Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd dilynol: |
|
Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 17 Mai 2022.
|
|
Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 19 Mai 2022.
|
|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
|
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Cofnodion: Nid oedd unrhyw gwestiynau gan y Cyhoedd.
|
|
Cyhoeddiad y Cadeirydd a derbyn deisebau PDF 324 KB Cofnodion: Ni chyflwynwyd unrhyw ddeisebau.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg, teimlai’r Cyngor Simon Howarth ei bod yn bwysig fod y Cyngor yn hyrwyddo menywod ym maes peirianneg.
|
|
Maes Llafur a Gytunwyd gan Sir Fynwy ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg PDF 147 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Sir Martyn Groucutt, Aelod Cabinet dros Addysg, yr adroddiad er mwyn i’r Cyngor dderbyn ac ystyried y darpar Faes Llafur a Gytunwyd gan Sir Fynwy ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Wrth wneud hynny, llongyfarchodd yr Aelod Cabinet aelodau pwyllgor CYSAG ar baratoi’r ddogfen newydd.
Nodwyd y cafodd unrhyw ddryswch am ffurf y maes llafur ei drin ar gyfer fersiwn terfynol y ddogfen.
Cytunodd yr Aelod Cabinet i adolygu’r Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb i sicrhau eglurhad rhwng Cydberthynas a Rhyw â Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg.
Mewn pleidlais penderfynodd y Cyngor i dderbyn yr argymhelliad:
Bod y Cyngor yn mabwysiadu Maes Llafur a Gytunwyd gan Sir Fynwy ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.
|
|
Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, Ysgol 3-19 y Fenni PDF 720 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Martin Groucutt, Aelod Cabinet dros Addysg, yr adroddiad i geisio cymeradwyaeth y Cyngor i gynnwys adeiladu ysgol 3-19 newydd ar safle Brenin Harri VIII yn Rhaglen Cyllid Cyfalaf y Cyngor. Sefydlir yr ysgol 3-19 newydd drwy gau Ysgolion Brenin Harri VIII ac Ysgol Deri View, fel y cytunwyd yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Sir Fynwy ar 19 Ionawr 2022. Bydd y cyllid yn galluogi adleoli Ysgol y Fenni i safle presennol Deri View.
Roedd llawer o Aelodau yn awyddus i gefnogi’r argymhellion a chymeradwyo’r prosiect.
Gofynnwyd am sicrwydd y caiff cynlluniau cadarn ar gyfer teithio llesol eu datblygu ac y gosodir targedau o’r cam cynllunio, gan hyrwyddo opsiynau teithio llesol a chynaliadwy i sicrhau nad yw tagfeydd traffig yn gysylltiedig ag ysgolion yn arwain at ansawdd aer gwael yn yr ardal leol.
Gwnaed yr argymhellion dilynol i gefnogi’r datblygiad:
· Ymgysylltu gyda phreswylwyr o bob oed. · Safle dros dro yn y dref ar wahanol gyfnodau o gwblhau’r gwaith i gynyddu ymgysylltu, efallai safle parhaol yn y farchnad. · Cystadleuaeth i greu celfwaith neu gerflun i gael ei leoli yn yr ysgol. · Ymestyn llwybrau seiclo diogel i safle gollwng ar ymyl y dref lle gellid gosod raciau beic.
Ar ran y Gr?p Ceidwadol, canmolodd Arweinydd yr Wrthblaid yr holl swyddogion a fu’n ymwneud â’r prosiect a Ms. Lewis am ei harweinyddiaeth. Holodd os oedd swyddogion yn hyderus y bydd y cladin a ddefnyddir yn gynaliadwy.
Diolchodd Arweinydd y Cyngor i Lywodraeth Cymru am y buddsoddiad oedd yn galluogi datblygiad y drydedd Ysgol 21ain Ganrif.
Gofynnwyd cwestiwn am agwedd economaidd-gymdeithasol yr Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb a’r effaith ar y rhai sy’n derbyn prydau ysgol am ddim. Roedd yr Aelod Cabinet dros Addysg yn gefnogol i’r Asesiad ac esboniai y credai y byddai anghenion plant oedran cynradd yn cael eu diwallu’n llawer mwy effeithiol nag a fu’n bosibl yn y gorffennol.
