Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Sir Peter Fox fuddiant rhagfarnol yng nghyswllt eitem 5.4 fel tenant fferm gyda thir a ddynodir yn y Cynllun Datblygu Lleol Newydd.

 

Datganodd y Cynghorydd Sir Peter Fox fuddiant rhagfarnol yng nghyswllt eitem agenda 6.3 gan fod perthynas yn Bysgotwr Rhwyd Gafl.

 

 

2.

Cwestiynau Cyhoeddus

Cofnodion:

Dim

 

3.

Cyhoeddiad y Cadeirydd a derbyn deisebau pdf icon PDF 221 KB

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod wedi derbyn deiseb gan y Cynghorydd Sir Louise Brown. Cyflwynodd y Cynghorydd Sir Brown y ddeiseb ar ran preswylwyr lleol i gyflwyno terfyn cyflymder 20 mya yn ardaloedd preswyl Drenewydd Gellifarch a phentref Mynydd Bach, ynghyd â map dangosol. Llofnodwyd y ddeiseb gan dros 200 o bobl, 85% ohonynt o’r ardal leol.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd y caiff y ddeiseb ei throsglwyddo i’r gyfarwyddiaeth berthnasol.

 

4.

Adroddiadau ar gyfer y Cyngor:

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PRIF SWYDDOG AR GYFER PLANT A PHOBL IFANC pdf icon PDF 2 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc ei adroddiad blynyddol, ac wedyn gwahoddwyd Aelodau i roi sylwadau.

 

Mewn ymateb i bryderon am gynnydd yn nifer y dysgwyr bregus yn dilyn Covid, esboniodd y Prif Swyddog y bydd y pandemig yn effeithio ar bobl mewn llawer o wahanol ffyrdd ac y caiff hynny ei ystyried yn barhaus. Sylweddolir efallai na fydd gan yr rhai sydd newydd ddod yn fregus oherwydd y pandemig y gwytnwch hyd yma ac mae’n rhywbeth i fod yn ofalus ohono. Mae ein hysgolion yn cefnogi ein plant ar sail plentyn unigol i sicrhau eu bod yn deall beth mae plant ei angen.

 

Cydnabyddir fod gan rai staff bryderon am ddychwelyd i’r ysgol a chafodd mesurau eu rhoi ar waith ar gyfer cefnogaeth. Cafodd cyn bennaeth ysgol ei recriwtio i fod yn fan cyffwrdd ar gyfer ein harweinwyr.

 

Mae’r rhan fwyaf o ysgolion wedi delio gyda phontio o ysgol gynradd i ysgol uwchradd ar sail rithiol ac wedi gwneud defnydd cadarnhaol o dechnoleg.

 

Mae swyddogion yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn EAS i olrhain a deall lle mae ysgolion yn gwario eu hadnoddau ac mae ffocws mawr ar sicrhau y caiff y cyllid grant ei wario ar gynlluniau a chymorth ar gyfer dysgwyr difreintiedig lle bydd y gwahaniaeth mwyaf sylweddol.

 

Mewn ymateb i bryderon am y bwlch mewn prydau ysgol am ddim, cyflwynwyd drafft strategaeth eisoes i’r Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc a bydd swyddogion yn parhau i ddatblygu hynny. Mae swyddogion yn parhau i weithio’n agos gyda Thîm Dysgwyr Bregus EAS i ddeall y cynlluniau allweddol. Disgwylir y strategaeth derfynol gyda’r cynlluniau cysylltiedig yn hydref 2021.

 

Yng nghyswllt gwahaniaethu, mae cydweithwyr yn y Tîm Llesiant Addysg wedi gweithio’n agos gydag ysgolion i sicrhau fod ein dulliau adrodd yn effeithlon ac addas.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet Addysg i’r Prif Swyddog am ei adroddiad ar ran y Cyngor, a chanmolodd waith holl gyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc.

 

5a

NEUADD SIROL / AMGUEDDFA TREFYNWY pdf icon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Llesiant Cymunedol a Chyfiawnder Cymdeithasol yr adroddiad i hysbysu aelodau am gynnydd ar yr astudiaeth ddichonolrwydd i sefydlu cyrchfan ddiwylliannol newydd yn Neuadd Sirol Trefynwy yn cynnwys adleoli Amgueddfa Trefynwy ac adolygu storfa casgliadau yr amgueddfa. Mae’r adroddiad yn cynnwys dull gweithredu mewn camau at y ddarpariaeth newydd.

 

Bwriedir i’r Neuadd Sirol agor ar ddechrau gwyliau’r haf gyda chynnig dechreuol i ymwelwyr yn ei le ac ehangu’n araf fel sy’n bosibl. Gobeithir y bydd amserlenni sefydlog yn barod yn yr wythnos nesaf.

 

Yng nghyswllt astudiaethau dichonolrwydd blaenorol, cadarnhawyd fod hwn yn ddarn newydd o waith ac y comisiynwyd ymgynghorwyr allanol i gynnal yr astudiaeth. Mae’r ffocws ar Drefynwy yn ganlyniad Penderfyniad Cabinet Aelod Unigol a wnaed ym mis Rhagfyr 2020.

