Agenda and minutes

Special Meeting, Pwyllgor Craffu Cymunedau Cryf - Dydd Llun, 28ain Medi, 2020 2.00 pm

Lleoliad: Remote Meeting. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Nodyn: Click here to watch livestreamed meeting 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd.

I rannu eich adborth am adroddiad Darparu Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn y Dyfodol neu’r Wasanaeth Casgliadau Gardd:

 

·         Anfonwch e-bost at registertospeak@monmouthshire.gov.uk 

·         a byddwch yn cael ymateb awtomatig gyda chyfarwyddiadau ar sut i gyflwyno'r ffeiliau hynny i'r pwyllgor.   

·         Gallwch wedyn: 

o   lanlwytho ymateb ysgrifenedig (uchafswm o 500 gair), neu

o   recordio clip fideo neu sain er mwyn rhannu eich barn (uchafswm o 4 munud).


Os bydd cyflwyniadau'n fwy nag awr yn gyfan gwbl, caiff sylwadau eu rhannu yn ôl thema (a heb eu chwarae’n llawn) ond bydd pob cyflwyniad ar gael i'r pwyllgor.

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau cyhoeddus yw dydd Mercher 23ain Medi am 5pm. Mae manylion llawn am y broses siarad cyhoeddus ar gael ar dudalen 4 y pecyn agenda. 

 

 

Cofnodion:

Yn dilyn y cyflwyniad fideo o ymatebion preswylwyr Brynbuga, cyflwynodd Alison Ivin, aelod o Gyngor Tref Brynbuga, ymateb i’r argymhelliad a wneir yn yr adroddiad i gau Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref (CAGC) Brynbuga fel a ganlyn:

 

 “Mae llawer i’w ystyried yn yr adroddiad. Oherwydd y cyfyngiad amser, byddaf yn canolbwyntio ar ambell i bwynt allweddol yn unig. Yn gyntaf, £40 mil yw’r arbediad a wneir yn sgil cau Brynbuga – nid ydym yn derbyn hyn fe rheswm dros gau. Mae bron i 19,000 o gartrefi ym Mrynbuga a’r ardal gyfagos; mae cyfartaledd y treth cyngor am gartref tair llofft yn £2000, felly telir am y ffigur yma gan daliad treth cyngor 20 o gartrefi yn unig. Cost gwaith hanfodol yw £30 mil; eto, gellir talu am hyn gan 15 cartref.

 

Un pwynt sydd wedi ei wneud yw bod perfformiad Brynbuga a Mitchel Troy yn tynnu cyfrannau ailgylchu i lawr, ac felly’n effeithio ar berfformiad yn erbyn targedau Llywodraeth Cymru. Nid dyma’r sefyllfa eleni, gan fod y pandemig wedi gwella cyfraddau ailgylchu. Dyfynnwyd bod y gyfradd uchaf o ran ailgylchu yn Sir Fynwy wedi ei chyrraedd yn 2021 , sef 74% - felly, pe byddai Brynbuga’n aros ar agor ac yn cael y cyfle i dderbyn yr un gefnogaeth ac y mae canolfannau eraill wedi ei derbyn (o ran addysg, systemau bwcio, ac ati), mae gennym amser i wella. Mae disgwyl i’r broses caffael ddod i ben ym mis Medi 2021; nid oes angen ei gohirio oherwydd gellir gwneud cais am gaffael gyda dwy sefyllfa wahanol. Nid oes angen gwneud penderfyniad o ran cau Brynbuga nawr.

 

Mae rhai ffigurau cost yn yr adroddiad, o ran y gymhariaeth gyda Mitchel Troy a Brynbuga, nad wyf yn gallu eu dilyn, ond beth bynnag, mae’r rhain yn ffigurau hanesyddol. Rydym bellach mewn cyfnod newydd, un nad oedd neb yn disgwyl bod ynddo, o ran y pandemig, sydd wedi dod â newid sydd nid yn unig yn effeithio ar ffigurau ailgylchu y sir gyfan, ond rhai Brynbuga hefyd. Rydym eisiau’r cyfle ym Mrynbuga i ddangos sut y mae ffigurau ailgylchu wedi elwa o newidiadau mewn ymddygiad . Mae’r newidiadau yma wedi digwydd yn ystod y pandemig.

