Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Remote Meeting. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim byd i’w adrodd.

 

2.

Ethol Cadeirydd newydd y Cyngor Sir ar gyfer Blwyddyn Sifig 2021/22

Cofnodion:

Roedd y Cyngor  wedi cynnal munud o dawelwch er mwyn talu teyrnged i Ddug Caeredin, y Tywysog Phillip a fu farw a’r holl rai hynny sydd wedi eu heffeithio gan y pandemig COVID 19.

 

Llongyfarchwyd y Cynghorydd Peter Fox a’r Cynghorydd Laura Jones ar eu hetholiad diweddar i’r Senedd.

 

Roedd yr Arweinydd wedi annerch y Cyngor, ac ar ran y Cyngor, wedi diolch i’r Cynghorydd Sir Woodhouse am ei hail flwyddyn yn y rôl ac wedi adlewyrchu ar waith a chyraeddiadau'r Cadeirydd. Roedd Arweinwyr y Gr?p  Democratiaid Rhyddfrydol a’r Gr?p Annibynnol wedi ategu at yr hyn a ddywedodd yr Arweinydd. 

 

Roedd y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd wedi diolch i’r Cyngor a’n cydweithwyr am eu cefnogaeth. 

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir P. Fox, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir P. Murphy, bod y Cynghorydd Sir M. Feakins yn cael ei ethol fel Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy ar gyfer Blwyddyn Sifig 2021/22. Yn dilyn pleidlais, cytunwyd y dylid ethol  y Cynghorydd Sir Feakins fel Cadeirydd. Roedd y Cynghorydd Sir M. Feakins wedi gwneud ac arwyddo’r Datganiad Derbyn Swydd.

 

Roedd y  Cynghorydd Feakins wedi diolch i’r Cyngor ac wedi cyflwyno’r Esgob Cherry Vann fel ei Gaplan.

 

 

 

 

 

 

3.

Apwyntio Is-Gadeirydd newydd y Cyngor Sir ar gyfer Blwyddyn Sifig 2021/22

Cofnodion:

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir P. Jones, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir J. Pratt, bod y Cynghorydd Sir A. Webb yn cael ei ethol fel Is-Gadeirydd Cyngor Sir Fynwy ar gyfer Blwyddyn Sifig 2021/22.

 

Yn dilyn pleidlais, cytunwyd y dylid ethol  y Cynghorydd A. Webb fel Is-Gadeirydd. Roedd y Cynghorydd Sir A. Webb wedi gwneud ac arwyddo’r Datganiad Derbyn Swydd ac wedi diolch i’r Aelodau am eu cefnogaeth.

 

 

4.

Cwestiynau Cyhoeddus

Cofnodion:

Nid oedd yna gwestiynau wedi eu gofyn.

 

5.

Derbyn deisebau

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd unrhyw ddeisebau. 

 

6.

Ethol Arweinydd y Cyngor a derbyn hysbysiad o Ddirprwyaethau'r Arweinydd (apwyntiadau i'r Cabinet)

Cofnodion:

Fel yr Arweinydd  a oedd yn camu i’r neilltu, cynigiodd y Cynghorydd Sir P. Fox bod y Cynghorydd Sir R. John yn cael ei ethol fel Arweinydd y Cyngor. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir S. Jones.

 

Nid oedd yna enwebiadau pellach, ac yn dilyn pleidlais, cytunwyd y byddai’r Cynghorydd Sir R. John yn cael ei ethol fel Arweinydd y Cyngor ar gyfer Blwyddyn Sifig  2021/2022.

 

Roedd y Cynghorydd John wedi rhoi diolch i’r Cyngor am eu cefnogaeth ac wedi hysbysu pawb o’r apwyntiadau canlynol i’r  Cabinet:

 

Cynghorydd Sir Sara Jones, Economi a Dirprwy Arweinydd

Cynghorydd Sir Bob Greenland, Llywodraethiant a Chynllunio Strategol, a Dirprwy Arweinydd 

Cynghorydd Sir Paul Pavia, Addysg

Cynghorydd Sir Penny Jones, Gofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd 

Cynghorydd Sir Lisa Dymock, Llesiant Cymunedol a Chyfiawnder Cymdeithasol  

Cynghorydd Sir Jane Pratt, Seilwaith a Gwasanaethau Cymdogaethau 

Cynghorydd Sir Phil Murphy, Adnoddau

 

Roedd y Cynghorydd John wedi cynnig sicrwydd i’r Cyngor y bydd ei dîm yn gwneud pob dim posib er mwyn parhau i wireddu’r addewidion yn y  maniffesto, sydd yn rhan o Gynllun Corfforaethol CSF ac wedi eu crynhoi fel rhan o ‘gynllun ar dudalen’.

