Agenda and minutes

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Llun, 21ain Tachwedd, 2022 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd datganiadau o fuddiant.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 48 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Medi 2022. Codwyd y pwyntiau dilynol:

 

Yng nghyswllt cwestiwn am daith o’r Sir cadarnhawyd fod swyddogion yn edrych ar opsiynau ac efallai y gellid ei drefnu ar gyfer y Flwyddyn Newydd.

 

Mae Gwasanaethau Cwsmeriaid wedi diweddaru eu polisïau i adlewyrchu’r trafodaethau am y cod ymddygiad.

 

Byddai’n well i faterion yn ymwneud ag Adroddiad Comisiynydd y Gymraeg gael ei ystyried mewn Cyfarfod Craffu.

 

3.

Dyddiadur y Cyngor - 2023-24 pdf icon PDF 21 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Democratiaeth Lleol adroddiad er mwyn i’r pwyllgor adolygu dyddiadur cyfarfodydd 2023/24 ac argymell y dyddiadur i’r Cyngor ei gymeradwyo. Gofynnodd hefyd am sylwadau ar amseriad Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor.

 

Gofynnwyd am roi ystyriaeth i ymweliadau safleoedd cynllunio wrth osod dyddiadur cyfarfodydd.

 

Cytunodd aelodau y bu’n briodol cynnal dau gyfarfod ar wahân ar gyfer y CCB eleni oherwydd nifer y cynghorwyr newydd ond yn y dyfodol byddai cyfuno yn un cyfarfod yn ddigonol.

 

Awgrymwyd y dylid cynnal y cyfarfod ar un diwrnod, ond bod y diwrnod yn cael ei rannu.

 

Credid ei bod yn briodol cyhoeddi arolwg i aelodau i asesu barn ar amseriad cyfarfodydd ac y gallai’r broses hon gael ei dechrau yn y flwyddyn newydd. Dywedodd y Cynghorydd Sir Penny Jones fod y Cyngor wedi cytuno y byddid yn edrych eto ar y penderfyniad ar amseriad cyfarfodydd ym Mai/Mehefin 2023.

 

Pan roddwyd y mater i’r bleidlais penderfynodd y pwyllgor:

 

Argymell y dyddiadur cyfarfodydd ar gyfer 2023/2024 i’r Cyngor.

 

Bod y pwyllgor yn cyflwyno argymhellion i’r cyngor llawn y dylid cynnal y CCB fel un cyfarfod.

 

 

4.

Adroddiad Drafft y Panel Tâl 2022-23 pdf icon PDF 34 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Democratiaeth Leol yr adroddiad i’r Pwyllgor i nodi cynnwys drafft adroddiad 2023-24 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

 

Dywedwyd mai’r prif newidiadau oedd cynnydd mewn cyflog sylfaenol, a chynnydd bach mewn cyflogau ychwanegol.

 

Gellir bwydo barn y pwyllgor yn ôl i’r Panel Tâl. Nid yw’r adroddiad yn mynd i’r Cyngor Llawn.

 

Codwyd pryderon, o gofio’r argyfwng presennol mewn costau byw, nad dyma’r amser cywir i weithredu’r cynnydd mewn cyflogau. Awgrymwyd y dylai’r Cyngor ystyried y cynigion yn ofalus.

 

Ar y llaw arall, dywedwyd y gallai peidio rhoi tâl digonol i aelodau adlewyrchu’n wael mewn cynrychiolaeth ac na fyddai’n adlewyrchu’r gymuned yn gywir. Cydnabuwyd hefyd fod yr argyfwng costau byw yn effeithio ar aelodau.

 

Roedd anesmwythder am y cynnydd oherwydd posibiliadau dileu swyddi staff oherwydd diffyg yn y gyllideb.

 

Tanlinellwyd ei bod yn bwysig bod hyn yn parhau’n broses annibynnol a dywedwyd na ddylem fynd lawr y llwybr o osod ein cyflogau ein hunain.

