Agenda and minutes

Cyngor Sir - Dydd Iau, 20fed Mehefin, 2019 2.00 pm

Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

2.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Sir M. Powell wedi datgan buddiant na sy’n rhagfarnus o ran eitem 5d fel llywodraethwr Ysgol Gyfun Brenin Harri’r VIII.

 

 

3.

Cwestiynau Cyhoeddus

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Pete a Julie Wilson o Gr?p Gweithredu Magwyr ar y Rheilffyrdd a oedd wedi mynychu er mwyn cefnogi cynnig i’w gyflwyno gan y Cynghorydd Sir F. Taylor.

 

Roedd Mr. Wilson wedi darparu ychydig o wybodaeth am orsafoedd pentref Magwyr a Gwndy. Esboniodd fod yna boblogaeth o  fwy na 6000, a bod disgwyl i hyn gynyddu i 10,000 dros y pump i ddeng mlynedd nesaf yn sgil datblygu a chynllunio tai newydd.  Mae cyfran sylweddol o’r boblogaeth yma yn cymudo i Gaerdydd neu Fryste. Esboniodd nad yw’r orsaf arfaethedig yn fwy na  15 munud ar droed o’r ddau bentref. Mae diffyg cyfleusterau parcio yn golygu y bydd hon yn orsaf y byddai’n rhaid cerdded iddi, a allai fod yn enghraifft o orsafoedd y dyfodol. Mae’r cysyniad yn rhan o gynllun i annog teithio llesol a theithio amgen.   Mae’n ticio’r holl flychau yn unol gyda phryderon cyfredol Llywodraeth Cymru  o ran yr argyfwng hinsawdd a’r angen am deithio llesol. Wedi ei leoli ar y B4245, mae llawer o draffig yn teithio drwy Fagwyr a Gwndy, gyda llawer yn gymudwyr ac yn defnyddio Cyffordd Twnnel Hafren, ac mae yna gred y bydd yr orsaf arfaethedig yn lleihau’r nifer o gerbydau sydd yn teithio i Gyffordd Twnnel Hafren.

 

Anogwyd Aelodau i gefnogi’r cynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Taylor.

 

 

 

 

4.

Cyhoeddiad y Cadeirydd a derbyn deisebau pdf icon PDF 53 KB

Cofnodion:

Nodwyd cyhoeddiad y Cadeirydd.  

 

Ni chyflwynwyd unrhyw ddeisebau.  

 

Roedd yr Aelod Cabinet ar gyfer Plant a Phobl Ifanc wedi darllen datganiad yn ymwneud gyda Gwobrau Adeiladu Addysg Cymru gan fod Ysgol Uwchradd Trefynwy wedi ei henwebu mewn pedwar categori ac wedi ennill y wobr anrhydeddus, Gwobr Prosiect y Flwyddyn. Mae hyn ar ôl ennill y Wobr Arloesedd Digidol yng ngwobrwyon Ardderchowgrwydd Adeiladu Cymru. Diolchwyd i’r swyddogion am eu gwaith yn darparu’r cyfleuster ffantastig yma, ynghyd â’n partneriaid yn Llywodraeth Cymru, BDP, Interserve, a myfyrwyr a staff yn yr ysgol. Anogwyd Aelodau i fynychu’r agoriad swyddogol yr ysgol ar y diwrnod canlynol. 

 

 

 

5.

Rhestr o Gynigion

5a

Oddi wrth y Cynghorydd Sirol P. Fox

Mae'r penderfyniad diweddar gan y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru i ddiystyru argymhellion yr ymchwiliad annibynnol i ffordd liniaru arfaethedig yr M4 yn destun gofid mawr i'r cyngor hwn. Mae hyn wedi rhoi ergyd drom i fusnesau a thrigolion De-ddwyrain Cymru a bydd yn cyfyngu'n aruthrol ar gyfleoedd economaidd y rhanbarth. Er bod llawer o benawdau'r cyfryngau yn union ar ôl y penderfyniad wedi canolbwyntio ar Gasnewydd, mae'r goblygiadau ar gyfer De'r sir mor ddifrifol. Mae'r cyngor hwn yn derbyn bod y penderfyniad bellach wedi'i wneud ac na ellir ei ddadwneud felly mae'n rhaid i ni symud ymlaen.

