Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Nid oedd datganiadau o fuddiant.
|
|||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cyhoedd Cofnodion: Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd.
|
|||||||||||||||||||||||||||||
Derbyn deisebau Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Sir Su McConnell ddeiseb yn gwrthwynebu defnyddio tarmac/asffalt a gridiau gwartheg yn Nolydd y Castell, y Fenni. Gofynnodd i Gyngor Sir Fynwy ddefnyddio systemau draeniad cynaliadwy eraill a chanfod dewis arall addas heblaw gridiau gwartheg.
Cyflwynodd y Cynghorydd Sir Emma Bryn ddeiseb ar ran preswylwyr cymuned Wyesham yn galw am atgyweirio a chynnal a chadw yr offer chwarae a draeniad adferol yn yr ardal chwarae cymunedol yn Heol Tudor, Underhill, Wyesham.
|
|||||||||||||||||||||||||||||
Ethol Arweinydd y Cyngor Sir a derbyn hysbysiad o ddirpwyadau gan yr Arweinydd (penodiadau i’r Cabinet) Cofnodion: Fe wnaeth y Cynghorydd Sir Paul Griffiths enwebu y Cynghorydd Sir Mary Ann Brocklesby yn Arweinydd y Cyngor am y flwyddyn 2022/23. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir Rachel Garrick.
Nid oedd enwebiadau eraill a phan roddwyd y mater i bleidlais cafodd y Cynghorydd Sir Mary Ann Brocklesby ei phenodi’n Arweinydd.
Diolchodd y Cynghorydd Sir Brocklesby i’r Cyngor a dywedodd mai’r penodiadau i’r Cabinet yw:
Cynghorydd Sir Paul Griffiths – Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabint dros yr Economi a Bywoliaethau Cynaliadwy Cynghorydd Sir Rachel Garrick – Aelod Cabinet dros Adnoddau. Cynghorydd Sir Martyn Groucutt – Aelod Cabinet dros Addysg. Cynghorydd Sir Tudor Thomas – Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch. Cynghorydd Sir Sara Burch – Aelod Cabinet dros Gymunedau Cynhwysol ac Egnïol. Cynghorydd Sir Catrin Maby – Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd ac Amgylchedd. Cynghorydd Sir Catherine Fookes – Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu
Llongyfarchwyd yr Arweinydd gan Arweinwyr y Grwpiau Gwrthbleidiol a ddywedodd eu bod yn edrych ymlaen at weithio gyda’r arweinyddiaeth newydd.
Gadawodd y Cynghorydd Sir Jane Lucas y cyfarfod am 14:16pm.
|
|||||||||||||||||||||||||||||
Cynrychiolaeth Grwpiau Gwleidyddol PDF 123 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog Pobl a Llywodraethiant a Swyddog Monitro yr adroddiad i’r Cyngor i adolygu cynrychiolaeth gwahanol grwpiau gwleidyddol ar y cyrff y mae’r Cyngor yn gwneud penodiadau iddynt.
Mewn pleidlais penderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhelliad:
Bod y Cyngor yn derbyn yr adroddiad (a’r atodiadau) fel adolygiad dan Adran 15 Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 i ddyrannu cymunedau cyffredin i ddechrau gyda’r niferoedd a ddangosir isod fel cynrychiolaeth deg:
|
|||||||||||||||||||||||||||||
Penodiadau i Bwyllgorau PDF 232 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog Pobl a Llywodraethiant a’r Swyddog Monitro yr adroddiad er mwyn penodi pwyllgorau ynghyd â’u haelodaeth a chylch gorchwyl yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor.
Roedd yn ofynnol i’r Cyngor ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer y flwyddyn 2022/23.
Mewn pleidlais, penderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhellion:
Bod y pwyllgorau yn cael eu penodi ynghyd â’u haelodaeth fel y’u nodir yn yr adroddiad, a’u cylch gorchwyl a atodir fel atodiadau.
Bod y Cyngor yn penodi’r Cynghorydd Sir David Jones fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.
|
|||||||||||||||||||||||||||||
Penodiadau i Gyrff Allanol PDF 9 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyrflwynodd y Prif Swyddog Pobl a Llywodraethiant a’r Swyddog Monitro yr adroddiad i benodi cynrychiolwyr ar gyrff allanol.
Cyflwynodd Arweinwyr Grwpiau y sylwadau.
Yn dilyn pleidlais penodwyd y Cynghorydd Sir Emma Bryn yn gynrychiolydd ar Gyngor Llyfrrau Cymru. Cynhaliwyd pleidlais i benodi cynrychiolwyr ar Fwrdd Partneriaeth Gwastadeddau Byw. Penodwyd y Cynghorwyr Sir Catrin Maby a Frances Taylor.
Gofynnwyd am ddod ag adroddiad pellach yn y dyfodol i drin unrhyw swyddi gwag.
Penderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhellion:
Bod y Cyngor yn gwneud apwyntiadau i’r cyrff allanol a nodir yn yr atodlen amgaeedig, ac eithrio’r cyd-bwyllgorau a restrir yng Nghategori B, sy’n benodiadau gan y Cabinet.
P:\Local Democracy\Democratic Serv\Staff\Outside bodies\2022\FInal Representation on outside bodies May 2022.doc
|
|||||||||||||||||||||||||||||
Adolygiad o’r Cyfansoddiad PDF 237 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog Llywodraethiant a’r Swyddog Monitro yr adroddiad i’r Cyngor i ystyried Cyfansoddiad Cyngor Sir Fynwy wedi’i ddiweddaru.
Dywedodd y Cynghorydd Sir Rachel Garrick fod angen diweddaru ’26.5.2 Dirprwyadau Eraill’.
Penderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhelliad:
Bod y Cyngor llawn yn cymeradwyo’r Cyfansoddiad a adolygwyd ac a ddiweddarwyd.
|
|||||||||||||||||||||||||||||
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2022 PDF 458 KB Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2022.
|