Roedd swyddogion wedi rhoi sicrwydd yn flaenorol i’r Cynghorydd Sir Tony Easson na fyddai’r paneli cladin a ddefnyddir yn cynhyrchu fawr neu ddim mwg ac na fyddent yn cynhyrchu diferion fflamychol.
Mewn pleidlais penderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhellion:
Bod y Cyngor yn nodi y cafwyd cymeradwyaeth y Gweinidog i’r Achos Busnes Llawn yn gadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru a’u cyfraniad o £47,024,335 (67%) tuag at gyfanswm cost adeiladu ysgol 3-19 newydd o £69,292,62
Bod y Cyngor yn cymeradwyo cynyddu’r gyllideb gymeradwy o fewn Rhaglen Gyfalaf y Cyngor o £43,000,000 i £69,792,623, gan adlewyrchu’r gost adeiladu ddiwygiedig o £69,292,623 a £500,000 ychwanegol sydd ei angen ar gyfer gwelliannau cysylltiedig i briffyrdd.
Bod y Cyngor yn nodi y bydd y cynnydd yn y gyllideb angen ymrwymiad pellach o fenthyca’r Cyngor o £7,718,288 a bod costau cyllideb refeniw dilynol ar gyfer gwasanaethu’r benthyca hyn fel yr amlinellir yn adran adnoddau yr adroddiad hwn.
Bod y Cyngor yn nodi penodi Morgan Sindall Construction i adeiladu’r ysgol 3-19 newydd.
Datgan bod Ysgol Gynradd Gymraeg y Fenni dros ben y gofynion, ac y bydd y Tîm Datblygu Stadau yn gwaredu â hi ar delerau i’w cytuno mewn ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
Penodiadau i Gyrff Allanol – lleoedd gwag PDF 93 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog Pobl a Llywodraethiant yr adroddiad i drin gweddill y lleoedd gwag ar yr adroddiad Cyrff Allanol a drafodwyd yng nghyfarfod y Cyngor Sir ar 19 Mai 2022.
Nodwyd fod dau le gwag yn dal i fod ar yr adroddiad.
Mewn pleidlais penderfynodd y Cyngor i dderbyn yr argymhelliad:
Bod y Cyngor yn gwneud apwyntiadau i’r cyrff allanol a nodir yn yr atodlen. |
|
Cynigion i’r Cyngor: |
|
Cyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir Frances Taylor Bod y Cyngor hwn yn cytuno i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Lleol i ofyn am adolygiad o’r fformiwla sy’n sylfaen i gyllid neilltuedig awdurdodau lleol drwy setliad Llywodraeth Leol. Yn arbennig, y caiff elfennau’r fformiwla sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau mewn ardal sirol gan fwyaf eu hailystyried.
Cofnodion: Bod y Cyngor hwn yn cytuno i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol er mwyn gofyn am adolygu’r fformiwla sy’n sail i gyllid awdurdodau lleol sydd heb ei neilltuo drwy’r setliad llywodraeth leol. Yn arbennig, bod ailystyried yr elfennau o’r fformiwla sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau mewn sir wledig gan fwyaf.
Cafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd Sir Ian Chandler.
Roedd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau yn cydnabod fod Fformiwla Barnett wedi arwain at ddyraniadau gwael i Gymru dros y blynyddoedd ac wedi ei feirniadu’n gyhoeddus gan lawer am ei fethiant i ddeall cyfansoddiad poblogaeth Cymru. Cytunodd y gallai’r Cyngor ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ar y cynnig ond tynnodd sylw at y ffaith y caiff y fformiwla ei hadolygu’n flynyddol.
Clywsom fod tlodi ac anghydraddoldeb yn ffocws allweddol i’r weinyddiaeth ac mai dyma’r brif flaenoriaeth ar y maniffesto. Mae targedau cliriach yn nhermau’r cynllun gweithredu tlodi a’r strategaeth cyfiawnder cymdeithasol i gael eu gweithredu.
Mewn pleidlais penderfynodd y Cyngor yn unfrydol i dderbyn y cynnig.
|
|
Cyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir Richard John Mae’r Cyngor hwn yn: Cofnodi ei edmygedd enfawr a’i ddiolch calonnog i’w Mawrhydi y Frenhines am oes o wasanaeth cyhoeddus ymroddedig ac yn croesawu’r dathliadau cymunedol llwyddiannus ledled Sir Fynwy i nodi Jiwbilî Platinwm y Frenhines. Mae’n cytuno y bydd pob arweinydd gr?p yn llofnodi llythyr ar y cyd i’w Mawrhydi ar ran pobl Sir Fynwy gan gynnig ein llongyfarchiadau a diolch twymgalon am bopeth a wnaiff Ei Mawrhydi a’r Teulu Brenhinol dros ein preswylwyr.