 

Mae'r cyngor hwn yn galw yn awr ar Lywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru i ddangos ymrwymiad a chefnogaeth i ddatrysiadau eraill er mwyn lliniaru tagfeydd a gorlwytho’r seilwaith yn ne Sir Fynwy. Rydym yn galw ar y ddwy asiantaeth i wneud beth bynnag sy'n angenrheidiol:

 

1.    I wella'r seilwaith trafnidiaeth yng Nghas-gwent a'r cyffiniau yn gyflym ac ar frys; I ariannu a chwblhau ail gam astudiaeth WelTag yn y flwyddyn galendr hon sy’n angenrheidiol nawr;

 

2.    I gomisiynu astudiaeth cam 3 Metro De Cymru i gwmpasu'r ardal i'r dwyrain o Gasnewydd sydd wedi'i hesgeuluso hyd yma. Ceisiwn ymrwymiad i lefelau tebyg o wasanaeth i'r rhai a weithredir ar reilffyrdd y Cymoedd ar gyfer y brif reilffordd sy'n rhedeg drwy ein sir gan ddechrau gyda chynnydd sylweddol yn amlder y gwasanaeth i reilffordd Cas-gwent a gwerthusiad o achos busnes ar gyfer cysylltiad uniongyrchol i Fryste;

 

3.    Cefnogi'n benodol y gwaith datblygu sy'n mynd rhagddo ar gyfer gorsaf gerdded ym Magwyr, gan ymuno â'r Cyngor hwn mewn arian cyfatebol ein cyfraniad i astudiaeth GRIP3 yr haf hwn.

 

4.    Blaenoriaethu'r gwaith angenrheidiol i wella Cyffordd Twnnel Hafren i Orsaf Parcffordd lawn gyda gwell amlder gwasanaeth a chyfleusterau.

 

5.    Yn ogystal â 1-4 uchod, bod cynigion ar gyfer yr holl welliannau trafnidiaeth gynaliadwy a gyflwynwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol fel rhan o'i thystiolaeth i'r ymchwiliad annibynnol o fewn y Sir yn cael eu gwerthuso ar frys a lle y profir eu bod yn cael eu rhoi ar waith.

 

6.    Sicrhau bod y cyngor hwn yn ymgysylltu'n gynnar ac yn barhaus â'r Comisiwn Annibynnol sydd bellach wedi'i sefydlu gan Brif Weinidog Cymru i ddatblygu 1-5 uchod.

 

Yn ogystal, mae'r Cyngor hwn yn gofyn i'r Arweinydd ysgrifennu at y Prif Weinidog yn mynegi barn y cyngor hwn ac yn gofyn am gyfarfod brys i drafod y materion pwysig hyn.

 

 

Cofnodion:

Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Sir R. Greenland.  

 

Cafwyd dadl wedyn.

 

Roedd llawer o Aelodau wedi ailadrodd yr hyn a ddywedwyd gan yr Arweinydd, yn mynegi siom gyda’r penderfyniad  i anwybyddu’r cynnig i adeiladu ffordd liniaru’r M4. 

Amlygwyd pryderon yngl?n â’r problemau i gymudwyr a busnesau yn sgil tagfeydd traffig cynyddol.  

 

Gofynnwyd am fwy o wybodaeth yngl?n ag ymestyn o gwmpas ardal Cas-gwent.  

 

Roedd  yna gefnogaeth hefyd ar ran y penderfyniad i ymatal rhag adeiladu’r ffordd liniaru, yn enwedig yn sgil pryderon cyfredol yngl?n â’r argyfwng hinsawdd. Hefyd, nodwyd fod yn rhaid i ni roi trefn ein sefydliad ein hunain cyn mynd at Lywodraeth Cymru a gofyn am welliannau mewn seilwaith. 

 

Teimlwyd ei bod yn bwysig i annog teithio llesol a datblygu’r seilwaith sydd eisoes mewn lle.  

 

Cyfeiriwyd at eitem 6 o’r cynnig yngl?n â’r comisiwn annibynnol newydd ac anogwyd Llywodraeth Cymru i gydnabod y problemau yn Sir Fynwy a chynnig sedd ar y comisiwn i Gyngor Sir Fynwy.  

 

Roedd y Cynghorydd J. Watkins wedi cyfeirio at gynnig a wnaed ganddi mewn cyfarfod o’r Cyngor yn Rhagfyr 2018, lle y derbyniodd gefnogaeth unfryd fod y Cyngor yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn pam fod ein gwasanaeth rheilffordd mor  broblematig. Ychwanegodd nad oedd yn ymwybodol o ymateb Llywodraeth Cymru i’r llythyr hwnnw. Roedd hefyd wedi ychwanegu ei chefnogaeth i’r astudiaeth Grip 3 ar gyfer Gorsaf Magwyr.