 

Bydd angen gwneud gwaith, yn ôl pob sôn, er mwyn gwella Brynbuga. Bydd y gwaith yn costio tua £30 mil, ond mae symiau mawr wedi eu gwario’n barod yn ystod y blynyddoedd diwethaf er mwyn diogelu dyfodol y cyfleuster – nid ydym eisiau i’r arian yma gael ei daflu i ffwrdd. Roedd yn fuddsoddiad; mae angen buddsoddiad bob amser er mwyn cynnal gwasanaeth. Mewn cyferbyniad â hyn mae cost o dros £1.5 miliwn wedi ei ddyfynnu ar gyfer diweddaru Mitchel Troy. Un sylw sydd wedi ei wneud yw nad oes modd i Frynbuga ail agor am resymau sy’n ymwneud â chadw pellter cymdeithasol; mae dau weithiwr ar un safle. Rydym wedi clywed nad yw’n addas ar gyfer pobl anabl, ond gallai’r gweithwyr dan sylw helpu pobl. Gellir rheoli hyn oll drwy gadw pellter cymdeithasol, yn union fel yr ydym  ...  view the full Cofnodion text for item 2.

3.

Craffu cyn penderfynu ar Ddarpariaeth Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn y Dyfodol (gan gynnwys Brynbuga). pdf icon PDF 2 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Carl Touhig yr adroddiad.

 

Her:

 

A yw’r arbedion o ran staff, llai o oriau a chau yn ystod y dydd yn cynnwys Brynbuga?

 

Mae’r arbedion sy’n deillio o gau yn ystod y dydd a lleihau oriau ac eithrio Brynbuga – nid yw wedi ei gynnwys yn y ffigurau yma. Mae cau Brynbuga’n creu arbediad o £40 mil ynddo ei hun; Mae’r arbediad o £240k ar gyfer cau am ddiwrnod a lleihau’r oriau wedi ei seilio ar y tri safle arall.

 

A yw’r £40 mil ar gyfer y flwyddyn ariannol yma yn unig, neu bob blwyddyn?

 

Mae’n arbediad a fyddai’n cael ei wneud yn ystod y flwyddyn hon. Ar hyn o bryd mae’r safle ar agor 5 diwrnod yr wythnos (50 awr yr wythnos) ac mae 2 aelod o staff ar y safle. Mae’r arbediad yn deillio o hyn – yn fras £20 mil yr aelod o staff. Gan fod y ganolfan wedi cau ar hyn o bryd oherwydd y pandemig, mae’r staff dan sylw’n gweithio yn rhai o’r canolfannau mwy er mwyn helpu i reoli’r ymateb i Covid. Mae Viridor wedi cytuno i roi £40 mil i ni eleni, ar yr amod bod y safle’n aros ynghau, oherwydd byddent wedyn yn mynd yno ac yn clirio’r sgipiau, mynd a’r offer swyddfa oddi yno, ac ati. O’n safbwynt ni, arbedion o ran staff a wneir eleni; nid ydym yn gwybod beth fydd yr arbedion y flwyddyn nesaf, ond byddwn yn cymryd y byddem yn bendant yn arbed £40 mil y flwyddyn nesaf hefyd, heb 2 aelod o staff ar y safle am 50 awr. Bydd peidio â symud sgipiau o Frynbuga i Llan-ffwyst yn arbed mwy o arian fyth. Nid wyf yn gwybod beth fyddai cyfanswm y swm a arbedir, ond byddwn yn disgwyl iddo fod o gwmpas £60 mil y flwyddyn nesaf os yw Brynbuga ar gau.

 

Beth yw’r ateb i bryderon y byddai cau’r safle’n cynyddu traffig ac yn cynyddu’r teithiau y byddai angen eu gwneud ar draws Sir Fynwy, yn enwedig o ran nod Dyfodol Gwyrdd y Cyngor?

 

Gellir lleihau’r pellter y mae pawb yn ei deithio drwy ddefnyddio’r gwasanaeth casglu ar stepen y drws. Mewn ymateb i’r ddadl o ran llygredd yn yr aer a charbon, gwasanaeth casglu ar stepen y drws yw’r ffordd orau ymlaen. Mae hyn yn atal llygredd, ac yn osgoi’r angen i unrhyw un orfod teithio i unman. Mae problem yn barod ym Mrynbuga o ran llygredd aer yng nghanol y dre – ac felly mae angen gofyn y cwestiwn ai priodol, cyn covid, oedd dod â 170 a mwy o geir a loriau mawr drwy Frynbuga bob dydd er mwyn gwasanaethau’r safle, a chynyddu’r broblem.

 

A oes datrysiad ‘hanner ffordd’ wedi ei ystyried ee cael safle mewn man arall, efallai ym Maes Parcio’r Cyngor Sir, a allai ddefnyddio CCTV ac o ganlyniad beidio bod â staff ar y safle?