 

Penderfynodd y Pwyllgor i dderbyn yr argymhelliad.

 

Nododd y Cynghorwyr benderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

 

5.

Newid y System Bleidleisio – Etholiadau Lleol pdf icon PDF 109 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Democratiaeth Leol yr adroddiad ar gyfer y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd i gytuno ar fethodoleg ar gyfer adolygu a mesur awydd aelodau am newid i’r system bleidleisio ar gyfer etholiadau lleol.

 

Mae gan awdurdodau lleol tan 15 Tachwedd 2024 i gytuno i newid eu system bleidleisio, fodd bynnag mae angen nifer o brosesau gweinyddol yn cynnwys adolygiad etholiadol llawn ar gyfer Sir Fynwy i gyd, yn dilyn y drafodaeth i newid y system a chyn yr etholiad nesaf.

 

Cynigir Seminar Aelodau i ystyried effaith y newidiadau.

 

Nid oedd aelodau yn awyddus i gefnogi’r newidiadau ond deallant y byddai seminar yn mesur barn yn well.

 

Awgrymodd y Rheolwr Democratiaeth Leol y gallai anfon holiadur at bob aelod i osgoi seminar diangen. Os oedd yr ymatebion yn gofyn am hynny, yna gellid cynnal y seminar. Yn y ffordd honno ni fyddem yn gwastraffu amser gyda’r seminar os nad oes galw amdani.

 

Penderfynodd y Pwyllgor i dderbyn yr argymhelliad:

 

Bod Cynghorwyr yn cytuno i’r broses a nodir isod ar gyfer rhannu’r wybodaeth ar y newid gyda phob cynghorydd a phenderfynu os y dylai’r eitem fynd gerbron y cyngor llawn.

 

6.

Papur Gwyn - Gweinyddu Etholiadol a Diwygio pdf icon PDF 328 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Democratiaeth Leol y ddogfen ymgynghori, gan dynnu sylw at agweddau penodol sy’n berthnasol i aelodau:

 

1.     A ddylem ddychwelyd i dymor cyngor 4 blynedd yn hytrach na 5 mlynedd;

2.     Hyfforddiant gorfodol ar gyfer Cynghorwyr.

 

Dan y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau, penderfynodd Llywodraeth Cymru y byddai cyfnod cynghorau yn 5 mlynedd o fis Mai 2022 ymlaen. Cytunwyd ar hyn gyda’r sefyllfa na fyddai trefnu etholiadau yn gwrthdaro. Gallwn anfon ymateb os yw’r Pwyllgor yn ystyried fod 5 mlynedd yn rhy hir.

 

Yn nhermau yr hyn yw a nad yw yn hyfforddiant gorfodol, wrth lunio’r datganiad swydd mae aelodau yn cytuno i gydymffurfio gyda’r cod ymddygiad sy’n gwneud hyn yn hyfforddiant gorfodol. Mae angen hyfforddiant gorfodol hefyd ar gyfer Cynllunio a Thrwyddedu. Mae’r papur yn gofyn pwy ddylai benderfynu pa hyfforddiant ddylai fod yn orfodol.

 

Credid y byddai Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mewn sefyllfa well i benderfynu ar hyfforddiant gorfodol.

 

Dywedwyd bod diffyg hyfforddiant mewn deddfwriaeth yn ymwneud â phreifatrwydd a diogelu, a mynediad i wybodaeth, er enghraifft, ar gyfer plant sy’n derbyn gofal.

 

Cytunwyd fod hyfforddiant yn bwysig i bob aelod ac y byddai’n fuddiol derbyn diweddariadau drwy gydol y cyfnod.

 

Nodwyd bod materion etholiad yn mynd ag amser o ddiwedd y cyfnod 3ydd flwyddyn, ac felly byddai cyfnod 5 mlynedd yn galluogi aelodau i gyflawni mwy.

 

7.

Dyddiad y cyfarfod nesaf – 23 Ionawr 2023 2023

Cofnodion:

Nodwyd dyddiad y cyfarfod nesaf.