Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Sirol P. Clarke fuddiant personol a rhagfarnol yn unol â chod ymddygiad yr Aelodau mewn perthynas â chais DM/2019/00351 gan ei fod yn Gyfarwyddwr gwesty Glen-yr-Afon House a gwesty'r Three Salmons. Mae'r ddau gwmni yn cynnal derbyniadau priodas.  Gadawodd y cyfarfod heb gymryd rhan yn y drafodaeth na phleidleisio arno.

 

Datganodd Cynghorydd Sirol A. Davies fuddiant personol a rhagfarnol yn unol â chod ymddygiad yr Aelodau mewn perthynas â chais DM/2019/00595, gan ei fod yn gyfaill i wrthwynebydd i'r cais. Gadawodd y cyfarfod heb gymryd rhan yn y drafodaeth na phleidleisio arno.

 

Datganodd y Cynghorydd Sirol A. Easson fuddiant personol a rhagfarnol yn unol â chod ymddygiad yr Aelodau mewn perthynas â chais DM/2019/00595, gan ei fod yn adnabod yr ymgeisydd. Gadawodd y cyfarfod heb gymryd rhan yn y drafodaeth na phleidleisio arno.

 

Datganodd y Cynghorydd Sirol D. Evans fuddiant personol a rhagfarnol yn unol â chod ymddygiad yr Aelodau mewn perthynas â cheisiadau DM/2019/00595 a DM/2019/00900 gan ei fod yn aelod o Gymdeithas Tai Sir Fynwy ac yn denant. Gadawodd y cyfarfod heb gymryd rhan yn y trafodaethau na phleidleisio arno.

 

Datganodd y Cynghorydd Sirol R. J. Higginson fuddiant personol a rhagfarnol yn unol â chod ymddygiad yr Aelodau mewn perthynas â chais DM/2019/00900 oherwydd bod cyfaill teuluol yn rhan o’r cais.  Gadawodd y cyfarfod heb gymryd rhan yn y drafodaeth na phleidleisio arno.

 

Datganodd y Cynghorydd Sirol P. Murphy fuddiant personol a rhagfarnol yn unol â chod ymddygiad yr Aelodau mewn perthynas â cheisiadau DM/2019/00595 a DM/2019/00796. DM/2019/00595 - yn agos at y cymdogion. DM/2019/00796 - mae'r ymgeisydd yn cyflogi ei fab.  Gadawodd y cyfarfod heb gymryd rhan yn y drafodaeth na phleidleisio arno.

 

2.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 99 KB

Cofnodion:

Cafodd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 3ydd Medi 2019 eu cadarnhau a'u llofnodi gan y Cadeirydd yn amodol ar y diwygiad fel a ganlyn:

 

Cais DM/2019/00346

 

Dylid diwygio pwynt bwled 4 i ddarllen:

 

Gofynnodd yr Aelod lleol os oedd y Pwyllgor o blaid rhoi caniatâd, ei fod yn ystyried dileu hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer estyniadau.

 

Hysbysodd y Pennaeth Creu Lleoedd, Tai, Priffyrdd a Llifogydd y Pwyllgor fod angen diwygio cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 2il Ebrill 2019, fel a ganlyn:

 

Bu'r Pwyllgor Cynllunio yn ystyried cais DM/2018/02040 ar gyfer ymestyn y maes parcio yn Neuadd y Sir, Brynbuga ar 2il Ebrill 2019.   Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad gyda 9 amod a gohebiaeth hwyr gyda 4 amod ychwanegol, yn ogystal â dau amod a adroddwyd ar lafar yn ymwneud â phwyntiau gwefru cerbydau trydan, i'w gosod o fewn 12 mis i'r defnydd cyntaf o’r maes parcio, a darparu stondinau beiciau.  Cymeradwywyd y cais yn amodol ar yr amodau hynny.  Fodd bynnag, wrth gyfeirio at yr amodau ychwanegol, mae'r cofnodion yn cyfeirio at 13 amod yn unig.

 

Cytunwyd y dylid cywiro'r cofnodion i gyfeirio at bob un o'r 15 amod.

 

3.

