Agenda and minutes

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Llun, 9fed Medi, 2019 2.00 pm

Lleoliad: Conference Room - Usk, NP15 1AD. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Nodyn: View the meeting: https://join-emea.broadcast.skype.com/monmouthshire.gov.uk/7ae992f9ba6a45b0ae3e85cc1cce277f 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim.

 

2.

Disgrifiadau Rôl yr Aelodau

Ystyried a chymeradwyo'r rhestr amgaeedig o Ddisgrifiadau Rôl yr Aelodau ar gyfer y swyddi amrywiol y mae cynghorwyr yn eu dal o fewn y fframwaith gwleidyddol. 

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion ar gyfer y fforwm agored i’r cyhoedd.

 

3.

Disgrifiadau Swydd Aelodau pdf icon PDF 54 KB

To consider and approve the attached list of Member Role Descriptions for the various posts that councillors hold within the political framework. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad i Aelodau ystyried a chymeradwyo’r rhestr o Ddisgrifiadau Swydd Aelodau ar gyfer y gwahanol swyddi sydd gan gynghorwyr o fewn y fframwaith gwleidyddol.

 

Mae’r adroddiad ar gam drafft a cheisiwyd cymeradwyaeth i’w rannu’n fwy eang, a chaniatáu mwy o fewnbwn gan aelodau a swyddogion.

 

Byddai hyn hefyd yn llinell sylfaen dda ar gyfer yr Adolygiadau Datblygu Personol.

 

Croesawodd Aelodau y ddogfen, gan gytuno y byddai hyn yn rhoi mwy o eglurdeb, yn neilltuol ar gyfer aelodau newydd.

 

Gwnaed awgrymiadau y dylai:

 

·         Aelodau’r Cabinet fod yn fodlon mynychu pwyllgorau craffu lle gofynnir iddynt.

·         Llywodraethwyr Awdurdod Lleol – dylid rhoi ystyriaeth i safonau moesegol a pherthnasoedd.

·         Gwerthoedd – gwerthfawrogiad o wahaniaethau diwylliannol/ethnig a chrefyddol.

·         Arweinydd yr Wrthblaid – nodi arweinydd y gr?p neu blaid gwrthbleidiol mwyaf.

 

Cytunodd Aelodau lle dynodwyd Aelod Cabinet i Bwyllgor Dethol y dylent wneud eu hunain ar gael i fynychu. Cadarnhaodd y Pennaeth Democratiaeth a Llywodraethiant y dylai hyn gael ei egluro fel rhan o’r adolygiad o’r cyfansoddiad.

 

Croesawodd y Cadeirydd y disgrifiadau swydd a chytuno y byddai hyn wedi bod yn ddefnyddiol adeg yr etholiad. Canmolodd hefyd y cyfrifoldeb Rhianta Corfforaethol.

 

Awgrymodd y Pennaeth Llywodraethiant y byddai’n ddelfrydol i alinio hyn gyda’r adolygiad o’r cyfansoddiad ym mis Tachwedd.

 

 

4.

Fforwm Agored Cyhoeddus, Absenoldeb Teuluol a Chanllawiau ar Bleidleisio drwy Ddirprwy pdf icon PDF 92 KB

Derbyn gwybodaeth ar gais y Cadeirydd ar y broses Fforwm Agored Cyhoeddus yng nghyfarfodydd y Cyngor, rheolau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Etholedig a Phleidleisio drwy Ddirprwy ar gyfer Aelodau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybodaeth ar gais y Cadeirydd ar y broses Fforwm Agored i’r Cyhoedd yng nghyfarfodydd y Cyngor, rheolau Absenoldeb Teuluol ar gyfer aelodau etholedig a Phleidleisio Dirprwy ar gyfer Aelodau.

 

Proses Fforwm Agored i’r Cyhoedd

 

Cyflwynwyd y mater gan y Cadeirydd oherwydd y datgysylltiad rhwng sut y gall aelodau o’r cyhoedd ymgysylltu os yw’n rhaid cyflwyno cwestiwn i’r Cyngor cyn cyhoeddi’r agenda.

 

Cytunwyd y dylai’r broses gael ei gwneud mor rhwydd ag sydd modd i ganiatáu ymgysylltu a dylai’r dyddiad cau fod mor hwyr ag sydd modd.

 

Cynigiwyd y dylid sefydlu is-gr?p newydd i edrych sut y gellid gwneud newidiadau. Gellid alinio hyn gyda’r adolygiad o’r cyfansoddiad.

 

Cytunodd y Pennaeth Llywodraethiant a Democratiaeth i drafod ymhellach gyda’r Swyddog Monitro.

 

Absenoldeb Teuluol

 

Caiff newidiadau eu gwneud mewn bil lleol arfaethedig felly penderfynwyd gohirio nes gallwn adolygu’r Bil Llywodraeth Leol (Cymru).

 

Pleidleisio drwy Ddirprwy

 

Nid oes unrhyw ddarpariaethau yn y cyfansoddiad ar hyn o bryd sy’n galluogi aelodau i benodi aelod arall i bleidleisio ar eu rhan yn eu habsenoldeb.

 

Awgrymwyd, gan y gellir pleidleisio drwy fynychu o bell, y gellid cyflwyno opsiynau ar gyfer pleidleisio drwy ddirprwy.

