Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb |
|
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21ain Gorffennaf 2022 PDF 423 KB |
|
Datganiadau o Fuddiant |
|
Cwestiynau Cyhoeddus |
|
Cyhoeddiad y Cadeirydd – Ei Mawrhydi’r Frenhines Elizabeth II |
|
Adroddiadau i’r Cyngor: |
|
DATBLYGU CYNLLUN DATBLYGU LLEOL DIWYGEDIG 2022 SIR FYNWY PDF 295 KB Dogfennau ychwanegol:
|
|
CYNIGION AR GYFER YR AFONYDD A’R MÔR PDF 273 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Dogfennau ychwanegol: |
|
HUNAN-ASESIAD CYNGOR SIR FYNWY 2021/22 PDF 540 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Cynigion i’r Cyngor: |
|
Cynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir Ian Chandler Mae’r Cyngor yma yn nodi:
Roedd y Datganiad o Argyfwng Hinsawdd a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 16eg Mai 2019 yn cynnwys yr ymrwymiadau:
· Bydd y Cyngor hwn yn parhau i adolygu’r Cynllun Corfforaethol, y Cynllun Llesiant, Cynlluniau Datblygu Lleol ac unrhyw gynlluniau a pholisïau perthnasol eraill er mwyn cefnogi’r uchod. · Yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y Sir a Chynghorau a mudiadau eraill i helpu datblygu a gweithredu arferion gorau wrth gyfyngu ar y cynhesu byd-eang i lai na 1.5 gradd Celsius. Mae deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i atgyfnerthu egwyddorion datblygu cynaliadwy ym mhob un practis.
Mae’r Cyngor hwn yn nodi hefyd:
Mae angen i’r Cyngor yn gyfreithiol i ddal o leiaf £10 miliwn mewn arian parod wrth gefn, ac er mwyn rheoli’r llif arian sydd yn amrywio, mae’r Cyngor fel arfer yn dal rhwng £10 miliwn ac £16 miliwn mewn arian parod wrth gefn sy’n cael ei fuddsoddi.
Y Cyngor yw Ceidwad Buddsoddiad cyrff eraill gan gynnwys Cronfa Eglwys Cymru ac Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy, ac mae eu buddsoddiad cyfun hwy yn fwy na £5 miliwn.
Mae’r Cyngor yn rhan o Gronfa Pensiwn Gwent Fwyaf sydd yn meddu ar asedau sy’n cael eu buddsoddi gwerth mwy na £3.7 biliwn.
Mae’r Cyngor yn cytuno i: a) Ymchwilio pa mor gyfrifol y mae’r Cyngor yn buddsoddi ei falans arian parod b) Datblygu polisi buddsoddi cynaliadwy sydd yn gyson gyda Datganiad o Argyfwng Hinsawdd y Cyngor a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. c) Gweithio gyda Chronfa Pensiwn Gwent Fwyaf er mwyn mabwysiadu polisi buddsoddi cynaliadwy tebyg.
|
|
Cynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir Frances Taylor Mae’r Cyngor hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu eu polisi a’u dull o weithio o ran Ardrethi Annomestig ar gyfer busnesau bach.
O’r 1af Ebrill 2022, mae’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Annomestig ar gyfer Busnesau wedi ei ddiwygio er mwyn lleihau’r lefel o ryddhad y mae busnesau bach yn derbyn erbyn hyn, a hynny hyd at uchafswm o 50%. Mae hyn yn golygu bod busnesau a fu cyn hyn yn medru manteisio ar y ffaith nad oeddynt yn gorfod talu, nawr yn gorfod talu 50% o’u biliau cyfradd dreth ar ôl derbyn unrhyw ryddhad arall sydd yn berthnasol.
Wrth gydnabod y storm berffaith sydd yn wynebu busnesau bach o ran costau, egni a chyflenwadau gyda nifer yn parhau i ddelio gyda phethau ar ôl pandemig Covid-19, bydd y Cyngor yn ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn gofyn am adolygiad o’r polisi cyfredol.
|
|
Dyddiad y cyfarfod nesaf – 27ain Hydref 2022 |