Cais DM/2019/00351 - Newid defnydd i gynnwys defnydd cymysg o lety â gwasanaeth/hunanarlwyo a’i ddefnyddio fel lleoliad i gynnal digwyddiadau a phriodasau. Woodbank, Heol Glen Usk, Llanhenwg, Sir Fynwy. pdf icon PDF 252 KB

Cofnodion:

Gwnaethom ystyried yr adroddiad ar y cais a'r ohebiaeth hwyr yr

argymhellwyd i’w gymeradwyo yn amodol ar y deg amod a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Mynychodd y Cynghorydd I. Williams, yn cynrychioli Cyngor Cymuned Llanhenwg, y cyfarfod drwy wahoddiad y Cadeirydd, ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:

 

  • Mae gan y Cyngor Cymunedol bryderon ynghylch yr argymhelliad a amlinellir yn yr adroddiad ac nid yw'n credu ei fod yn gadarn.

 

  • Mae'r weithred bresennol ar gyfer safle gwyliau preifat ar gyfer hyd at 20 o westeion. Mae hyn yn newid i fod yn lleoliad priodas ar gyfer hyd at 100 o westeion.  Mae hyn yn gynnydd sylweddol yn y niferoedd a fydd yn gwaethygu lefelau s?n.

 

  • Y prif faterion yw datblygiadau arfaethedig ac ystyriaethau'n ymwneud â phriffyrdd. Polisïau MV1 a pholisi EP1 ac amwynder a Diogelu'r Amgylchedd.

 

  • O ran y priffyrdd yn yr ardal, mae llawer yn ffyrdd trac sengl sydd wedi'u lleoli o fewn cefn gwlad ac nid ydynt yn hawdd eu llywio. Mae dulliau mynediad at y safle yn fater arwyddocaol felly.  Nid oes unrhyw gynigion yn cael eu cyflwyno i ddiwygio'r mynediad presennol.  Nid yw'r mynediad presennol yn cyd-fynd â'r safonau dylunio cyfredol.

 

  • Mae gwelededd islaw'r safonau presennol ar gyfer ffyrdd gwledig sy’n ddarostyngedig i derfyn cyflymder cenedlaethol. Mae gwelededd i'r chwith dim ond yn 13 metr.  Bydd nifer y cerbydau ychwanegol sy'n defnyddio'r ffordd hon yn gwaethygu pryderon ynghylch diogelwch ar y ffyrdd.

 

  • Mae trigolion lleol wedi mynegi pryder yngl?n â'r s?n sy'n cael ei gynhyrchu.  Bydd hyn yn gwaethygu os caiff y cais ei gymeradwyo. Ni ellir leihau s?n gormodol drwy amodau gorfodi. Felly, mae'r Cyngor Cymunedol o'r farn y dylid gwrthod y cais.

 

Mynychodd Caroline Thomas, a oedd yn cynrychioli gwrthwynebwyr y cais, y cyfarfod drwy wahoddiad y Cadeirydd, ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:

 

  • Mae Cymuned Llanhenwg yn gwrthwynebu'r cais yn gryf.

 

  • Y ddau bryder mawr yw diogelwch ar y ffyrdd a lefelau s?n.

 

  • Pentref bychan gwledig yw Llanhenwg sydd â lonydd trac sengl sy’n gul ar y cyfan.  Mae nifer o fannau ‘dall’ a lleoedd cyfyngedig i basio, a allai fod yn sefyllfa beryglus i yrwyr sy'n anghyfarwydd â'r ardal.

 

  • Mae saith fferm ar hyd Woodbank lle y caiff da byw, tractorau a pheiriannau eu symud o un cae i'r llall yn rheolaidd.  Mae adroddiad y cais yn nodi bod y lôn yn is-safonol ac nad yw'r mynediad yn ddigonol.  Er gwaethaf hyn, mae'r Adran Briffyrdd wedi cefnogi'r cynnig.  Fodd bynnag, mae preswylwyr yn pryderu y bydd gyrwyr sy'n anghyfarwydd â'r mannau dall a'r mannau pasio yn creu man anniogel i yrru ac yn cael canlyniadau negyddol ar ddiogelwch ar y ffyrdd yn yr ardal.

