Agenda and minutes

Cyngor Sir - Dydd Iau, 11eg Mawrth, 2021 2.00 pm

Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim byd i’w adrodd.

 

2.

Cwestiynau Cyhoeddus

Cofnodion:

Dim byd i’w adrodd.

 

3.

Cyhoeddiad y Cadeirydd a derbyn deisebau pdf icon PDF 323 KB

Cofnodion:

Wrth agor y cyfarfod, roedd  y Cadeirydd wedi cynnal munud o ddistawrwydd er mwyn talu parch yn dilyn marwolaeth y Cynghorydd Sir David Dovey. 

 

Roedd Aelodau wedi talu teyrnged i’r Cynghorydd Dovey. Roedd y Cyngor wedi cynnig eu cydymdeimlad.

 

Roedd y Cadeirydd wedi derbyn deiseb gan y Cynghorydd Alan Davies yngl?n â llifogydd yn Castle Lea.

 

Roedd y Cadeirydd wedi canmol y gwaith a wnaed gan staff a swyddogion y Cyngor yn ystod y pandemig. 

 

 

 

 

 

 

4.

Adroddiadau ar gyfer y Cyngor:

5.

PENDERFYNIADAU AM Y DRETH GYNGOR A CHYLLIDEBAU REFENIW A CHYFALAF AR GYFER 2021/22 pdf icon PDF 808 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau wedi cyflwyno’r Cynnig ar gyfer y Dreth Gyngor a’r Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf ar gyfer 2021/22.

 

Rhaid i’r Cyngor ddilyn proses Statudol o ran yr amserlenni ar gyfer gosod y Dreth  Gyngor a rhaid hefyd gwneud penderfyniadau penodol. Mae’r argymhellion sydd yn ffurfio rhan sylweddol o’r adroddiad hwn wedi eu dylunio er mwyn cydymffurfio gyda'r Darpariaethau Statudol.

 

Mae’r cynigion a basiwyd sydd yn cael eu hargymell hefyd yn dwyn ynghyd goblygiadau’r Dreth Gyngor ar y praeseptau  a gynigir  gan Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer Gwent a’r Cynghorau Tref  a Chymuned,  gan ganiatáu’r Cyngor Sir i sefydlu ei lefelau y Dreth Gyngor ei hun o ran y bandiau eiddo gwahanol o fewn pob Tref neu Gymuned. 

 

Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir R. Greenland.

 

Roedd Arweinydd yr Wrthblaid wedi mynegi siom yngl?n â’r cynnydd yn y Dreth Gyngor, a’r cynnydd mewn ffioedd a  thaliadau, a fyddai’n cael yr effaith fwyaf ar yr aelwydydd ar yr isaf, er y gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.     

 

Mynegwyd rhwystredigaeth yngl?n â’r gost o gyflogi gweithwyr asiantaeth.  

 

Mynegwyd pryderon yngl?n â chynnal a chadw Parc Castell Cil-y-coed.  Mae’n bryder sylweddol fod ffioedd ar gyfer parcio yn mynd i gael eu cyflwyno. Ymatebodd yr Aelod Cabinet na fyddai’r ffioedd parcio yn cynyddu eleni ac mae llawer o’r hyn sydd wedi ei drafod yn ymwneud gyda gwariant ar  Covid.

 

Roedd yr Arweinydd wedi diolch i’r Aelod Cabinet a’r swyddogion am eu gwaith yn paratoi’r gyllideb. Dywedodd nad oedd yna gynigion amgen wedi eu cyflwyno o ran y gyllideb i’r Cyngor. Amlygodd y gwahaniaeth mewn ariannu y pen ar draws yr awdurdodau cyfagos, gan nodi pe bai CSF yn cael ei ariannu  yn deg, byddai modd lleihau’r Dreth Gyngor.

 

Gofynnwyd cwestiwn yngl?n â chasglu’r Dreth Gyngor a rhagwelwyd y byddai’r gyfradd gasglu'r un peth. Bu’n rhaid diystyru swm o £168,240 yn 2019 a’r swm cyfatebol yn y flwyddyn gyfredol yw £36,313

 

Awgrymwyd na ddylid cynyddu’r Dreth y Cyngor yn sgil yr hinsawdd sydd ohoni.

 

Cadarnhawyd nad oedd unrhyw arian wedi ei golli yn sgil y buddsoddiad ym Mharc Hamdden Casnewydd, a hynny yn sgil Cronfa Galedi Covid Llywodraeth Cymru.

