Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

2.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Sir A. Webb wedi datgan buddiant na sy’n rhagfarnus o ran eitem 8a fel Aelod o Fwrdd Cymdeithas Tai Sir Fynwy.

 

Roedd y Cynghorydd Sir M. Feakins wedi datgan buddiant na sy’n rhagfarnus o ran  eitem 9a fel rhan o Fwrdd Cysgodol Monlife.

 

Roedd y Cynghorydd Sir V. Smith wedi datgan buddiant na sy’n rhagfarnus o ran  Cymdeithas Tai Sir Fynwy. 

 

Roedd y Cynghorydd Sir D. Batrouni wedi datgan buddiant na sy’n rhagfarnus o ran  eitem 8a fel Aelod o Fwrdd Cymdeithas Tai Sir Fynwy..

 

 

3.

Cwestiynau Cyhoeddus

Cofnodion:

Dim.

4.

Cyhoeddiad y Cadeirydd a derbyn deisebau pdf icon PDF 262 KB

Cofnodion:

O safbwynt pryderon parhaus yngl?n â diffyg pont yng Ngorsaf Y Fenni, roedd y Cynghorydd  M. Powell wedi cyhoeddi ein bod wedi bod yn llwyddiannus o ran ein cais am gyllid ac rydym yn disgwyl ymlaen at weithredu’r cynllun.

 

Roedd y Cynghorydd L. Brown wedi cyflwyno deiseb ar-lein ar ran Atal Cau Ysgol Stop Mounton.  Hyd yma, mae’r ddeiseb ar-lein wedi ei harwyddo gan 2333 o bobl a gwnaed cais fod hyn yn cael ei dderbyn yn ffurfiol fel rhan o’r broses ymgynghori, ac fe’i cyfeiriwyd at y Cabinet  ar y 5ed Mehefin 2019. Mae’r ddeiseb a’r sylwadau cefnogol ar gael yma: https://www.change.org/p/monmouthshire-council-stop-mounton-house-school-closure

 

5.

Rhestr o Gynigion

5a

Oddi wrth y Cynghorydd Sirol D. Batrouni

Mae'r cyngor hwn yn nodi bod dim ond 17.9% o ddisgyblion Sir Fynwy sy'n derbyn Prydau Ysgol am Ddim sydd wedi cael 5 neu fwy TGAU gradd A* i C gan gynnwys Mathemateg a Saesneg. Mae'n rhwystredig ac yn siomedig bod y canlyniad hwn yn golygu mai Sir Fynwy sydd wedi cael y canlyniad gwaethaf i ddisgyblion PYADd yng Nghymru. Mae'r canlyniad hwn yn golygu bod y bwlch cyrhaeddiad rhwng plant o gefndiroedd tlotach yn cael TGAU da, o gymharu â'u cymheiriaid gwell eu byd, bron yn 50%. Y bwlch uchaf yng Nghymru. Felly, mae'r gr?p Llafur yn mynnu atebion gan y weinyddiaeth Geidwadol ynghylch pam y maent yn parhau i siomi rhai o'n plant mwyaf agored i niwed a hefyd yn gofyn i'r staff perthnasol o'r GCA siarad â'r cyngor llawn am eu rôl yn y canlyniad ofnadwy hwn.

 

 

Cofnodion:

Roedd Arweinydd yr Wrthblaid wedi cyflwyno’r cynnig hwn yn sgil y canlyniadau diweddar a gyhoeddwyd ar Ystadegau Cymru yngl?n â pherfformiad ein plant o ran TGAU, ond yn enwedig ein disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim.  

 

Roedd y cynnig wedi ei eilio gan y Cynghorydd Thomas  a dywedodd y dylai CSF fod wedi datblygu strategaethau effeithiol i helpu’r plant yma os yw awdurdodau lleol eraill eisoes wedi gwneud hyn. Dywedodd mai’r unig ffordd allan o gefndir incwm isel yw drwy addysg a rhaid i’r EAS fod yn atebol.

 

Cadarnhawyd bod y ddadl yngl?n ag Ysgol Mounton House i’w chynnal ar ôl y broses ymgynghori.   

 

Roedd y Cynghorydd Watkins wedi gofyn i’r Cyngor, a’r swyddogion, i weithio gyda’r awdurdodau sydd am geisio sicrhau canlyniadau gwell.    

