Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim.

 

2.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 438 KB

Cofnodion:

Cafodd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 6ed Medi 2022 eu cadarnhau a'u llofnodi gan y Cadeirydd.

 

3.

Cais DM/2021/01950 - Cynnig adeiladu uned feithrin annibynnol, llwybr mynediad a defnydd o ardal parcio presennol oddi ar y safle i'w defnyddio fel cyfleuster i rieni gollwng/casglu plant. Ysgol Gynradd Tryleg, Monmouth Road, Tryleg. pdf icon PDF 225 KB

Cofnodion:

Gwnaethom ystyried yr adroddiad ar y cais a'r ohebiaeth hwyr yr argymhellwyd eu cymeradwyo, yn amodol ar yr amodau fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Amlinellodd yr Aelod lleol dros Lanfihangel Troddi a Thryleg Unedig, sydd hefyd yn Aelod o'r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau canlynol:

 

·         Bydd yr adeilad modern yn uwchraddiad i'r adeilad presennol sy'n cael ei ddefnyddio.

 

·         Bydd yr adeilad arfaethedig o fudd i deuluoedd yn Nhryleg ac yn y dalgylch ehangach, gan ddarparu gwell mynediad i ddarpariaeth meithrin a gofal plant fforddiadwy.

 

·         Doedd dim gwrthwynebiad gan drigolion lleol i'r cais.

 

·         Gellir lletya'r adeilad arfaethedig yn hawdd ar y safle heb gael effaith andwyol ar y ddarpariaeth chwarae yn yr ysgol gynradd.  Hefyd, ni fydd unrhyw effaith andwyol i’r pentref na’r trigolion.

 

·         Bydd cael y feithrinfa a'r ysgol gynradd gyda’i gilydd o fudd yn ystod y cyfnod pontio o'r feithrinfa i'r cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 1.

 

·         Fe fydd hi'n haws i rieni gael mynediad i un safle os oes ganddyn nhw blant yn mynychu'r ysgol feithrin a chynradd ar yr un pryd.

 

·         Lliniarwyd materion parcio a godwyd drwy greu darpariaeth barcio ychwanegol a chael amseroedd cychwyn a gorffen cyfnodol.

 

·         Bydd y safle'n llawer mwy diogel, gyda phlant a staff yn cael eu lleoli ar safle sydd â giât a ffens ddiogel.

 

·         Mae'r ddau Aelod lleol o blaid cymeradwyo'r cais.

 

Ar ôl ystyried adroddiad y cais a'r safbwyntiau a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Ni fyddai angen caniatâd cynllunio ar gyfer ardal ddynodedig ar gyfer parcio beiciau.

 

·         Byddai rhagor o baneli ynni haul yn gallu cael eu darparu ar do'r adeilad arfaethedig o dan hawliau datblygu a ganiateir.

 

·         Mae 24 o ddisgyblion yn y feithrinfa, a does dim cynlluniau i gynyddu'r ffigur hwn.

 

·         O ran y potensial ar gyfer pympiau gwres aer / ffynhonnell ddaear, ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ysgogiadau polisi i'r dyfeisiau hyn gael eu mynnu fel rhan o ddatblygiad.   Fodd bynnag, fel Awdurdod, gallwn annog a hyrwyddo'r nodweddion hyn.

 

·         O ran yr oriau agor, gellid diwygio neu ddileu amod 3 a fyddai'n caniatáu defnydd ehangach o'r adeilad arfaethedig megis defnydd gyda'r nos i'r gymuned.

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sirol A. Webb ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sirol B. Callard bod cais DM/2021/01950 yn cael ei gymeradwyo, yn amodol ar yr amodau a amlinellir yn yr adroddiad ond gydag amod 3 yn cael ei ddileu.

 

Ar ôl cael ei roi i'r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid y cynnig          -           15

Yn erbyn y cynnig       -           0

Ymatal             -           0

 

Cafodd y cynnig ei dderbyn.

 

Penderfynwyd y dylid cymeradwyo cais DM/2021/01376 yn amodol ar yr amodau a amlinellir yn yr adroddiad ond gydag amod 3 yn cael ei ddileu.

 

4.

Cais DM/2022/00395 - Estyniad deulawr newydd i ochr eiddo i ddarparu llety rhandy. 1 Pipistrelle Court, Llan-ffwyst, Y Fenni, NP7 9NF. pdf icon PDF 150 KB

Cofnodion:

Gwnaethom ystyried yr adroddiad ar y cais a'r ohebiaeth hwyr yr argymhellwyd eu cymeradwyo, yn amodol ar yr amodau fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Amlinellodd yr Aelod lleol dros Lan-ffwyst a Gofilon, sydd hefyd yn Aelod o'r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau canlynol:

 

·         Bu gwrthwynebiad lleol i'r datblygiad arfaethedig.  Mae Cyngor Cymuned Llan-ffwyst Fawr hefyd yn gwrthwynebu'r cynllun hwn.