 

Gofynnwyd cwestiwn yngl?n â buddsoddi mewn tai fforddiadwy.  

 

Yn dilyn pleidlais, penderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhellion fel sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.  

 

 

 

6.

STRATEGAETH RHEOLI'R TRYSORLYS 2021/22 pdf icon PDF 1 MB

Cofnodion:

Roedd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau wedi cyflwyno’r adroddiad  Strategaeth Rheoli’r Trysorlys i’w gymeradwyo, gan gynnwys y Polisi Darpariaeth Refeniw Lleiafswm ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22. Mae’r adroddiad yn crynhoi ac yn amlygu’r meysydd allweddol sydd yn ymwneud gyda’r strategaeth a’r meysydd hynny o ran y goblygiadau allweddol a’r risgiau sydd yn deillio ohono.  

 

Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir Maureen Powell.

 

Roedd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio wedi mynychu ac annerch y Cyngor er mwyn cadarnhau bod yr adroddiad wedi ei drafod yn y Pwyllgor Archwilio   ar 25ain Chwefror 2021.

 

Wrth ymateb i bryder yngl?n â’r strategaeth benthyg, cadarnhaodd yr Aelod Cabinet y bydd swyddogion yn edrych ar gyfraddau hirdymor ac yn dewis cyfradd pan fydd hyn yn briodol. Mae Swyddogion yn asesu gofynion benthyg yn barhaus.  

 

Yn dilyn pleidlais, penderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhellion:

 

Mae’r Cyngor yn cymeradwyo Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2021/22 gan gynnwys:

1.     Rheoli’r Trysorlys 2021/22

2.     2021/22 Datganiad Polisi Darpariaeth Refeniw Isafswm 

3.     2021/22 Strategaethau Buddsoddi a Benthyg  

 

Yn cymeradwyo’r Dangosyddion Darbodus sydd yn Atodiad 5 a bydd hyn yn cael eu defnyddio er mwyn monitro perfformiad y Trysorlys yn ystod 2021/22.

 

Mae’r Cyngor yn cytuno y dylai’r Pwyllgor Archwilio barhau i adolygu gweithgareddau Trysorlys ar ran  y Cyngor drwy dderbyn a chraffu'r adroddiad canol blwyddyn a diwedd blwyddyn a chraffu Polisi a Strategaeth y Trysorlys cyn ei gyflwyno i’r Cyngor ar gyfer ei gymeradwyo.

 

7.

STRATEGAETH GYFALAF 2021/22 A CHYMERADWYO YCHWANEGIADAU A ARIENNIR GAN GRANTIAU I GYLLIDEB GYFALAF 2020/21 pdf icon PDF 584 KB

Cofnodion:

Roedd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau wedi cyflwyno’r adroddiad er mwyn i’r Cyngor gymeradwyo  Strategaeth Gyfalaf 2021/22 a chymeradwyo  ychwanegu’r cyllidebau sydd yn cael eu hariannu gan grantiau i raglen gyfalaf 2020/21.

 

Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir Giles Howard.

 

Yn dilyn pleidlais, penderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhellion:

 

 

Adolygu a chymeradwyo Strategaeth Gyfalaf 2021/22 (Atodiad 1)

 

Cymeradwyo’r ychwanegiadau i’r cyllidebau cyfalaf sydd yn cael eu hariannu’n llwyr gan grantiau allanol a’r cyfraniadau sydd wedi eu nodi yn Atodiad 2 i gyllideb gyfalaf 2020/21

 

8.

PENODI I BWYLLGOR YMGYNGHOROL LLYWIO AR AFON GWY pdf icon PDF 171 KB

Cofnodion:

Roedd yr Aelod Cabinet ar gyfer Llywodraethiant a’r Gyfraith wedi cyflwyno adroddiad i apwyntio cynrychiolydd i wasanaethu ar Bwyllgor  Cynghori Navigation Dyffryn Gwy.

 

Wrth wneud hyn, diolchodd y Cynghorydd Ann Webb am ei hamser ar y Pwyllgor.

 

Enwebodd y Cynghorydd  Batrouni y Cynghorydd  Anthony Easson, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd  Groucutt.

 

Enwebodd y Cynghorydd  Jordan y Cynghorydd  Jane Pratt, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Powell.

