Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Nodyn: Please note that in order to watch this meeting online via Microsoft Teams you may need to download the Teams app to your device. The meeting will be available to watch after the event on our youtube channel. 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant.

 

2.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 417 KB

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 6 Hydref 2020 eu cadarnhau a’u llofnodi gan y Cadeirydd gyda’r gwelliant dilynol:

 

Cais DM/2020/00883, pwynt bwled 11, diwygio’r drydedd frawddeg fel sy’n dilyn.

 

Mae dogfen Amodau Safonol Enghreifftiol Carafanau 2008 y cyfeirir ati ym mharagraff 61 yn nodi fod yn rhaid i garafanau gael eu lleoli o leiaf chwe metr oddi wrth unrhyw garafan arall ond gall y pellter gael ei ostwng i isafswm o 5.25 metr os ychwanegir deunyddiau cladin ymwrthod â thândxersc.

 

3.

Cais DM/2019/01004 - Dymchwel yr annedd bresennol a'i disodli â chanolfan fyw weithredol sy'n darparu 18 o fflatiau ymddeol o ansawdd uchel, gofod byw cymunedol, strategaeth tirwedd helaeth (gan gynnwys to gwyrdd) gyda chwrt preifat wedi'i dirlunio ynghyd â chyfleusterau pwll a champfa. Maes Glas, Heol Merthyr, Llan-ffwyst. pdf icon PDF 502 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a gyflwynwyd dros wrthod am un rheswm fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio ar 6 Hydref 2020 gydag argymhelliad ar gyfer cymeradwyaeth gydag amodau. Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor wedi bod o’r farn y dylid gwrthod y cais fel sy’n dilyn:

 

Oherwydd yr ymgasglu, maint gormodol, dyluniad a safle amlwg, byddai’r datblygiad arfaethedig yn niweidiol i ymddangosiad y safle a golwg y strydoedd o amgylch ac felly byddai’n arwain at adeilad ansensitif, ymwthiol ac estron a fyddai’n methu parchu a chymhathu dull, maint, safle a deunyddiau’r gosodiad. Yn ychwanegol, bydd y cynllun a gynigir yn niweidiol i olygfa a phreifatrwydd preswylwyr cyfagos mewn ardal a nodweddir gan safonau uchel o breifatrwydd a dwysedd is o ddatblygiad a byddai’n cyfyngu golygfeydd hir tuag at Safle Treftadaeth Byd Blaenafon. Ymhellach, ni all y datblygiad arfaethedig ddangos lliniaru bioamrywiaeth cadarnhaol na gwella a diogelu rhywogaethau o bwysigrwydd. Fel canlyniad, ni fyddai’r datblygiad yn cydymffurfio gyda pholisïau  NE1, S13 a DES1 b,c,d,e,g a l Cynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy.

 

Felly cafodd y cais ei ailgyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio ar gyfer ei wrthod gyda rheswm addas dros wrthod.

 

Wrth nodi manylion y cais, gwnaed y pwyntiau dilynol:

 

·         Roedd yr Aelod lleol dros Lan-ffwyst wedi derbyn y rhesymau dros wrthod y cais.

 

·         Mynegodd aelod o’r Pwyllgor gefnogaeth i’r cais a chytuno gydag argymhelliad gwreiddiol y swyddog y dylai’r cais gael ei gymeradwyo gydag amodau.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir G. Howard ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir M. Powell y dylid gwrthod cais DM/2019/01004 am y rheswm a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Pan roddwyd y cynnig i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

O blaid gwrthod           :           15

Yn erbyn gwrthod       :           1

Ymatal             :           0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynwyd gwrthod cais DM/2019/01004 am y rheswm a amlinellir yn yr adroddiad.

 

 

4.

Cais DM/2019/02012 - Datblygiad arfaethedig o 24 uned gofal ychwanegol (Defnydd Dosbarth C2), mynediad a pharcio ceir, tirlunio, triniaethau ffin a dull amgáu. Tir i'r De o Fwyty Brewers Fayre, Heol Iberis, Llan-ffwyst. pdf icon PDF 391 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd adroddiad y cais a argymhellwyd ar gyfer ei gymeradwyo gyda’r 13 amod a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio ar 6 Hydref 2020 gydag argymhelliad i wrthod. Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor yn tueddu i fod o blaid cymeradwyo’r cais. Felly cafodd y cais ei ail-gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio ei ystyried.

