Agenda and minutes

Cyngor Sir - Dydd Iau, 27ain Ionawr, 2022 2.00 pm

Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Sir Dimitri Batrouni fuddiant personol, rhagfarnol yng nghyswllt 7.3 gan fod hyn yn cynnwys trafodaeth ar fater a ddaw dan gylch gorchwyl ei gyflogaeth.

2.

Cwestiynau Cyhoeddus

Cofnodion:

Dim.

3.

Cyhoeddiad y Cadeirydd a derbyn unrhyw ddeisebau pdf icon PDF 224 KB

Cofnodion:

Agorodd y Cadeirydd y cyfarfod gan gyfeirio at Ddiwrnod Cofio’r Holocost a hefyd farwolaeth ein ffrind a chydweithiwr annwyl, y Cynghorydd Sir Peter Clarke.

Mynegodd aelodau’r Cyngor dristwch a chydymdeimlad a manteisio ar y cyfle i rannu atgofion am y Cynghorydd Sir Clarke. Cynhaliwyd cyfnod o dawelwch wedyn.

Deisebau a gyflwynwyd:

Cyflwynodd y Cynghorydd Sir Dimitri Batrouni ddeiseb ar ran preswylwyr Cas-gwent a Bulwark yn ymwneud â’r diffyg ymgynghori ar gau Stryd Fawr Cas-gwent.

Cyflwynodd y Cynghorydd Sir Debby Blakeborough ddeiseb ar ran preswylwyr cymuned Narth yn ward Tryleg Unedig. Mae’r ddeiseb yn galw am ostwng y terfyn cyflymder i fod yn is na’r terfyn cenedlaethol o 60mya.

4.

Adroddiadau i’r Cyngor

4a

CYNLLUN GOSTYNGIAD YN Y DRETH GYNGOR 2022/23 pdf icon PDF 174 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau yr adroddiad i gyflwyno trefniadau ar gyfer gweithredu Cynllun Gostwng y Dreth Gyngor a’i gymeradwyo ar gyfer 2022/23.

Gofynnwyd i’r Cyngor gytuno mabwysiadu’r diwygiadau i’r Rheoliadau a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru, fel y’u manylir ym mhwynt 3.7 a chadarnhau y cynhelir diwygiadau uwchraddio blynyddol bob blwyddyn heb ofyniad i fabwysiadu holl Gynllun Gostwng y Dreth Gyngor.

Mewn pleidlais, penderfynodd y Cyngor i dderbyn yr argymhellion:

Nodi gwneuthur Rheoliadau Cynllun Gostwng y Dreth Gyngor a Gofynion a Ragnodwyd (Cymru) (“y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig”) 2013 gan Lywodraeth Cymru ar 26 Tachwedd 2013.

Mabwysiadu’r darpariaethau o fewn y Rheoliadau uchod (“y Rheoliadau Rhagnodedig”) ac unrhyw ‘reoliadau uwchraddio blynyddol’ yng nghyswllt y Cynllun ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23 yn cynnwys yr elfennau dewisol a gymeradwywyd yn flaenorol fel cynllun lleol y Cyngor o 1 Ebrill 2022.

5.

GWEITHREDU PWYLLGOR CYFUN CORFFORAETHOL DE DDWYRAIN CYMRU pdf icon PDF 464 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor yr adroddiad i nodi’r model llywodraethiant a chyflenwi interim sy’n ddigonol i weithredu’r gofynion statudol ar gyfer sefydlu Cyd-bwyllgor Corfforedig De Ddwyrain Cymru. Mae’r adroddiad yn anelu i osod dull ‘dau drac’ i weithredu Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ynghyd â chyfnod ‘mymryn lleiaf’ cyflwyno’r Cyd-bwyllgor Corfforedig cyn i Gyd-bwyllgor Corfforedig De Ddwyrain Cymru osod ei gyllideb statudol gyntaf ar 31 Ionawr 2022.

