Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Oedolion - Dydd Llun, 24ain Ionawr, 2022 10.00 am

Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd.

Select Committee Public Open Forum ~ Guidance

 

Our Select Committee meetings are live streamed and a link to the live stream will be available on the meeting page of the Monmouthshire County Council website

 

If you would like to share your thoughts on any proposals being discussed by Select Committees, you can submit your representation via this form

 

·      Please share your views by uploading a video or audio file (maximum of 4 minutes) or;

·      Please submit a written representation (via Microsoft Word, maximum of 500 words)

 

You will need to register for a My Monmouthshire account in order to submit the representation or use your log in, if you have registered previously.

 

The deadline for submitting representations to the Council is 5pm three clear working days in advance of the meeting.

 

If representations received exceed 30 minutes, a selection of these based on theme will be shared at the Select Committee meeting.  All representations received will be made available to councillors prior to the meeting.


If you would like to suggest future topics for scrutiny by one of our Select Committees, please do so by emailing
Scrutiny@monmouthshire.gov.uk

 

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw geisiadau gan y cyhoedd.

 

3.

Craffu’r Gyllideb: Craffu’r cynigion cyllideb ar gyfer 2022/23. Bydd papur crynodeb ar gyfer y Pwyllgor Dethol ar Oedolion ar y meysydd o fewn ei gylch gorchwyl yn dilyn. pdf icon PDF 331 KB

Defnyddiwch y ddolen hon er mwyn medru darllen y papurau ar gyfer yr eitem hon – sydd ar gael fel rhan o agenda’r Cabinet ar gyfer
19eg Ionawr 2022. 

 

https://democracy.monmouthshire.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=144&MId=4674

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd y cyflwyniad gan yr Aelod Cabinet Phil Murphy.

 

Cafwyd crynodeb o’r pwysau ar y Gwasanaethau Oedolion gan Tyrone Stokes, Rheolwr Cyllid Gofal Cymdeithasol ac Iechyd:

 

Mae pwysau o fewn Gofal Cymdeithasol ac Iechyd sy’n berthnasol i’r Pwyllgor Dethol ar Oedolion yn cynrychioli £2.3 miliwn. O’r swm hwn, mae £1 filiwn ar gyfer Gofal Cymdeithasol Oedolion (SCH2), sy’n berthnasol i’r hyn sydd ei angen i ddarparu’r gwasanaeth y flwyddyn nesaf.  Mae’r mwyafrif o’r pwysau hwn yn deillio o or-recriwtio gofalwyr i’n gwasanaeth gofal cartref mewnol, er mwyn i ni ddarparu gofal cartref i’n cleientiaid oherwydd natur fregus y farchnad gofal allanol.  Gweddill y pwysau yw’r hyn a nodwyd drwy gynnal y rhagolwg eleni.  Mae ychydig dros £100,000 yn cynrychioli’r gostyngiad yn y grant Gweithlu Gofal Cymdeithasol a Chynaliadwyedd, sy’n cyfrannu at wasanaethau craidd.  Daw’r gweddill o gyfran y Pwyllgor Dethol ar Oedolion o’r cynnydd i’r cyflog byw gwirioneddol, sef £1.25 miliwn.

 

Mae yna werth £120,000 o arbedion o gynnydd i ffioedd a thaliadau; mae’r mwyafrif o hyn yn gysylltiedig â’r gwasanaethau Oedolion, yn benodol gwasanaethau preswyl a dibreswyl sy’n dibynnu ar brawf modd.  Mae cap o £100 yr wythnos ar hyn o bryd ar gyfer gwasanaethau gofal cartref - sef yr uchafswm y byddai disgwyl i rywun ei gyfrannu, yn ôl y ddeddfwriaeth.  Ond nid oes unrhyw gap ar gyfer gofal preswyl h.y. os asesir y gall rhywun dalu’r ffioedd llawn eu hunain, dyna a godir.

