Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb |
|
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2022 PDF 344 KB |
|
Datganiadau o Fuddiant |
|
Cwestiynau Cyhoeddus |
|
Cyhoeddiadau Aelodau Cabinet |
|
Cynghorydd Sir Catherine Fookes, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu – Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a thlodi |
|
Cynghorydd Sir Catrin Maby, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd – Mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur |
|
Cynigion i’r Cyngor |
|
Cyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir Jill Bond Cynnig Argyfwng mewn Costau Byw
Mae ein preswylwyr yn wynebu argyfwng mewn costau byw. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, dywedodd 88% o oedolion ym Mhrydain Fawr y bu cynnydd yn eu costau byw ym mis Mai 2022, oherwydd amrywiaeth o ffactorau yn cynnwys cynnydd mewn chwyddiant, cynnydd mewn prisiau ynni a chynnydd yn nhrethi’r llywodraeth. Ar gyfartaledd bydd aelwydydd Cymru o leiaf £600 yn waeth eu byd eleni yn ôl adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.
Bu costau byw yn cynyddu ar draws y Deyrnas Unedig ers dechrau 2021. Ym mis Ebrill 2022 cyrhaeddodd chwyddiant y lefel uchaf a gofnodwyd ac mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif ei fod yn awr yn uwch nag ar unrhyw amser ers tua 1982, gan effeithio ar ba mor fforddiadwy yw nwyddau a gwasanaethau ar gyfer aelwydydd.
Mae’r Cyngor yn nodi:
Bod yr argyfwng costau byw yn fater allweddol i ni yng Nghyngor Sir Fynwy, mewn sefyllfa o ffactorau ariannol ar lefel genedlaethol a rhyngwladol, tebyg i’r rhyfel yn Wcráin.
Yr angen i ni fel awdurdod lleol sicrhau y caiff ein preswylwyr eu cefnogi yn ystod y cyfnodau cynyddol anodd hyn, yn arbennig wrth i ni fynd i’r hydref a’r gaeaf.
Effaith anghymesur yr argyfwng ar aelwydydd incwm isel, fydd yn gwario cyfran uwch o’u hincwm na’r cyfartalog ar ynni a bwyd ac y bydd cynnydd mewn prisiau felly’n effeithio mwy arnynt, gan arwain at lai o incwm gwario.
Y gwaith a wnawn ar hyn o bryd fel cyngor ym mhob adran i gefnogi ein preswylwyr mwyaf bregus, yn cynnwys:
Mae’r Cyngor yn penderfynu:
Ein bod yn ymrwymo ein hunain fel Cyngor i weithio gyda’n teuluoedd a’n cymunedau, gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddarparu cymorth ymarferol i’r rhai sydd fwyaf ei angen.
Ein bod yn sicrhau y byddwn yn parhau i weithredu mewn dull cydlynus i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw.
|
|
Cyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir Richard John Mae’r Cyngor hwn yn: Gwrthwynebu unrhyw gynigion gan Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i israddio’r gorsafoedd ambiwlans yn Nhrefynwy a Chas-gwent drwy dynnu’r Cerbydau Ymateb Cyflym. Galw ar uwch swyddogion Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i fynychu’r pwyllgor dethol perthnasol ar gyfer craffu cyn-penderfyniad o’u cynigion adolygu roster genedlaethol cyn i Lywodraeth Cymru eu cymeradwyo a’u gweithredu.
|
|
Cwestiynau gan Aelodau |
|
Gan y Cynghorydd Sir Fay Bromfield i’r Cynghorydd Sir Catrin Maby, Aelod Cabinet dros newid Hinsawdd a’r Amgylchedd A wnaiff yr Aelod Cabinet roi diweddariad ar gamau i fynd i’r afael â goryrru yn Llantrisant?
|
|
Gan y Cynghorydd Sir Richard John i’r Cynghorydd Sir Rachel Garrick, Aelod Cabinet dros Adnoddau Pa asesiad a wnaeth y weinyddiaeth am effaith ailbrisiad arfaethedig Llywodraeth Cymru o’r dreth gyngor ar breswylwyr Sir Fynwy?
|
|
Dyddiad y cyfarfod nesaf – 22 Medi 2022 |