Agenda and minutes

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 7fed Medi, 2021 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un.

2.

Cadarnhau cywirdeb cofnodion y cyfarfod blaenorol ar 3ydd Awst 2021. pdf icon PDF 221 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd a llofnodwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 3ydd Awst 2021 gan y Cadeirydd.

3.

Cais DM/2019/00799 – Darparu cyfleuster addysgol i blant cyn iddynt ddechrau yn yr ysgol, a hynny er mwyn hysbysu plant ifanc am yr amgylchedd naturiol drwy gynnig gofod diogel, naturiol iddynt ar gyfer teithiau cerdded a gweithgareddau o dan oruchwyliaeth. At hyn, mae’r cynnig yn cynnwys darparu dau pod coed i’w gosod ar gyfer gwyliau fel bod gwesteion yn medru cysgu yno, ac adeiladu toiled cemegol a lloches rhag y glaw. Rhif Cae. 5735 a 4455, Whitecastle, NP7 8UD. pdf icon PDF 179 KB

Cofnodion:

Gwnaethom ystyried adroddiad y cais a argymhellwyd i'w gymeradwyo yn ddarostyngedig i'r 11 amod a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Wrth nodi manylder yr adroddiad, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Mewn ymateb i gwestiynau a godwyd, nodwyd y bydd plant yn cael eu gollwng yn y cyfleuster addysgol cyn-ysgol am gyfnodau o dair i bedair awr y dydd gydag uchafswm o 12 o blant yn bresennol ar unrhyw adeg benodol.

 

·         O ran dim ond un cyfleuster t? bach oedd, barnwyd bod un cyfleuster a rennir yn briodol i wasanaethu'r cyfleuster addysgol cyn-ysgol a'r llety gwyliau. Fodd bynnag, oherwydd y niferoedd cymedrol o blant a phobl ar eu gwyliau ac y byddai'r plant yn bresennol am gyfnodau penodol yn unig o'r dydd, roedd swyddogion Cynllunio wedi ystyried y byddai'r trefniant hwn yn dderbyniol.

 

·         Mae'r cais yn ôl-weithredol. Ni chyflwynwyd unrhyw gamau gorfodi gan fod y cais cyfredol yn ganlyniad cam ymchwilio gorfodaeth yr achos gorfodi.

 

·         Byddai plant cyn-ysgol yn cael eu monitro'n agos gan staff cymwys wrth ddefnyddio'r holl gyfleusterau ar y safle.

 

·         Nodwyd y gellid ychwanegu amod bod unrhyw elfen adeiledig ar y safle sy'n rhoi’r gorau i’w defnydd cymeradwy yn cael ei symud o'r safle o fewn amserlen benodol.

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir R. Edwards ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir M. Powell y dylid cymeradwyo cais DM/2019/00799 yn ddarostyngedig i'r 11 amod a amlinellir yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i amod ychwanegol:

 

·         Yna bod unrhyw elfen adeiledig ar y safle sy'n rhoi'r gorau i'w defnydd cymeradwy yn cael ei symud o'r safle o fewn amserlen benodol.

 

Ar ôl pleidleisio, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid cymeradwyo  -           13

Yn erbyn cymeradwyo           -           0

Ymataliadau                            -           0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Gwnaethom benderfynu bod cais DM/2019/00799 yn cael ei gymeradwyo yn ddarostyngedig i'r 11 amod a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i amod ychwanegol, fel a ganlyn:

 

Bod unrhyw elfen adeiledig ar y safle sy'n rhoi'r gorau i'w defnydd cymeradwy yn cael ei symud o'r safle o fewn amserlen benodol.

4.

Cais DM/2020/00636 - Adeilad cadw defaid / at ddibenion amaethyddol cyffredinol. Fferm Henrhiw, Monkswood, Brynbuga. pdf icon PDF 196 KB

Cofnodion:

Gwnaethom ystyried adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd i'w gymeradwyo yn ddarostyngedig i'r wyth amod a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Mynychodd yr Aelod lleol dros Lanbadog y cyfarfod trwy wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau a ganlyn:

 

·         Mynegwyd pryder y gallai'r tir rhwng Fferm Henrhiw a'r Ysguboriau fod wedi gwahanu.

 

·         Roedd y ddwy sied y cytunwyd arnynt yn benderfyniadau a ddirprwywyd gan swyddogion beth amser yn ôl.

 

·         Mynegwyd pryder y byddai uchder yr adeiladau arfaethedig yn ormodol ar gyfer lleoliad gwledig a gofynnwyd a oedd angen adeilad o'r fath ar gyfer ffermio defaid.

 

·         Mae angen ail-werthuso'r safle cyfan.

 

·         Mae'r cais am y garafán breswyl ar y safle i'w lleoli filltir i ffwrdd ac mae ar wahân i Fferm Henrhiw.

 

·         Ystyriwyd nad oedd y byndiau ar y safle wedi'u cytuno.

 

·         Mae rhan o safle'r cais wedi'i lleoli ar safle llawr caled anawdurdodedig. Ystyriwyd na ddylid cymeradwyo'r cais felly.

 

·         Gofynnodd yr Aelod lleol i'r Pwyllgor Cynllunio ohirio ystyried y cais i gynnal adolygiad llawn o'r cynnig a chynnal archwiliad safle.

 

Ar ôl ystyried adroddiad y cais a'r safbwyntiau a fynegwyd gan yr Aelod lleol, nodwyd y pwyntiau a ganlyn:

 

·         Mae'r adeilad presennol yn cael ei ddefnyddio at ddibenion amaethyddol a storio offer.

