Lleoliad: Conference Room - Usk, NP15 1AD. View directions
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Nid oedd datganiadau o fuddiant.
|
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 43 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion a gynhaliwyd ar 23 Ionawr.
|
|
Amseru Cyfarfodydd y Cyngor Llawn – Ymatebion yr Arolwg PDF 35 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Democratiaeth Leol yr adroddiad i’r Pwyllgor ystyried yr ymatebion i’r arolwg aelodau ar yr amseriad a ffefrir ar gyfer cyfarfodydd llawn y cyngor gyda golwg ar ei wneud yn argymhelliad i’r Cyngor Llawn.
Dosbarthwyd yr arolwg i bob Aelod yn dilyn trafodaeth yng nghyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. Cafwyd 29 ymateb a chawsant eu hatodi gyda’r adroddiad.
Dengys yr ymatebion na fyddai newid yr amser dechrau ar yn ail yn opsiwn a ffafrir. Cydnabu aelodau nifer o sylwadau am gyfrifoldebau gofalu a chlywsom fod gan gynghorwyr hawl i gael ad-daliad am gostau gofal.
Awgrymwyd y gallai problem fod yn gysylltiedig gyda hyd y cyfarfod yn hytrach na’r amser dechrau.
Roedd peth siom am nifer yr ymatebion.
Pan y’i rhoddwyd i’r bleidlais derbyniwyd yr argymhelliad:
Y dylid parhau â’r amser dechrau o 14.00pm ar gyfer cyfarfodydd o’r Cyngor llawn.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddfa Pobl a Llywodraethiant/Swyddog Monitro y drafft Gyfansoddiad ar gyfer ei ystyried cyn mynd ag ef i’r Cyngor Llawn ym mis Mai 2023.
Yn dilyn trafodaeth am Gyllideb 2023, nodwyd yr ychwanegwyd cyfarfod ychwanegol o’r Cyngor ar 29 Chwefror 2024.
Hysbyswyd Aelodau y dangosir y newidiadau fel newidiadau trac yn y ddogfen.
Rhoddwyd sicrwydd i aelodau am gyflwyno diwygiadau i’r adroddiadau.
Roedd pryder bod Cyngor Ymgynghorol Sefydlog yn disodli’r Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol, gan ystyried y byddai CYSAG yn dal mewn bodolaeth tan fis Medi 2024. Rhoddodd y Prif Swyddog sicrwydd i Aelodau y byddai’r CYS a CYSAG yn dod o dan un pwyllgor, y gellid ei alw yn CYS/CYSAG. Dywedodd y Swyddog Monitro y dylid cyfeirio unrhyw bryderon bellach at y swyddogion perthnasol.
Cynigiwyd dileu argymhelliad 3.3 “Dirprwyir awdurdod i’r Swyddog Monitro i wneud newidiadau golygyddol a chyfreithiol i’r Cyfansoddiad ac mae wedi ymrwymo i ddod â’r ddogfen i’r Cyngor bob blwyddyn i hysbysu’r Cyngor am unrhyw newidiadau a gafodd eu gwneud. Mae’n dal i fod angen cymeradwyaeth y Cyngor llawn i ddiwygiadau sylweddol” o’r adroddiad ac mai’r Cyngor Llawn ddylai fod yn addasu neu wneud newidiadau i’r Cyfansoddiad.
Mewn ymateb i gwestiwn ar y cynnig, cadarnhawyd y byddai hyn yn golygu y byddai’r Cyngor Llawn yn gorfod derbyn adroddiad ar bob newid. Wrth wneud hynny, atgoffwyd Aelodau yr aiff y Cyfansoddiad wedi’i ddiweddaru i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ac wedyn y Cyngor Llawn bob blwyddyn, gan alluogi’r Cyngor i benderfynu ar unrhyw newidiadau.
Cytunodd Aelodau y dylai Mater Allweddol 3.3 barhau yn y ddogfen.
Nododd y Swyddog Monitro y sylwadau a wnaed.
|
|
Dyddiad y cyfarfod nesaf – 12 Mehefin 2023 Cofnodion: Nodwyd dyddiad y cyfarfod nesaf.
|