Cofnodion: Mae’r Cyngor hwn yn cofnodi ei edmygedd enfawr a’i ddiolch twymgalon i’w Mawrhydi y Frenhines am oes o wasanaeth cyhoeddus ymroddedig ac yn croesawu’r dathliadau cymunedol llwyddiannus a gynhelir ar draws Sir Fynwy i nodi Jiwbilî Platinwm Ei Mawrhydi.
Mae’r Cyngor yn cytuno y bydd yr holl arweinwyr gr?p yn llofnodi llythyr ar y cyd i’w Mawrhydi ar ran pobl Sir Fynwy yn cynnig ein llongyfarchiadau gwresog a’n diolch am bopeth a wnaiff Ei Mawrhydi a’r Teulu Brenhinol dros ein preswylwyr.
Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Sir Lisa Dymock a soniodd am y digwyddiadau a gynhaliwyd ar draws y Sir ar gyfer dathliadau’r Jiwbilî Platinwm.
Clywsom am lyfr coffa a ddosberthir i bob plentyn ysgol cynradd ar draws Cymru.
Croesawodd yr arweinwyr gr?p y cynnig ac mewn pleidlais penderfynodd y Cyngor i dderbyn y cynnig.
|
|
Cyflwynir gan y Cynghorydd Sir Tony Kear Mae’r Cyngor hwn yn: Nodi penderfyniad y cyngor llawn ym mis Mawrth i ddod y cyntaf yng Nghymru i ddatgan argyfwng ansawdd d?r a chomisiynu strategaeth i wella ein dyfrffyrdd. Pryderu’n ddifrifol am y dirywiad yng nghyflwr yr afonydd Gwy a Wysg yn Sir Fynwy ac yn arbennig yr allyriadau gormodol a heb drwydded o garthffosiaeth amrwd i’r Wysg sy’n bygwth bioamrywiaeth a bywyd gwyllt yn ogystal â nifer pysgod. Ymrwymo’r Arweinydd a’r Aelod Cabinet i weithio gyda’r gwrthbleidiau ac awdurdodau perthnasol i sicrhau y gweithredir i wella iechyd ein hafonydd cyn ei bod yn rhy hwyr.
Cofnodion: Mae’r Cyngor hwn yn: Nodi penderfyniad y cyngor llawn ym mis Mawrth i ddod y cyntaf yng Nghymru i ddatgan argyfwng ansawdd d?r a chomisiynu strategaeth i wella ein dyfrffyrdd. Pryderu’n fawr am y dirywiad yng nghyflwr yr Afon Gwy a’r Afon Wysg yn Sir Fynwy ac yn neilltuol arllwys carthffosiaeth amrwd yn ormodol a heb drwydded i’r Afon Wysg sy’n bygwth bioamrywiaeth a bywyd gwyllt yn ogystal â nifer y pysgod. Ymrwymo’r Arweinydd a’r Aelod Cabinet i weithio gyda’r gwrthbleidiau ac awdurdodau perthnasol i sicrhau y gweithredir i wella iechyd ein hafonydd cyn iddi fod yn rhy hwyr.
Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Sir Jane Lucas.
Gadawodd y Cynghorydd Sir Simon Howarth y cyfarfod am 16:09pm.
Croesawodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd y cynnig a’i gymeradwyo yn llawn. Esboniodd ei bod eisoes wedi ymestyn mas at Gyngor Powys a Chyngor Swydd Henffordd, yn ogystal â grwpiau cymunedol sy’n bryderus am les ein hafonydd. Cafodd y Cynghorydd Maby hefyd ei gwahodd i gyfarfod gydag AS Henffordd ac mae wedi cwrdd gyda D?r Cymru ynghyd â staff y Cyngor.
Wrth gefnogi’r cynnig, dywedodd yr Aelod Cabinet y caiff y drychineb ecolegol a welwn yn ein hafonydd ei hachosi gan arllwysiad carthffosiaeth ond hefyd gan arferion rheoli tir amaethyddol, yn neilltuol ffermio dofednod dwyster uchel a ffermio gwartheg gor-ddwys.
