Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant wedi eu derbyn.

 

2.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 472 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y Pwyllgor Cynllunio, dyddiedig 5ed Gorffennaf 2022, yn gywir ac fe’u harwyddwyd gan y Cadeirydd.  

 

3.

Cais DM/2021/01695 – Creu un llain teithwyr yn cynnwys carafan sefydlog, carafan deithiol, trosi bloc stabal presennol i ystafell ddydd/aml-bwrpas. Tir ger 1 Rogiet Pool Minnett’s Lane, Rogiet, Sir Fynwy. pdf icon PDF 474 KB

Cofnodion:

Roeddem wedi ystyried yr adroddiad ar gyfer y cais a’r ohebiaeth hwyr a oedd wedi ei argymell ar gyfer ei gymeradwyo, a hynny’n amodol ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad  a bod yna amod ychwanegol y dylid cynnal uchder y clawdd ar flaen y ffin ar isafswm uchder o ddau fetr.

 

Roedd yr Aelod lleol ar gyfer Rogiet, a oedd wedi mynychu’r cyfarfod yn dilyn gwahoddiad gan y Cadeirydd, wedi amlinellu’r wybodaeth ganlynol:

 

·         Mae’r adroddiad yn cyfeirio at ddeddfwriaeth sydd yn gosod dyletswydd ar yr Awdurdod i ystyried y fath geisiadau. Nid yw ystyried o reidrwydd yn golygu cymeradwyo.

 

·         Mae’r Aelod lleol wedi cysylltu gyda thrigolion sydd yn byw ger y safle a Chyngor Cymuned  Rogiet.

 

·         Mae Cyngor Cymuned Rogiet wedi cyflwyno sawl gwrthwynebiad i’r cais.

 

·         Mae’r cais yn cyfeirio at garafán statig fawr ac adeilad bloc sy’n cael ei ddefnyddio fel stabl sydd wedi disodli adeilad pren. Nid oes unrhyw geffylau wedi eu cadw ar y  safle ers adeiladu’r  stabl.

 

·         Mae’r stabl presennol i’w drawsnewid i mewn i ystafell ddydd a fydd yn estyniad parhaol i’r garafán statig.  Mae yna gysylltiadau hefyd i’r bibell garthffosiaeth ac mae’r Aelod lleol yn ystyried hyn yn drefniant parhaol.

 

·         Mae’r Aelod Lleol yn credu bod cymeradwyo’r cais hwn yn mynd i arwain at safle preswyl parhaol. 

 

·         Mae ymdrechion blaenorol i  ddatblygu’r safle wedi eu gwrthod gan fod ceisiadau wedi eu cyflwyno y tu hwnt i dermau’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl). Rhaid ystyried unrhyw  amddiffyniadau sy’n cael eu darparu gan y CDLl.  

 

·         Tra nad yw’r ardal o dan ystyriaeth yn rhan o’r lletem las, mae wedi bod yn rhan o’r olygfa wledig.

 

·         Dyfynnwyd y gwrthwynebiad gan y ‘Landscape Green Infrastructure’ o fis Rhagfyr 2021. Ystyriwyd bod y materion sydd wedi eu codi fel rhan o’r gwrthwynebiad ond wedi eu lliniaru’n rhannol gan y diwygiadau i’r cais gwreiddiol. 

 

·         Roedd yr ymgeiswyr wedi cynnig yr un safle fel safle ymgeisiol ar gyfer tai o dan y CDLl diwygiedig, gan awgrymu y byddai’n fwy hawdd i’r ymgeisydd i sicrhau cymeradwyaeth ar gyfer datblygu tai.

 

·         Ystyriwyd bod pob cam o’r broses cais yn ffordd o sicrhau tai parhaol ar y safle. Fodd bynnag, mae’r adroddiad ar y cais yn ystyried hyn fel rhywbeth amherthnasol. Mynegwyd pryderon yngl?n ag a oedd y cais yn gais dilys ar gyfer t? teuluol neu a oedd yn fenter sydd yn ceisio sicrhau budd ariannol o’r farchnad dai.

 

·         Ystyriwyd bod yr ymgeisydd yn ystyried yr opsiynau gyda’r nod i fanteisio i’r eithaf ar y tir fel ased cynllunio. 

 

 

Wedi ystyried yr adroddiad ar gyfer y cais a’r farn a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Mae yna angen am safleoedd cyfreithlon ar gyfer teithwyr o fewn y Sir.  

 

·         Dyma safle bach gydag un garafán, un ‘touring pitch’ ac un ystafell ddydd. 

 

·         Mae yna gyfleustodau ar y safle fel pibell dd?r yfed a thrydan. 