 

 

 

7.

Cynrychiolaeth y Grwpiau Gwleidyddol pdf icon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Cyngor er mwyn adolygu cynrychiolaeth y grwpiau gwleidyddol gwahanol ar y cyrff hynny lle y mae'r Cyngor yn gwneud apwyntiadau.  

 

Yn dilyn pleidlais, cytunodd y Cyngor i dderbyn yr argymhellion:

 

Mae’r Cyngor yn penderfynu derbyn yr adroddiad (a’r atodiadau) fel adolygiad o dan Adran 15 o’r Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 ac i  ddyrannu pwyllgorau arferol gyda’r niferoedd sydd wedi eu nodi isod fel cynrychiolaeth deg:

 

 

Mae’r 2 sedd ar y Pwyllgor Cynllunio sydd wedi ei dyrannu i’r Gr?p Annibynnol yn mynd i barhau i gael eu llenwi gan gynrychiolwyr o’r Grwpiau Ceidwadol a Llafur – ond gyda chaniatâd Arweinydd y Gr?p Annibynnol yn unig.  

 

 

 

8.

Apwyntiadau i'r Pwyllgorau pdf icon PDF 155 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd yr Arweinydd wedi cyflwyno’r adroddiad er mwyn apwyntio’r pwyllgorau gyda’u haelodaeth a’u cylch gorchwyl. Felly, cynigiodd bod Arweinyddion y Grwpiau yn e-bostio Gwasanaethau Democrataidd er mwyn cadarnhau eu hapwyntiadau i bob pwyllgor a’n bod yn symud i dderbyn enwebiadau ar gyfer  Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.  

 

Roedd y Cynghorydd Sir Howarth wedi cynnig y Cynghorydd Sir David Jones fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir Blakebrough.

 

Roedd y Cynghorydd Sir Batrouni wedi cynnig y Cynghorydd Sir David Evans fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir Thomas.

 

Yn dilyn pleidlais, roedd y Cyngor wedi derbyn yr argymhellion:

 

Dylid apwyntio’r pwyllgorau a’r aelodaeth fel sydd wedi ei amlinellu yn yr adroddiad  

 

Dylai’r Cyngor apwyntio’r Cynghorydd Sir David Evans fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd

9.

Penodiadau i Gyrff Allanol pdf icon PDF 9 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd yr Arweinydd wedi cyflwyno’r adroddiad i apwyntio cynrychiolwyr i wasanaethu ar gyrff allanol.

 

Roedd yr Arweinydd wedi rhoi gwybod am y newidiadau canlynol:

 

Gr?p Budd-ddeiliaid Pwerdy Oldbury   – Cynghorydd M. Feakins

Gr?p Cynghori Cyfoeth Naturiol Cymru – Cynghorydd J. Treharne

AHNE Dyffryn Gwy – Cynghorwyr Edwards and Feakins

Cymdeithas Cadéts a’r Lluoedd Wrth Gefn  dros Gymru – Cynghorydd L. Dymock

Hyrwyddwr Craffu – Cynghorydd A. Webb

Bwrdd Partneriaeth Lefelau Byw - Cynghorwyr Dymock a Pratt

Gr?p Budd-ddeiliaid BIPAB – Cynghorydd C. Edwards

EAS – Councillor P. Pavia

Yprentis – Cynghorydd S. Jones

Elusen Pratts –  Cynghorydd P. Murphy

Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog  – Cynghorydd L. Dymock.

 

Cytunwyd y bydd y Cynghorydd J. Higginson yn parhau ar y Pwyllgor Cyfun dros Gymru.   

 

Yn dilyn pleidlais, roedd y Cyngor wedi penderfynu derbyn yr argymhellion:

 

 

Mae’r Cyngor yn gwneud yr apwyntiadau i’r cyrff allanol sydd wedi eu hamlinellu yn yr atodlen, gan eithrio’r pwyllgorau cyfun sydd wedi eu rhestru yng Nghategori B, sydd yn apwyntiadau i’r Cabinet

 

10.