 

Yn dilyn pleidlais, apwyntiwyd y Cynghorydd Jane Pratt.

 

9.

CYFANSODDIAD pdf icon PDF 281 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd yr Aelod Cabinet ar gyfer Llywodraethiant a’r Gyfraith wedi cyflwyno adroddiad i’r Cyngor i ystyried Cyfansoddiad CSF sydd wedi ei ddiwygio a’i ddiweddaru. 

 

Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir Jamie Treharne.

 

Diolchodd y Cynghorydd Howard i’r Swyddogion am ddileu’r cynnig bod ceisiadau cynllunio sydd yn cael eu cyfeirio at y Pwyllgor llawn gan yr aelodau ward yn cael eu hystyried yn gyntaf gan y panel dirprwyedig.

 

Diolchodd y Cynghorydd Brown i’r Swyddogion am  y diwygiadau i’r Cyfansoddiad am gadw hawl y Cynghorwyr Sir i gyfeirio materion i’r Pwyllgor Cynllunio. 

 

Yn dilyn pleidlais, penderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhelliad:

 

Mae’r Cyngor llawn yn cymeradwyo'r Cyfansoddiad sydd wedi ei adolygu a’i ddiweddaru.  

 

10.

Rhestr o Gynigion

11.

Cyflwynwyd gan y Cynghorydd Sirol D. Batrouni

Mae'r Cyngor hwn yn cymeradwyo Llywodraeth Lafur Cymru am ei chefnogaeth, yn enwedig yn ariannol, i'r Cyngor, ei drigolion a'n busnesau lleol yn ystod pandemig Covid-19.  At ei gilydd, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £45m i fusnesau'r Cyngor a Sir Fynwy.  Mae hefyd yn braf iawn bod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu setliad cyllideb y Cyngor 3.9%, sy'n uwch na chyfartaledd Cymru.  Cyllidebodd y cyngor yn wreiddiol ar gyfer cynnydd o 0%, felly mae hyn yn golygu y bydd y Cyngor yn derbyn tua £3.7m ychwanegol.

 

Cofnodion:

Mae’r Cyngor hwn yn cymeradwyo Llywodraeth Cymru am ei chefnogaeth, yn enwedig yn ariannol, i’r Cyngor, ei drigolion a’n busnesau lleol yn ystod pandemig  Covid-19. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyfanswm o fwy na £45 miliwn i’r Cyngor a busnesau yn Sir Fynwy.  Mae’n beth da fod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu setliad cyllideb y Cyngor o 3.9%, sydd uwchlaw’r cyfartaledd ar draws Cymru. Roedd y Cyngor wedi cyllidebu ar gyfer cynnydd o 0%, ac felly, mae hyn yn golygu y bydd y Cyngor yn derbyn  swm ychwanegol o £3.7m.

 

Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Tudor Thomas.  Wrth wneud hyn,  amlygodd bod Llywodraeth Cymru wedi darparu cymorth ariannol yn gyflym ac roedd wedi cynnig arweinyddiaeth hefyd ac ychwanegodd ei fod am weld CSF yn gweithio yn fwy agos gyda Llywodraeth Cymru. Rydym wedi clywed fod nifer o fusnesau'r Fenni wedi croesawu’r cymorth sydd yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru drwy CSF yn ystod y cyfnod anodd hwn o fasnachu

 

Roedd y Cynghorydd D. Evans wedi gadael y cyfarfod am 14:50pm

 

Roedd yr Arweinydd wedi datgan na fyddai yn cefnogi’r cynnig hwn. Mynegodd rwystredigaeth fod y sefyllfa ariannu wedi parhau ac wedi rhoi straen gormodol ar awdurdodau fel CSF drwy ddiffyg gweithgarwch o ran newid fformiwla a fyddai’n medru cynnig mwy o degwch yn y dyfodol. Dywedodd bod Llywodraeth y DU wedi sicrhau bod  £6.6 biliwn ar gael i Lywodraeth Cymru er mwyn gweinyddu hyn ar ei rhan.  

 

Roedd y Cynghorydd Armand Watts wedi datgan buddiant na sy’n rhagfarnu fel perchennog busnes sydd wedi derbyn cymorth.

