Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim

 

2.

Ethol Cadeirydd y Cyngor ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2022/23

Cofnodion:

Agorodd y Cynghorydd Sir Ann Webb, Is-gadeirydd y Cyngor, y cyfarfod a manteisiodd ar y cyfle i ddiolch i’r Cyngor am y cyfle i gynrychioli’r Cyngor a thynnodd sylw at nifer o ddigwyddiadau a fynychod.

 

Anerchodd yr Arweinydd y Cyngor a diolchodd i’r Cynghorydd Sir Feakins am ei flwyddyn yn y swydd fel Cadeirydd, y Cynghorydd Sir Ann Webb am ei blwyddyn fel Is-gadeirydd a rhoddodd gipolwg ar y gwaith a’r hyn a gyflawnwyd yn y flwyddyn ddiwethaf.

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Mary Ann Brocklesby ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Rachel Garrick bod y Cynghorydd Sir Laura Wright yn cael ei hethol yn Gadeirydd Cyngor Sir Fynwy am Flwyddyn Ddinesig 2022/23. Pan roddwyd y mater i bleidlais, cytunwyd ethol y Cynghorydd Sir Wright yn Gadeirydd.

 

Gwnaeth a llofnododd y Cynghorydd Sir Laura Wright y Datganiad Derbyn Swydd a diolchodd i Aelodau am eu cefnogaeth.

 

 

3.

Penodi Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2022/23

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd enwebiadau ar gyfer Is-gadeirydd y Cyngor.

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Paul Griffiths ac eiliodd y Cynghorydd Sir Ben Callard bod y Cynghorydd Sir Peter Strong yn cael ei benodi yn Is-gadeirydd y Cyngor Sir am Flwyddyn Ddinesig 2022/23.

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Richard John ac eiliwyd gan y Cyngorydd Sir Maureen Powell bod y Cynghorydd Ann Webb yn cael ei phenodi yn  Is-gadeirydd y Cyngor Sir am Flwyddyn Ddinesig 2022/23.

 

Mewn pleidlais penderfynwyd penodi’r Cynghorydd Sir Ann Webb yn Is-gadeirydd. Gwnaeth a llofnododd y Cynghorydd Ann Webb y Datganiad Derbyn Swydd a diolchodd i Aelodau am eu cefnogaeth.

 

4.

Caiff yr eitemau dilynol eu gohirio i gyfarfod y Cyngor Sir a gynhelir ar 19 Mai 2022

Cofnodion:

Penderfynwyd gohirio gweddill yr eitemau busnes i gyfarfod y Cyngor Sir a gynhelir ar 19 Mai 2022.