Rhyddid y Fwrdeistref - Y Lleng Brydeinig Frenhinol (RBL) pdf icon PDF 213 KB

Cofnodion:

Roedd y Cyngor wedi derbyn adroddiad yn gofyn am benderfyniad yngl?n ag a yw’r Cyngor yn mynd i gyflwyno braint y Rhyddfreiniwr Anrhydeddus ar ran y Sir i’r  Lleng Brydeinig Frenhinol fel rhan o’u Canmlwyddiant ar 15fed Mai 2021 ac anrhydeddu gwaith elusennol y mudiad yn cefnogi cyn-aelodau o’r lluoedd arfog a’u teuluoedd. Bydd hyn yn rhoi cydnabyddiaeth gyhoeddus i’r derbynnydd fel arwydd o ba mor uchel eu parch ydynt yn nhyb Cyngor Sir Fynwy a phobl y Sir ar achlysur y Lleng Brydeinig Frenhinol yn can mlwydd oed.

 

O dan Adran 249(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, mae Cyngor yn medru rhoi  Rhyddid y Fwrdeistref i "bobl sydd wedi cyflawni rhywbeth sylweddol a phobl, sydd ym marn yr awdurdod, wedi rhoi gwasanaeth heb ei ail i le neu ardal". Er mwyn medru cynnig Rhyddid y Fwrdeistref, rhaid i hyn gan ei gymeradwyo gan o leiaf dau draean o’r aelodau sydd yn pleidleisio mewn cyfarfod o’r Cyngor sydd wedi ei drefnu yn benodol ar gyfer y diben hwn.

 

Roedd y Cynghorydd Sir Laura Jones wedi datgan gyda chryn foddhad, ei bod fel ei gweithred olaf fel Hyrwyddwr Lluoedd Arfog, yn medru cydnabod y Lleng Brydeinig Frenhinol ar ran y Cyngor. Mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol wedi bod yn symbol o obaith am gan mlynedd ar gyfer Cymuned Lluoedd Arfog Prydain. Fel Cynghorydd sydd am gefnogi aelodau’r lluoedd arfog, menywod a theuluoedd ym mhob ffordd bosib, rydym yn ddiolchgar am y rôl allweddol sydd wedi ei chwarae gan y Lleng Brydeinig Frenhinol yn cefnogi Cymuned Lluoedd Arfog Prydain a’n hyrwyddo’r ffaith ein bod yn cofio heddiw.

 

Hoffai’r Cyngor anrhydeddu gwaith y Lleng Brydeinig Frenhinol, a chanmlwyddiant y mudiad hynod barchus hwn, drwy gynnig y Rhyddid y Fwrdeistref.

 

Yn dilyn pleidlais, roedd y Cyngor wedi penderfynu derbyn yr argymhellion:

 

Mae’r Cyngor yn cael ei ofyn i gymeradwyo’r canlynol: Yn unol ag Adran 249 (fel y’i diwygir) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, mae’r Cyngor yn anrhydeddu'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn 2021, drwy roi Rhyddid Cyngor Sir Fynwy i’r mudiad.  

 

11.

Cwestiynau gan Aelodau

12.

O'r Cynghorydd Sir M. Groucutt i'r Cynghorydd Sir R. Greenland

Mae’r ddwy raglen Inspire- Inspire to Achieve ac Inspire to Work - yn ceisio cefnogi pobl ifanc sydd â chefndir cartref cymhleth ac sydd ymhlith y mwyaf bregus a heriol. Mae’r rhaglenni yn cael eu hariannu ar hyn o bryd gan yr Undeb Ewropeaidd gydag arian cyfatebol gan y Cyngor Sir. Mae’r cyllid presennol yn dod i ben yn Rhagfyr  2022  ac er bod trafodaethau yn cael eu cynnal yngl?n â gwneud cais i’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, nid oes dim byd pendant wedi ei gadarnhau er mwyn medru parhau â’r ddarpariaeth bresennol. Hyd yn eod os ydym yn cytuno ar opsiynau amgen i’r rhaglenni presennol, efallai y bydd yna agendor o ran y cyllid. Mae hyn yn golygu y bydd ein tîm presennol, sy’n hynod brofiadol ac yn darparu’r rhaglen yn ein pedair ysgol uwchradd, yn wynebu dyfodol ansicr, yn union fel y cynlluniau.

A all yr Aelod Cabinet dros Fentergarwch roi sicrwydd y bydd y Cyngor Sir yn gwneud pob dim o fewn ei bwerau i sicrhau bod arian cyfatebol ar gael unwaith bod cyllid yr Undeb Ewropeaidd yn dod i ben, gan gynnwys darparu unrhyw gymorth tymor byr oherwydd nid oes dim byd mewn lle ar hyn o bryd i lenwi’r gagendor os nad oes cyllid newydd wedi ei gytuno erbyn bod y ddarpariaeth bresennol yn dod i ben?