 

Roedd y Cynghorydd Laura Jones AS wedi cytuno gyda’r sylwadau yngl?n â rhannu’r cymorth a’r arian gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd ei fod yn cael ei gydnabod o fewn y Senedd pa mor dda y mae CSF yn ei wneud ac mae’r Cyngor yn cael ei ddefnyddio  fel enghraifft o arfer da.

 

Yn dilyn y bleidlais, trechwyd y cynnig.  

.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

12.

Cyflwynwyd gan y Cynghorydd Sirol J. Watkins

Mae’r Cyngor hwn yn nodi:

a)     Ar lefel o dim ond £67.25 yr wythnos, y Lwfans Gofalwr yw'r budd-dal isaf o'i fath.

b)     Mewn ymateb i bandemig Covid-19, cynyddodd y Llywodraeth y lwfans safonol Credyd Cynhwysol ac elfen sylfaenol y Credyd Treth Gwaith £20 yr wythnos yn uwch na'r cynnydd arfaethedig ym mis Ebrill 2020, ond nid yw wedi cynyddu’r Lwfans Gofalwr.

c)     Mae llawer o ofalwyr di-dâl yn wynebu caledi ariannol eithafol.  Canfu arolwg diweddar gan Carers UK fod mwy na thraean o'r rhai sydd ar Lwfans Gofalwr yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd.  Mae llawer wedi bod yn cael trafferth ers misoedd, gan ddibynnu'n aml ar fanciau bwyd i fwydo eu hunain a'r bobl y maent yn gofalu amdanynt.     Canfu arolwg Carers UK y canlynol: "Teimlai 43% o ofalwyr y byddai cynnydd yn y Lwfans Gofalwr yn eu helpu, o ystyried y pwysau ariannol y maent yn eu hwynebu."

 

Mae’r Cyngor yn penderfynu’r canlynol:

a)     Bod rhaid i ni sefyll i fyny dros ofalwyr, gwneud mwy i'w cefnogi, ac adeiladu cymdeithas fwy gofalgar wrth i ni ddod allan o bandemig Covid-19.

 

Bod y Cyngor yn cyfarwyddo Arweinydd y Cyngor i:

a)     Ysgrifennu at Ganghellor y Trysorlys a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, gan eu hannog i godi Lwfans Gofalwr gan £20 yr wythnos ar unwaith, yn unol â'r cynnydd mewn Credyd Cynhwysol.

b)     Mae'r Cyngor yn penderfynu rhoi gohebiaeth gyffredinol i ofalwyr di-dâl, sefydliadau'r trydydd sector a chynghorau cymunedol er mwyn annog gofalwyr i hawlio’r Lwfans Gofalwr.

 

 

Cofnodion:

Mae’r Cyngor yn nodi:

a) Yn £67.25 yr wythnos, y Lwfans Gofalwyr yw’r budd-dal isaf o’i fath. 

b) Mewn ymateb i’r pandemig Covid-19, roedd y Llywodraeth wedi cynyddu lwfans safonol y Credyd Cynhwysol ac elfen sylfaenol y Credyd Treth Gwaith  o £20 yr wythnos, a hynny’n uwch na’r hyn a bennwyd yn Ebrill  2020, ond nid yw wedi cynyddu’r Lwfans Gofalwyr. c) Mae llawer o ofalwyr di-dâl yn wynebu caledi ariannol eithafol. Roedd arolwg diweddar gan Carers UK wedi canfod fod mwy na thraean o’r rhai hynny ar Lwfans Gofalwyr yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd. Mae llawer wedi bod yn cael trafferth ymdopi ers misoedd, yn aml yn ddibynnol ar fanciau bwyd er mwyn bwydo eu hunain a’r bobl y maent yn gofalu amdanynt. Roedd arolwg  Carers UK wedi canfod fod “43% o ofalwyr yn teimlo y byddai cynnydd yn y Lwfans Gofalwyr yn eu helpu, yn enwedig o feddwl am y pwysau ariannol y maent yn wynebu.”

 

Mae’r Cyngor yn cynnig:

a) Rhaid i ni amddiffyn ein gofalwyr a gwneud mwy er mwyn eu cefnogi ac adeiladu cymdeithas mwy ofalgar wrth i ni ddod allan o’r pandemig  Covid-19.