Cynigiodd y Cynghorydd Sir Ian Chandler welliant i’r cynnig, a eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Frances Taylor.
Mae’r Cyngor hwn yn: Nodi penderfyniad y cyngor llawn ym mis Mawrth i ddod y cyntaf yng Nghymru i ddatgan argyfwng ansawdd d?r a chomisiynu strategaeth i wella ein dyfrffyrdd. Pryderu’n fawr am y dirywiad yng nghyflwr yr Afon Gwy a’r Afon Wysg yn Sir Fynwy a’r ffynonellau lluosog o ffosffadau a llygrwyr eraill yn cynnwys y rhai sy’n tarddu i fyny’r afon tu allan i Sir Fynwy, sy’n bygwth bioamrywiaeth a bywyd gwyllt yn ogystal â nifer y pysgod. Ymrwymo’r Arweinydd a’r Aelod Cabinet i weithio gyda grwpiau’r gwrthbleidiau ac awdurdodau perthnasol yn cynnwys Cyngor Sir Powys a Chyngor Swydd Henffordd i sicrhau y gweithredir i wella iechyd ein hafonydd cyn iddi fod yn rhy hwyr.
Yn dilyn trafodaeth penderfynodd y Cyngor dderbyn y gwelliant, a ddaeth y prif gynnig.
Mewn pleidlais penderfynodd y Cyngor dderbyn y cynnig.
|
|
Cyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir Louise Brown Mae’r Cyngor hwn yn: Nodi bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio symud ymlaen ag astudiaeth WelTAG 2 ar yr opsiynau ar gyfer gwella cylchfan High Beech yng Nghas-gwent eleni. Galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo fel mater o frys a rhoi cefnogaeth ariannol i bob un o bump cam yr astudiaeth hon a gweithredu astudiaethau a gwelliannau cylchfan High Beech fel blaenoriaeth, gan fod y tagfeydd traffig dyddiol ac oedi wrth deithio yn y man gwasgu hwn yn cael effaith niweidiol ar fywyd preswylwyr lleol o bob cefndir yn cynnwys teithio i’r ysgol, gwaith, siopa a dibenion hamdden.
Cofnodion: Mae’r Cyngor hwn yn: Nodi bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio symud ymlaen gydag astudiaeth WelTAG 2 ar yr opsiynau ar gyfer gwella cylchfan High Beech yng Nghas-gwent eleni. Galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo fel mater o frys a rhoi cefnogaeth ariannol i bob un o bum cam yr astudiaeth a gweithredu astudiaethau a gwelliannau cylchfan High Beech fel blaenoriaeth, gan fod y tagfeydd traffig dyddiol a’r oedi teithio hysbys iawn ar y man gwasgu hwn yn cael effaith niweidiol ar fywydau preswylwyr ym mhob maes o fywyd yn cynnwys teithio i’r gwaith, ysgol, siopa a dibenion hamdden.
Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Sir Ann Webb.
Cydnabuwyd fod hwn yn bwnc llosg ar gyfer y rhai sy’n byw yng Nghas-gwent.
Awgrymwyd fod lled-bedestraneiddio canol y dref wedi cyfrannu at y problemau traffig.
Dywedwyd fod preswylwyr ward Mount Pleasant yn dioddef o rai o’r lefelau llygredd gwaethaf nid dim ond yng Nghymru ond ym Mhrydain a’u bod yn haeddu cael rhywbeth wedi’i wneud i liniaru eu sefyllfa.
Anogodd y Dirprwy Arweinydd y Cyngor i gefnogi’r cynnig, gan ddweud fod achos cryf iawn dros wella’r gylchfan. Cytunodd bod yr effaith ar lwyddiant ac egni Cas-gwent fel canol tref yn ogystal ag ar gyfer gyrwyr. Byddai cytuno ar y cynnig yn galluogi’r Cabinet i gysylltu â’r Gweinidog Trafnidiaeth i ddweud fod cyllid ar gyfer astudiaeth WelTag yn fater o frys.
