Agenda and draft minutes

Pwyllgor Craffu Oedolion - Dydd Mercher, 2ail Mawrth, 2022 10.00 am

Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd.

Canllawiau ~ Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Dethol


Mae ein cyfarfodydd Pwyllgor Dethol yn cael eu ffrydio'n fyw a bydd dolen i'r ffrwd fyw ar gael ar dudalen gyfarfod
gwefan Cyngor Sir Fynwy

Os hoffech rannu eich barn ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol, gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon

  • Rhannwch eich barn drwy lanlwytho ffeil fideo neu sain (uchafswm o 4 munud);  neu
  • Cyflwynwch sylwadau ysgrifenedig (drwy Microsoft Word, uchafswm o 500 gair)

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif Fy Sir Fynwy  er mwyn cyflwyno'r ymateb neu ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o'r blaen.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod. Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o'r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol.  Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y cyfarfod.

Os hoffech fynychu un o’n cyfarfodydd i siarad dan y Fforwm Agored i’r Cyhoedd, bydd angen i chi roi tri diwrnod o hysbysiad i ni drwy gysylltu â Scrutiny@monmouthshire.gov.uk. Y cadeirydd sy’n penderfynu faint o amser a roddir i bob aelod o’r cyhoedd i siarad, ond i’n galluogi i roi cyfle i nifer o siaradwyr, gofynnwn nad yw cyfraniadau yn hirach na 3 munud.

Os hoffech awgrymu pynciau i un o'n Pwyllgorau Dethol graffu arnynt yn y dyfodol, gwnewch hynny drwy e-bostio Scrutiny@monmouthshire.gov.uk

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau cyhoeddus

 

3.

Gofal Cartref

Trafod yr heriau cyfredol sydd  yn cael eu hwynebu o fewn y sector gofal a’r cyd-destun yn Sir Fynwy.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaed y cyflwyniad gan Eve Parkinson ac atebodd gwestiynau'r aelodau gyda Tyrone Stokes.

Heriau:

A oes gwahaniaethau rhwng pecynnau gofal a gofal cartref? A ydym yn gweithio law yn llaw ag awdurdodau iechyd neu ar wahân?

Yn bennaf, yr un peth yw pecynnau gofal a gofal cartref. Byddem yn asesu rhywun; mae'r mwyafrif yn dod o dan yr awdurdod lleol oni bai ei fod yn ofal iechyd parhaus. Yn dilyn asesiad, darperir y pecyn gofal naill ai gan ein gwasanaethau gofal cartref mewnol neu ddarparwyr a gomisiynir. Galluogi, ail-alluogi a’r achosion mwy cymhleth yw’r gwasanaeth mewnol ar y cyfan.

A ydym yn rhannol gyfrifol am flocio gwelyau os nad oes gennym ddigon o staff i wneud yr asesiadau'n gyflymach?

Mae ein staff yn mynd i mewn i'r ysbytai i wneud yr asesiadau. Ond ar ôl yr asesiad, pan benderfynir bod angen pecyn gofal ar y person dan sylw y mae’r maen tramgwydd, lle na allwn ddarparu'r hyn y mae'r asesiad wedi'i benderfynu. Mae'r system gyfan yn gymhleth iawn. Nid yw mor syml â rhywun yn cael eu derbyn i'r ysbyty ond yna ni allwn eu rhyddhau oherwydd nad oes gennym becyn gofal. O safbwynt Llywodraeth Cymru weithiau ni ddylai pobl fod wedi cael eu derbyn i'r ysbyty – mae lefel o geisio osgoi risg o ran derbyniadau – ac mae'r dystiolaeth yn amlwg iawn, cyn gynted ag y derbynnir rhywun sydd â sawl cyflwr, neu sy'n h?n, maent yn dirywio'n gyflym iawn. Mae rhai pobl sy'n mynd i'r ysbyty nad oes angen dim arnynt, ac erbyn iddynt fod yn barod i'w rhyddhau, mae angen llawer o gymorth arnynt.