 

Yn nhermau’r astudiaeth ddichonolrwydd, mae cost llogi ymgynghorwyr preifat hyd yma yn £25,000.

 

Yn nhermau cyllid codi’r gwastad, byddai’r £250,000 y gofynnir amdano yn yr adroddiad o dderbyniadau cyfalaf yn cael ei ddefnyddio fel cyllid cyfatebol ar gyfer y cynnig codi’r gwastad pe bai hynny’n llwyddiannus.

 

Yng nghyswllt y cynigion ar gyfer atyniadau ar draws Sir Fynwy, mae swyddogion yn gweithio ar Strategaeth Treftadaeth MonLife, a gyllidir o Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, sydd i’w chwblhau tuag at ddiwedd eleni.

 

Pan y’i rhoddwyd i’r bleidlais penderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhellion:

 

Nodi’r cynnydd mewn cynnal astudiaeth ddichonolrwydd i sefydlu cynnig diwylliannol newydd yn y Neuadd Sirol yn cynnwys Amgueddfa Trefynwy a’r adolygiad o storfa casgliad yr amgueddfa.

 

Cymeradwyo sefydlu cam dechreuol o fewn y Neuadd Sirol a chadarnhau na fydd Amgueddfa Trefynwy yn ailagor yn Neuadd y Farchnad.

 

Ailagor rhannau allweddol o’r Neuadd Sirol ar gyfer defnydd y cyhoedd, yn amodol ar reoliadau Covid ac unrhyw gyfyngiadau sydd eu hangen i ganiatáu cwblhau darpariaeth cam 1 yn cynnwys arddangosiadau dros dro yr amgueddfa.

 

Cymeradwyo cyfraniad £250,000 o dderbyniadau cyfalaf i hwyluso cam dechreuol y gweithiau, fel yr argymhellwyd gan y Cabinet ar 9 Mehefin 2021. Bydd hyn yn ei dro yn rhoi cyfraniad arian cyfatebol at gynnig i Gronfa Codi’r Gwastad ar gyfer Trefynwy a fyddai, pe byddai’n llwyddiannus, yn galluogi cyflawni y weledigaeth tymor hirach.

 

Adroddiadau i’w cyflwyno i aelodau yn y dyfodol wrth i’r cynigion hirdymor ar gyfer y Neuadd Sirol, Trefynwy a storfa casgliad yr amgueddfa gael eu datblygu ymhellach.

 

6.

DIWEDDARIAD O'R STRATEGAETH ARGYFWNG HINSAWDD pdf icon PDF 305 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdogaeth a Seilwaith adroddiad yn nodi’r cynnydd ar gynllun gweithredu Argyfwng Hinsawdd Sir Fynwy sy’n amlinellu sut mae’r cyngor yn bwriadu gostwng ei allyriadau carbon i sero net erbyn 2030, fel yr ymrwymwyd iddo yn natganiad Argyfwng Hinsawdd y Cyngor ym mis Mai 2019.

 

Canmolodd y Cynghorydd Sir Groucutt waith Hazel Clatworthy, Swyddog Polisi Cynaliadwyedd. Gofynnodd os yw’r Cyngor yn cydnabod yr argyfwng hinsawdd pan mae’r swyddog arweiniol yn gweithio’n rhan-amser. Diolchodd yr Aelod Cabinet iddo am ei sylwadau cadarnhaol a chydnabu ei bryderon gan ychwanegu fod hyn yn cael ei gyfarch.

 

Gofynnwyd ein bod yn symud yn gyflymach at gerbydau trydan. Atebodd yr Aelod Cabinet ein bod hefyd angen y capasiti i wefru cerbydau a bod cynlluniau ar gyfer depot newydd yn ne’r Sir yn y dyfodol.

 

Tynnwyd sylw am faterion yn ymwneud â thorri gwair a gwelededd.

 

Soniwyd am y datgysylltiad rhwng y strategaeth hinsawdd a datblygu ffyrdd newydd. Cytunodd yr Aelod Cabinet i roi data yn ymwneud â traffig segur vs. y cynnydd mewn traffig.

 

Cyfeiriwyd at Orsaf Magwyr a sut y cafodd ei chynnwys ym mholisi Llywodraeth Cymru erbyn hyn a sut y dylai gael ei dangos yn y cynllun gweithredu a chynnydd dilynol.

 

Awgrymwyd llifogydd a risg llifogydd fel ychwanegiad i’r Cynllun Gweithredu Argyfwng Hinsawdd.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet at fannau gwefru cyflym a dywedodd fod strategaeth yn ei lle gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud gwelliannau ar draws Prydain. Dywedodd ein bod yn dal i edrych am gerbydau addas yng nghyswllt casglu sbwriel.