Cafodd y cynnig ei gario pan gafodd ei roi i bleidlais.
|
|
Cwestiynau gan Aelodau: |
|
Gan y Cynghorydd Sir Paul Pavia i’r Cynghorydd Sir Martyn Groucutt, Aelod Cabinet dros Addysg
A all yr Aelod Cabinet dros Addysg wneud datganiad ynghylch y camau y mae’r Cyngor yn eu cymryd i roi cymorth iechyd meddwl ar gyfer disgyblion cyfnod Allweddol 4 a Chweched Dosbarth yn Sir Fynwy?
Cofnodion: A all yr Aelod Cabinet dros Addysg wneud datganiad ynghylch y camau y mae’r Cyngor yn eu cymryd i ddarparu cymorth iechyd meddwl ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 4 a Chweched Dosbarth yn Sir Fynwy?
Gadawodd y Cynghorwyr Sir Tony Easson a Richard John y cyfarfod am 17:38pm
Diolchodd yr Aelod Cabinet i’r aelod am y cwestiwn a ddaeth ar amser cyfleus i ystyried profiadau dysgwyr a fydd newydd sefyll y set gyntaf o arholiadau ffurfiol ers 2019. Mae haenau ychwanegol profiad Covid wedi tarfu ar ddysgu a chynyddu pryderon. Mae llu o ddulliau i gefnogi dysgwyr ac ystod eang o gymorth ar gael gan bartneriaid o fewn a hefyd tu allan i Gyngor Sir Fynwy. Ar y lefel ehangaf caiff ymagwedd gyffredinol ar lesiant emosiynol a iechyd meddwl ei sefydlu. Mae pob ysgol yn gweithio tuag at ymwreiddio ymagwedd ysgol gyfan at iechyd a lles meddwl, mae hyn yn cynnwys cymorth iechyd meddwl. Mae Ysgolion Brenin Harri VIII ac Ysgol Cas-gwent wedi cymryd rhan yng nghynllun peilot Iechyd Cyhoeddus Cymru a aeth yn dda. Bydd Ysgol Cil-y-coed a’r Gwasanaeth Cyfeirio Disgyblion yng ngham 2 sy’n dechrau ym mis Medi 2022.
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi datblygu cynllun gweithredu is-gr?p o’r data rhwydwaith ymchwil iechyd ysgolion uwchradd. Mae’r arolwg yn trin nifer o faterion cysylltiedig ag iechyd a llesiant ac yn helpu i benderfynu meysydd ffocws. Wrth i anghenion gynyddu gall disgyblion hefyd gael mynediad i gynigion ehangach tebyg i’r Cymorth Llythrennedd Addysgol neu gwnsela mewn ysgolion. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnig cefnogaeth fwy dwys i unigolion. Mae gan bob ysgol uwchradd seicolegydd addysgol cyswllt a all roi cefnogaeth yn ogystal â hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth am faterion penodol.
Eleni mae ysgolion wedi derbyn hyfforddiant yn cynnwys Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Ieuenctid mewn Ysgolion, Ysgolion sy’n Ystyriol o Drawma ac Atal Hunanladdiad a Hunan-anafu. Cafodd pecyn hyfforddiant ei ddatblygu hefyd i gefnogi dysgwyr sy’n osgoi ysgol am resymau seiliedig ar emosiwn. Mae cynigion eraill o gymorth drwy Banel Help Cynnar Sir Fynwy ac asiantaethau tebyg i’r Gwasanaeth Ieuenctid a Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed.
Tu hwnt i ysgolion, mae Gwasanaeth Ieuenctid Sir Fynwy yn darparu prosiect Shift sy’n cynnig cymorth un-i-un heb fod yn glinigol i bobl ifanc 11-25 oed. Comisiynwyd Mind Sir Fynwy i gefnogi pobl ifanc sydd â phryderon iechyd meddwl yn dod i’r amlwg.
Fel atodiad gofynnodd y Cynghorydd Sir Pavia os yw’r Awdurdod yn rhoi unrhyw gefnogaeth ychwanegol yn ei lle o amgylch y dyddiadau allweddol ym mis Awst ar gyfer Safon Uwch a TGAU.
Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet fod swyddogion yn gweithio’n galed bob blwyddyn o amgylch y cyfnod canlyniadau ac y byddai’n siarad gydag uwch swyddogion i sicrhau fod cefnogaeth ddigonol ar gael.
|
|
Dyddiad y cyfarfod nesaf – dydd Iau 21 Gorffennaf 2022 Cofnodion: Nodwyd y dyddiad
|