 

Wrth nodi manylion y cais, cefnogodd yr Aelod lleol dros Lan-ffwyst yr argymhelliad ar gyfer cymeradwyo.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir G. Howard ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir P. Murphy i gymeradwyo cais DM/2019/02012 gyda’r 13 amod a amlinellir yn yr adroddiad gan ychwanegu gwybodaeth ychwanegol, fel yr amlinellwyd mewn gohebiaeth hwyr.

 

Pan roddwyd y cynnig i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

O blaid cymeradwyo  -           16

Yn erbyn cymeradwyo-          0

Ymatal             -           0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais DM/2019/02012 gyda’r 13 amod a amlinellir yn yr adroddiad gyda gwybodaeth ychwanegol yn cael ei hychwanegu, fel yr amlinellir mewn gohebiaeth hwyr.

 

5.

Cais DM/2020/00623 - Dileu amodau rhif 5, 6 a 12 sy'n ymwneud â chais DC/2015/01424. Tir gerllaw Fferm Maerdy Uchaf, Bryn Coch i'r B4235, Llangyfiw, Brynbuga. pdf icon PDF 157 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd adroddiad y cais a argymhellwyd ar gyfer ei gymeradwyo gyda’r 13 amod a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Dynodwyd y pwyntiau dilynol wrth nodi manylion y cais:

 

·         Diwygio amod 6 fel yr amlinellwyd mewn gohebiaeth hwyr

 

·         Ychwanegu gwybodaeth i gynnwys cyfeiriad at yr angen am drwydded safle

 

Amlinellodd yr Aelod lleol dros Langybi Fawr, sydd hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau dilynol:

 

·         Mynegwyd pryder fod y meintiau a amlinellir yn yr adroddiad yn cyfeirio at leiniau 1 a 2 yn anghywir gan arwain at gyfanswm arwynebedd ar gyfer pob un o’r unedau o 72.5 metr sgwâr.

 

·         Mae Cyngor Cymuned Llantrisant yn gwrthwynebu’r cais oherwydd maint ac ymgasgliad y tair uned.

 

·         Mae Llain 3, sy’n cael ei adeiladu ar hyn o bryd, yn cael ei oleuo’n ormodol ar gyfer yr ardal.

 

·         Cafodd sgrinio ei symud o’r ardal.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir A. Davies ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir R. Harris i gymeradwyo cais DM/2020/00623 gyda’r 13 amod a amlinellir yn yr adroddiad ac ychwanegu amod ychwanegol ar oleuadau i sicrhau y caiff cynllun goleuadau ei gyflwyno i a’i gytuno ar gyfer y safle cyn i unrhyw lain gael ei defnyddio, ac mai dim ond fel y cytunwyd gan y cynllun hwn y dylai goleuadau fod. Dylid diwygio amod 6 fel yr amlinellir mewn gohebiaeth hwyr. Dylid ychwanegu gwybodaeth i gynnwys cyfeiriad at yr angen am drwydded safle.

 

 Pan roddwyd y cynnig i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

O blaid cymeradwyo  :           13

Yn erbyn cymeradwyo           :           1

Ymatal           :           2

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynwyd cymeradwyo DM/2020/00623 yn destun i’r 13 amod a amlinellir yn yr adroddiad ac y dylid ychwanegu amod ychwanegol ar oleuadau i sicrhau y caiff cynllun goleuadau ei gyflwyno i a’i gytuno ar gyfer y safle cyn y caiff unrhyw lain ei ddefnyddio, a dim ond fel y cytunwyd gan y cynllun y dylai’r goleuadau a osodir ar y safle fod. Dylid diwygio amod 6 fel yr amlinellwyd mewn gohebiaeth hwyr ac ychwanegu gwybodaeth i gynnwys cyfeiriad at yr angen am drwydded safle.

 

6.

Yr Arolygiaeth Gynllunio - Penderfyniad apêl: Tir yn ‘Myrtle Cottage’, Cyswllt Caerwent, Caerwent. pdf icon PDF 148 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd yr adroddiad gan y Gyfarwyddiaeth Cynllunio sy’n ymwneud â’r penderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd yn Myrtle Cottage, Dolen Caerwent, Caerwent ar 8 Medi 2020.

 

Nodwyd y cafodd yr apêl ei gwrthod.

 

7.

Penderfyniadau Apeliadau Ebrill 2019 - Mawrth 2020. pdf icon PDF 251 KB

Cofnodion:

Nodwyd y penderfyniadau apêl newydd a dderbyniwyd rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2020.