Felly, mewn ysbyty gofal critigol h.y. Y Faenor, bydd yr asesiad yn cael ei wneud pan fyddant yn trosglwyddo o'r fan honno i ysbyty arall, e.e. Nevill Hall?

Na, rydym yn asesu yn Y Faenor hefyd.

Felly gellir tybio bod therapyddion galwedigaethol yn yr ysbyty yn gwneud asesiad? A yw'r asesiad gan y Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhan o hynny? Sut mae'n gweithio o ran rhyddhau pobl o wardiau?

Mae'n amrywio ar draws y sir: mae model ychydig yn wahanol yn Nevill Hall gan fod Therapyddion Galwedigaethol y Bwrdd Iechyd yn trosglwyddo i'n tîm – felly mae’n wasanaeth mewngymorth yn Nevill Hall, ac rydym yn gweithio gyda'n pobl ein hunain. Felly, ar y cyfan, mae ein gweithwyr cymdeithasol ein hunain, therapyddion galwedigaethol a nyrsys yn gwneud gwaith mewngymorth yn yr ysbyty. Yn Ysbyty Brenhinol Gwent mae'r model yn wahanol. Mae gennym Weithiwr Cymorth Adsefydlu a nyrs Cyswllt Rhyddhau o dîm Cas-gwent yn mynd i’r ysbyty i nodi’r bobl o Sir Fynwy a'u rhyddhau. Yn ysbytai cymunedol Cas-gwent a Bro Mynwy mae ein tîm integredig yn gweithio'n llwyr ynddynt.

Yn y tabl ar dudalen 7, mae 104 o bobl heb yn aros am ofal yn y cartref. Sut mae’n nhw’n cael eu cefnogi yn y cyfamser?

Yn aml, teulu a gofalwyr sy'n eu cefnogi. Mae'n fater o unrhyw gymorth ychwanegol, seibiant neu ddarpariaeth gwasanaeth dydd ond mae'n heriol iawn. Os bydd y sefyllfa'n  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai a Digartrefedd pdf icon PDF 260 KB

Craffu’r Stratgaeth Rhaglen Cymorth Tai cyn cyflwyno’r strategaeth i Lywodraeth Cymru ar 31ain Mawrth. Adroddiad yn cynnwys Diweddariad ar Ddigartrefedd.   

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Stephen Griffiths yr adroddiad ac atebodd gwestiynau'r aelodau gydag Ian Bakewell a Rebecca Creswell.

Heriau:

A fydd y drafft hwn yn mynd yn ddrafft llawn ac yna’n benderfyniad gan y cyngor llawn?

Bydd, mae gennym ganiatâd gan Lywodraeth Cymru i gytuno arno’n ôl-weithredol  (yn nhymor newydd y cyngor, ym mis Mehefin neu fis Gorffennaf).

A fyddai ymyrraeth gynnar yn gweithredu ar y cyd â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig? Sut y byddech yn canfod y rheini sydd mewn perygl, er mwyn ymyrryd yn gynnar?

Canfod aelwydydd sy'n cael problemau a allai arwain at ddigartrefedd yw'r her fwyaf. Rydym yn edrych ar ffyrdd o gasglu data a chasglu gwybodaeth gan lawer o sefydliadau, er enghraifft, pa mor agored i niwed yw aelwydydd sy'n profi ôl-ddyledion rhent. Gofynnir i'r rhai sy'n cael lwfans tai lleol am Daliad Tai Dewisol – mae hynny'n arwydd o sefyllfa a allai arwain at ddigartrefedd. Os tynnir ein sylw at hynny'n gynnar, yna gallwn ymyrryd yn gynnar i nodi anghenion a'r cymorth angenrheidiol. Rydym hefyd wedi cysylltu â phob asiant tai yn Sir Fynwy i roi cyfle iddynt dynnu sylw at unrhyw un o'u tenantiaid sy'n dechrau profi risg lefel isel. Rydym am gysylltu ag ymgyrch tlodi'r Cyngor hefyd i annog unrhyw un sy'n profi problem i siarad â ni.