 

Nodwyd y rhwystredigaeth yngl?n â’r cyfyngiadau sydd yn effeithio ar drafnidiaeth gyhoeddus. 

 

Roedd yr Aelod Cabinet dros Seilwaith a Gwasanaethau Cymdogaeth yn teimlo fod achos cryf gan Gyngor Sir Fynwy i wneud cais am grant o dan Ddeddf Teithio Llesol, ac rydym yn gobeithio bod yn llwyddiannus yn ein cais a fydd yn cael ei gyflwyno flwyddyn nesaf. 

 

Teimlwyd ei bod yn bwysig i annog Forest of Dean, Caerloyw, England Highways, Priffyrdd Cymru a Chyngor Sir Fynwy, i weithio gyda’i gilydd er mwyn datrys materion yn ardal Cas-gwent o Lydney. 

 

Yn dilyn pleidlais, roedd y Cyngor wedi cytuno’n unfryd gyda’r cynnig.  

 

 

 

 

5b

Oddi wrth y Cynghorydd Sirol F. Taylor

Bod y Cyngor hwn yn parhau i ddarparu cefnogaeth enghreifftiol i'r achos unigryw dros orsaf Magor Walkway fel enghraifft o deithio llesol ac adeiladu gwytnwch cymunedol yn wyneb newid yn yr hinsawdd.

 

Gofynnwn i'r cyngor hwn alw ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau eu cefnogaeth ddiamwys i orsaf Magwyr drwy arian cyfatebol ymrwymiad Cyngor Sir Fynwy i gwblhau GRIP3. Hefyd, ar ôl cwblhau GRIP3, rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru gefnogi gorsaf Magwyr er mwyn symud ymlaen â'u hachos i Gronfa Gorsafoedd Newydd yr Adran Drafnidiaeth.

 

Yn olaf, bod y Cyngor hwn yn gofyn, yn dilyn y penderfyniad i ddileu'r M4 newydd, y dylai Llywodraeth Cymru gydnabod gorsaf Magwyr fel rhan allweddol o gyfres o fesurau i gefnogi newid moddol a lleihau allyriadau carbon yn ne-ddwyrain Cymru.

 

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r cynnig, roedd y Cynghorydd F. Taylor wedi talu teyrnged i Gr?p MAGWYR, gyda dau ohonynt  yn cwrdd ar hyn o bryd gyda’r Adran Drafnidiaeth yn Llundain.

 

Roedd y Cynghorydd Batrouni wedi eilio’r cynnig.

 

Gwnaed sylwadau yngl?n â phroffesiynoldeb a faint o waith sydd wedi ei wneud gan Gr?p MAGWYR er mwyn datblygu’r cynllun, a dywedwyd eu bod yn haeddu cefnogaeth lawn y Cyngor a’r ganmoliaeth uchaf.  

 

Yn dilyn pleidlais, roedd y Cyngor wedi cytuno’n unfryd gyda’r cynnig.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

5c

Oddi wrth y Cynghorydd Sirol A. Easson

Constituents in in my Ward, and no doubt other Wards, who travel along the B4245 to and from Caldicot to Magor have for several years expressed concern about the safety of this road .There haMae etholwyr yn fy ward i, ac mae'n si?r mewn wardiau eraill, sy'n teithio ar hyd yr B4245 rhwng Cil-y-coed a Magwyr, ers sawl blwyddyn wedi mynegi pryder am ddiogelwch y ffordd hon. Mae sawl damwain wedi bod dros y cyfnod hwnnw, rhai difrifol iawn. Mae nifer o ymdrechion wedi'u gwneud gan Aelodau lleol i fynd i'r afael â'r mater drwy Bwyllgor Ardal Glannau’r Hafren. Mae gan y ffordd hon dros 13,000 o symudiadau teithio yn cael eu cofnodi bob dydd, ac mae wedi dod hyd yn oed yn fwy peryglus wrth i gerbydau nwyddau trwm ddod yn fwy o lawer.