 

·         Mae’r safle wedi ei sgrinio’n dda gyda chlawdd a ffens panel, ac ni fyddai hyn yn cael effaith weledol adweithiol o’r heol neu’r ardal gyfagos.  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Cais DM/2022/00557 – Codi maes parcio newydd ar dir i dde gorsaf Cyffordd Twnnel Hafren. Tir yng Nghyffordd Twnnel Hafren ar gyfer creu maes parcio, Heol yr Orsaf, Rogiet. pdf icon PDF 280 KB

Cofnodion:

Roeddem wedi ystyried yr adroddiad ar gyfer y cais a’r ohebiaeth hwyr a oedd wedi ei argymell ar gyfer ei gymeradwyo, a hynny’n amodol ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.

 

Roedd yr Aelod lleol ar gyfer Rogiet, a oedd wedi mynychu’r cyfarfod yn dilyn gwahoddiad gan y Cadeirydd, wedi amlinellu’r wybodaeth ganlynol:

 

·         Mae newidiadau bychain wedi eu gwneud i’r cynllun, a hynny mewn ymateb i’r pryderon a godwyd; yn benodol, mae hyn yn cynnwys ymroddiad i wella diogelwch ar gyfer cerddwyr sydd yn teithio dros y bont sydd yn croesi’r llinell rheilffordd. 

 

·         Mae llawer o bryderon Cyngor Cymuned Rogiet dal yn berthnasol.

 

·         Y prif fater yw bod y maes parcio arfaethedig wedi ei leoli yn y lle anghywir. Gan ei fod i’r dde o’r rheilffordd, nid yw’n mynd i ddenu traffig i ffwrdd o Heol yr Orsaf sydd eisoes mor brysur,  ac mae ond modd ei gyrraedd drwy fynd dros bont gul iawn. Mae traffig sydd yn gadael y maes parcio NCP yn defnyddio cyffordd tair ffordd ac mae yna beryg o wrthdrawiad gan ei fod yn anodd i yrwyr i weld yr hyn sydd o’u cwmpas. 

 

·         Yn yr adroddiad sydd yn perthyn i’r cais, mae’n  datgan nad yw’r angen cyffredinol am faes parcio ychwanegol yn rhan o’r cais hwn, a hynny’n seiliedig ar y ffaith bod ond rhaid i’r adroddiad ystyried a yw’r cynllun hwn yn cwrdd â’r meini prawf cynllunio yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl). Fodd bynnag, mae rhan sylweddol o’r adroddiad yn ceisio cyfiawnhau’r cynllun ar y sail hyn gan ddatgan bod angen gofodau ychwanegol er mwyn lleihau’r nifer sydd yn parcio ar y stryd.

 

·         Ystyriwyd nad yw’r ffaith bod cerbydau yn parcio ar y stryd yn ganlyniad i’r gofodau annigonol sydd yn feysydd parcio presennol. Mae rhai gyrwyr yn amharod i dalu am barcio, ac felly, maent yn parcio ar y stryd. Mae yna ddigon o lefydd parcio ar gael ar hyn o bryd. Tra’n ymweld gyda’r meysydd parcio yn yr ardal hon yn y gorffennol, nodwyd fod yna ddigon o lefydd ar gael, gyd thua hanner y llefydd yn y ddau faes barcio yn wag.

 

·         Mae’r angen am lefydd parcio ychwanegol yn seiliedig ar y gred y bydd yna dwf sylweddol yn y defnydd o’r orsaf. Nid yw hyn wedi ei brofi. Gwnaed y rhagolygon am dwf cyn y pandemig ac nid yw’n ystyried y ffaith fod mwy o bobl nawr yn gweithio gartref.  

 

·         Mae adroddiad y cais yn datgan fod yna absenoldeb o astudiaethau  sy’n gwrth-ddweud ei gilydd. Mae hyn yn sgil y ffaith ei fod yn rhy gynnar i fedru cynnig rhagolygon. Bydd cryn amser eto cyn y bydd modd cynnal astudiaethau er mwyn ceisio adnabod tueddiadau hirdymor yn y naill gyfeiriad neu llall.  

 

·         Y cynnig hwn sy’n ymwneud gyda chynlluniau eraill – mae gorsaf Rhodfa Magwyr yn debygol o gael ei wireddu yn y dyfodol agos. Mae yna gynigion hefyd ar gyfer gorsafoedd yn nwyrain Casnewydd ac mewn mannau eraill, a byddant oll yn dwyn teithwyr  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Cais DM/2021/01735 – Cadw garej ddomestig: 60 Old Barn Way, Y Fenni, NP7 6EA. pdf icon PDF 55 KB

Cofnodion:

Roeddem wedi ystyried yr adroddiad ar gyfer y cais a’r ohebiaeth hwyr a oedd wedi ei argymell ar gyfer ei gymeradwyo, a hynny’n amodol ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.

 

 

 

Hysbyswyd y Pwyllgor nad yw’r cynlluniau arfaethedig yn dangos y byddai’r to yn bargodi. Felly, pe bai’r cais yn cael ei gymeradwyo, byddai’r to yn cael ei dynnu oddi yno, uchder y waliau yn cael eu lleihau a tho newydd yn cael ei osod a fydd wedyn yn cydymffurfio gyda’r cynlluniau a gyflwynwyd.   