 

  • Mae Woodbank yn agos iawn at nifer o eiddo preswyl. Gyda 20 o westeion, mae s?n gormodol wedi cael ei brofi gan drigolion lleol yn y gorffennol. Ar hyn o bryd, mae'r amodau arfaethedig yn caniatáu i ddigwyddiadau redeg o 8.00am i 1.30am saith diwrnod yr wythnos gyda'r opsiwn i wneud cais am ganiatâd i  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Cais DM/2019/00595 – Newid defnydd o dŷ annedd C3 i dŷ C4 mewn tŷ amlfeddiannaeth. 62 Heol Cas-gwent, Cil-y-coed, NP26 4HZ. pdf icon PDF 126 KB

Cofnodion:

Gwnaethom ystyried yr adroddiad ar y cais a argymhellwyd i'w gymeradwyo yn amodol ar y tri amod a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Mynychodd y Cynghorydd J. Harris, yn cynrychioli Cyngor Tref Cil-y-coed, y cyfarfod drwy wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:

 

  • Ystyriwyd bod Adran Gynllunio'r Cyngor Sir wedi methu darparu Gorchymyn Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol ar gyfer Ysgol Cil-y-coed yn ôl Deddf 1995.

 

  • Mae hyn yn effeithio ar y ddeddfwriaeth a geir ym Mholisi Diogelu Corfforaethol Cyngor Sir Fynwy.

 

  • Mae Cil-y-coed yn ysgol 21ain ganrif. 

 

  • Yr ystyriaeth faterol – mae Rhan 1 o Ddeddf Tai 2004 yn ymwneud yn benodol â thai annedd sydd ag amlfeddiannaeth.  Mae gan yr Awdurdod Lleol ddyletswydd statudol i sicrhau nad oes unrhyw beryglon a bod y ddarpariaeth iechyd a diogelwch yn gywir.  Hefyd, mae ganddo ddyletswydd statudol i unioni unrhyw ddiffygion.

 

  • Y peryglon ar y safle hwn – lleoliad yr annedd mewn perthynas â'r ysgol.  Nid yw'r llain welededd yn cyrraedd y safon o ran mynediad i Ffordd Cas-gwent. Mae hwn yn fater o hawliau Grampiaidd oherwydd perchnogaeth y tir. Mae diffyg troetffordd ac nid yw graddiant y dramwyfa’n cydymffurfio â'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd ac mae'n methu'r Ddeddf Cydraddoldeb.

 

  • Mae darpariaeth parcio ar gyfer 12 o breswylwyr.

 

  • Nid yw'r cais yn bodloni'r meini prawf o fewn Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.  Nid yw'r cais yn creu cymuned gydlynus.

 

  • O dan Adran 50 o Ddeddf 2014, dylai pob rhan o'r gymuned gael ei chynnwys mewn unrhyw strategaeth dai sy'n cael ei chynnig. Ystyriwyd bod yr Awdurdod wedi methu â symud y mater hwn yn ei flaen.

 

  • Roedd pryderon ynghylch adroddiad y cais ynghylch trwyddedu pobl ac ni all yr Awdurdod wahaniaethu yn erbyn unrhyw un sy'n mynd i mewn i'r math hwn o lety.

 

Mynychodd Victoria Hallet, a oedd yn cynrychioli gwrthwynebwyr i'r cais, y cyfarfod drwy wahoddiad y Cadeirydd, ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:

 

  • Mae'r gymuned yn sefydlog ac yn heddychlon, ond mae'n agored i niwed, gan ei bod yn cynnwys pensiynwyr sydd â chyflyrau iechyd a thrigolion iau sydd ag anableddau.

 

  • Caiff y cais am ddefnydd hostel C4 ei wrthwynebu'n gryf gan y gymuned leol. Mae dros 70 o wrthwynebiadau ysgrifenedig wedi'u cyflwyno gan yr ystyriwyd y byddai newid mewn statws yn gwneud y gymdogaeth yn llai diogel ac yn llai heddychlon.

 

  • Mae Shelter a'r Big Issue yn darparu tystiolaeth yngl?n â'r effaith ar iechyd corfforol a meddyliol pobl sy'n cael eu gorfodi i dderbyn llety dros dro. Gall tensiwn a gwrthdaro rhwng tenantiaid arwain at ymddygiad gwrthgymdeithasol.

 

  • Mae'r cais ar gyfer nifer fawr o bobl i rannu un gegin mewn cyfleusterau annigonol. Nid oes gan yr annedd drefniadau diogelwch tân ac argyfwng digonol, heb unrhyw ddihangfa dân allanol. Nid yw'n darparu mynediad i bobl anabl.

 

  • Bydd yr annedd yn cael ei leoli y tu mewn i gymdogaeth lle mae nifer o bobl agored i niwed eisoes yn byw.

 

5.