 

Pan y’i rhoddwyd i’r bleidlais penderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhellion:

 

Bod y Cyngor yn derbyn diweddariad cynnydd ar gamau a gymerir i ostwng allyriadau carbon yr awdurdod yn unol â’r ymrwymiad polisi a gytunwyd ganddo.

 

Bod y Gweithgor Argyfwng Hinsawdd yn cael y dasg o ddiweddaru’r cynllun gweithredu i adlewyrchu’r dystiolaeth ddiweddaraf a datrysiadau posibl i gyflawni’r sefyllfa polisi a gytunwyd gan y Cyngor.

 

7.

STRATEGAETH A FFAFRIR CYNLLUN DATBLYGU LLEOL SIR FYNWY pdf icon PDF 612 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Economi yr adroddiad i hysbysu’r Cyngor am baratoi Strategaeth a Ffafrir y  Cynllun Datblygu Lleol Newydd a cheisio cymeradwyaeth y Cyngor i gyhoeddi’r Strategaeth a Ffafrir ar gyfer ymgynghoriad statudol/ymgysylltu ac ymgyfraniad rhanddeiliaid.

 

Yn dilyn yr ymgyfraniad rhanddeiliaid, ymgysylltu ac ymgynghori ar y Strategaeth a Ffafrir, caiff yr ymatebion eu casglu a’u hystyried yn ofalus. Byddir yn paratoi adroddiad ymgynghori a’i gyhoeddi yn cynnwys manylion y sylwadau ac ymateb y Cyngor iddynt. Rhoddir yr adroddiad ymgynghori a’r Strategaeth a Ffafrir gydag unrhyw welliannau i’r Cyngor tua mis Rhagfyr 2021 i geisio cymeradwyaeth i’r Strategaeth a Ffafrir. Caiff y Cynllun Adnau ei baratoi wedyn a’i ystyried gan y Cyngor cyn cyfnod statudol o chwech wythnos ar gyfer ymgynghori ac ymgysylltu yn haf 2022.

 

Wrth wneud hynny, cyflwynodd welliant i’r argymhelliad i ddarllen:

 

2.1 Bod y Cyngor yn cymeradwyo Strategaeth a Ffafrir y Cynllun Datblygu Lleol Newydd ar gyfer ymgynghori statudol/ymgysylltu ac ymgyfraniad rhanddeiliaid am gyfnod o wyth wythnos.

 

Atebodd y Pennaeth Creu Lleoedd, Tai, Priffyrdd a Llifogydd sylw blaenorol am wefru cerbydau trydan. Esboniodd y cafodd y Cynllun Datblygu Lleol newydd ei ddrafftio gyda’r argyfwng hinsawdd yn ganolog. Mae swyddogion yn bwriadu cynnwys mannau gwefru cerbydau trydan fel polisi yn y Cynllun Adnau.

 

Codwyd cwestiwn am dargedau tai a sut nad yw diwydiant lleol yn talu cyflogau i sicrhau prynu tai. Cadarnhawyd nad yw’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd yn nodi pwy sy’n adeiladu’r cartrefi ond mae trafodaeth ar wahân ar p’un ai yw’r Cyngor yn dod yn ddatblygydd neu’n cefnogi tai fforddiadwy mewn gwahanol ffyrdd.

 

Gadawodd y Cynghorydd Sir Howarth am 16:34

 

Datganodd Cynghorydd Sir Dimitri Batrouni fuddiant heb fod yn rhagfarnol fel aelod o fwrdd Cymdeithas Tai Sir Fynwy. Dywedodd fod mater ffosffadau yn broblem sylweddol. Esboniodd y Swyddog eu bod yn gwneud cynnydd da gyda thrafodaethau rhagweithiol gyda rhanddeiliaid.

 

Gadawodd y Cynghorydd Sir Davies am 16:57

 

Pan y’i rhoddwyd i’r bleidlais penderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhellion:

 

2.1 Bod y Cyngor yn cymeradwyo Strategaeth a Ffafrir y Cynllun Datblygu Lleol Newydd ar gyfer ymgynghori/ymgysylltu statudol ac ymgyfraniad rhanddeiliaid am gyfnod o wyth wythnos.

 

8.

Rhestr o Gynigion

9.

Wedi ei gyflwyno gan y Cynghorydd Sir Richard John, Arweinydd y Cyngor

Mae’r Cyngor:

Yn cydnabod bod Cyngor mwy cynrychioliadol yn well er mwyn adlewyrchu barn a phrofiadau trigolion ein sir.

Yn edifar mai ond 285% o Gynghorwyr yng Nghymru sydd yn fenywod ac nid oes yr un awdurdod lleol wedi sicrhau cydbwysedd rhyw o 50:50.

Yn croesawu’r gwelliant mewn cynrychiolaeth fenywaidd ymhlith Cynghorwyr Sir Fynwy i  35% yn 2017.

Yn datgan y bydd y pedair plaid wleidyddol yn cymryd camau er mwyn sicrhau mai Cyngor Sir Fynwy yw’r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i sicrhau cydraddoldeb  o ran y nifer o ddynion a menywod sydd yn cael eu hethol yn 2022.