 

Bu i ni edrych ar symud cyfleuster Brynbuga i leoliad arall yn y dref, ond nid yw pobl eisiau safleoedd  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Craffu cyn penderfynu ar y Gwasanaeth Gwastraff Gardd. pdf icon PDF 240 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn cyflwyniad fideo o ymatebion preswylwyr Sir Fynwy, cyflwynodd y swyddog Laura Carter yr adroddiad.

 

Her:

 

Mae cynnydd o £18 i £35 yn 94% ac yn eithafol iawn. Pa fath o ostyngiad o ran cwsmeriaid a ddisgwylir ar gyfer y gwasanaeth, o ystyried cynnydd mor sylweddol? A ydym yn ceisio cael gwared â’r gwasanaeth ar bwrpas?

Rydym wedi pwysleisio heddiw fod bwlch o ran y cyllid, ac rydym wedi gweithio allan y swm y mae angen i ni ei godi er mwyn cau’r bwlch. Yr argymhelliad heddiw yw ystyried a chymeradwyo’r taliad a godir. O heddiw ymlaen, gobeithiwn y bydd y syniad o daliad yn cael ei gytuno, er mwyn ein galluogi i fynd â’r penderfyniad i’r cabinet. Nid yw’r adroddiad yn awgrymu y dylid codi’r taliad llawn – rydym yn gofyn i’r Pwyllgor Dethol, heddiw, wneud argymhelliad ar y gost.

 

Mae’r adroddiad yn nodi bod nifer o awdurdodau’n defnyddio’r gwasanaeth ailgylchu, ac yn ei gadw’n rhad ac am ddim, er mwyn cadw eu targedau ailgylchu’n uchel. Sut y bydd cynnydd mor sylweddol yn ein helpu yn hyn o beth?

 

Ydy, mae cynghorau yn rhoi cymhorthdal i gynnal y gwasanaeth casglu gwastraff gardd. Y sefyllfa y mae rhai yn ei wynebu yw na fyddent yn cwrdd â’u targedau heb wneud hynny; nid yw Sir Fynwy yn y sefyllfa honno eto, roeddem yn agos iawn at gyrraedd y targed o 65% y llynedd. Mae hyn yn peri pryder. Caiff 8% o’n gwastraff gardd ei gasglu ar stepen y drws; rydym o’r farn, hyd yn oed pe byddai hyn yn gostwng, byddai’r rhan fwyaf o’r gwastraff gardd yn cael ei gyflwyno i’n CAGC – felly byddai’n cael ei gynnwys yn ein cyfraddau ailgylchu o hyd, ond mewn ffordd wahanol.

O ran gwaith llaw a chriwiau, onid oes ystyriaeth wedi ei roi i’r undebau?

Mae ein Rheolwr Gweithrediadau mewn cyswllt agos gyda’r undebau, ac mae wedi trafod y materion gyda hwy.

 

Pam fod y newidiadau yn digwydd nawr? Mae nifer o gamau wedi eu cymryd o ran newidiadau i fagiau – pam na chyflwynwyd biniau ag olwynion arnynt yn gynt, yn enwedig o ystyried eu bod yn cael eu defnyddio’n barod gan awdurdodau eraill?

 

Rydym wedi bod yn trafod symud at finiau ag olwynion arnynt ers peth amser, o safbwynt codi a chario. Nododd adroddiad AD diweddar mai anafiadau cyhyrol-ysgerbydol yw’r math o salwch sy’n effeithio fwyaf ar griwiau. Rydym angen caffael cerbydau: fe ddylai’r cerbydau 2012 sydd gennym fod wedi eu disodli’n barod, ac rydym yn cael problemau mawr gyda’r cerbydau yma. Mae llogi cerbydau’n ddrud iawn, felly nid yw’n opsiwn. Mae gwastraff yn wynebu pwysau aruthrol o ran cyllideb yn ystod y flwyddyn, felly gofynnwyd i ni edrych am ffyrdd o’u lleihau.

 

Mae’r adroddiad yn crybwyll y posibilrwydd y gallai cwmni o’r Fenni gymryd y gwastraff gardd – a fyddant yn talu am hyn, neu a ydym yn ei basio ymlaen iddynt am ddim?

 

Gan Abergavenny Garden Waste mae’r cytundeb i droi gwastraff gardd Sir Fynwy’n gompost, ac rydym yn  ...  view the full Cofnodion text for item 4.