Cais DC/2017/01248 – Adeilad pafiliwn arfaethedig ger yr afon, dec a strwythur mynediad at yr afon (cynllun diwygiedig). Maes Parcio Castell Cas-gwent, Stryd y Bont, Cas-gwent. pdf icon PDF 183 KB

Cofnodion:

Gwnaethom ystyried yr adroddiad ar y cais a'r ohebiaeth hwyr a gafodd ei

argymell i’w gymeradwyo yn amodol ar yr wyth amod a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Wrth nodi manylion y cais, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

  • Roedd Aelod o'r Pwyllgor o'r farn bod y syniad o gael cyfleuster o'r natur hwn wedi'i leoli yn y maes parcio yn dda.  Fodd bynnag, mynegwyd pryder y byddai'r adeilad arfaethedig yn adeilad dau lawr. Bydd golwg yr adeilad deulawr o ochr arall yr afon yn creu effaith negyddol.  Bydd yr adeilad arfaethedig hefyd yn cael ei leoli o flaen Porth y Castell yn amharu ar olygfa'r castell. Felly, ystyriwyd y byddai'r adeilad deulawr yn cael effaith ormesol ar y safle hanesyddol hwn.

 

  • Mewn ymateb, hysbysodd y Rheolwr Gwasanaethau Datblygu’r Pwyllgor fod Cadw a Rheolwr Treftadaeth Cyngor Sir Mynwy wedi asesu'r cais o ran golygfeydd o'r Castell i'r ardal gadwraeth. Aseswyd y byddai effaith fach ond ni fyddai'n niweidiol.  Byddai gosodiad y castell yn parhau i gael ei gadw.

 

  • Cefnogwyd y dyluniad gan Aelodau eraill o'r Pwyllgor a fynegodd y farn bod y cais hwn gyda'r llawr ychwanegol yn well dyluniad o'i gymharu â'r cynnig gwreiddiol a'i fod yn fwy cydnaws â'r ardal o'i hamgylch.

 

  • Bydd yr adeilad arfaethedig yn darparu gwasanaeth amhrisiadwy i'r dref ac yn gwella twristiaeth o fewn yr ardal, yn ogystal â rhoi hwb i economi Cas-gwent.

 

Fe'i cynigiwyd gan y Cynghorydd Sirol P. Murphy a'i eilio gan y Cynghorydd Sirol A. Davies y dylid cymeradwyo cais DC/2017/01248 yn amodol ar yr wyth amod fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

 

Ar ôl cael ei roi i'r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid cymeradwyo            -           12

Yn erbyn cymeradwyo        -           0

Ymatal                                    -           1

 

ENILLWYD y bleidlais.

 

Penderfynwyd y dylid cymeradwyo cais DC/2017/01248 yn amodol ar yr wyth amod fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

 

 

 

6.

Cais DM/2018/01071 – Darparu unedau diwydiannol ysgafn gyda’r holl waith cysylltiedig sydd i’w defnyddio o fewn B1, B2, a B8. Thompson & Thompson, Pill Way, Ystâd Ddiwydiannol Severn Bridge, Porthsgiwed, Cil-y-coed. pdf icon PDF 151 KB

Cofnodion:

Gwnaethom ystyried yr adroddiad ar y cais a'r ohebiaeth hwyr a argymhellwyd i'w cymeradwyo yn amodol ar y ddau amod a amlinellir yn yr adroddiad a hefyd yn amodol ar waith Asesu Canlyniadau Llifogydd ychwanegol sy'n cael ei wneud i ddangos bod perygl llifogydd mewn perthynas â Nant Nedern ac unrhyw effeithiau ar drydydd partïon, yn cael eu hystyried fel yn dderbyniol i'r Cyngor.

 

Wrth nodi manylion y cais, roedd angen egluro nifer yr unedau gan fod dyluniad y cynllun yn gwrthdaro ag adroddiad y Pwyllgor.

 

Fe'i cynigiwyd gan y Cynghorydd Sirol D. Evans a'i eilio gan y Cynghorydd Sirol A. Easson y dylid cymeradwyo'r cais DM/2018/01071 yn amodol ar y ddau amod fel yr amlinellir yn yr adroddiad a hefyd yn amodol ar waith Asesu Canlyniadau Llifogydd ychwanegol sy'n cael ei wneud i ddangos bod y perygl o lifogydd mewn perthynas â Nant Nedern ac unrhyw effeithiau ar drydydd partïon yn cael eu hystyried fel yn dderbyniol i'r Cyngor. Hefyd, i egluro nifer yr unedau gan fod dyluniad y cynllun yn gwrthdaro ag adroddiad y Pwyllgor.