 

Roedd yr Aelod Cabinet wedi ymateb drwy ofyn i ni gydnabod nad yw’r gyfran o ddisgyblion yn Sir Fynwy sy’n derbyn prydau ysgol am ddim, ac wedi sicrhau o leiaf 5 TGAU rhwng graddau A* - C, gan gynnwys Saesneg, Mathemateg, yn ddigon uchel. Mae’r gagendor rhwng y plant hynny ac eraill yn rhy eang ac yn parhau yn flaenoriaeth allweddol.

 

Roedd Arweinydd yr Annibynwyr yn cytuno gyda’r drafodaeth hon ac wedi datgan y dylid cwestiynu’r  EAS er mwyn gweld a ydynt yn gwneud eu gorau glas. Dylid adolygu’r system gyfan. 

 

Roedd yr Aelod Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol wedi datgan fod y Weinyddiaeth yn parhau yn gwbl ymroddedig i gefnogi a rhoi’r cyfle gorau posib mewn bywyd i’r holl blant a phobl ifanc.  Cyfeiriodd at y meysydd sydd wedi eu hystyried drwy’r Gr?p Cyfiawnder Cymdeithasol, gan gynnwys datblygu Panel Help Cynnar; gweithio ag ACES; cadernid emosiynol ac iechyd meddwl; gweithio gyda’r adran dai a digartrefedd.  

 

Roedd y Cyngor wedi pleidleisio ar y cynnig, a gorchfygwyd y cynnig.  

 

 

6.

Adroddiad Blynyddol Swyddfa Cyngor ar Bopeth Sir Fynwy pdf icon PDF 58 KB

I roi cyfle i'r Aelodau drafod y gwaith a gofyn cwestiynau i Brif Weithredwr Cyngor ar Bopeth Sir Fynwy, sy'n rhoi cyngor i bobl leol, a'i gyfraniad at ddiben y Cyngor o adeiladu cymunedau cynaliadwy a chadarn.

 

 

Cofnodion:

Roedd yr Aelod Cabinet wedi cyflwyno Shirley Lightbound o Gyngor Ar Bopeth a oedd yno er mwyn diweddaru’r Aelodau a chyflwyno Adroddiad Blynyddol CAB

 

Roedd y prif ystadegau yn cynnwys:

 

·       Gweld mwy na 4000 o gleientiaid yn y 12 mis diwethaf, gyda phob un yn cyflwyno dau fater ar gyfartaledd.

·       Mae llawer o  gleientiaid am drafod budd-daliadau lles a chredydau treth. 

·       Ail-gyflwyno mwy na £2m i’r gymuned yn sgil enillion o weithio gyda chleientiaid. 

·       Ehangu’r gwasanaeth digidol, 27% o gleientiaid yn cysylltu gyda’r CAM dros y ffôn a 9% drwy’r rhyngrwyd.

·       Rhan fwyaf o gleientiaid dros 45, a hoffai CAB ddenu pobl iau. 

·       Gwasanaeth newydd er mwyn helpu unigolion i wneud cais am gredydau treth.  

 

Roedd yr Aelodau wedi diolch i Ms. Lightbound a Chyngor Ar Bopeth. 

 

7.

PARODRWYDD AR GYFER BREXIT pdf icon PDF 110 KB

Darparu gwybodaeth y diweddaraf i'r Aelodau yn unig ynghylch pa mor barod yw'r Cyngor ar gyfer Brexit.

 

 

Cofnodion:

Roedd y Cyngor wedi derbyn diweddariad gwybodaeth yn unig o ran Parodrwydd y Cyngor i ddelio gyda Brexit.

 

Mae Gr?p Gwaith Brexit sydd yn cynnwys Swyddogion o’r prif feysydd gwasanaeth allweddol wedi ei sefydlu, ac yn cwrdd pob pythefnos ac yn cael ei arwain gan Frances Williams, Prif Swyddog Mentergarwch.  Mae’r arweinwyr gwleidyddol yn cynnwys Peter Fox (Arweinydd) a’r Cynghorydd Phil Murphy (Aelodau Cabinet ar gyfer Adnoddau) tra bod Paul Matthews (Prif Weithredwr) yn cynrychioli ‘Greater Gwent’ ar Gr?p Parodrwydd UE Llywodraeth Cymru.  