 

 

Cofnodion:

Bod y Cyngor hwn yn: Cydnabod bod cyngor mwy cynrychioladol mewn sefyllfa well i adlewyrchu barn a phrofiadau preswylwyr yn ein sir.  Gofidio mai dim ond 26% o gynghorwyr Cymru sy’n fenywod ac nad oes unrhyw awdurdod lleol erioed wedi sicrhau cydbwysedd 50:50 rhwng y rhywiau. Croesawu’r gwelliant mewn cynrychiolaeth menywod ymysg cynghorwyr Sir Fynwy i 35% yn 2017. Penderfynu y bydd pob un o’r pedwar gr?p gwleidyddol yn cymryd camau i helpu Cyngor Sir Fynwy i ddod yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i sicrhau cydraddoldeb rhywiau yn 2022.

 

Eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Jane Pratt.

 

Cefnogodd y Cynghorydd Sir Dimitri Batrouni egwyddor y cynnig a chynigiodd welliant iychwanegu: ac i gynyddu cynrychiolaeth nodweddion gwarchodedig eraill.

 

Eiliodd y Cynghorydd Sir Martyn Groucutt y gwelliant.

 

Pan y’i rhoddwyd i’r bleidlais penderfynodd y Cyngor dderbyn y cynnig a’r gwelliant:

 

Bod y Cyngor hwn yn: Cydnabod bod cyngor mwy cynrychioladol mewn sefyllfa well i adlewyrchu barn a phrofiadau preswylwyr ein sir. Gofidio mai dim ond 26% o gynghorwyr Cymru sy’n fenywod ac nad oes unrhyw awdurdod lleol erioed wedi sicrhau cydbwysedd 50:50 rhwng y rhywiau. Croesawu’r gwelliant mewn cynrychiolaeth menywod ymysg cynghorwyr Sir Fynwy i 35% yn 2017. Penderfynu y bydd pob un o’r pedwar gr?p gwleidyddol yn cymryd camau i helpu Cyngor Sir Fynwy i ddod yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i sicrhau cydraddoldeb rhywiau yn 2022 ac i gynyddu cynrychiolaeth nodweddion gwarchodedig eraill.

 

Yn dilyn trafodaeth penderfynodd y Cyngor  dderbyn y cynnig gyda’r gwelliant.

 

10.

Wedi ei gyflwyno gan y Cynghorydd Sir Paul Jordan

Mae Cyngor Sir Fynwy yn galw ar Gymdeithas Pêl-droed Cymru i gyhoeddi adolygiad o’r penderfyniad a wnaed sydd yn golygu bod Clwb Pêl-droed Menywod Y Fenni yn disgyn i haen 2. Mae  Clwb Pêl-droed Menywod Y Fenni wedi bod yn y gynghrair uchaf ers 9 mlynedd a nhw yw’r pedwerydd clwb mwyaf llwyddiannus yn hanes y gystadleuaeth. Mae Cymdeithas Pêl-droed Cymru wedi gosod Aberystwyth yn haen un, er nad iddynt ennill yr un gêm y tymor diwethaf.

Nid oes cynrychiolaeth gan Went nawr, er ein bod ymhlith yr ardaloedd mwyaf poblog yng Nghymru.

Mae’r hyn a wnaed gan Gymdeithas Pêl-droed Cymru yn gwbl annheg.

Mae Clwb Pêl-droed Menywod Y Fenni yn cynnal gwerthoedd go iawn chwaraeon ac rydym yn galw ar Gymdeithas Pêl-droed Cymru i wneud yr un peth.

 

 

 

Cofnodion:

Mae Cyngor Sir Fynwy yn galw ar Gymdeithas Bêl-droed Cymru i gyhoeddi’r adolygiad o’u penderfyniad i ostwng clwb pêl-droed menywod y Fenni i haen 2. Bu clwb pêl-droed menywod y Fenni yn y gynghrair uchaf am naw mlynedd ac ef yw’r pedwerydd clwb mwyaf llwyddiannus yn hanes y gystadleuaeth. Mae’r clwb yn gryf o blaid datblygu pêl-droed menywod lleol. Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi disodli’r Fenni yn yr haen gyntaf am Aberystwyth na enillodd un gêm y llynedd. Nid oes gan Gwent nawr unrhyw gynrychiolaeth er ei bod yn un o’r ardaloedd mwyaf poblog yng Nghymru. Mae gweithred Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn hollol groes i chwarae teg. Mae Clwb Pêl-droed Menywod y Fenni yn gyson yn cynnal gwir werth chwaraeon a galwn ar Gymdeithas Bêl-droed Cymru i wneud yr un fath.

 

Eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Sheila Woodhouse.

 

Roedd Aelodau yn awyddus i gefnogi’r cynnig a phan roddwyd ef i bleidlais penderfynodd y Cyngor i dderbyn y cynnig.