 

Nid oes dim cynnydd wedi'i wneud yn ystod y cyfnod hwnnw oherwydd yr ansicrwydd o ran penderfyniad ynghylch mater hirsefydlog cynigion ffordd liniaru'r M4. Gan fod Llywodraeth Cymru bellach wedi penderfynu na fydd y ffordd liniaru yn mynd yn ei blaen, gellir mynd i'r afael â phryderon am yr B4245 yn awr heb i'r M4 ddrysu'r mater.

 

Cynigiaf felly fod ein hadran briffyrdd yn cyflwyno cynlluniau a rhaglen weithredu i fynd i'r afael â diogelwch cerddwyr, beicwyr a modurwyr, ac unrhyw ddefnyddwyr eraill ar y ffordd, ar hyd y darn prysur hwn o briffordd rhwng Magwyr a Chil-y-coed.

ve been several accidents over that time, some very serious. Many attempts have been made by Local Members to address the issue through the Severnside Area Committee. This road has over 13,000 recorded travel movements every day, and has become even more dangerous as heavy goods vehicles have become much larger.

 

Cofnodion:

Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Batrouni.

 

Roedd yr Aelod Cabinet wedi diolch i’r Cynghorydd Easson am y cynnig ac wedi mynegi ei chefnogaeth. Yn dilyn pryderon  a fynegwyd gan ddefnyddwyr o’r B4245 ym Mhwyllgor Ardal Severnside, ychwanegodd bod Priffyrdd wedi ymrwymo i adolygu’r llwybr. Roedd y canlyniadau wedi eu rhannu gyda’r pwyllgor  ac nid oedd yn ystyried fod y B4245 yn heol risg uchel. Fodd bynnag, gan fod y penderfyniad wedi ei wneud erbyn hyn i ymatal rhag adeiladu priffordd yr M4, mae modd bwrw ymlaen gyda rhan nesaf yr adroddiad a bydd yn cynnwys adolygiad manwl o’r traffig. Byddwn yn rhannu’r adborth gyda Phwyllgor Ardal Severnside am ystyriaeth bellach.  

 

Yn dilyn pleidlais, roedd y Cyngor wedi cymeradwyo’r cynnig.  

5d

Oddi wrth y Cynghorydd Sirol D. Batrouni

Bod y Cyngor hwn yn nodi gyda siom y dystiolaeth gynyddol bod y Blaid Geidwadol yn tanseilio'n sylfaenol cyfleoedd bywyd ein disgyblion tlotaf a mwyaf cythryblus yn Sir Fynwy, gan wneud unrhyw syniad bod y Cyngor hwn yn hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol i'r plant hyn yn ffantasi pur.

 

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Thomas wedi eilio’r cynnig ac wedi mynegi ei gefnogaeth lawn. Credai fod Sir Fynwy yn Sir o ddwy hanner, gyda sector ffyniannus iawn ond roedd yna ardaloedd lle yr oedd pobl yn cael trafferthion yn goroesi. Teimlwyd fod llawer o deuluoedd yn cael eu methu gan yr Awdurdod.   

 

Mynegwyd pryderon am swm y diffygion o ran cyllidebau’r ysgolion.  

 

Roedd diffyg mynediad at dai cymdeithasol yn ffactor sylweddol mewn tlodi plant, ac mae’r data a ddarperir yn dynodi fod yr Awdurdod yn methu â chyflawni ei dyheadau.  

 

Roedd yna wrthwynebiad i’r sylwadau a oedd yn cefnogi’r cynnig a dywedwyd fod ein plant ysgol yn derbyn pob help a chymorth, yn feddyliol ac yn ymarferol,  doed a ddelo eu hamgylchiadau.

 

Roedd y Cynghorydd Groucutt, wedi cyfeirio at adroddiad Dethol Oedolion ar sgil-effaith y Credyd Cynhwysol a oedd yn cael ei gyflwyno yn Sir Fynwy  ac yn amlygu’r ardaloedd o dlodi plant yn Sir Fynwy. Gofynnodd sut oeddwn fel Cyngor, lle y mae traean o blant yn byw mewn aelwydydd sydd mewn tlodi, lle y mae pobl yn defnyddio banciau bwyd yn gyson,  yn medru dod i unrhyw gasgliad oni bai ein bod yn methu ein plant?

 

Roedd yr Aelod Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol yn deall ac yn cydnabod yr heriau yma ac wedi amlygu’r hyn a oedd ar waith. Roedd wedi atgyfnerthu ei hymroddiad i ddarparu cyfle cyfartal i bawb. Rhannwyd gwybodaeth am yr ymdrechion a oedd ar waith ar hyd a lled y Sir.  