Cafodd y Cyngor eu hysbysu am gamau nesaf cynnydd yn unol â datrys y rhwystrau presennol i weithredu dull ‘codi a symud’ integredig sy’n anelu i ddod â Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a’r Cyd-bwyllgor Corfforedig ynghyd maes o law mewn un model cydlynus o lywodraethiant economaidd rhanbarthol.

Anogodd Aelodau ddiweddariadau ar y Fargen Ddinesig a chafodd yr Arweinydd ei annog i sicrhau fod Aelodau’n cymryd rhan fel gwneuthurwyr penderfyniadau.

Gofynnwyd am sicrwydd am lywodraethiant y pwyllgor ac esboniodd y Prif Swyddog Gweithredol fod craffu yn dal yn ei gyfnod ffurfiannol, ond y byddai swyddogaeth craffu rhanbarthol.

Mewn pleidlais, penderfynodd y Cyngor i dderbyn yr argymhelliad:

Bod y Cyngor yn

Nodi’r model llywodraethiant a chyflenwi interim ar gyfer gweithredu Cyd-bwyllgor Corfforedig ‘De Ddwyrain Cymru a’r trefniadau ‘dau drac’ a gynigiwyd ar draws gweithrediadau Bargen Ddinesig Prifdidnas-Rnabarth Caerdydd ynghyd â gweithredu dechreuol Cyd-bwyllgor Corfforedig ‘mymryn lleiaf’ ac nes y gellir gweithredu’r dull ‘codi a symud’ arfaethedig.

Nodi’r gofyniad i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig osod a chymeradwyo cyllideb ar neu cyn 31 Ionawr 2022 a’r camau a nodir yn yr adroddiad i alluogi hyn

Nodi’r risgiau a’r materion a nodir yn yr adroddiad sydd angen monitro, lliniaru a rheoli parhaus

Nodi’r cais a wnaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i Lywodraeth Cymru i ddiwygio rheoliadau’r Cyd-bwyllgor Corfforedig i newid y dyddiad pan mae dyletswyddau cyntaf yn dechrau dan y Rheoliadau o 28 Chwefror 2022 i 30 Mehefin 2022

Nodi’r drafft Reolau Sefydlog yn Atodiad 1 sy’n gosod y gofynion a’r model gweithredu dechreuol ar gyfer y Cyd-Bwyllgor Corfforedig yn ogystal â busnes dechreuol ar gyfer y cyfarfod cyntaf ar 31 Ionawr 2022

Nodi’r gwaith sy’n mynd rhagddo gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig a’r Cynghorau sy’n rhan ohono i weithio gyda Llywodraeth Cymru, Archwilio Cymru a chynghorwyr fel sy’n briodol, i helpu llywio datrys y materion sydd ar ôl lle bynnag yn bosibl

Cefnogi Arweinydd y Cyngor yn ei ddyletswydd i ystyried a gosod cyllideb gyntaf Cyd-bwyllgor Corfforedig De Ddwyrain Cymru ar 31 Ionawr 2022 er mwyn sicrhau fod y Cyngor yn cydymffurfio gyda’r ddeddfwriaeth fel sydd angen.

6.

Ymateb i ddiffygion o fewn marchnad y darparwyr ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth pdf icon PDF 530 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd yr adroddiad i nodi cynnig sy’n galluogi’r Cyngor i ymateb yn hyblyg ac yn brydlon i sefyllfaoedd argyfwng sy’n codi i ddiogelu plant a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth iawn pan nad oes unrhyw leoliadau ‘plant sy’n derbyn gofal’ ar gael o fewn y farchnad darparydd.

Roedd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau yn ystyried y cynnig yn ddefnydd effeithlon o adnoddau.

Rhoddodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd sicrwydd i Aelodau y byddai llety mewnol yn sicrhau fod gan blant a phobl ifanc fynediad i’w teuluoedd, ffrindiau ac addysg.