 

10a

Wedi ei gyflwyno gan y Cynghorydd Sir Tony Easson

Mae’r cynnig hwn yn gofyn am gefnogaeth y Cyngor i berswadio Cyfoeth Naturiol Cymru i wyrdroi’r bwriad i ddisodli’r dulliau traddodiadol o bysgota, gan ddefnyddio rhwyd gafl, i bolisi o  ‘‘ddal a rhyddhau’r pysgod” ar draws aber yr afon Hafren

 

Hoffem fod hyn yn cael ei gymeradwyo a bod y sylwadau sydd wedi eu hatodi yn cael eu danfon i Gyfoeth Naturiol Cymru, Aelod Cabinet y Senedd ar gyfer Materion Gwledig a bod copi yn cael ei ddanfon hefyd at holl Aelodau Senedd Cymru sydd yn cynrychioli Dwyrain Casnewydd, Trefynwy a De Ddwyrain Cymru, gan gynnwys yr unig AS sydd yn cynrychioli’r Democratiaid Rhyddfrydol. 

 

Cofnodion:

Mae’r cynnig hwn yn gofyn am gefnogaeth y Cyngor i ddarbwyllo Cyfoeth Naturiol Cymru i ddileu eu bwriad i gyfyngu dulliau pysgota traddodiadol Rhwyd Gafl i bolisi “dal a rhyddhau” ar draws Môr Hafren.  Gofynnaf i fy sylwadau gael eu cymeradwyo a’u hanfon i Cyfoeth Naturiol Cymru, Aelod Cabinet Materion Gwledig yn Llywodraeth Cymru, gan anfon copi at bob Aelod o’r Senedd sy’n cynrychioli Dwyrain Casnewydd, Trefynwy a De Ddwyrain Cymru ynghyd â’r unig Aelod o’r Senedd sy’n cynrychioli’r Democratiaid Rhyddfrydol.

 

Eiliwyd gan y  Cynghorydd Sir Jim Higginson.

 

Gadawodd y Cynghorydd Sir Debby Blakebrough y cyfarfod am 17:37

 

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdogaeth a Seilwaith na chafodd ei hysbysu am unrhyw ymgynghoriad am hyn a diolchodd i’r Cynghorydd Easson am ddod â’r cynnig i’r Cyngor.

 

Roedd Aelodau yn awyddus i gefnogi’r cynnig a phan roddwyd ef i bleidlais penderfynodd y Cyngor i dderbyn y cynnig.

 

11.

Wedi ei gyflwyno gan y Cynghorydd Sir Kevin Williams

Mae’r Cyngor yn canmol y cyfraniad a wneir i’n bywyd cymundeol gan y bobl ifanc sydd yn gadael gofal y Cyngor, a hynny yn ystod eu hamser mewn gofal. Mae’n cydnabod yr effaith bositif yr ydym ni, fel Cyngor, yn medru gwneud i wella eu bywydau wrth iddynt adael y system ofal, a byddwn yn parhau i gynnig cymorth a chyngor iddynt ar ôl iddynt adael y sytem ofal, gan gynnwys y cymorth ariannol y bydd angen arnynt.  

 

 

Cofnodion:

Tynnwyd yn ôl a’i ohirio i gyfarfod y Cyngor ym mis Gorffennaf.

 

12.

Wedi ei gyflwyno gan y Cynghorydd Sir Armand Watts

Er mai’r dyddiad cau ar gyfer y Cynllun Preswylio yw 30ain Mehefin 2021, mae’r Cyngor yn parhau i estyn allan i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd ar draws Sir Fynwy er mwyn sicrhau bod eu hawliau fel dinasyddion yn cael eu cynnal a’u parchu.  

 

Mae’r Cyngor yn nodi bod plant yr Undeb Ewropeaidd, sydd â’u rhieni heb wneud cais, yn methu sylweddoli bod angen i’w plant i wneud cais, neu’n credu ar gam fod y ffaith bod plant yn cael eu geni yn y DU yn golygu eu bod yn dod yn ddinasyddion y DU a’n derbyn statws preswylio’n awtomatig. Felly, bydd y Cyngor yn sicrhau ei fod yn hysbysu ysgolion o hyn ac yn canolbwyntio cyfathrebu ar y teuluoedd a’r cymunedau sydd yn fwyaf tebygol o gael eu heffeithio.  

 

Cofnodion:

Er mai dyddiad cau y Cynllun Preswylwyr Sefydlog yw 30 Mehefin 2021 mae’r cyngor hwn yn parhau i ymestyn allan i ddinasyddion ar draws Sir Fynwy i sicrhau y caiff eu hawliau fel dinasyddion eu cynnal a’u parchu. Mae’r Cyngor hwn yn nodi efallai nad yw plant o’r Undeb Ewropeaidd na wnaeth eu rhieni gais eu hunain yn sylweddoli fod angen i’w plant wneud cais, neu’n gwneud camgymeriad wrth gredu fod eu plant a anwyd yn y Deyrnas Unedig yn awtomatig yn ddinasyddion y Deyrnas Unedig ac nad oes angen iddynt wneud cais i ddod yn breswylwyr sefydlog. Felly bydd y cyngor hwn yn sicrhau ei fod yn hysbysu ei ysgolion am y bwlch posibl hwn ac yn canolbwyntio cyfathrebu ar y teuluoedd a’r cymunedau hynny y mae’n debygol yr effeithir mwyaf arnynt.

