Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd datganiadau o fuddiant.

 

2.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd.

 

3.

Derbyn deisebau

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Sir Su McConnell ddeiseb yn gwrthwynebu defnyddio tarmac/asffalt a gridiau gwartheg yn Nolydd y Castell, y Fenni. Gofynnodd i Gyngor Sir Fynwy ddefnyddio systemau draeniad cynaliadwy eraill a chanfod dewis arall addas heblaw gridiau gwartheg.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Sir Emma Bryn ddeiseb ar ran preswylwyr cymuned Wyesham yn galw am atgyweirio a chynnal a chadw yr offer chwarae a draeniad adferol yn yr ardal chwarae cymunedol yn Heol Tudor, Underhill, Wyesham.

 

4.

Ethol Arweinydd y Cyngor Sir a derbyn hysbysiad o ddirpwyadau gan yr Arweinydd (penodiadau i’r Cabinet)

Cofnodion:

Fe wnaeth y Cynghorydd Sir Paul Griffiths enwebu y Cynghorydd Sir Mary Ann Brocklesby yn Arweinydd y Cyngor am y flwyddyn 2022/23. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir Rachel Garrick.

 

Nid oedd enwebiadau eraill a phan roddwyd y mater i bleidlais cafodd y Cynghorydd Sir Mary Ann Brocklesby ei phenodi’n Arweinydd.

 

Diolchodd y Cynghorydd Sir Brocklesby i’r Cyngor a dywedodd mai’r penodiadau i’r Cabinet yw:

 

Cynghorydd Sir Paul Griffiths – Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabint dros yr Economi a Bywoliaethau Cynaliadwy

Cynghorydd Sir Rachel Garrick – Aelod Cabinet dros Adnoddau.

Cynghorydd Sir Martyn Groucutt – Aelod Cabinet dros Addysg.

Cynghorydd Sir Tudor Thomas – Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch.

Cynghorydd Sir Sara Burch – Aelod Cabinet dros Gymunedau Cynhwysol ac Egnïol.

Cynghorydd Sir Catrin Maby – Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd ac Amgylchedd.

Cynghorydd Sir Catherine Fookes – Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu

 

Llongyfarchwyd yr Arweinydd gan Arweinwyr y Grwpiau Gwrthbleidiol a ddywedodd eu bod yn edrych ymlaen at weithio gyda’r arweinyddiaeth newydd.

 

Gadawodd y Cynghorydd Sir Jane Lucas y cyfarfod am 14:16pm.

 

 

5.

Cynrychiolaeth Grwpiau Gwleidyddol pdf icon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Pobl a Llywodraethiant a Swyddog Monitro yr adroddiad i’r Cyngor i adolygu cynrychiolaeth gwahanol grwpiau gwleidyddol ar y cyrff y mae’r Cyngor yn gwneud penodiadau iddynt.

 

Mewn pleidlais penderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhelliad:

 

Bod y Cyngor yn derbyn yr adroddiad (a’r atodiadau) fel adolygiad dan Adran 15 Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 i ddyrannu cymunedau cyffredin i ddechrau gyda’r niferoedd a ddangosir isod fel cynrychiolaeth deg:

 

Pwyllgor

Llafur

Cymru

Ceidwadwyr

Cymru

Gr?p

Annibynnol

Craffu (x4) (9)

16

15

5

Trwyddedu a Rheoleiddio (12)

6

5

1

Cynllunio (16)

8

6

2

Gwasanaethau Democrataidd (23)

6

4

2

Archwilio (8)

noder – mae hefyd 4 aelod lleyg

4

3

1

Hawl Cronnus (84)

40

33

11

 

 

6.

Penodiadau i Bwyllgorau pdf icon PDF 232 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Pobl a Llywodraethiant a’r Swyddog Monitro yr adroddiad er mwyn penodi pwyllgorau ynghyd â’u haelodaeth a chylch gorchwyl yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor.

 

Roedd yn ofynnol i’r Cyngor ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer y flwyddyn 2022/23.

 

Mewn pleidlais, penderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhellion:

 

Bod y pwyllgorau yn cael eu penodi ynghyd â’u haelodaeth fel y’u nodir yn yr adroddiad, a’u cylch gorchwyl a atodir fel atodiadau.

 

Bod y Cyngor yn penodi’r Cynghorydd Sir David Jones fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

 

7.

Penodiadau i Gyrff Allanol pdf icon PDF 9 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyrflwynodd y Prif Swyddog Pobl a Llywodraethiant a’r Swyddog Monitro yr adroddiad i benodi cynrychiolwyr ar gyrff allanol.

 

Cyflwynodd Arweinwyr Grwpiau y sylwadau.

 

Yn dilyn pleidlais penodwyd y Cynghorydd Sir Emma Bryn yn gynrychiolydd ar Gyngor Llyfrrau Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais i benodi cynrychiolwyr ar Fwrdd Partneriaeth Gwastadeddau Byw. Penodwyd y Cynghorwyr Sir Catrin Maby a Frances Taylor.

 

Gofynnwyd am ddod ag adroddiad pellach yn y dyfodol i drin unrhyw swyddi gwag.

 

Penderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhellion:

 

Bod y Cyngor yn gwneud apwyntiadau i’r cyrff allanol a nodir yn yr atodlen amgaeedig, ac eithrio’r cyd-bwyllgorau a restrir yng Nghategori B, sy’n benodiadau gan y Cabinet.

 

P:\Local Democracy\Democratic Serv\Staff\Outside bodies\2022\FInal Representation on outside bodies May 2022.doc

 

8.

Adolygiad o’r Cyfansoddiad pdf icon PDF 237 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Llywodraethiant a’r Swyddog Monitro yr adroddiad i’r Cyngor i ystyried Cyfansoddiad Cyngor Sir Fynwy wedi’i ddiweddaru.

 

Dywedodd y Cynghorydd Sir Rachel Garrick fod angen diweddaru ’26.5.2 Dirprwyadau Eraill’.

 

Penderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhelliad:

 

Bod y Cyngor llawn yn cymeradwyo’r Cyfansoddiad a adolygwyd ac a ddiweddarwyd.

 

9.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2022 pdf icon PDF 458 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2022.