 

 

Cofnodion:

Mae’r ddwy raglen Inspire- Inspire to Achieve ac Inspire to Work - yn ceisio cefnogi pobl ifanc sydd â chefndir cartref cymhleth ac sydd ymhlith y mwyaf bregus a heriol. Mae’r rhaglenni yn cael eu hariannu ar hyn o bryd gan yr Undeb Ewropeaidd gydag arian cyfatebol gan y Cyngor Sir. Mae’r cyllid presennol yn dod i ben yn Rhagfyr  2022  ac er bod trafodaethau yn cael eu cynnal yngl?n â gwneud cais i’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, nid oes dim byd pendant wedi ei gadarnhau er mwyn medru parhau â’r ddarpariaeth bresennol. Hyd yn eod os ydym yn cytuno ar opsiynau amgen i’r rhaglenni presennol, efallai y bydd yna agendor o ran y cyllid. Mae hyn yn golygu y bydd ein tîm presennol, sy’n hynod brofiadol ac yn darparu’r rhaglen yn ein pedair ysgol uwchradd, yn wynebu dyfodol ansicr, yn union fel y cynlluniau.

A all yr Aelod Cabinet dros Fentergarwch roi sicrwydd y bydd y Cyngor Sir yn gwneud pob dim o fewn ei bwerau i sicrhau bod arian cyfatebol ar gael unwaith bod cyllid yr Undeb Ewropeaidd yn dod i ben, gan gynnwys darparu unrhyw gymorth tymor byr oherwydd nid oes dim byd mewn lle ar hyn o bryd i lenwi’r gagendor os nad oes cyllid newydd wedi ei gytuno erbyn bod y ddarpariaeth bresennol yn dod i ben?

 

Roedd yr Aelod Cabinet dros yr Economi, y Cynghorydd Groucutt wedi cynnig diolch  ac ymateb fel a ganlyn:

 

O ran y gagendor yn y cyllid a’r hyn yr ydym yn mynd i wneud er mwyn sicrhau cynaliadwyedd y prosiectau yma yn y dyfodol, mae’r arian cyfatebol sydd angen tua £300,000, a dyma’r ffigwr yr ydym yn anelu i gyrraedd. Rydym wedi bod yn ceisio dod o hyd ffyrdd i lenwi’r gagendor, gyda gwaith yn cael ei wneud am y 12 mis diwethaf o leiaf. Rydym yn cynnal gwerthusiadau lleol o’r prosiectau er mwyn gweld sut y mae modd dysgu’r gwersi gorau, gweithio gyda budd-ddeiliaid a phartneriaid a meysydd eraill er mwyn hwyluso’r broses o gydlafurio.   Rydym yn gweithio gyda 10 awdurdod ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd er mwyn datblygu modelau cyflenwi newydd, ac yn chwilio am gyfleoedd ariannu. Rydym yn mynd i fod yn rhan o gynnig rhanbarthol ar gyfer cyllid adnewyddu cymunedau. 

 

Er mwyn sicrhau ein bod yn llwyddiannus yn sicrhau bod  rhaglenni yma yn parhau, mae angen sicrhau bod pob lefel o lywodraeth yn gweithio gyda’i gilydd.

 

Ychwanegodd y  Cynghorydd Groucutt fod gobaith ein bod yn parhau gyda’r ddarpariaeth yn seiliedig ar y Gronfa Ffyniant Gyffredinol ac roedd bryderus na fyddem yn cadw at ddarparu gwasanaethau tebyg. Gofynnodd am sicrwydd, os yn bosib, bod y prosiectau yn parhau mor agos ag sydd yn bosib i’r hyn yr ydynt ar hyn o bryd. 

 

Esboniodd yr Aelod Cabinet am brofiad y tîm sydd yn darparu’r gefnogaeth ffantastig ar draws y rhaglenni cyflogaeth, a rhoddodd sicrwydd y byddai pob dim yn cael ei wneud er mwyn darparu a pharhau gyda’r rhaglenni yma fel ag y maent ar hyn o  ...  view the full Cofnodion text for item 12.

13.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 11eg Mawrth 2021 pdf icon PDF 500 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd a chymeradwywyd y cofnodion ar gyfer y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11eg Mawrth  2021.

 

 

 

 

14.

Eithrio'r wasg a'r cyhoedd pdf icon PDF 376 KB

Cofnodion:

Cytunwyd y byddai’r Wasg a’r Cyhoedd yn cael eu heithrio o’r cyfarfod.

 

15.

PENDERFYNIAD CYLLIDEB BRYS - COSTAU GWERTHU ASEDAU

Cofnodion:

Penderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhellion fel sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.