Dywedwyd y dylai rôl Rhiant Corfforaethol sicrhau nas anghofir am unrhyw blentyn, hyd yn oed os caiff ei leoli tu allan i’r Sir. Mae’n rhaid sicrhau fod pobl ifanc yn derbyn gofal da.

Esboniodd y Prif Swyddog y caiff rhai plant eu lleoli tu allan i’r Sir gan fod hynny’n gydnaws gyda’u hanghenion unigol. Gellid rhoi’r niferoedd yn dilyn y cyfarfod.

Mewn pleidlais, penderfynodd y Cyngor i dderbyn yr argymhellion:

Bod y Cyngor yn cytuno i sefylu gofod benthyca o £2m i alluogi caffael ac ailwampio eiddo penodol a lle na all y Cyngor ddynodi cyflenwad addas yn y farchnad darparydd ar gyfer plant a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth iawn.

Mae’r p?er a ddirprwywyd i’r Prif Swyddog Gofal Iechyd ac Addysg i lety “diogel” ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, lle bo angen, yn cynnwys y gallu i brynu eiddo neu dir priodol yn dilyn achos busnes priodol ac ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd. 2.2 Rhoddir awdurdod dirprwyedig i’r Dirprwy Brif Weithredwr/Prif Swyddog Adnoddau (fel swyddog A151 y Cyngor), mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet dros Adnoddau, i ystyried achosion busnes sy’n edrych ar ddefnyddio’r gofod benthyca ar gyfer y diben a nodwyd.

Mae’r Cyngor yn parhau i weithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, landlodiaid cymdeithasol cofrestredig ac awdurdodau lleol eraill, er mwyn sicrhau cyllid a/neu ddarpariaeth addas a fyddai’n mynd ati i liniaru neu osgoi’r angen i ddefnyddio’r gofod benthyca.

Mae’r penderfyniad yn adrodd ar achosion busnes sy’n cefnogi unrhyw gaffaeliadau eiddo a wnaed ac a ddaw o fewn yr amgylchiadau a amlinellir yn yr adroddiad hwn a chânt eu hadrodd i’r cyfarfod nesaf sydd ar gael o’r Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc.

7.

Cynigion i’r Cyngor:

8.

Wedi ei gyflwyno gan y Cynghorydd Sir Martyn Groucutt

Mae’r Cyngor hwn yn cydnabod fod nifer o deuluoedd yn Sir Fynwy yn mynd i wynebu caledi ariannol cynyddol cyn hir. O ganlyniad, bydd hyn yn arwain at gynnydd mewn trafferthion cymdeithasol, emosiynol a meddygol a fydd yn meddu ar y potensial i effeithio’n andwyol ar fywydau trigolion a’u teuluoedd. Mae’r cynnydd dramatig mewn costau tanwydd ar gyfer coginio, gwresogi a goleuo ein cartrefi, a’r cynnydd sylweddol yn y gyfradd chwyddiant, a’r cynnydd mewn rhai trethi o ddechrau Ebrill, yn mynd i roi pwysau sylweddol iawn ar gyllidebau domestig a gallai hyn arwain at argyfwng cymdeithasol ar draws ein sir.

Mae’r Cyngor yn croesawu’r ymgyrch ‘Money Matters’ ond hefyd yn credu bod angen defnyddio data sydd yn dod i’r amlwg a’r dystiolaeth arall sydd yn cael ei chasglu gan Gyngor Ar Bopeth Sir Fynwy, Mind Sir Fynwy a Chanolfan Mentergarwch Cymunedol Y Fenni, er mwyn paratoi’r ymateb gorau posib. Efallai ei fod yn bosib i gasglu gwybodaeth ddefnyddiol gan fudiadau eraill fel  y Bevan Foundation ar effeithiau ehangach yr argyfwng costau byw sydd yn dechrau datblygu.

Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i ymateb i’r argyfwng posib yma, gan weithio gyda grwpiau ac asiantaethau perthnasol eraill. Bydd hyn yn caniatáu swyddogion i adnabod y prif resymau dros galedi ariannol, gan adnabod y cymunedau hynny sydd wedi ei heffeithio yn fwyaf difrifol, a’r grwpiau sydd yn cael eu niweidio fwyaf, ynghyd â’r canlyniadau ehangach eraill, sydd yn cael eu profi ar draws y sir.

Bydd swyddogion yn adrodd nôl i’r Cyngor dros y flwyddyn nesaf ar y ffyrdd y maent wedi datblygu eu hymateb i’r argyfwng a sut y mae modd mesur effeithiolrwydd hyn. Bydd hyn yn cynnwys hysbysu’r Cyngor ar y ffyrdd y mae’r gefnogaeth wedi ei dargedu er mwyn diwallu’r anghenion a nodir a’r ffyrdd y mae gweithwyr proffesiynol o ystod o asiantaethau wedi cydweithredu er mwyn medru llunio’r ymateb mwyaf effeithiol.   

Eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Lisa Dymock, Aelod Cabinet dros Lesiant Cymunedol a Chyfiawnder Ychwanegol, a ychwanegodd y cydnabyddir effaith ddifrifol costau byw ar aelwydydd ac y bydd y cynnydd yng nghostau tanwydd a chyfleustodau yn effeithio waethaf ar y lleiaf cefnog. Soniodd am y meysydd diiynol lle mae Cyngor Sir Fynwy yn darparu help:

·         Drwy ddarparu budd-daliadau lleol

·         Drwy help i hawlio Credyd Cynhwysol

·         Rhoi cymorth i ganfod gwaith

·         Gwella sgiliau i helpu pobl i swyddi ar gyflogau gwell

·         Drwy gyngor a chanllawiau pwrpasol

Roedd siom na chafodd cynnig blaenorol yn gofyn i’r Cyngor ysgrifennu at y Llywodraeth i fynegi pryder am ddileu’r ymgodiad Credyd Cynhwysol gefnogaeth well. Fodd bynnag, cafodd ei gario gyda phleidleisiau’r wrthblaid.

Canmolwyd y Cynghorydd Sir Groucott gan yr Aelod Cabinet dros yr Economi ar ddod â’r cynnig i’r Cyngor a’r Aelod Cabinet am ei gwaith yn y maes.

Mewn pleidlais, cafodd y cynnig ei gario.

9.

Wedi ei gyflwyno gan y Cynghorydd Sir Tudor Thomas

Mae’n hanfodol fod holl gadeiryddion y pwyllgorau dethol yn derbyn gwybodaeth gyfredol ar yr holl feysydd sydd yn ymwneud gyda phortffolio'r pwyllgor, yn enwedig plant sy’n derbyn gofal o fewn Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc.

Datganodd y Cynghorydd Sir Dimitri Batrouni fuddiant rhagfarnol a gadawodd y cyfarfod.

Eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Martyn Groucutt.

Cynigiodd y Cynghorydd Sir welliant:

Mae’n hanfodol fod holl gadeiryddion y pwyllgorau dethol yn parhau i dderbyn gwybodaeth gyfredol a chyfoes, lle’n briodol, ar yr holl feysydd sydd yn ymwneud â phortffolio’r pwyllgor yn enwedig plant sy’n derbyn gofal o fewn Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc.

Eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Jane Pratt a gyfeiriodd at ei hamser fel Cadeirydd Pwyllgor Dethol ac ystyriai bod y swyddogaeth craffu yn rhagorol.

Derbyniwyd y cynnig gyda gwelliant a daeth hynny y prif gynnig.

Rhoddwyd sicrwydd i’r Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd fod ein holl blant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal yn derbyn gofal maeth sefydlog ac ardderchog, ac y caiff eu llesiant ei amddiffyn.

Mewn pleidlais, cafodd y prif gynnig ei gario.

10.