 

Awgrymwyd fod y Gr?p Llafur yn herio Llywodraeth Cymru yngl?n â’r ffigwr setliad.  

 

Cadarnhawyd fod y clybiau brecwast yn cael eu cynnig yn unol gyda chanllawiau Llywodraeth Cymru.  Mae yna ffi fechan ar gyfer yr elfen gofal plant. Mae hyn am ddim i blant sydd yn derbyn prydau ysgol am ddim. 

 

Canlyniad pleidlais a gofnodwyd oedd:

 

O blaid:           9

Yn erbyn:        22

Ymatal:            2

 

Felly, trechwyd y cynnig.  

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

6.

Cwestiynau'r Aelodau:

6a

O'r Cynghorydd Sirol M. Groucutt i'r Cynghorydd Sirol R. Greenland

Rwy'n falch o nodi y bydd arian ychwanegol sylweddol ar gael i gefnogi Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent a hoffwn longyfarch Cyngor Sir Fynwy fel y partner arweiniol.Rwyf hefyd yn nodi bod Llywodraeth Cymru, mewn canllawiau a gyhoeddwyd yn 'Polisi Cynllunio Cymru, Cyfrol 10' (RHAG 2018), yn cadarnhau y gall awdurdodau lleol ddynodi tir fel Lletem Las o fewn Cynlluniau Datblygu Lleol. Y nod yw diogelu safleoedd gwyrdd gwerthfawr rhag datblygiadau amhriodol nad ydynt yn cyd-fynd â'r cynigion a sefydlwyd yn y Cynllun. 

 

Yn erbyn y cefndir hwn, a fyddai'r Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am yr amgylchedd yn cadarnhau ei gefnogaeth i greu Lletemau Glas lle y bo'n briodol ledled Sir Fynwy, gan nodi bod nifer wedi'u cynnig ar gyfer y Fenni, a chydnabod bod yr awdurdod â chyfrifoldebau i gadw golygfeydd eiconig, hyrwyddo iechyd a lles ei phobl, a chefnogi mynediad i ardaloedd hamdden hardd a fyddai'n gwella mwynhad o'n cefn gwlad?

 

 

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Greenland wedi cyfeirio at y Gwent Green Grid Partnership fel gr?p pwysig sydd yn gwneud darn o waith strategol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a phartneriaid eraill er mwyn canfod rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol pwysig o fewn Cymru.  Nid bwriad y gwaith yma yw disodli’r Cynllun Datblygu Lleol o ran adnabod lletemau glas.  Yn hytrach, cyfrifoldeb y Cynllun Datblygu Lleol yw gwrando ar yr hyn sydd gan y gr?p i’w ddweud. Rydym yn ffocysu ar yr angen i sicrhau bod y lletemau glas yma yn rhan o’r  LDP, ond mae yna faterion sy’n cystadlu gyda’i gilydd o ran datblygu’r Cynllun Datblygu Lleol.  Bydd rhaid edrych ar y lletemau glas cyfredol a phenderfynu a ydynt dal yn briodol, ac ystyried  lletemau glas eraill wrth i ni symud ymlaen. Bydd hyn yn cael ei ystyried fel rhan o’r broses Cynllun Datblygu Lleol a bydd rhaid i Aelodau benderfynu beth sydd yn briodol wrth symud ymlaen. Mae’n bwysig cofio'r materion pwysig eraill o ddarparu tir ar gyfer tai a thir diwydiannol er mwyn creu swyddi pellach.   

 

Fel cwestiwn atodol, roedd y Cynghorydd Groucutt wedi gofyn i’r Cynghorydd Greenland i gadarnhau p’un ai yw Cyngor Sir Fynwy wedi gwneud unrhyw waith gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog er mwyn adnabod, a chynnig, unrhyw gynigion am letemau glas ar gyfer ardal Y Fenni. Gofynnodd hefyd p’un ai yw Cyngor Sir Fynwy  wedi cynnal gwerthusiad tirwedd o’r ardal tuag at barc cenedlaethol er mwyn medru dynodi lletemau glas o gwmpas Y Fenni a chreu’r ardal honno ar gyfer hamdden.   

 

Roedd y Cynghorydd Greenland wedi cadarnhau y byddwn yn ymgynghori - wrth i’r Cynllun Datblygu Lleol gael ei ddatblygu - gyda nifer o fudiadau, yn enwedig  Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. 