 

Eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Dimitri Batrouni. Datganodd y Cynghorydd Sir Batrouni fuddiant heb fod yn rhagfarnu gan ei fod yn gweithio yn y maes hwn. Ychwanegodd ei fod yn ddoeth i’r Cyngor barhau’n ymwybodol o wahanol oblygiadau dyddiad cau 1 Gorffennaf 2021.

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet Llesiant Cymunedol a Chyfiawnder Cymdeithasol y cynnig gan gydnabod pwysigrwydd annog dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd i wneud cais am statws preswylydd sefydlog. Anogodd Aelodau i rannu cyfathrebu gyda’u rhwydweithiau gwybodaeth.

 

Cafodd y cynnig ei gario pan gafodd ei roi i bleidlais.

 

Gadawodd y Cynghorydd Sir Joanne Watkins y cyfarfod am 17:42

 

13.

Wedi ei gyflwyno gan y Cynghorydd Sir Tudor Thomas

Mae’r Cyngor yn cytuno bod angen dysgu gwersi o’r ymgyrch ddiweddar gan Gynghorwyr Sir Y Fenni i ail-osod wyneb y ffordd ar Heol Henffordd, Y Fenni.  

 

Mae’r Cyngor yn galw ar yr Aelod Cabinet sydd yn gyfrifol am briffyrdd i adolygu:

 

·       Polisïau a gweithdrefnau Adran Briffyrdd CSF ar gyfer atgyweirio a chynnal a chadw priffyrdd ar draws yr awdurdod er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn addas i’r diben.

·       Cyfnod amser cyn sicrhau bod priffyrdd yn cael eu hatgyweirio er mwyn sicrhau diogelwch.

·       Cyfathrebu gyda thrigolion pan eu bod yn cwyno am briffyrdd anniogel.

 

 

Cofnodion:

Mae’r cyngor hwn yn cytuno ar y gwersi sydd angen eu dysgu o ymgyrch ddiweddar cynghorwyr sir y Fenni i roi wyneb newydd ar Heol Henffordd yn y Fenni. Mae’r cyngor hwn yn galw ar yr aelod cabinet cyfrifol am briffyrdd i adolygu:

· Polisïau a gweithdrefnau Priffyrdd Cyngor Sir Fynwy ar gyfer trwsio a chynnal a chadw priffyrdd ar draws yr awdurdod i sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn addas i’r diben.

· Faint o amser a gymerir i drwsio priffyrdd i sicrhau diogelwch.

· Cyfathrebu gyda phreswylwyr pan maent yn cwyno am briffyrdd anniogel.

 

Eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Martyn Groucutt.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdogaeth a Seilwaith i’r Cynghorydd Sir Thomas am godi’r cynnig a manteisiodd ar y cyfle i ganmol gwaith caled ac ymdrechion y Tîm Priffyrdd. Wrth wneud hynny, cynigiodd welliant i’r cynnig

 

Mae’r Cyngor hwn yn galw ar yr aelod cabinet cyfrifol am briffyrdd i barhau i adolygu polisïau a gweithdrefnau Priffyrdd Cyngor Sir Fynwy ar gyfer trwsio a chynnal a chadw priffyrdd ar draws yr awdurdod i sicrhau eu bod yn ddiogel ac addas i’r diben, ac i barhau i weithio i wella cyfathrebu gyda chwsmeriaid.

Mae’r Cyngor hwn yn cytuno i lobi trawsbleidiol i Lywodraeth Cymru i adolygu ei ymagwedd at gyllido, gan alw am gynigion cyllid nifer o flynyddoedd i roi sicrwydd ar gyfer prosiectau graddfa fawr sy’n ymestyn tu hwnt i un flwyddyn ariannol, a dull cyllido teg sy’n cydnabod pwysigrwydd y rhwydwaith ffyrdd mewn ardaloedd gwledig i gerddwyr, seiclwyr a defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus yn ogystal ag i geir.

Eiliwyd gan Cynghorydd Sir Ann Webb.

 

Roedd rhwystredigaeth nad yw’r cynnig a ddiwygiwyd yn trin y pwyntiau a godwyd o fewn y cynnig gwreiddiol.

 

Croesawodd Cadeirydd Cymunedau Cryf yr awgrym y caiff ymagwedd newydd ei chyflwyno i’r Pwyllgor Dethol yn y misoedd nesaf.

 

Cafodd y cynnig diwygiedig ei gario pan gafodd ei roi i bleidlais. Dilynodd trafodaeth.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir Dimitri Batrouni welliant i dynnu pwynt 2 o’r cynnig diwygiedig. Nid oedd yn ystyried fod pwynt 2 yn welliant i’r cynnig gwreiddiol. Eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Armand Watts.