Wedi ei gyflwyno gan y Cynghorydd Sir Armand Watts

Mae’r Cyngor yn cytuno ei fod yn gwbl anfoesol fod cyflogeion yn cael eu diswyddo ac yna eu  ailgyflogi.

Mae’r cais yn gofyn i Gyngor Sir Fynwy i gymryd camau er mwyn rhoi diwedd ar ddiswyddo ac ailgyflogi yn y gweithle. Mae’r cynnig yn ceisio atal yr arfer yma o fewn yr awdurdod lleol ac osgoi  cytuno ar gontractau gyda busnesau sydd yn defnyddio’r dacteg hon, os yw hyn gyfreithlon.  

Eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Tudor Thomas.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau nad oes tystiolaeth fod Cyngor Sir Fynwy yn diswyddo ac ailgyflogi gweithwyr p’un ai’n uniongyrchol neu drwy drydydd parti. Sicrhaodd y Cyngor na fu unrhyw newidiadau mawr i delerau ac amodau yn ystod y pandemig.

Mewn pleidlais, cafodd y cynnig ei drechu.

11.

Cwestiynau gan Aelodau:

12.

Gan y Cynghorydd Sir Anthony Easson i’r Cynghorydd Sir Jane Pratt, Cabinet Aelod ar gyfer Seilwaith a Gwasanaethau Cymdogaeth

Ar ôl misoedd o aros am ymateb clir, a yw’r Cyngh. Pratt yn medru fy niweddaru ar y cynnydd ar gyfer y materion canlynol. Yn gyntaf,  y cais gan Gyngor Tref Cil-y-coed i osod  dau gysgodfan fysiau ar hyd Ffordd Woodstock, Cil-y-coed. Mae’r ddau yn cael eu hariannu gan y Cyngor.  

Diolchodd yr Aelod Cabinet i’r Cynghorydd Sir Easson am ei gwestiwn ac ymatebodd:

Mae swyddogion wedi gwneud trefniadau i osod y cysgodfannau bws, ond cafodd hyn ei atal i sicrhau y caiff y cysgodfannau eu hystyried yn gynhwysfawr fel rhan o’r astudiaeth Teithio Llesol a Llwybrau Diogel ar gyfer ardal Mill Lane a Woodstock Way. Mae’r astudiaeth yn edrych ar wella’r ardal o amgylch yr ysgolion a’r ganolfan hamdden yn cynnwys lleoliad y croesiadau ar Woodstock Way, mater a godwyd gan y Cynghorydd Easson mewn cyfarfod blaenorol o’r Cyngor.

Mae’r astudiaeth Teitho Llesol yn parhau. Cynhaliwyd gweithdy dechreuol i randdeiliaid yn gynharach y mis hwn. Disgwylir drafft astudiaeth WelTAG1 yr wythnos hon i helpu cefnogi ein cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru yn 2022/23, sy’n rhaid ei gyflwyno ddydd Llun. Er nad yw’r astudiaeth hon yn benodol am safleoedd bws, credwn ei bod yn ddoeth ystyried lleoliad y safleoedd bws wrth ochr mannau croesi newydd a gwelliannau posibl eraill yn yr ardal. Bydd Aelodau lleol a’r gymuned ehangach yn ymwneud â’r cynigion hyn wrth iddynt ddod i’r amlwg.

Fel cwestiwn atodol gofynnodd y Cynghorydd Sir Easson fod yr Aelod Cabinet yn cymryd cyfrifoldeb personol i sicrhau y cymerir camau gweithredu.

Roedd yr Aelod Cabinet yn parchu’r sylwadau ac ychwanegodd ei bod yn bwysig ymgynghori â phreswylwyr lleol a’r cyhoedd, ac os oes gennym wybodaeth sy’n ei gwneud yn glir fod preswylwyr yn credu nad yw safleoedd bws yn y lle cywir, byddai’n anghywir i ni fod wedi eu symud eisoes. Mae angen i ni sicrhau fod yr holl wybodaeth o’r ymgynghoriad gennym cyn i ni wneud y penderfyniad.