 

Ar ôl cael ei roi i'r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid y cynnig                 -           12

Yn erbyn y cynnig              -           0

Ymatal                                  -           0

 

ENILLWYD y bleidlais.

 

Penderfynwyd y dylai cais DM/2018/01071 gael ei gymeradwyo yn amodol ar y ddau amod fel yr amlinellir yn yr adroddiad a hefyd yn amodol ar waith Asesu Canlyniadau Llifogydd ychwanegol sy'n cael ei wneud i ddangos bod y perygl o lifogydd mewn perthynas â Nant Nedern ac unrhyw effeithiau ar drydydd partïon yn cael eu hystyried fel yn dderbyniol i'r Cyngor. Hefyd, roedd angen egluro nifer yr unedau gan fod dyluniad y cynllun yn gwrthdaro ag adroddiad y Pwyllgor.

 

7.

Cais DM/2019/00796 – Cadw’r adeiladau presennol a diwygio strwythur y to a’r gweddluniau allanol. Tir yn Bridge House, A48 Canolfan Arddio Cas-gwent i Fryn Pwllmeurig, Pwllmeurig. pdf icon PDF 97 KB

Cofnodion:

Gwnaethom ystyried adroddiad y cais gydag argymhelliad, fel y cytunwyd gan y Pwyllgor Cynllunio yn ei gyfarfod ar 3ydd Medi 2019, am benderfyniad rhanedig.  Sef, cymeradwyo'r newidiadau arfaethedig i'r tai ond gwrthod y garejys arfaethedig.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio ar 3ydd Medi 2019. Yn y cyfarfod hwnnw, roedd y Pwyllgor wedi penderfynu ei fod o blaid rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer yr anheddau ond yn gwrthod rhoi caniatâd i'r garejys ar sail màs, maint a dyluniad, a gofynnodd a fyddai modd cynnal trafodaethau gyda'r ymgeisydd i ganiatáu ailystyried materion cyfeiriadedd, ôl troed a phriffyrdd a oedd yn ymwneud â'r garejys.

 

Ar ôl cyflwyno'r adroddiad ar y cais, hysbysodd Pennaeth Creu Lleoedd, Tai, Priffyrdd a Llifogydd y Pwyllgor, pe bai'n bwriadu cytuno â'r argymhelliad fel yr amlinellir yn yr adroddiad, mai goblygiad y penderfyniad hwnnw fyddai’r angen i gymryd camau gorfodi i gael gwared ar un o'r garejys (a amlinellir mewn pinc ar y cynllun) ac i garej ychydig yn fwy gael ei hadeiladu (wedi'i hamlinellu mewn glas ar y cynllun).

 

Amlinellodd yr Aelod lleol ar gyfer Drenewydd Gelli-farch, sydd hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau canlynol:

 

  • Mae'r ymgeisydd wedi bod yn amharod i newid dimensiynau'r garej.

 

  • Roedd un o'r garejys a oedd yn agos at d? yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i faterion yn ymwneud â gorgysgodi.

 

  • Os bydd y Pwyllgor yn penderfynu cymeradwyo'r penderfyniad rhanedig, awgrymwyd y dylai'r amodau presennol barhau a bod amod ychwanegol yn cael ei ychwanegu i sicrhau bod y tri lle parcio fesul annedd am byth yn cael eu nodi.  Os yw'r ymgeisydd yn penderfynu apelio, mae angen ystyried goblygiadau TAN 15. Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr y Tîm Ardal Rheoli Datblygu, o ran TAN 15, fod caniatâd ar gyfer dau annedd eisoes yn bodoli ar y safle.  Fel rhan o benderfyniad rhanedig, byddai'r tai yn cael eu cymeradwyo gyda'r garejys yn cael eu gwrthod.  O ran yr amodau, a'r amod ychwanegol a amlinellwyd gan yr Aelod lleol, byddai'r rhain yn cael eu hychwanegu.

 

Ar ôl ystyried adroddiad y cais a'r safbwyntiau a fynegwyd gan yr Aelod lleol, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

  • Mynegodd rhai Aelodau gefnogaeth i argymhelliad y swyddog, fel yr amlinellir yn yr adroddiad a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Cynllunio ar 3ydd Medi 2019 bod y cais yn cael ei gymeradwyo fel y'i hadeiladwyd.