 

Cafodd y gwelliant ei drechu pan gafodd ei roi i bleidlais.

 

Dychwelodd trafodaeth i’r prif gynnig a chafodd hyn ei gario pan gafodd ei roi i bleidlais.

 

14.

Wedi ei gyflwyno gan y Cynghorydd Sir Dimitri Batrouni

Dylai’r Cyngor greu tasglu ar gyfer  Bulwark a Thornwell  sydd yn cynnwys aelodau o’r gymuned, busnesau lleol, y Cyngor Tref a chynrychiolwyr o Gymdeithas Tai Sir Fynwy i wyntyllu’r opsiynau ar gyfer adfywio’r ardal benodol hon o Gas-gwent.  

 

 

Cofnodion:

I’r Cyngor greu tasglu Bulwark a Thornwell yn cynnwys aelodau o’r gymuned, busnesau lleol, cyngor y dref a chynrychiolwyr o Gymdeithas Tai Sir Fynwy i ymchwilio opsiynau i adfywio’r rhan benodol hon o Gas-gwent.

 

Eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Armand Watts.

 

Cynigiodd Aelod Cabinet yr Economi welliant:

 

I’r Cyngor weithio gydag aelodau lleol i ymchwilio’r dull gweithredu gorau i ddatblygu tasglu Bulwark a Thornwell yn cynnwys aelodau o’r gymuned leol, busnesau lleol, cyngor y dref a chynrychiolwyr o Gymdeithas Tai Sir Fynwy i ymchwilio opsiynau i adfywio’r rhan benodol hon o Gas-gwent.

 

Eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Maureen Powell.

 

Roedd Aelodau o blaid y cynnig gyda’r gwelliant a phan roddwyd hyn i’r bleidlais daeth hwn y prif gynnig.

 

Cariwyd y prif gynnig.

 

15.

Cwestiynau gan Aelodau:

16.

Gan y Cynghorydd Sir Paul Jordan i'r Cynghorydd Sir Paul Pavia, Aelod Cabinet dros Addysg

Mae Strategaeth Argyfwng Hinsawdd a Datgarboneiddio Cyngor Sir Fynwy yn cynnwys cam gweithredu y bydd holl adeiladau newydd y Cyngor yn gweithredu gydag allyriadau carbon sero net, ac mae safle Ysgol Brenin Harri’r  VIII ymhlith yr adeiladau mwyaf yn ystâd yr ysgol.
Pa egwyddorion o ran dylunio a’r dechnoleg sydd i’w defnyddio er mwyn sicrhau bod yr ysgol newydd yn Y Fenni yn gweithredu gydag allyriadau carbon sero net, a pha ymrwymiadau sydd yn cael eu gwneud er mwyn sicrhau bod y nodweddion carbon isel yma yn cael eu diogelu a’u heithrio o’r ystyriaeth i arbed arian cyn bod y broses o adeiladu yn dechrau?

 

Cofnodion:

Mae Strategaeth Argyfwng Hinsawdd a Datgarboneiddio Cyngor Sir Fynwy yn cynnwys gofyniad y bydd holl adeiladau newydd y Cyngor yn gweithredu heb ddim allyriadau carbon a bod safle presennol Ysgol Brenin Harri VIII yn un o’r adeiladau mwyaf ar stad yr Awdurdod. Pa ddulliau dylunio a technolegau sy’n cael eu cynnwys i sicrhau y bydd yr ysgol newydd yn y Fenni yn wir yn gweithredu heb unrhyw allyriadau carbon a pha ymrwymiadau a gaiff eu gwneud i sicrhau y caiff y nodweddion carbon isel hyn eu diogelu rhag unrhyw fesurau arbed cyllideb a gymerwyd cyn adeiladu?

 

Gadawodd y Cynghorydd  G. Howard y cyfarfod am 18:55

Gadawodd y Cynghorydd D. Jones  y cyfarfod am 18:56

 

Atebodd yr Aelod Cabinet drwy ddiolch i’r Cynghorydd Sir Jordan am y cwestiwn. Esboniodd nad ydym ar y cam o’r broses ddylunio i roi’r lefel yma o fanylion. Rydym allan i ymgynghori ar hyn o bryd ar bensaernïaeth llywodraeth swyddogaethol yr ysgol newydd arfaethedig. Aeth ymlaen i esbonio fod yn rhaid i ni wahanu rhwng ymgynghori a chytuno ar swyddogaeth yr ysgol newydd yn hytrach na sut olwg allai fod arni. Fodd bynnag, mae carbon sero-net yn bendant iawn ar agenda prosiect Ysgolion 21ain Ganrif ac mae swyddogion wedi cynhyrchu dogfennau perfformiad a gwybodaeth ar gyfer y timau contract a dylunio sy’n gydnaws ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru a’r Cyngor i ddatgarboneiddio. Rhoddodd sicrwydd i’r Aelod y cafodd y prosiect ei ddynodi’n  un ynni gweithredol carbon sero-net ac y bydd astudiaeth ddichonolrwydd yn ystod camau nesaf y prosiect yn gwerthuso technolegau carbon isel a sero-carbon priodol.