13.

Gan y Cynghorydd Sir Anthony Easson i’r Cynghorydd Sir Jane Pratt, Cabinet Aelod ar gyfer Seilwaith a Gwasanaethau Cymdogaeth

A yw’r Cyngh. Pratt yn medru cynnig diweddariad i mi ar y cynnydd sydd wedi ei wneud hyd yma er mwyn  gosod croesfannau i gerddwyr ar Lôn Sandy a Heol yr Eglwys yn ôl  fel eu bod yn gweithio eto. Roedd y ddwy groesfan wedi eu gosod yno fel rhan o’r rhaglen “Llwybrau Diogel i Ysgolion” pan agorwyd Ysgol Parc y Castell. Dylid cynnal a chadw'r ddwy groesfan  am yr union resymau y cawsant eu gosod yno yn y lle cyntaf. 

Diolchodd yr Aelod Cabinet i’r Cynghorydd Sir Easson am y cwestiwn ac esboniodd fod Lôn Sandy yn atgyweiriad syml ac y cafodd ei drosglwyddo i’r contractwr i wneud y gwaith. Ychwanegodd y bu swyddogion ar y safle yn Heol yr Eglwys y diwrnod blaenorol ond yn anffodus nad oedd y begynnau yn gweithio. Bydd swyddogion yn dychwelyd yr wythnos nesaf pan ddosbarthwyd trawsffurfwyr.Bydd yr Aelod Cabinet yn trefnu cyfarfod rhwng y Cynghorydd Sir Easson a swyddogion i sicrhau fod yr Aelod yn cael yr wybodaeth lawn.

Fel cwestiwn atodol, gofynodd y Cynghorydd Sir Easson i’r Cynghorydd Sir Joanne Watkins gael ei chynnwys fel yr Aelod Ward.

14.

Gan y Cynghorydd Sir Tudor Thomas i’r Cynghorydd Sir Jane Pratt, Cabinet Aelod ar gyfer Seilwaith a Gwasanaethau Cymdogaeth

A yw’r Aelod Cabinet yn medru egluro pam mae newid polisi wedi ei wneud o ran cadw arwyddion enw stryd yn Saesneg yn unig, ac nid dros gyfnod o amser, mynd at i ddarparu arwyddion stryd dwyieithog ar draws yr awdurdod.

Mae Sir Fynwy yn awdurdod yng Nghymru ac bydd y newid polisi hwn yn cael effaith negyddol ar iaith Gymraeg yn yr awdurdod. 

Translation:

Can the Cabinet Member clarify why the policy change has been made regarding keeping street name signs in English only and not over a period of time providing bilingual street signs across the authority.

Monmouthshire is an authority in Wales and this change of policy will have a negative effect on the Welsh Language in the authority.

Cofnodion:

A yw’r Aelod Cabinet yn medru egluro pam mae newid polisi wedi ei wneud o ran cadw arwyddion enw stryd yn Saesneg yn unig, ac nid dros gyfnod o amser, mynd at i ddarparu arwyddion stryd dwyieithog ar draws yr awdurdod.

Mae Sir Fynwy yn awdurdod yng Nghymru ac bydd y newid polisi hwn yn cael effaith negyddol ar iaith Gymraeg yn yr awdurdod. 

Diolchodd yr Aelod Cabinet i’r Cynghorydd Sir Thomas am ei gwestiwn ac atebodd fod y Gymraeg yn rhan bwysig o ddiwylliant a threftadaeth ein sir. Fel cyngor rydym yn parhau’n ymroddedig i sicrhau fod ein henwau stryd newydd yn Gymraeg yn unig neu’n ddwyieithog. Ychwanegodd ei bod yn falch iawn o waith ein Swyddog Enwi Strydoedd a Swyddog Polisi’r Gymraeg sy’n gweithio’n agos i sicrhau fod enwau stryd newydd yn adlewyrchu hanes Cymreig yr ardal yn hytach na bod yn gyfieithiadau o enwau stryd cyffredinol Saesneg.

