Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Oedolion - Dydd Mawrth, 9fed Tachwedd, 2021 10.00 am

Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd.

Cofnodion:

Ni ddaeth unrhyw gyflwyniadau gan y cyhoedd i law.

 

 

3.

Strategaeth Cartrefi Gwag - Craffu ar y strategaeth ar gyfer mynd i'r afael â chartrefi gwag.

Cofnodion:

Cyflwynodd Ian Bakewell yr adroddiad ac atebodd gwestiynau gan yr aelodau gydag Amy Langford a Stephen Griffiths.

 

Her:

 

Mae gennym broblem barhaus gyda thai. Un o’r adeiladau y cyfeiriwyd ato yw’r hen leiandy ar Hen Heol Henffordd. Mae ganddo hanes o gael ei ddefnyddio fel eiddo preswyl ac mae ganddo botensial gwych. Dylem ni, fel cyngor, gymryd yr adeilad drosodd a’i atal rhag mynd i ddwylo datblygwyr preifat.

 

Mae hwn yn adeilad rhestredig. Mae ganddo graidd hanesyddol ac elfen fwy modern. Roedd caniatâd cynllunio wedi’i sicrhau i’w droi’n fflatiau, ac yna cafodd tai newydd eu codi yng nghefn yr adeilad. Gallai fod yn gyfle gwych i greu nifer fawr o fflatiau. Rydym am hwyluso’r defnydd o’r adeiladau hanesyddol hyn. Os yw’n cyflwyno cyfle am dai na ellid ei gyflwyno mewn ffyrdd eraill, yna mae angen i ni geisio manteisio arno. Mae’n werth atgoffa’r aelodau bod y broblem o ran ffosffadau yn parhau i fod yn fawr iawn yng ngogledd y sir mewn perthynas â darparu tai, ond mae cydweithwyr yn gweithio’n galed iawn i ganfod atebion.

 

Sawl eiddo ar y gofrestr o adeiladau mewn perygl y gellid ei ddefnyddio, yn hytrach nag adeiladu ar dir newydd?

 

Nid oes gennym yr union ffigurau wrth law. Mae gennym tua 20 o adeiladau rhestredig sydd mewn perygl sy’n eiddo mwy gwledig. Fel rhan o’n cynllun i wella gwasanaethau, rydym yn mynd i lunio strategaeth a chynllun gweithredu ‘adeiladau mewn perygl’. Byddwn yn nodi camau penodol o fewn amserlenni penodol, gan edrych mewn gwirionedd ar hysbysiadau ffurfiol. Mae angen inni gymryd camau cadarn lle y gallwn, ond dylem hefyd ymgysylltu â’r perchnogion a’u hannog cymaint ag y gallwn. 

 

A yw’r benthyciad treigl 15 mlynedd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag eiddo gwag yng nghanol trefi yn cynnwys eiddo sydd ‘ar werth’?

 

Nid ydym wedi edrych ar fanylion y cyllid eto, ond rydym yn ei weld fel cyfle, er gwaetha’r ffaith mai benthyciad ydydw ac nid yn grant. Un o’r heriau yw’r ffaith nad oes ffrwd gyllido bwrpasol ar gyfer y lefelau hyn o waith gorfodi neu waith cyffredinol. O ran eiddo sydd ar werth, rydym yn hyderus na fyddai’r adnodd benthyciad hwn yn cefnogi prynu eiddo o reidrwydd, ond dylai gefnogi prynu gorfodol a gwerthu gorfodol. Gyda’r dull gweithredu rydym yn ei roi ar waith, mae nifer o gyfleoedd posibl eraill e.e. y grant tai cymdeithasol y gwnaethom ei ddarparu i gymdeithasau tai ar gyfer datblygu tai fforddiadwy. Pe bai cwmpas i gysylltu cymdeithas dai ag eiddo gwag, gallai gyflwyno cyfle. Hefyd, yn newydd y flwyddyn hon mae mynediad i gynghorau at y grant tai cymdeithasol, a byddwn yn cynnwys hynny yn ein hystyriaethau. Ceir ffrydiau cyllido drwy gronfeydd adfywio canol trefi, er enghraifft, er mae’n debygol na fydd hyn eto yn mynd tuag at brynu eiddo. O ran prynu eiddo, rydym yn edrych ar a yw Cyngor Sir Fynwy yn prynu llety, yn hytrach na dibynnu bob tro ar bartneriaid cymdeithasau tai. Nid yw rheoliadau Budd-daliadau Tai yn caniatáu i ni brynu eiddo  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Blaenraglen Waith y Pwyllgor Dethol Oedolion. pdf icon PDF 500 KB

Cofnodion:

Mae’r gweithdy Sipsiwn a Theithwyr yn debygol o gael ei gynnal yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

 

 

5.

Blaen-raglen Waith y Cabinet a'r Cyngor. pdf icon PDF 186 KB

6.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 482 KB

Cofnodion:

7.

Cyfarfod Nesaf: Dydd Mawrth 14eg Rhagfyr 2021 am 10.00am.

Cofnodion:

Cytunwyd na fyddai’r cyfarfod ym mis Rhagfyr yn cael ei gynnal gan ei fod yn gyfarfod ychwanegol ac nad oes ei angen, ac y dylid gwthio dyddiad mis Ionawr ar gyfer craffu ar y Gyllideb yn ôl gan na fyddai’r adroddiadau ar gael erbyn 11 Ionawr.