 

·         Mae angen yr adeilad newydd arfaethedig gan nad yw'r adeiladau presennol yn addas at y diben ar gyfer ehangu'r ddiadell ddefaid. Mae angen i'r adeilad arfaethedig fod yn uchder penodol i ganiatáu awyru a byddai'n cynorthwyo i ehangu'r fenter hon.

 

·         Mae'r fenter yn uned ar wahân i'r brif fferm.

 

·         Roedd rhai Aelodau o'r farn y byddai archwiliad safle yn fuddiol cyn penderfynu ar y cais.

 

·         Bydd cymeradwyo'r cais yn awdurdodi'r elfen o lawr caled a amlinellir yn yr adroddiad. 

 

·         Dim ond am gyfnod cyfyngedig o amser y mae defaid y tu mewn.  Mae poly-twnneli yn opsiwn arall i'w ddefnyddio adeg ?yna.

 

Crynhodd yr Aelod lleol trwy fynegi ei chefnogaeth o poly-twnnel ar y safle yn lle'r adeilad amaethyddol ychwanegol arfaethedig.

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir P. Murphy ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir D. Evans y dylid cymeradwyo cais DM/2020/00636 yn ddarostyngedig i'r wyth amod a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Cynigiwyd hefyd gan y Cynghorydd Sir A. Webb ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir S. Woodhouse ein bod yn bwriadu gohirio ystyried cais DM/2020/00636 i ganiatáu i'r Pwyllgor Cynllunio gynnal archwiliad safle cyn ailgyflwyno'r cais i Bwyllgor Cynllunio yn y dyfodol i'w benderfynu.

 

Yn gyntaf, ystyriodd y Pwyllgor Cynllunio'r cynnig i gymeradwyo'r cais, fel a ganlyn:

 

O blaid cymeradwyo  -           7

Yn erbyn cymeradwyo           -           7

Ymataliadau                            -           0

 

Roedd y bleidlais yn gyfartal.  Felly, arferodd y Cadeirydd ei phleidlais fwrw a phleidleisiodd yn erbyn cymeradwyo.

 

Ni chariwyd y cynnig.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Cynllunio'r cynnig i ohirio'r cais i gynnal archwiliad safle cyn ailgyflwyno'r cais i Bwyllgor Cynllunio yn y dyfodol i'w benderfynu.

 

O blaid gohirio -           10

Yn erbyn gohirio          -           3

Ymataliadau                -           0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynom ein bod yn bwriadu gohirio ystyried cais DM/2020/00636 i ganiatáu i'r Pwyllgor Cynllunio  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Cais DM/2021/00724 – Cynnig i adeiladu annedd sengl newydd i’r ochr o Rif. 2 Ifton Road. Ty Newydd, 2 Heol Ifton, Rogiet, NP26 3SS. pdf icon PDF 188 KB

Cofnodion:

Gwnaethom ystyried adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd i'w gymeradwyo yn ddarostyngedig i'r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn ddibynnol ar Gytundeb Adran 106.

 

Wrth nodi manylion y cais, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Ystyriwyd bod y safle'n rhy fach i gynnwys yr annedd newydd arfaethedig a byddai'n arwain at orddatblygu'r safle.

 

·         Mae'r ffordd yn rhy gul ac mae tagfeydd arni eisoes.  Byddai eiddo ychwanegol ar y safle gyda cherbydau ychwanegol yn parcio yno yn gwaethygu'r mater tagfeydd ymhellach.

 

·         Gellid lleihau gwerth yr eiddo cynnal pe bai'r cais hwn yn cael ei gymeradwyo.  Mae llai nag un metr o bellter rhwng yr eiddo cynnal a'r annedd newydd arfaethedig.

 

·         Mynegwyd pryder ynghylch amwynder y strwythur unllawr o ran y ffenestri. Ystyriwyd y byddai effaith negyddol o ran y rhagolygon o'r ffenestri hynny.

 

·         Hysbysodd y Rheolwr Ardal Rheoli Datblygu'r Pwyllgor fod materion gormesol ac addasrwydd y llain ar gyfer annedd, maint a graddfa yn faterion goddrychol. Nid oes set benodol o fesuriadau / meintiau plot wedi'u nodi yn y Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA).  

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir P. Murphy ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir G. Howard y dylem wrthod cais DM/2021/00724 ar y sail y byddai'r annedd arfaethedig yn arwain at orddatblygu'r llain ac y byddai'n niweidiol i amwynder eiddo cyfagos.

 

Ar ôl pleidleisio, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid gwrthod           -           13

Yn erbyn gwrthod       -           0

Ymataliadau                -           0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Gwnaethom benderfynu ein bod yn bwriadu gwrthod cais DM/2021/00724 ar y sail y byddai'r annedd arfaethedig yn arwain at orddatblygu'r llain ac y byddai'n niweidiol i amwynder eiddo cyfagos.

6.

ER GWYBODAETH – Yr Arolygiaeth Gynllunio – Penderfyniadau Sydd Wedi Eu Derbyn Am Apeliadau:

6a

Fferm Bushes, Earlswood. pdf icon PDF 148 KB

Cofnodion:

Cawsom adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio a oedd yn ymwneud â phenderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd yn Fferm Llwyni, Coed-yr-iarll ar 29ain  Mehefin 2021.

 

Gwnaethom nodi bod yr apêl wedi'i gwrthod.