 

Mynegwyd pryderon fod yr unig fewnbwn gwleidyddol yn dod o’r Gr?p Ceidwadol. 

 

Esboniodd y Prif Weithredwr fod hwn yn agenda technegol sydd o fewn cylch gorchwyl swyddogion, yn seiliedig ar asesiadau risg. Nid oedd yn ystyried yr angen ar hyn o bryd am gr?p gwaith trawsbleidiol. 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

8.

Adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau:

8a

Cwmni Datblygu Arfaethedig - Gwerthusiad Cychwynnol pdf icon PDF 98 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cyngor wedi derbyn adroddiad er mwyn ystyried canlyniad gwerthusiad cychwynnol i ddichonoldeb a’r angen gan y Cyngor i sefydlu ei gwmni masnachu ei hun er mwyn ymgymryd â datblygiadau preswyl a masnachol.  

 

Roedd y Cyngor llawn wedi cyfarwyddo swyddogion i gynnal gwerthusiad cychwynnol o’r dichonoldeb o ran creu cwmni datblygu preswyl er mwyn mynd i’r afael gyda’r diffyg o fewn y farchnad a thai rhent fforddiadwy. Yn y cyfamser, mae swyddogion wedi cynnal ymchwil ac wedi cwrdd ag uwch swyddogion ac ymgynghorwyr mewn cwmnïau masnachu cymharol er mwyn pennu pa wersi sydd i’w dysgu, fframweithiau cyfreithiol, ystyriaethau ariannol ac asesu’r dystiolaeth o ran y galw.

 

Roedd yr Aelod Cabinet ar gyfer Cyfiawnder Cymdeithasol wedi darparu gwybodaeth bellach am y strwythur o ddatblygu’r fath gwmni. Ychwanegodd y dylem fod yn anelu i adeiladu tai a chymunedau ac yn annog cadwyni cyflenwi SME lleol i ail-ddatblygu, swyddi uniongyrchol a phrentisiaethau: dylem fod yn anelu i sicrhau datblygiadau sydd yn bositif o ran carbon a bod buddiant gennym ynddynt; dylem fod yn mynd i’r afael gyda materion yma fel rhan o’r potensial sydd gennym fel tlodi ynni a theithio gweithgar. 

 

Gofynnwyd am eglurhad pellach o ran manylion yr adroddiad, a hynny o ran pwy oedd yn rhan o’r ymgynghoriad, a’r agenda cyfiawnder cymdeithasol. Er mwyn delio gyda’r pryderon yma, roedd Pennaeth Gwasanaethau Masnachol a Landlordiaid Integredig wedi esbonio mai’r bwriad yw ymatal rhag cystadlu gyda’r Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a cheisio ystyried  cyfiawnder cymdeithasol yn ei gyd-destun ehangach. 

 

Cyfeiriwyd at fanteision Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol a Chwmnïau Budd Cymunedol.  Awgrymwyd fod hyn yn medru cynnig cyfleoedd newydd gyda ffynonellau cyllid ychwanegol, a phartneriaethau newydd. 

 

Eglurodd y Prif Weithredwr nad yw hyn yn achos busnes eto, ond yn hytrach, maent yn ceisio creu fframwaith  rhyddhau er mwyn i ni fedru ystyried unrhyw beth sydd ar y farchnad sydd yn medru datblygu blaenoriaethau a gwaith y Cyngor. 

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet ar gyfer adnoddau y bydd hyn, pan fydd wedi ei ddatblygu yn llawn, yn rhoi llawer iawn mwy o ddylanwad yn y farchnad nag sydd gennym ar hyn o bryd drwy’r system gynllunio.  Drwy ddatblygu safleoedd gyda phartneriaid menter, rydym yn medru dylanwadu’r farchnad a rheoli faint o elw a wneir, er budd y cyhoedd.  

 

Yn dilyn pleidlais, roedd y Cyngor wedi derbyn yr argymhelliad:

 

Cymeradwyo canfyddiadau'r gwerthusiad cychwynnol a chytuno i ymgymryd ag achos busnes manwl er mwyn sefydlu’r strwythur masnachu arfaethedig, hyfywedd ariannol a’r canlyniadau cymdeithasol.  