 

  • Mynegodd Aelodau eraill eu pryder ynghylch y sefyllfa wrth gefn.  Ystyriwyd na weithredwyd y cydsyniad gwreiddiol erioed.  Mae hwn yn gais newydd sy'n seiliedig ar yr hyn a adeiladwyd neu'r hyn y bwriedir ei ddiwygio.

 

  • Mae un o'r garejys yn rhy agos at yr eiddo. Mae'r ffenestri isaf wedi'u cuddio ac mae uchder y garej bron i uchder y to.

 

Fe'i cynigiwyd gan y Cynghorydd Sirol G. Howard a'i eilio gan y Cynghorydd Sirol L. Brown am benderfyniad rhanedig.  Sef, cymeradwyo'r newidiadau arfaethedig i'r tai gyda'r amodau presennol yn aros ac ychwanegu amod ychwanegol i sicrhau bod y tri lle parcio fesul annedd am byth yn cael eu marcio, ond i wrthod y garejys arfaethedig.

 

Ar  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Cais DM/2019/00900 – Estyniad dau lawr i’r ochr ac estyniad dau lawr ac un llawr i’r cefn. 60 Heol Cil-y-coed, Rogiet Cil-y-coed, Sir Fynwy NP26 3SG. pdf icon PDF 73 KB

Cofnodion:

Gwnaethom ystyried yr adroddiad ar y cais a'r ohebiaeth hwyr a gafodd ei

argymell i’w gymeradwyo yn amodol ar y ddau amod a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Wrth nodi manylion y cais, cafodd ei gynnig gan y Cynghorydd Sirol A. Easson a'i eilio gan y Cynghorydd Sirol P. Murphy y dylai cais DM/2019/00900 gael ei gymeradwyo yn amodol ar y ddau amod fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

 

Ar ôl cael ei roi i'r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid y cynnig                   -           11

Yn erbyn y cynnig                -           0

Ymatal                                    -           0

 

ENILLWYD y bleidlais.

 

Penderfynwyd y dylid cymeradwyo cais DM/2019/00900 yn amodol ar y ddau amod fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

 

9.

Cais DM/2019/00938 - Amrywio amod (er mwyn diwygio’r dyluniad ar gyfer cefn yr adeilad) sydd yn ymwneud gyda DC/2015/01588. 34 Stryd Maryport, Brynbuga, Sir Fynwy NP15 1AE. pdf icon PDF 79 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd adroddiadau'r ceisiadau a'r ohebiaeth hwyr a argymhellwyd i'w cymeradwyo, yn amodol ar yr amodau a amlinellir yn yr adroddiadau.

 

Mynegodd yr Aelod lleol ar gyfer Llangybi Fawr, sydd hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Cynllunio, ei bryder i'r Pwyllgor y bydd y ceisiadau arfaethedig yn creu ystafell wydr a fydd yn rhwystro'r olygfa o ffenestr cegin yr eiddo drws nesaf.

 

Ar ôl ystyried adroddiad y cais a'r safbwyntiau a fynegwyd gan yr Aelod lleol, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

  • Mynegwyd cydymdeimlad i'r preswylydd a byddai'r datblygiad arfaethedig yn effeithio arno. Fodd bynnag, ystyriwyd y gellid adeiladu'r heulfan arfaethedig o dan hawliau datblygu a ganiateir ar ôl cwblhau'r caniatâd presennol.

 

  • Drwy newid strwythur yr elfen ddeulawr i'r cefn, mae wal ddeulawr yn wynebu'r ffenestr i'r eiddo gerllaw.  Fodd bynnag, cyn hyn nid oedd mor niweidiol. Ystyriwyd y byddai hyn yn cael effaith llawer mwy niweidiol ar y cymydog nag ar ystafell wydr.

 

  • Ystyriwyd bod y gymeradwyaeth y cytunwyd arni gan yr Arolygiaeth Gynllunio yn wahanol i'r ceisiadau a gyflwynwyd i'r Pwyllgor.

 

  • Hysbyswyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Creu Lleoedd, Tai, Priffyrdd a Llifogydd y gallai Aelodau ystyried diddymu hawliau datblygu a ganiateir er mwyn osgoi estyniadau pellach drwy'r mecanwaith hwn, pe bai'r cais yn cael ei gymeradwyo.