 

Mae’r Cyngor yn rhoi cyfarwyddyd i’r Arweinydd y Cyngor i:

a) Ysgrifennu at Ganghellor y Trysorlys a’r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Gwaith a Phensiynau, er mwyn eu hannog i gynyddu’r Lwfans Gofalwyr o £20 yr wythnos yn syth, a hynny’n unol gyda’r cynnydd yn y Credyd Cynhwysol.

b) Mae’r Cyngor yn mynd i ddanfon gohebiaeth gyffredinol i ofalwyr  di-dâl, mudiadau trydydd sector a chynghorau cymuned er mwyn annog gofalwyr i hawlio’r Lwfans Gofalwyr.  

 

Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd   Anthony Easson.

 

Roedd y Cynghorydd Armand Watts wedi dweud y dylid diwygio’r cynnig, er mwyn cynnwys Rhan C fel sydd wedi ei nodi isod:

 

Mae’r Cyngor yn rhoi cyfarwyddyd i’r Arweinydd y Cyngor i:

a) Ysgrifennu at Ganghellor y Trysorlys a’r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Gwaith a Phensiynau, er mwyn eu hannog i gynyddu’r Lwfans Gofalwyr o £20 yr wythnos yn syth, a hynny’n unol gyda’r cynnydd yn y Credyd Cynhwysol.

b) Mae’r Cyngor yn mynd i ddanfon gohebiaeth gyffredinol i ofalwyr  di-dâl, mudiadau trydydd sector a chynghorau cymuned er mwyn annog gofalwyr i hawlio’r Lwfans Gofalwyr.  

c) Dylid dileu’r trothwy o £128 ar gyfer enillion.

 

Roedd y newid hwn wedi ei eilio gan y Cynghorydd  Frances Taylor.

 

Awgrymwyd y dylid gosod ffigwr rhesymol ar gyfer y trothwy enillion yn y cynnig diwygiedig.  

 

Roedd y Cynghorydd    Kevin Williams wedi datgan buddiant na sy’n rhagfarnu.

 

Yn dilyn pleidlais,  pleidleisiwyd o blaid y cynnig diwygiedig.

 

Roedd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd wedi sôn nad oedd angen rhan b y cynnig  a dylid ei ddileu: b) Mae’r Cyngor yn mynd i ddanfon gohebiaeth gyffredinol i ofalwyr  di-dâl, mudiadau trydydd sector a chynghorau cymuned er mwyn annog gofalwyr i hawlio’r Lwfans Gofalwyr.

 

Esboniodd bod y ffurfiau o gyfathrebu a ddefnyddir ar hyn o bryd yn cynnwys cylchlythyr Gofalwyr Sir Fynwy ac mae hyn yn  ...  view the full Cofnodion text for item 12.

13.

Cyflwynwyd gan y Cynghorydd Sirol F. Taylor

Wrth gyflawni ei rôl i gefnogi cymunedau cynaliadwy, mae'r Cyngor hwn yn diogelu'r holl ofod amwynder cyhoeddus er budd cenedlaethau'r dyfodol ac yn cefnogi lliniaru a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd datganedig.

 

 

Cofnodion:

Wrth ymgymryd â’i rôl yn cefnogi cymunedau cynaliadwy, mae’r Cyngor yma yn diogelu pob gofod amwynder cyhoeddus er budd cenedlaethau’r dyfodol ac er mwyn cefnogi a lliniaru'r argyfwng newid hinsawdd sydd wedi ei ddatgan.

 

Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Simon Howarth.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod y Cyngor wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau bod penderfyniadau yn cael eu gwneud yn unol gyda’r Ddeddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol ac mae’n ceisio cymryd camau er mwyn gwneud cyfraniad positif i’r agenda datgarboneiddio. Ychwanegodd fod y cynnig yn methu cydnabod y mesurau sydd eisoes yn eu lle a gallai arwain at oblygiadau na sydd wedi eu rhagweld ac yn tanseilio’r hyn y mae’r cynnig yn ceisio ei atal. 

 

Roedd yna bryderon nad oedd y cyfeiriad at ofodau cymunedol cyhoeddus yn ddigon eglur yn y cynnig.

 

Gobeithiwyd na fyddai’r Cyngor yn derbyn y cynnig a bydd y gofalu cymunedol yma yn cael eu diogelu a’n sicrhau na fydd yna adeiladu arnynt. 

 

Yn dilyn pleidlais, trechwyd y cynnig.

 

 

 

 

 

 

 

 

14.