 

·         Bydd yr estyniad arfaethedig yn agos iawn at yr eiddo cyfagos, ychydig llai na dau fetr o'r wal ffin.

 

·         Bydd trigolion yr eiddo cyfagos yn edrych allan ar wal fawr gan greu effaith weledol.

 

·         Gall ychwanegu estyniad deulawr ar hyd coridor ystlumod gael effaith negyddol ar y boblogaeth ystlumod leol.

 

·         Ystyrir bod y datblygiad yn rhy fawr. 

 

·         Mae'r Aelod lleol yn cefnogi gwrthod y cais.

 

Ar ôl ystyried adroddiad y cais a'r safbwyntiau a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Byddai angen i gyfanrwydd adeileddol y wal ac unrhyw waith a wneir yn ei agosrwydd fod yn amodol ar ddarpariaethau’r Ddeddf Muriau Cydrannol ac felly’n disgyn y tu allan i gylch gwaith y Pwyllgor Cynllunio.  Pe bai'r cais yn cael ei gymeradwyo, gellid ychwanegu addysgiadol i gyfeirio at y Ddeddf Muriau Cydrannol.

 

·         Byddai'r estyniad arfaethedig yn 7.6 metr i'r crib a 4.1 metr i'r bondo.

 

·         Mae amod 6 yn ymwneud â gwaith tirlunio caled a meddal sy'n cael ei wneud ar y safle. Yn ogystal, mae amod 7 yn gofyn am raglen cynnal a chadw tirwedd am o leiaf bum mlynedd.

 

·         Mae'r coridor tywyll wedi'i ystyried gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac Ecolegydd Cyngor Sir Fynwy.  Mae'r diwygiadau i'r cais a'r plannu yn cael eu hystyried fel rhai derbyniol gyda'r effaith hefyd yn dderbyniol.

 

·         Roedd Swyddogion Cynllunio o'r farn bod yna ffactorau lliniarol pam nad yw'r talcen yn ddatblygiad gormodol ac na fyddai'n achosi niwed annerbyniol i breifatrwydd trydydd parti.

 

Darparodd yr Aelod lleol grynodeb fel a ganlyn:

 

·         Pe bai'r amodau cynllunio gwreiddiol wedi'u bodloni ar gyfer y datblygiad, byddai'n rhaid tynnu'r coed a fyddai wedi'u plannu er mwyn i'r estyniad gael ei adeiladu.  Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Ardal Rheoli Datblygu, er bod y cais yn wahanol i'r gymeradwyaeth wreiddiol, nad yw'r cais a gyflwynwyd heddiw wedi effeithio ar argymhelliad y swyddog, sef ei gymeradwyo.

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sirol M. Powell ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sirol J. McKenna bod cais DM/2022/00395 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar yr amodau a amlinellir yn yr adroddiad, a bod gwybodaeth yn cael ei ychwanegu yn cyfeirio at y Ddeddf Muriau Cydrannol.

 

Ar ôl cael ei roi i'r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid-           12

Yn erbyn         -           3

Ymatal-           0

 

Cafodd y cynnig ei dderbyn.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais hwnnw DM/2022/00395 yn amodol ar yr amodau a amlinellir yn yr adroddiad, a bod gwybodaeth yn cael ei ychwanegu yn cyfeirio at y Ddeddf Muriau Cydrannol.

 

5.

Cais DM/2022/00696 - Estyniad blaen un llawr arfaethedig. Arosfa, Llanfair Is Coed, Sir Fynwy, NP16 6LY. pdf icon PDF 152 KB

Cofnodion:

Gwnaethom ystyried adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr, yr argymhellwyd ei gwrthod am y tri rheswm a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio ar 6ed Medi 2022 gydag argymhelliad i’w gymeradwyo. Fodd bynnag, barn y Pwyllgor oedd gwrthod y cais a phenderfynwyd y dylid ail-gyflwyno'r cais i'r Pwyllgor Cynllunio, gyda rhesymau priodol dros wrthod.

 

Ar ôl cael ei roi i'r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid gwrthod           -           12

Yn erbyn gwrthod       -           1

Ymatal             -           1

 

Cafodd y cynnig ei dderbyn.

 

Penderfynwyd y dylid gwrthod cais DM/2022/00696 am y tri rheswm a amlinellir yn yr adroddiad.