 

Cafodd ei gynnig gan y Cynghorydd Sirol P. Murphy a'i eilio gan y Cynghorydd Sirol M. Powell y dylai ceisiadau DM/2019/00938 a DM/2019/01186 gael eu cymeradwyo yn amodol ar yr amodau fel yr amlinellir yn yr adroddiadau ac yn amodol ar ddileu hawliau datblygu a ganiateir.

 

Ar ôl cael ei roi i'r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid cymeradwyo                        -           4

Yn erbyn cymeradwyo                    -           6

Ymatal                                                -           1

 

Ni chafodd y cynnig ei dderbyn.

 

Felly, fe wnaethom gytuno ein bod yn bwriadu gwrthod ceisiadau DM/2019/00938 a DM/2019/01186 ar y sail bod dyluniad y to gogwydd sengl yn niweidio amwynder yr eiddo cyfagos a niweidio amwynder gweledol. Dylid ailgyflwyno'r cais i gyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio yn y dyfodol gyda rhesymau priodol dros wrthod.

 

10.

Cais DM/2019/01149 – Newid y defnydd a wneir o’r tir ar gyfer cadw ceffylau ac adeiladu ystablau. Tir yn ffinio Sunnybank, A48 Crug i Gylchdro Parkwall, Crug, Sir Fynwy. pdf icon PDF 326 KB

Cofnodion:

Gwnaethom ystyried yr adroddiad ar y cais a'r ohebiaeth hwyr a gafodd ei

argymell i’w gymeradwyo yn amodol ar yr wyth amod a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Amlinellodd yr Aelod lleol ar gyfer Drenewydd Gelli-farch, sydd hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau canlynol:

 

  • I ddechrau roedd pryderon yngl?n â maint y llain gan yr ystyriwyd nad oedd yn ddigon mawr.

 

  • Deallwyd bod yr ymgeisydd naill ai wedi prynu darn o dir tair erw gerllaw, neu wrthi'n ei brynu.

 

  • Cyfeiriwyd at Gyngor Cymunedol Matharn a oedd wedi gwrthwynebu'r cais yn wreiddiol ond a oedd wedi dileu ei wrthwynebiad wedi hynny, yn amodol ar amodau.

 

  • Roedd yr Aelod lleol o'r farn, pe bai'r Pwyllgor yn bwriadu cymeradwyo'r cais, y dylid ystyried rhai newidiadau i'r amodau a amlinellir yn yr adroddiad er mwyn mynd i'r afael â'r pryderon a godwyd gan Gyngor Cymunedol Matharn.

 

  • Mynegwyd pryder ynghylch lleoliad y pentwr gwrtaith gan ei bod yn aneglur lle byddai'r tail yn cael ei osod ar sail dros dro yn y safle llai.  Byddai'n fwy priodol i'r stabl a'r pentwr gwrtaith gael eu lleoli ar y safle tair erw ar sylfaen concrid.

 

Dywedodd Rheolwr y Tîm Ardal Rheoli Datblygu wrth y Pwyllgor, ar ôl siarad â'r ymgeisydd, y nodwyd bod yr ymgeisydd yn y broses o brynu'r tair erw o dir.  Mae'r ymgeisydd yn bwriadu rhoi’r gwrtaith ar y safle hwn a defnyddio’r safle ar gyfer pori.  Dylai amod 7 fynd i'r afael â phryderon ynghylch storio gwrtaith. Er mwyn lleddfu unrhyw bryderon, gellid newid yr amod hwn i gynnwys cynllun rheoli i fynd i'r afael â storio'r gwrtaith.

 

Ar ôl ystyried adroddiad y cais a'r safbwyntiau a fynegwyd gan yr Aelod lleol, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

  • Roedd Cyngor Cymunedol Matharn a gwrthwynebwyr lleol wedi nodi y byddent yn dileu eu gwrthwynebiadau i'r cais ar yr amod bod yr ymgeisydd yn prynu'r tair erw o dir. Er nad yw'r darn hwn o dir yn rhan o'r cais, mae'n bwysig iawn o ran hyfywedd y cynllun. Awgrymwyd y dylid ystyriaeth y cais cael ei roi i’r Panel Dirprwyo er mwyn cael tystiolaeth bod y safle tair erw wedi'i brynu.