Cyflwynwyd gan y Cynghorydd Sirol R John, Aelod Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc a MonLife

Mae'r Cyngor hwn:

a) Yn nodi'r gwelliant sylweddol yng nghyfraddau mynychder Covid-19 yn Sir Fynwy a ledled Cymru ers dechrau cyfyngiadau Rhybudd Lefel Pedwar ar 20fed Rhagfyr.

b) Yn croesawu llwyddiant a chyflymder y rhaglen frechu ledled y DU

c) Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi map ffordd manwl i roi terfyn ar gyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru

 

Cofnodion:

 

 

Mae’r Cyngor yn:

a) Nodi’r gwelliant sylweddol yn y cyfradd o achosion Covid-19 yn Sir Fynwy ac ar draws Cymru ers i’r cyfyngiadau Lefel Rhybudd Pedwar ddechrau ar 20fed Rhagfyr.

b) Croesawu llwyddiant a chyflymder y rhaglen frechu ar draws y DU.

c) Galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi  rhaglen mapio manwl i godi’r cyfyngiadau  Covid-19 yng Nghymru.

 

Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bob Greenland.

 

Roedd y Cynghorydd Roger Harris wedi dweud y dylid diwygio’r cynnig:

 

Mae’r Cyngor yn:

a) Nodi’r gwelliant sylweddol yn y gyfradd o achosion Covid-19 yn Sir Fynwy ac ar draws Cymru ers i’r cyfyngiadau Lefel Rhybudd Pedwar ddechrau ar 20fed Rhagfyr.

b) Croesawu llwyddiant a chyflymder y rhaglen frechu ar draws y DU, yn enwedig yng Nghymru

c) Llongyfarch Llywodraeth Cymru ar gyhoeddi  rhaglen mapio manwl i godi’r cyfyngiadau  Covid-19 yng Nghymru.

 

Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Dimitri Batrouni

 

Nid oedd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau a Chyfiawnder Cymdeithasol yn cefnogi’r cynnig ac esboniodd nad yw’r rhaglen mapio yn berthnasol mwyach.  

 

Wrth gefnogi’r cynnig, roedd Arweinydd yr Wrthblaid wedi datgan fod Cymru yn arwain gwledydd y DU o ran gweithredu’r rhaglen frechu, yn enwedig wrth gynnig yr ail frechlyn. Ychwanegodd bod y rhaglen mapio a gyhoeddwyd yn Chwefror 2021 yn medru cael ei haddasu wrth i’r feirws newid. 

 

Roedd y Cynghorydd John wedi croesawu rhan b y cynnig ond nid oedd yn cefnogi rhan c y cynnig.

 

 

Yn dilyn pleidlais, trechwyd y cynnig diwygiedig.

 

Trodd y ddadl yn ôl i’r cynnig gwreiddiol.  

 

Roedd yr Aelod dros Gymunedau a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi ffocysu ei sylwadau ar lesiant, yn enwedig ar blant a phobl ifanc. Pwysleisiodd y pwysigrwydd o agor gweithgareddau sydd wedi eu trefnu ac ymbiliodd ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu tynnu cyfleusterau chwaraeon awyr agored oddi ar y rhestr o adeiladau sydd yn gorfod aros ar gau. Gofynnodd hefyd bod y Llywodraeth yn caniatáu gweithgareddau gr?p ar gyfer y sawl o dan 18 mlwydd oed a’n caniatáu unigolion i deithio yn y car er mwyn gwneud ymarfer corff.  

 

Yn dilyn pleidlais, pleidleisiwyd i blaid y cynnig.  

 

 

 

 

 

 

 

 

 

15.

Cwestiynau’r Aelodau:

16.

O'r Cynghorydd Sirol T. Thomas i'r Cynghorydd Sirol R. John, Aelod Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc a MonLife

 

A allai'r Aelod Cabinet hysbysu'r cyngor pa mor hyderus ydyw bod gan bob disgybl yn ysgolion Sir Fynwy liniaduron neu iPads i sicrhau mynediad da i 'ddysgu cyfunol' gan gynnwys disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim a disgyblion sy'n dod o gartrefi sydd ag incwm is?  

 

Cofnodion:

A all yr Aelod Cabinet roi gwybod i’r Cyngor pa mor hyderus yw ef y bydd yr holl ddisgyblion mewn ysgolion yn Sir Fynwy yn meddu ar liniaduron neu i-Pads er mwyn sicrhau eu bod yn cael mynediad at ‘ddysgu cyfunol’ gan gynnwys disgyblion sydd yn derbyn prydau ysgol am ddim a disgyblion sydd yn dod o gartrefi sydd ar incwm is? 