 

6b

O'r Cynghorydd Sirol A. Easson i'r Cynghorydd Sirol J. Pratt

Dros 12 mis yn ôl, gwnaeth y Cabinet benderfyniad i roi'r gorau i gynigion ar gyfer ardollau dodrefn stryd. A fyddech yn egluro'r defnydd a wneir o dan Adran 50 hysbysiadau gwaith stryd priffyrdd i osod ardoll ar blanwyr blodau achlysurol yng Nghil-y-coed?

 

 

Cofnodion:

Roedd yr Aelod Cabinet wedi ymateb fod yr Adran Priffyrdd ond yn gofyn i fudiadau nid er elw i dalu swm sydd ond yn ddigon i dalu'r gost gyfreithiol o brosesu trwydded Adran 50.  Mae’r brif gost sy’n rhan o’r broses drwyddedu a’r ffioedd arolygu  yn rhan o’r gyllideb Priffyrdd.  Nid yw’r trefniant yma ar gael i gontractwyr neu fudiadau eraill ac mae’n cael ei weithredu yn gyson ar draws yr awdurdod. Mae’r Cynghorydd  Pratt wedi cwrdd gyda swyddogion i drafod y mater, ac wedi ychwanegu na ddylid cymhlethu hyn gyda chelfi stryd a byrddau A.   

 

Roedd y Cynghorydd Pratt wedi esbonio fod Cynghorau Tref wedi talu’r gost yma hyd yma, a bod swyddogion yn ystyried yr arian a’r ffioedd Adran 50, a bod adroddiad wedi ei lunio a fydd yn cael ei gyflwyno cyn hir.   

 

Roedd y Cynghorydd Easson wedi dadlau fod hyn wedi ei dalu gan y Cyngor Tref, ac fel cwestiwn atodol, roedd yr Aelod Cabinet wedi gofyn a oedd yn ymwybodol fod - ers 2001 –  235 o drwyddedau Adran 50 wedi eu rhoi i waith cyfleustodau ar draws y Sir,  a dim ond 2 o’r rhain a oedd ar gyfer addurniadau blodau. Dywedodd fod y gr?p dan sylw wedi cynnal digwyddiad yng Nghil-y-coed yn 2018 ac wedi gwneud £2000 o elw, gyda dau draean yn mynd yn ôl i’r Awdurdod. Gofynnodd iddynt ddatrys y mater hwn y tu hwnt i’r Siambr, er budd y gr?p penodol hwn.  

 

Roedd yr Aelod Cabinet wedi cytuno i gwrdd gyda’r Cynghorydd Easson a Swyddogion yn dilyn y cyfarfod.

 

6c

O'r Cynghorydd Sirol B. Strong i'r Cynghorydd Sirol P. Jordan

Gosodwyd y swyddfa bost newydd yn y Ganolfan ym Mrynbuga yn ddiweddar ac fe'i hagorwyd ar gyfer busnes rai misoedd yn ôl. Darparwyd y gwasanaeth hwn ar ôl cynnal negodiadau hirfaith rhwng Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Tref Brynbuga a Chownteri Swyddfa'r Post. A allai'r Cynghorydd Jordan roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cyngor am berfformiad y Swyddfa Bost newydd hyd yn hyn a nodi a ddangoswyd unrhyw ddiddordeb gan unrhyw gynghorau tref neu gymuned eraill lle gallai eu swyddfeydd post gwerthfawr fod dan fygythiad cau?

 

 

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Jordan wedi ymateb fod desg newydd y swyddfa bost wedi agor ar y 1af o Fai 2019, a Chyngor Sir Fynwy yw’r Cyngor cyntaf i reoli swyddfa bost leol. Dyma’r datblygiad diweddaraf wrth i’n hybiau cymunedol ddatblygu, gan ddangos fod cyfuno gwasanaethau mewn un adeilad yn medru helpu cynnal gwasanaethau hygyrch lleol.  Mae’r oriau agor yn gyson ag oriau agor yr hyb ac yn cynnwys boreau Sadwrn. Rydym wedi apwyntio dau staff rhan amser i gynnal y gwasanaeth ac ni fyddai hyn yn bosib heb gefnogaeth Cyngor Tref Brynbuga sydd yn talu’r costau gweithredol ar y cyd gyda’r Cyngor Sir.  