 

  • Dywedodd Rheolwr y Tîm Ardal Rheoli Datblygu wrth y Pwyllgor nad yw'r ardal tair erw o dir (sydd wedi'i hamlinellu mewn glas ar y cynllun) yn ffurfio rhan o'r cais.  Nodwyd bod y tir a nodwyd yn yr adroddiad (a amlinellwyd mewn coch ar y cynllun) yn cael ei ystyried yn dderbyniol gyda'r ymgeisydd, ar ôl gwneud trefniadau gyda ffermwyr lleol ar gyfer cadw anifeiliaid. Mae'r tair erw o dir wedi'u nodi yn ystod y broses ymgeisio ac mae'r ymgeisydd wedi dweud wrth yr Adran Gynllunio y gellid defnyddio'r rhan hon o'r tir pan gaiff ei phrynu.

 

  • Yng ngoleuni'r wybodaeth hon, roedd rhai aelodau o'r farn y byddai'r Pwyllgor yn esgeulus o orfodi'r ymgeisydd i brynu'r tair erw o dir er mwyn cael caniatâd cynllunio. Mae hyn o gofio bod y tir a nodir mewn coch yn foddhaol a bod gan yr ymgeisydd hefyd  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

Cais DM/2019/01034 – Adeiladu dau dŷ pedair ystafell wely newydd a’r gwaith ategol. Tir yn ffinio Caestory House, Y Brif Stryd, Rhaglan. pdf icon PDF 89 KB

Cofnodion:

Gwnaethom ystyried yr adroddiad ar y cais a'r ohebiaeth hwyr a argymhellwyd i'w cymeradwyo yn amodol ar y chwe amod fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Cyfreithiol o dan Adran 106.

 

Wrth nodi manylion y cais, fe'i cynigiwyd gan y Cynghorydd Sirol P. Clarke a'i eilio gan y Cynghorydd Sirol M. Feakins y dylai cais DM/2019/01034 gael ei gymeradwyo yn amodol ar y chwe amod, fel yr amlinellir yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Cyfreithiol Adran 106. Hefyd, dylid sefydlu cynllun i fynd i'r afael â manylion y bargod a'r bondo cyn rhoi caniatâd.

 

Ar ôl cael ei roi i'r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid y cynnig                   -           10

Yn erbyn y cynnig                -           0

Ymatal                                    -           0

 

ENILLWYD y bleidlais.

 

Penderfynwyd y dylai cais DM/2019/01034 gael ei gymeradwyo yn amodol ar y chwe amod fel yr amlinellir yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Cyfreithiol Adran 106. Hefyd, dylid sefydlu cynllun i fynd i'r afael â manylion y bargod a'r bondo cyn rhoi caniatâd.

 

 

 

 

 

 

12.

Adroddiad Cadarnhau: Gorchymyn Diogelu Coed (TPO) MCC278 (2019) – Hollycroft, Midway Lane, Y Fenni. pdf icon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaethom ystyried cadarnhau Gorchymyn Diogelu Coed dros dro rhif

MCC278 (2019). Hollycroft, Midway Lane, Y Fenni.

 

Gwnaethom gytuno i gadarnhau Gorchymyn Diogelu Coed rhif MCC278 (2019) – Hollycroft, Midway Lane, Y Fenni, heb ei addasu.

 

 

13.

ER GWYBODAETH – Yr Arolygiaeth Gynllunio – Penderfyniadau am Apeliadau:

13a

24 Heol Belgrave, Y Fenni. pdf icon PDF 67 KB

Cofnodion:

Cawsom adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio a oedd yn ymwneud â phenderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a wnaed ar 17eg Mehefin 2019. Cyfeiriad y safle: 24 Heol Belgrave, Y Fenni.

 

Nodom fod penderfyniad yr apêl wedi'i wrthod.

 

13b

Tir y Tu Nôl i Rosebrook, Watery Lane, Trefynwy. pdf icon PDF 67 KB

Cofnodion:

Derbyniasom adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio a oedd yn ymwneud â phenderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a wnaed ar 6ed Awst 2019. Cyfeiriad y safle: Land at Rear of Rosebrook, Watery Lane, Monmouth.

 

Nodom fod penderfyniad yr apêl wedi'i wrthod.

 

13c

Heol Star, Nant-y-deri, Penperllenni. pdf icon PDF 73 KB

Cofnodion:

Derbyniasom adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio a oedd yn ymwneud â phenderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a wnaed ar 6ed Awst 2019. Cyfeiriad y safle: Heol Star, Nant-y-deri, Goetre.

 

Nodom fod penderfyniad yr apêl wedi'i wrthod.