 

Diolchodd y Cynghorydd John i’r Cynghorydd Thomas am y cwestiwn ac ymatebodd:

 

Rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar raglen i adnewyddu seilwaith rhwydwaith digidol ysgolion ac wedi buddsoddi mewn teclynnau er mwyn gwella’r dysgu digidol. Mae’r prosiect yma, sydd werth miliynau, wedi ei hwyluso yn ystod y pandemig mewn ymgais i sicrhau bod cyfleusterau dysgu o bell ar gael i’r holl ddisgyblion.

 

Mae ein swyddogion rhaglen ddigidol yn gweithio’n helaeth gyda SRS, a gydag ysgolion, er mwyn sicrhau bod dysgwyr sydd wedi eu heithrio’n ddigidol,  yn derbyn yr holl help a'r cymorth y maent angen yn ystod y pandemig.  Roeddynt wedi casglu gwybodaeth gan aelwydydd ar eu gallu i gysylltu gyda’r rhyngrwyd ac wedi darparu unedau band eang mudol lle bod angen.  Roeddynt wedi rhoi gliniaduron i ddysgwyr a oedd angen teclyn i gael mynediad at Hwb.  Rydym wedi darparu miloedd o declynnau newydd ar draws ein hysgolion er mwyn cefnogi gofynion dysgu cyfunol er mwyn sicrhau bod plant, yn enwedig y rai hynny sy’n derbyn prydau ysgol am ddim, yn cael eu cynnwys. Rydym hefyd wedi gweithio gyda staff dysgu er mwyn sectorau eu bod yn medru cael mynediad at gymorth technegol os oes angen.  

 

Rydym yn hyderus bod yr aelwydydd a’r dysgwyr sydd wedi ymgysylltu gyda’u hysgolion wedi derbyn y teclynnau sydd angen arnynt ar gyfer dysgu  cyfunol. Mae ein hysgolion wedi gweithio’n galed gyda’u teuluoedd er mwyn adnabod gofodau o ran y ddarpariaeth a’n sicrhau bod pob un plentyn a pherson ifanc yn derbyn y cyfle i gymryd rhan mewn dysgu o bell.   

 

17.

Adroddiadau ar gyfer y Cyngor:

18.

ADDASIADAU I'R TÎM ARWEINYDDIAETH STRATEGOL pdf icon PDF 145 KB

Cofnodion:

Roedd y Prif Weithredwr wedi cyflwyno adroddiad yn cynnig rhai newidiadau bychain i strwythur a phortffolio i Dîm Arwain Strategol gan gydnabod y newidiadau allweddol sydd wedi bod i’r cyd-destun allanol a fydd yn llywio cam nesaf  o ddatblygiad y Cyngor.  

 

Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd P. Jordan.

 

Yn dilyn pleidlais, roedd y Cyngor wedi derbyn yr argymhellion:

 

Ail-ddynodi’r rôl Prif Swyddog Adnoddau fel Prif Swyddog Adnoddau / Dirprwy Brif Weithredwr  a Phennaeth y Gyfraith / Swyddog Monitro fel y Prif Swyddog Pobl a Llywodraethiant.  Yn unol ag Erthygl 4.02(g) o Gyfansoddiad Rhagfyr 2017, mae angen i’r Cyngor i gymeradwyo hyn. 

 

19.

CYHOEDDI DATGANIAD POLISI CYFLOG FEL SY'N OFYNNOL GAN Y DDEDDF LLEOLIAETH pdf icon PDF 378 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau wedi cyflwyno adroddiad i’r Cyngor a oedd yn cymeradwyo cyhoeddi Polisi TâlCyngor Sir Fynwy, er mwyn cydymffurfio gyda’r Ddeddf Lleoliaeth.

 

Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd M. Feakins

 

Yn dilyn pleidlais, roedd y Cyngor wedi derbyn yr argymhelliad:

 

Mae’r Cyngor yn cymeradwyo’r Polisi Tâl ar gyfer 1af Ebrill 2021 i’r 31ain Mawrth  2022.

 

20.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Ionawr 2021 pdf icon PDF 229 KB

Cofnodion:

Roedd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14eg Ionawr wedi eu cymeradwyo fel cofnod cywrain.