 

Roedd yr Aelod lleol ar gyfer Lansdown, a oedd wedi mynychu’r cyfarfod yn dilyn gwahoddiad gan y Cadeirydd, wedi amlinellu’r wybodaeth ganlynol:

 

·         Mae yna ddarn sylweddol o’r to sy’n bargodi ac yn draenio yn syth i ardd gefn y cymydog.

 

·         Mae’r dyluniad yn dynodi na ddylai’r to fod yn bargodi. Roedd hyn hefyd yn wir am y dyluniad blaenorol. 

 

·         Mynegwyd pryderon am y trefniadau draenio. Os cânt eu cymeradwyo, mae adroddiad y cais yn cyfeirio at adeiladu  suddfan d?r sydd yn 10 metr o ddyfnder. Fodd bynnag, nid oes unrhyw dystiolaeth bod y fath suddfan wedi ei adeiladu

 

·         Mae’r stryd gyfan wedi ei heffeithio gan  y datblygiad ac wedi gofyn i gwrdd gyda’r Aelod lleol gan ofyn iddo ysgrifennu llythyr o wrthwynebiad ar eu rhan. 

 

·         Mynegwyd pryder bod yna gynsail wedi ei osod. Roedd cais  ôl-weithredol tebyg yn y stryd o dan weinyddiaeth flaenorol wedi ei wrthod ac mae’r adeilad wedi ei ddymchwel ers hynny.  

 

·         Ar gyfer y safle yma, mae yna gais wedi ei gymeradwyo ar gyfer garej maint ‘arferol’ ac ni chafwyd unrhyw wrthwynebiad i’r cais hwnnw.  Fodd bynnag, roedd yr hyn a adeiladwyd yn fawr iawn. Felly, cyflwynwyd, cais ôl-weithredol i’r Pwyllgor Cynllunio gan fod y garej 40% yn fwy na’r adeilad a oedd wedi sicrhau’r caniatâd cynllunio gwreiddiol.

 

·         Roedd yr Aelod yn credu mai cyfaddawd fyddai adeiladu’r garej ond gyda tho fflat. 

 

Wrth ymateb, roedd y Rheolwr Tîm Ardal Rheoli Datblygu wedi hysbysu’r Pwyllgor:

 

·         Nid yw’r to sy’n bargodi wedi ei ddangos ar y  cynlluniau arfaethedig cyn y Pwyllgor heddiw. 

 

·         Bydd yna gafnau ar y naill ochr gyda  phibellau d?r yn rhedeg i lawr y ddwy ochr er mwyn helpu gyda’r draenio. Bydd y  d?r storm yn cael ei reoli drwy gyfrwng  cynhwysydd straenio 45-galwn ar naill ochr y garej sydd i’w ddefnyddio ar gyfer yr ardd. Bydd y cynhwysydd yn bwydo i mewn i’r suddfan sy’n tri metr o ddyfnder. 

 

·         O ran gosod cynsail, rhaid ystyried pob cais cynllunio ar sail ei rinweddau ei hun.  

 

·         Mae’r cais yn ôl-weithredol ond mae angen i’r Pwyllgor i ystyried y cais fel na petai’r datblygiad yno a selio ei benderfyniadau  ar y cais a’r cynlluniau sydd wedi eu cyflwyno.

 

·         Nid yw’r opsiwn o do fflat yn rhan o’r cais sydd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor.  

 

Roedd Mr. M. Turnbull, sydd yn gwrthwynebu’r cais ac yn cynrychioli’r gwrthwynebwyr, wedi cyflwyno datganiad ysgrifenedig o ran y cais a darllenwyd hyn i’r Pwyllgor Cynllunio gan  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

ER GWYBODAETH – Yr Arolygiaeth Gynllunio – Penderfyniadau Apêl a Dderbyniwyd.

6a

Lingfield Cottage, Five Lanes, Caerwent, Cil-y-coed. pdf icon PDF 232 KB

Cofnodion:

Roeddem wedi derbyn yr adroddiad  gan yr Arolygiaeth Gynllunio sydd yn ymwneud gyda phenderfyniad apêl yn dilyn ymweliad â’r safle yn  Lingfield Cottage, Five Lanes, Caerwent, Cil-y-coed ar 5ed Ebrill 2022

 

Roeddem wedi bod:

 

·         Yr apêl wedi ei wrthod o ran yr  atodiad.

 

·         Caniatawyd yr apêl o ran y porth ceir  yn Lingfield Cottage, Five Lanes, Caerwent, Cil-y-coed, Cymru NP26 5PQ yn unol gyda’r cais fel y’i diwygir, Cyfeirnod 20/00140/OUT, dyddiedig 11 Chwefror 2020, yn amodol ar yr amodau sydd wedi eu gosod yn yr atodiad i’r penderfyniad hwn.