Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Conference Room - Usk, NP15 1AD. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd datganiadau o fuddiant.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 35 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2023.

 

Hysbysodd y Rheolwr Democratiaeth Leol y pwyllgor y cafodd yr arolwg ynghylch cynnal seminar ar y system bleidisio ymateb 50% ac ymddangosai fod dymuniad i gynnal y seminar. Byddir yn cadarnhau dyddiad ar gyfer hyn maes o law.

 

3.

Trafodaeth ar Drip Sirol yr Aelodau - Llafar

Cofnodion:

Agorodd y Rheolwr Democratiaeth Leol drafodaeth am gynllun cynharach i drefnu trip bws o amgylch y sir i ymweld â safleoedd allweddol. Croesawyd Dawn Sadler, Datblygydd Dysgu Sefydliadol, i drafod y cynlluniau ar gyfer y daith. Clywsom fod trefniant tebyg yn ei le ar gyfer staff newydd fel rhan o’r rhaglen sefydlu a chytunwyd y byddai hyn yn ddefnyddiol i Aelodau.

 

Roedd awgrymiadau am leoedd i ymweld â nhw yn cynnwys:

 

·       Darpariaethau gofal

·       Canolfannau Croeso

·       Neuadd Sirol Trefynwy

·       Amgueddfeydd a Hybiau

·       Canolfan Hamdden Trefynwy

 

Nodwyd y caiff unrhyw oblygiadau i’r gyllideb eu cynnwys yn rhaglen sefydlu 2022.

 

Cytunwyd ceisio dyddiad ac amser addas fyddai’n gweddu i gynifer o Aelodau ag sydd modd, ac y cadarnheir lleoliadau i ymweld â nhw bryd hynny.

 

4.

Amseriad Cyfarfodydd – dilyn lan pdf icon PDF 132 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Democratiaeth Leol yr adroddiad i gytuno ar fethodolesg a chwestiynau ar gyfer asesu anghenion aelodau ar gyfer amseriad cyfarfodydd cyngor llawn gyda golwg ar wneud argymhelliad i’r cyngor llawn yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

 

Roedd yr ymatebion yn cynnwys:

·       Cadw cyfarfodydd y Cyngor Sir am 2pm, gan roi cyfle i bobl weithio yn y bore.

·       Gallai dechrau am 5pm arwain at orffen yn hwyr iawn.

·       Rhoi gofod ar gyfer sylwadau Aelodau.

·       Angen bod mor gynhwysol ag sydd modd.

·       Cwestiwn i benderfynu os oes cyfrifoldebau gofalu arbennig.

·       Defnyddio’r cyfle i edrych ar hyd cyfarfodydd a therfynau siarad.

 

Gadawodd y Cynghorydd Sir Armand Watts y cyfarfod am 14:32pm.

 

Nodwyd y cynhelir cyfarfodydd y Cyngor Llawn bob chwe wythnos, gyda chyfle i ychwanegu Cyfarfod Arbennig pan fo angen.

 

Cytunodd y Pwyllgor i gytuno ar yr argymhelliad a byddai’n croesawu’r canlyniadau yn y cyfarfod nesaf.

 

I adolygu a chytuno ar y broses i sicrhau y bydd yn casglu’r wybodaeth sydd ei hangen i’r pwyllgor wneud argymhelliad gwybodus ar amseriad cyfarfodydd y Cyngor.

 

 

5.

Poster Gwybodaeth Aelodau pdf icon PDF 8 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Democratiaeth Leol yr wybodaeth yn dilyn trafodaeth yn y cyfarfod blaenorol. Cynlluniwyd rhestr gyda lluniau o Gynghorwyr gyda’r Tîm Cyfathrebu. Bydd hyn hefyd ar gael yn y Gymraeg a chaiff ei gylchredeg i’r holl staff a’i anfon at bob hyb.

 

Fel yn ein trafodaethau blaenorol mae dymuniad yn dal i fod i drefnu sesiwn cwrdd a chyfarch gyda phrif swyddogion ond ni chafodd hyn ei drefnu hyd yma.

 

Yn nhermau’r ffordd orau i gyfathrebu gyda’r cyhoedd, clywsom fod y Tîm Cyfathrebu’n gweithio ar Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd ar hyn o bryd.

 

Awgrymwyd hefyd ein bod yn cyfeirio at rôl Aelodau nad ydynt ar y Cabinet, tebyg i arweinwyr grwpiau, er mwyn tegwch.

 

Penderfynodd y Cyngor i dderbyn y Poster Gwybodaeth Aelodau.

 

6.

Dyddiad y cyfarfod nesaf – 20 Mawrth 2023

Cofnodion:

Nodwyd dyddiad y cyfarfod nesaf.