A yw'n werth cynnal arolwg o’r bobl ifanc a'r rhai ag anghenion cymhleth, i ganfod sut y daethant i fod yn ddigartref, i helpu gyda gwaith atal?

Rydym yn edrych ar system i ganfod y rhai a allai ddod yn ddigartref er mwyn creu llwybr tai i ragweld achosion posibl o ddigartrefedd.

A yw'n bosibl newid yr amgylchiadau fel bod landlordiaid yn cael eu talu'n uniongyrchol o fudd-daliadau, yn hytrach na chan y person sy'n cael budd-daliadau?

Mae hyn yn anoddach nawr oherwydd bod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi newid y rheolau sy'n ymwneud â chredyd cynhwysol. Mae trefniant talu uniongyrchol yn bodoli ond mae'n anoddach nag yr arferai fod.

O ran atal, a allwn gymharu ein sefyllfa ni ag awdurdodau eraill, a chydweithio ar feysydd o brofiad penodol?

Strategaeth Gwent oedd y strategaeth ddigartrefedd flaenorol ond roedd y materion flwyddyn yn ôl mor ddifrifol fel bod pob awdurdod lleol am ganolbwyntio ar ei sefyllfa a'i ymateb ei hun, a arweiniodd at y strategaethau'n unigol. Ond rydym yn rhwydweithio'n agos iawn â'n cymdogion – mae cyfarfod heddiw rhwng yr awdurdodau lleol, er enghraifft – sy'n gyfleoedd i rannu a chymharu nodiadau. Mae cynllun gan Went i gefnogi'r rhai sy'n gadael y carchar. Wrth i bethau ddechrau dod nôl i drefn, bydd cydweithio ar ôl Covid yn cynyddu ymhellach.

Mae llawer o bwysau ar deuluoedd yn awr yn deillio o’r broblem yn ymwneud â chostau byw. Efallai, os oes gwasanaeth cyfryngu, na fyddai angen iddynt symud o lety dros dro i lety parhaol?

Mae gennym weithwyr cynhwysiant ariannol yn y tîm opsiynau tai i gefnogi pobl i wneud y gorau o’u gwariant ac incwm. Mae'r Porth Cymorth Tai hefyd yn gwneud llawer o'r gwaith hwn, fel y mae  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Monitro’r Gyllideb pdf icon PDF 630 KB

Craffu’r sefyllfa  gyllidebol (refeniw a chyfalaf) ar gyfer gwasanaethau sydd o fewn cylch gorchwyl y pwyllgor ym Mis 9.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Tyrone Stokes a Jonathan Davies yr adroddiad ac ateb cwestiynau'r aelodau.

Heriau:

Sut rydym yn rhagweld y sefyllfa o ran y grantiau a gawn ar gyfer y gyllideb gyffredinol?

Mae'n anodd eleni, o ystyried faint o arian grant untro rydym wedi’i gael. Mae'r rhain wedi dod i mewn at ddiben penodol, gyda dyddiad dechrau a gorffen penodol. Roedd y diweddaraf ychydig o dan £1.25 miliwn i ariannu gorwariant mewn gofal cymdeithasol, a dyna pam mae'r gorwariant mewn gofal cymdeithasol i oedolion wedi'i ddileu bron yn gyfan gwbl o Fis 6-9. Mae grantiau eraill yn fwy hirdymor, megis grant Cynaliadwyedd y Gweithlu Gofal Cymdeithasol, y manylir arno fel rhan o bwysau'r gyllideb. Caiff grantiau tymor byr eu croesawu ond nid ydynt yn lleddfu'r pwysau hirdymor sydd gennym.