 

Fel cwestiwn atodol, gofynnodd y Cynghorydd Sir Jordan os y byddem yn manteisio ar gyfle’r datblygiad ysgol newydd cyffrous i ennyn diddordeb disgyblion ar draws y Fenni i ddeall effeithiau newid hinsawdd a sut y gallwn eu lliniaru.

 

Atebodd yr Aelod Cabinet yn gadarnhaol gan ychwanegu fod llais disgyblion yn bwysig tu hwnt ac y bu drwy’r broses ymgynghori bresennol. Gyda’r cwricwlwm newydd yn cael ei ymestyn, credai y byddai ffocws pob ysgol ar bwysigrwydd yr amgylchedd. Wrth i’r ysgol ddatblygu bydd cyfleoedd ar gyfer dysgu fel mae’n digwydd gyda’r contractwyr.

 

17.

Gan y Cynghorydd Sir Martyn Groucutt i'r Cynghorydd Sir Paul Pavia, Aelod Cabinet dros Addysg

Mae’r ddogfen ymgynghori o ran sefydlu ysgol gydol oes ar gyfer plant a phobl ifanc 4 - 19 yn Y Fenni yn dweud mai un fantais o’r trefniant hwn yw y bydd yna ‘gyfnodau pontio mwy effeithiol rhwng y cyfnodau allweddol o  ddysgu’. Yn hyn o beth, pam nad yw’r ddarpariaeth Feithrinfa, sydd yn cael ei hystyried fel nodwedd mor bwysig o’r ddarpariaeth yn Ysgol Gynradd Deri View, yn rhan o’r cynigion ar gyfer yr ysgol newydd a bydd yn cael ei disodli gan ddarpariaeth gan y sector preifat, ac nid oes unrhyw  arweiniad neu reolaeth gan yr ysgol drostynt? Beth fydd yn digwydd i staff yr ysgol sydd yn darparu addysg yn y Feithrinfa ar hyn o bryd os yw’r opsiwn yma yn cael ei mabwysiadu?

 

 

Cofnodion:

Mae’r ddogfen ymgynghori am sefydlu ysgol pob oed 4-19 yn y Fenni yn dweud mai un o fanteision y trefniant yw ‘pontio mwy effeithlon rhwng cyfnodau allweddol o ddysgu. Os felly pam nad yw’r ddarpariaeth feithrin a gaiff ei hystyried yn rhan mor bwysig o’r ddarpariaeth yn Ysgol Gynradd Deri View ar hyn o bryd yn rhan o’r cynigion ar gyfer yr ysgol newydd, i’w disodli gan ddarpariaeth gan y sector preifat na fyddai gan arweinyddiaeth a rheolaeth yr ysgol unrhyw reolaeth uniongyrchol drosti? Beth fydd yn digwydd i staff presennol yr ysgol sy’n darparu addysg feithrin os mabwysiadir yr opsiwn a ffafrir?

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet i’r Cynghorydd Sir Groucutt am y cwestiwn. Sylweddolai ein bod yn hybu economi cymysg o ddarpariaeth addysg blynyddoedd cynnar yn Sir Fynwy sy’n darparu cyfuniad o ddosbarthiadau meithrin a gynhelir gan yr awdurdod lleol a gosodiadau nas cynhelir. Wrth ddatblygu prosiect ysgol band B, penderfynwyd profi’r opsiwn o ddarparu addysg gynnar mewn lleoliad nas cynhelir yn hytrach na dosbarth meithrin yn yr ysgol drwy’r broses ymgynghori. Daw’r broses ymgynghori i ben ar 25 Mehefin 2021, felly ni wnaed unrhyw benderfyniad terfynol. Rhoddodd Aelod y Cabinet sicrwydd y rhoddir ystyriaeth i bob ymateb a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad pan wneir y penderfyniad terfynol. Ni chymerwyd unrhyw benderfyniad yng nghyswllt rhan olaf y cwestiwn. Fodd bynnag, mae gan yr Awdurdod gynllun diogelu swyddi a bydd unrhyw benderfyniad sy’n effeithio ar staff yn sicrhau bod ymgysylltu llawn gyda staff, adnoddau dynol ac undebau.

 

Fel cwestiwn atodol gofynnodd y Cynghorydd Sir Groucutt os yw’r Aelod Cabinet yn ymwybodol o’r gwrthwynebiad i golli darpariaeth feithrin a gynhelir yn yr ysgol newydd ymysg y gymuned leol.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet fod sesiynau ymgynghori, yn neilltuol gyda rhieni a staff Deri View, wedi bod yn gryf o blaid cynnal darpariaeth feithrin fel rhan o’r ysgol. Caiff hyn ei adlewyrchu yn yr adroddiad i’r Cabinet er penderfyniad terfynol.

 

18.

Yn cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mai 2021 pdf icon PDF 260 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 13 Mai 2021.