 

Mynawyd pryderon y disgwylid i chi fod yn bresennol ar gyfer yr holl ddadl er mwyn pleidleisio, ac felly gallai tystiolaeth roi pleidleisiau yn erbyn llinellau pleidiol.

 

Cytunwyd na ddylai fod unrhyw benderfyniad ar sut i bleidleisio cyn cynnal dadl.

 

Rhoddir diweddariad i’r cyfarfod nesaf.

 

5.

Y Flwyddyn Ddemocrataidd

I drafod eitemau mae'r pwyllgor yn disgwyl gweld cynnydd arnynt yn ystod y flwyddyn i ddod, gan gynnwys ymgysylltu â'r cyhoedd, rhaglennu gwaith a gwerthuso effeithiol

 

Cofnodion:

Roedd y meysydd a drafodwyd yn cynnwys:

 

Ymgysylltu â’r Cyhoedd – Caiff swydd y Swyddog Craffu ei hysbysebu yr wythnos hon. Mae gwaith yn dal ar ôl i’w wneud ar eglurdeb am flaen-gynllunwyr. Yn nhermau’r flwyddyn i ddod hoffai’r Pwyllgor weld:

 

·         Gwelliannau i’r cynllun gwaith

·         Ymgysylltu effeithlon

·         Sir Fynwy ar Agor – parhau neu beidio?

 

Dywedodd Aelodau y byddai’n ddefnyddiol gweld pa gynigion a wnaethpwyd drwy’r is-gr?p.

 

Tynnodd y Cadeirydd sylw at y dilynol:

 

·         Cynyddu ymgysylltu drwy Bwyllgorau Ardal

·         Bwrw golwg ar gynllun peilot Pwyllgor Ardal Gogledd Mynwy.

·         Sut mae’r gwneud penderfyniadau yn mynd drwodd i’r Cyngor.

 

Esboniodd y Pennaeth Democratiaeth a Llywodraethiant, yn dilyn y cynllun peilot, y dylid gwneud penderfyniad os y dylid cynnig yr un system i’r Pwyllgorau Ardal eraill, gan roi ystyriaeth i drefniadau clwstwr.

 

 

6.

Wythnos Democratiaeth Genedlaethol

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor wybodaeth y cynhelir yr Wythnos Democratiaeth Genedlaethol yn dechrau ar 14 Hydref 2019.

 

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cymryd rhan yn y gorffennol ond nid oes unrhyw gynlluniau cadarn eleni.

 

Cytunwyd dosbarthu unrhyw wybodaeth sy’n deillio yn ystod y digwyddiad.

.

 

 

 

7.

Adolygiad o Gyfansoddiad y Cyngor

Codi materion i'w bwydo i'r adolygiad sy'n cael ei wneud gan Bennaeth y Gyfraith/Swyddog Monitro cyn cyflwyno fersiwn drafft i'r Pwyllgor ar 18fed Tachwedd 2019.

 

Cofnodion:

Hysbyswyd Aelodau bod y Pennaeth Cyfreithiol/Swyddog Monitro yn cynnal adolygiad o gyfansoddiad y Cyngor ac y byddai’n croesawu sylwadau am unrhyw feysydd sydd angen sylw. Byddai hyn yn eitem ar gyfer agenda’r cyfarfod nesaf.

 

 

8.

Cofnodion y cyfarfod diwethaf pdf icon PDF 79 KB

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mehefin 2019 eu cadarnhau a’u llofnogi gan y Cadeirydd.

 

Wrth wneud hynny, nodwyd y bu’r Cynghorydd Davies yn bresennol.

 

9.

Nodi dyddiad y cyfarfod nesaf fel Dydd Llun 18 Tachwedd 2019 am 2pm

Cofnodion:

Nodwyd.

 

10.

Adolygu Datblygiad Personol pdf icon PDF 54 KB

Ystyried a chymeradwyo'r broses amgaeedig ar gyfer Adolygu Datblygiad Personol aelodau etholedig.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cawsom adroddiad i ystyried a chymeradwyo proses yr Adolygiad Datblygiad Personol ar gyfer aelodau etholedig.   Mae'r adroddiad hwn yn dilyn trafodaethau yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor ynghylch cyfleoedd hyfforddiant a datblygu.   Ymarfer hunanarfarnu fyddai hwn.

 

Cadarnhawyd bod cofnodion hyfforddiant yn cael eu cadw drwy Modern.Gov.

 

Nodwyd bod gwahaniaeth rhwng hyfforddiant ar gyfer effeithlonrwydd a hyfforddiant statudol.   Dylid tynnu sylw at fylchau mewn hyfforddiant statudol.

 

Trafodwyd y cyfleoedd hyfforddiant a gynigir drwy Talent Lab a sut y dylid nodi lle mae'r cyfleoedd hyn yn agored i Aelodau.

 

Y cam nesaf yw bwrw ymlaen â hyn at Arweinwyr Gr?p ac Aelodau.

 

Cafwyd trafodaeth ynghylch pwy fyddai'r person addas i gynnal yr adolygiad.   Awgrymwyd y gallai hyn fod yn rôl i'r Swyddog Craffu newydd, neu rôl Adnoddau Dynol, ond byddai hyn yn cael ei drafod.   Mynegodd yr Aelodau bwysigrwydd pwynt cyswllt sengl.