 

Atebodd Phil Murphy, Tyrone Stokes, Eve Parkinson a Jonathan Davies gwestiynau’r aelodau.

 

Her:

 

Allwch chi esbonio’r gwahaniaeth rhwng y £900,000 ar gyfer y Grant Cyfleusterau i’r Anabl a’r £250,000 ar gyfer Mynediad i Bawb?

 

Mae’r ddau yn grantiau gwahanol. Roedd y £900,000 wedi’i greu o’r gyllideb sylfaenol (a chynyddwyd i hynny y llynedd) – roeddem ni wedi’i gynyddu dros dro yn y blynyddoedd blaenorol.  Mae’r Grant Cyfleusterau i’r Anabl ar gyfer addasiadau i bobl anabl, ac mae Mynediad i Bawb yn gyllideb ar wahân.

 

O ran Gofal Cymdeithasol a’r prinder gofalwyr, mae rhai wedi holi a hoffent gael eu gofalwyr eu hunain a chael y taliadau uniongyrchol yn ôl.  A oes cyfnod o amser safonol rhwng hawlio’r taliad yn ôl a’i dderbyn?

 

Nid yw taliadau uniongyrchol wedi newid:  maent wedi bod ar gael ers blynyddoedd lawer.  Pan fydd gweithiwr cymdeithasol yn asesu rhywun, rhoddir y dewis iddynt dderbyn taliad uniongyrchol, i’w ddefnyddio i gyflogi eu gofalwr eu hunain.  Ar ôl cynnal yr asesiad, a chytuno ar y cynllun gofal, rydym bob amser yn talu 4 wythnos ymlaen llaw, byth fel ôl-daliadau.  Mae’n bosibl y bydd rhywfaint o oedi wrth i ni drafod y costau ac wrth iddynt sefydlu cyfrif banc ond mae hynny bob amser wedi bod yn wir, ac mae’r taliad ymlaen llaw yn goresgyn hyn.

 

Pa ganran o bobl sy’n dewis eu gofalwyr eu hunain a derbyn taliadau uniongyrchol?
A yw hyn wedi cynyddu’n ddiweddar?

 

Tua 200 yw’r nifer sy’n manteisio ar hyn, 8-10% o’r hyn rydym yn ei ddarparu yn nhermau ein darpariaeth gofal cartref i gleientiaid.  Gwelwyd cynnydd bychan yn  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 457 KB

Cofnodion:

Cafodd y cofnodion eu cadarnhau a’u llofnodi fel cofnod cywir, cynigiwyd hyn gan y Cynghorydd Powell ac eiliodd y Cynghorydd Harris.

 

5.

Blaenraglen Waith Pwyllgor Dethol i Oedolion. pdf icon PDF 493 KB

Cofnodion:

Bydd Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai a Digartrefedd yn cael eu trafod yn y cyfarfod nesaf – mae angen cyflwyno’r strategaeth i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd Mawrth.  Cyhoeddir datganiad i’r wasg ar Crick Road yn fuan a allai ddarparu’r manylion y gofynnwyd amdanynt.  Mae’n bosibl y gellir cynnal y cyfarfod cyn y 29ain o Fawrth – gellir cyfuno’r eitem ar yr agenda gyda’r cyfarfod nesaf.  Gofynnodd y Cadeirydd i’r swyddogion baratoi adroddiad byr ar Cam yn Nes at Adref, ar gyfer y cyfarfod nesaf, ar ofal cartref.

 

6.

Blaenraglen Waith y Cyngor a’r Cabinet. pdf icon PDF 258 KB

7.

Cyfarfod Nesaf: Dydd Mawrth 15fed Chwefror 2022 am 10.00am.

Cofnodion:

Nid yw’r Cadeirydd a’r Dirprwy Gadeirydd ar gael ar y 15fed Chwefror 2022, felly cytunwyd ar yr 2il Mawrth yn lle hynny.