Mae 2021/22 wedi bod yn anodd iawn. A fydd pethau ychydig yn fwy normal y flwyddyn nesaf? A ellid nodi’n gliriach yr hyn a gyflawnir drwy grant, h.y. wedi'u rhestru, yn yr adroddiadau? Pam gwneud cais am grant pan fydd yn golygu bod yn rhaid i ni wedyn ddod o hyd i'r arian o rywle arall i barhau â'r gwasanaeth ar ôl i gyfnod y grant ddod i ben?

Mae gennym gofrestr gynhwysfawr o grantiau canolog, felly gallwn edrych ar sut rydym yn cofnodi hyn yn yr adroddiadau hyn. Mae sylwadau cyfarwyddwr y Prif Swyddog yn cyfeirio at yr effeithiau ar y grantiau hynny, gan ddweud y byddai'r sefyllfa ar y waelodlin £3 miliwn yn waeth heb y grantiau untro hynny. Weithiau caiff grantiau eu rhoi yn y fath fodd fel nad oes angen i ni wneud cais amdanynt. Mae wedi bod yn fwy cymhleth yn ystod Covid oherwydd bod y Gronfa Caledi Covid wedi cynnal llawer o feysydd ledled y cyngor - bydd symud i ffwrdd o hynny yn her sylweddol.

Yn hytrach na grantiau, oni fyddai'n well cael mwy o gyllid craidd?

Byddai, byddai hynny’n rhoi mwy o sefydlogrwydd ariannol i ni. Unwaith y bydd grant yn mynd, rhaid inni benderfynu a allwn gamu i lawr o'r gwariant hwnnw ai peidio, ynteu a oes angen i ni dalu'r gost honno o wasanaethau craidd. Mae'n her.

Pa fath o arbedion a gafwyd, ac a allwn fod yn dawel ein meddwl na fyddant yn effeithio ar wasanaethau?

Rhaid inni gymeradwyo'r gwasanaeth wrth ymdopi â Covid. Mae cyflawni'r arbedion sydd ganddo yn gyflawniad sylweddol. Rhaid i ni sicrhau nad oes unrhyw effaith ar y defnyddiwr terfynol. Wrth symud ymlaen, rydym yn gyfrifol wrth gyflwyno arbedion – nad ydym yn cyflwyno dim ar gyfer y flwyddyn nesaf, mewn gwirionedd, gan nad oes dim o’r rheiny ar ôl.

O ran digartrefedd, bydd grant pellach tan fis Medi i helpu gyda llety Gwely a Brecwast ond beth fydd yn digwydd ar ôl hynny?

Fel gyda gofal cymdeithasol, pan gaiff Cronfa Galedi Covid ei dileu ddiwedd y mis hwn, bydd yn her i barhau i gefnogi'r farchnad honno wrth symud ymlaen. Unwaith y daw'r gronfa i ben, mae ffyrdd eraill i ni eu harchwilio ar gyfer cyllid i'r  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 462 KB

Cofnodion:

Cafodd y cofnodion eu cadarnhau a'u llofnodi fel cofnod cywir, ac fe’u cynigiwyd gan y Cynghorydd Brown a'u heilio gan y Cynghorydd Edwards.

 

 

7.

Blaenraglen Waith y Pwyllgor Dethol Oedolion pdf icon PDF 489 KB

Cofnodion:

Bydd pethau'n newid rhywfaint os/pan gytunir ar strwythur newydd y pwyllgorau. Mae angen i’r mater o safleoedd Sipsiwn a Theithwyr aros ar yr agenda; mae'r darn hwn o waith yn mynd rhagddo.

 

 

8.

Blaenraglen Waith y Cabinet, y Cyngor a’r ICMD pdf icon PDF 193 KB

9.

Cyfarfod Nesaf

Cofnodion:

Caiff ei gynnal ym mis Mehefin ond caiff ei benderfynu'n benodol unwaith y bydd dyddiadur newydd y Cyngor wedi'i gymeradwyo.