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

9.

Adroddiad y Prif Swyddog Menter:

9a

MonLife - y Diweddaraf pdf icon PDF 301 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cyngor wedi derbyn yr adroddiad a oedd yn cynghori’r Aelodau mai’r model  mwyaf ffafriol ar gyfer parhau i ddarparu gwasanaethau Twristiaeth, Diwylliant, Hamdden ac Ieuenctid yw model mewnol o fewn y Cyngor gydag ymroddiad i raglen sylfaenol o adfywio a thrawsnewid.  

 

Roedd yr Arweinydd wedi cyflwyno’r adroddiad ar ran Cynghorydd  Greenland, ac wrth wneud hyn, rhoddwyd canmoliaeth i’r staff am y gwaith sylweddol sydd wedi ei wneud ar hyn.

 

Cynigiodd argymhelliad pellach fod y Cyngor yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn iddynt eithrio’r holl ganolfannau hamdden sy’n berchen i’r Cyngor o’r NNDR.

 

Yn dilyn pleidlais, roedd y Cyngor wedi derbyn yr argymhellion gan gynnwys argymhelliad 2.7:

 

2.1 Mae’r Cyngor yn cytuno gydag ymatal rhag gosod Twristiaeth, Hamdden, Ieuenctid a Hamdden yn nwylo allanol ond sicrhau bod y gwasanaethau yma yn parhau yn fewnol gydag ymroddiad at raglen sylfaenol o adfywio a thrawsnewid. 

2.2 Mae’r Cyngor yn cydnabod yr angen am broses eang o ran adolygu polisïau er mwyn creu awyrgylch gweithredol sydd yn manteisio ar allu’r gr?p gwasanaeth i symud tuag at fodel cynaliadwy o gyflenwi. Bydd y gwaith yn dod i ben gyda’r Aelod Cabinet sydd â’r portffolio erbyn haf 2019.

2.3 Mae’r Cyngor yn cytuno i fabwysiadu dyfarniad  Ealing a thrin ein TAW ar gyfleusterau hamdden fel rhywbeth sydd wedi ei eithrio.  

2.4 Yn cydnabod bwriad yr Aelodau Cabinet i sefydlu Bwrdd Cynghori allanol er mwyn gweithio gyda hwy er mwyn cynnig barn wahanol o ran y gr?p  gwasanaeth.  Bydd aelodau cyfredol o’r bwrdd a sefydlwyd er mwyn  datblygu MonLife yn cael eu gwahodd i ymuno gyda’r Bwrdd Cynghori er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i ymgysylltu yn effeithiol gyda’r maes gwasanaeth os ydynt yn dymuno gwneud hyn.

2.5 Yn cydnabod fod y Prif Weithredwr yn rhoi ystyriaeth i’r uwch swyddogion sydd yn adrodd am drefniadau er mwyn sicrhau bod y gr?p gwasanaeth yn chwarae mwy o ran yn y broses o wneud penderfyniadau ar draws y mudiad. 

2.6 Yn ymwybodol o fwriad yr Aelodau Cabinet i gomisiynu gwaith er mwyn datblygu strategaeth fuddsoddi cyfalaf aml-flynyddol ar gyfer y gr?p gwasanaeth, a hynny fel bod modd ei ystyried gan y Cyngor. 

2.7 Ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn iddynt eithrio’r holl ganolfannau hamdden sy’n berchen i’r Cyngor o’r NNDR.

 

 

 

 

 

 

 

10.

I gadarnhau cofnodion cyfarfodydd y Cyngor Sir ar 3ydd Mawrth 2019 pdf icon PDF 105 KB

Cofnodion:

Roedd cofnodion  cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 3ydd Mawrth  2019 wedi eu cadarnhau a’u llofnodi gan y Cadeirydd. 

.

11.

I nodi cofnodion canlynol cyfarfodydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd:

11a

3ydd Rhagfyr 2018 pdf icon PDF 63 KB

Cofnodion:

Wedi’i nodi.

 

11b

7fed Ionawr 2019 pdf icon PDF 48 KB

Cofnodion:

Wedi’i nodi.

 

12.

I nodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 31ain Ionawr 2019 pdf icon PDF 88 KB

Cofnodion:

Wedi’i nodi.