Mynegwyd diolch i Richard Drinkwater sydd wedi bod yn cynnal y gwasanaeth ar y cyd â’i gyfrifoldebau eraill tra bod yr hyfforddiant yn cael ei gwblhau.    

 

Mae nifer o awdurdodau lleol wedi dangos diddordeb yn y model a bydd y rheolwr gwasanaeth yn darparu cyflwyniad ar ein gwaith. Mae staff wedi nodi fod yna fanteision eraill, na sy’n ariannol, wedi elwa’r gwasanaethau eraill yn yr Hyb. Er enghraifft, cynnydd yn aelodaeth y llyfrgell.    

 

Yn ystod y mis cyntaf o fasnachu, roedd yna 4559 o drafodion dros y cownter, gyda chyfartaledd o 38 o drafodion am bob awr o’r gwasanaeth. Bydd gwybodaeth bellach ar berfformiad cyllidol ar gael yn hwyrach eleni.  

 

Bydd agoriad swyddogol yn cael ei gynnal ar ddydd Iau, 27ain Mehefin 2019. 

 

7.

Urgent Question from Councillor R. John to Councillor R. Greenland

Cofnodion:

A yw’r Aelod Cabinet ar gyfer Mentergarwch yn medru gwneud datganiad ar benderfyniad Llywodraeth Cymru i wyrdroi caniatâd cynllunio er mwyn sicrhau dyfodol Troy House yn Ward Mitchel Troy?

 

Esboniodd y Cynghorydd Greenland ei fod wedi synnu a’i siomi gan benderfyniad Arolygydd  Cymru, a gadarnhawyd gan Weinidog Cymru,  a oedd yn cadarnhau y dylid gwyrdroi cais i ddatblygu Troy House.  Esboniodd fod Troy House yn adeilad rhestredig sydd yn y tu allan i Drefynwy ac angen ei atgyweirio ac ar y gofrestr adeiladau mewn risg.  

 

Mae’r perchennog wedi bod yn negodi gyda’r Cyngor ers 8 mlynedd er mwyn newid yr adeilad i  fflatiau ond mae’r maint a’r costau yn golygu bod angen datblygiad caniatáu  er mwyn sicrhau bod hwn yn gynnig masnachol.  Roedd y Pwyllgor Cynllunio wedi rhoi caniatâd, ond mae hyn wedi ei wrthod, sydd yn golygu fod yr adeilad dal mewn risg a byddai rhoi dyfodol hirdymor yn golygu bod yn rhaid gwario miliynau. Oni bai fod cyfle i ddatblygu’r adeilad drws nesaf,  nid oes yna ddyfodol masnachol a bydd rhaid i’r Cyngor gynnal yr adeilad. Bydd rhaid i Lywodraeth Cymru gynnig datrysiad er mwyn ein helpu i symud ymlaen.    

 

Mae’r Arweinydd a’r Prif Weithredwr yn cwrdd  gyda’r Gweinidog ac yn gobeithio codi’r mater hwn. Bydd unrhyw wybodaeth bellach yn cael ei rhannu gyda’r Cyngor. 

 

Fel cwestiwn atodol, roedd y Cynghorydd John wedi ychwanegu fod yna bryderon lleol am y caniatâd cynllunio ond roedd hyn yn ymwneud gyda’r fferm gymdogol yn hytrach na risg o lifogydd. Mae yna ddymuniad yn lleol i ddiogelu dyfodol Troy House.  Ychwanegodd ei bryder fod Llywodraeth Cymru yn medru gwyrdroi arbenigedd lleol ein Pwyllgor Cynllunio. 

 

7.

I gadarnhau'r cofnodion canlynol:

7a

14eg Mai 2019 pdf icon PDF 56 KB

Cofnodion:

Roedd cofnodion  y Cyngor llawn a gynhaliwyd ar 14eg Mai 2019 wedi eu cadarnhau a’u llofnodi gan y Cadeirydd. 

 

7b

16eg Mai 2019 pdf icon PDF 127 KB

Cofnodion:

Roedd cofnodion  y Cyngor llawn a gynhaliwyd ar 16eg Mai 2019 wedi eu cadarnhau a’u llofnodi gan y Cadeirydd. 

Wrth wneud hyn, cynhaliwyd munud o ddistawrwydd fel arwydd o barch yn dilyn marwolaeth y cyn-Gadeirydd Donald Spencer.

 

Nodwyd hefyd fod y Cynghorydd Greenland wedi ymddiheuro gan nad oedd yn medru mynychu’r cyfarfod.