion yn Llywodraeth Cymru a bydd y Cyngor yn cael y wybodaeth ddiweddaraf.

 

Fel atodiad, gofynnodd y Cynghorydd Edwards a fyddai'r ohebiaeth rhwng y Cyngor a Gweinidogion Cymru yn cael ei chynnwys yn y dystiolaeth sydd ar gael i'r cyhoedd ar gyfer y CDLlA.

 

 

17.

Cyfarfod nesaf – 18fed Mai 2023

Cofnodion:

Wedi ei nodi.