Roedd angen diweddaru ein polisi presennol gan ei fod yn sôn am Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 a ddisodlwyd gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ac yn cynnwys cyfeiriad i ddweud ein bod yn disgwyl y Cod Ymarfer gan Gomisiynydd y Gymraeg i lywio ein dull gweithredu ar gyfieithu enwau styrd presennol. I egluro, mae’r newid a wnaed yn cyfeirio’n unig at achosion lle mae placiau enw stryd presennol wedi eu difrodi a bod angen rhai newydd. Cafodd y polisi ei ddiweddaru ac mae’n awr yn cydymffurfio’n llwyr gyda Safonau’r Gymreg.

Roedd rhai adroddiadau yn y wasg wedi awgrymu fod Sir Fynwy ar ben ei hun wrth benderfynu na fyddai’n cyfieithu enwau strydoedd presennol sydd mewn un iaith ar hyn o bryd. Un o’n nodau yw sicrhau dull gweithredu cyson yn Ne Ddwyrain Cymru. Wrth ochr ein cymdogion yng Ngwent, mae’r rhai sy’n defnyddio’r un dulll gyda enwau stryd presennol yn cynnwys Conwy, Sir Ddinbych, Powys a Sir Gaerfyrddin.

Daeth yr Aelod Cabinet i ben drwy ddweud nad ydym yn gwanhau ein hymrwymiad ar enwau stryd newydd a gall archwiliad o enwau stryd newydd gadarnhau fod hwn yn awdurdod sy’n coleddu iaith, diwylliant a threftadaeth Cymru.

Fel cwestiwn atodol gofynnodd y Cynghorydd Sir os yw’r newid mewn polisi yn adlewyrchu agwedd negyddol ddofn y weinyddiaeth Geidwadol at y defnydd o’r Gymraeg mewn bywyd bob dydd yn Sir Fynwy.

Atebodd yr Aelod Cabinet fod twf yn y Gymraeg yn Sir Fynwy a’n bod yn ymgynghori ar hyn o bryd ar strategaeth newydd ar y Gymraeg sy’n anelu i fanteisio ar hyn a chyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Y llynedd roedd y Cabinet wedi ymrwymo i gynyddu’r gyllideb cyfieithu gan fwy na 20%. Rydym wedi gweithio gyda busnes lleol i ddatblygu’r sgwrsfot dwyieithog cyntaf gan awdurdod lleol yng Nghymru, ac mae cynghorau eraill wedi ein dilyn yn hyn o beth. Mae ap FyNgwasanaethauCyngor yn hollol ddwyieithog ac mae’r tîm digidol yn comisiynu cyfieithydd i barhau â gwelliannau.

Mae gennym dros 2500 stryd yn Sir Fynwy, ac nid yw eu cyfieithu yn gywir a sensitif yn  ...  view the full Cofnodion text for item 14.

15.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 273 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2021.

Wrth wneud hynny nodwyd y gwelliant dilynol i eitem 6.3:

Mae’r parthau eraill 20mya a gymeradwywyd ar gyfer y flwyddyn ariannol hon yn Devauden, Matharn, Trefynwy, Wyesham, Mynydd Bach, Drenewydd Gellifarch a dau ran o Gas-gwent. Bydd y cyfnod ymgynghori 21 diwrnod ar gyfer y gorchmynion traffig hyn yn dechrau yn gynnar ym mis Tachwedd 2022. Cyn belled nad oes unrhyw wrthwynebiadau na fedrir eu datrys yn cael eu codi, caiff y parthau 20mya eu gweithredu ym mis Mawrth 2022.

16.

Cyfarfod Nesaf: 3ydd Mawrth 2022

Cofnodion:

Nodwyd.