Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Cymunedau Cryf - Dydd Mawrth, 25ain Ionawr, 2022 10.00 am

Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant.

Cofnodion:

Nid oedd yna ddatganiadau o fuddiant.  

 

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd.

Canllawiau ~ Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Dethol

 

Mae ein cyfarfodydd Pwyllgor Dethol yn cael eu ffrydio'n fyw a bydd dolen i'r ffrwd fyw ar gael ar dudalen gyfarfod gwefan Cyngor Sir Fynwy

 

Os hoffech i rannu eich barn ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol, gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon

 

·      Rhannwch eich barn drwy lanlwytho ffeil fideo neu sain (uchafswm o 4 munud) neu os yn well gennych;

·      Cyflwynwch gynrychiolaeth ysgrifenedig (drwy Microsoft Word, uchafswm o 500 gair)

 

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif Fy Sir Fynwy  er mwyn cyflwyno'r ymateb neu ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o'r blaen. 

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod.

 

Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o'r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol.  Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y cyfarfod.


Os hoffech awgrymu pynciau i un o'n Pwyllgorau Dethol graffu arnynt yn y dyfodol, gwnewch hynny drwy e-bostio
Scrutiny@monmouthshire.gov.uk

 

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gyflwyniadau cyhoeddus.  

 

 

3.

Craffu ar y Gyllideb: Craffu ar gynigion y gyllideb ar gyfer 2022/23 Bydd papur cryno ar gyfer y pwyllgor Dethol Cymunedau Cryf ar y meysydd sy'n dod o fewn ei gylch gwaith yn dilyn. pdf icon PDF 368 KB

Defnyddiwch y ddolen hon i gael mynediad i'r papurau ar gyfer yr eitem hon - ar gael fel rhan o Agenda'r Cabinet y 19eg Ionawr 2022 . 

 

https://democracy.monmouthshire.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=144&MId=4674

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd yr Aelod Cabinet Phil Murphy wedi rhoi’r cyflwyniad gyda sylwadau ychwanegol gan Jonathan Davies. Carl Touhig a Jonathan Davies oedd wedi ateb cwestiynau’r Aelodau.  

Her:

Beth fydd yr effaith ar wastraff a gwasanaethau eraill, fel cynnal a chadw tiroedd?

Mae Gwastraff wedi ei effeithio’n benodol yn ystod y pandemig, yn enwedig o ran methu gwneud y gwelliannau a fwriadwyd. Ar nodyn positif, mae yna danwariant gennym, a fydd yn helpu’r gyllideb y flwyddyn nesaf; fodd bynnag, gan nad ydym wedi medru cyflwyno pob dim sydd wedi arwain at yr arbedion ar gyfer y flwyddyn nesaf, byddwn angen gwario’r arian yma'r flwyddyn nesaf. Rydym wedi gweld  nifer gynyddol o bobl yn defnyddio’r safleoedd  CA yn hytrach na chasglu wrth ochr y ffordd, ac mae hyn wedi cynyddu ein cyfraddau ailgylchu yn sylweddol - sydd dipyn yn uwch na thargedau Llywodraeth Cymru eleni, er bod hyn yn gosod pwysau ychwanegol ar y rhengflaen.  

Yn 2021, roeddem wedi gweithredu rhaglen o  ddilyniant a chynllunio ar gyfer staff, hyfforddi mwy o yrwyr HGV, uwch lwythwyr, helpu pobl newydd i ddod i mewn i’r gwasanaeth ayyb. Mae hyn yn gost ychwanegol ond yn gwella’r cyfle sydd gan bobl yn y rhengflaen i ddatblygu yn eu gyrfaoedd. Mae’r Siopau Ail-ddefnyddio a Chaffis Atgyweirio yn mynd yn dda ond maent yn arwain at gostau ac nid ydym wedi llwyddo i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i greu incwm, yn sgil cyfnodau clo  Covid.

Mae’r newid i’r biniau gwastraff yr ardd wedi bod yn llwyddiant aruthrol, gan leihau’r cymhorthdal sydd ei angen gan y Cyngor er mwyn cynnal y gwasanaeth ond eto, mae yn fantais ac anfantais: mae poblogrwydd y gwasanaeth yn golygu  bod angen i ni brynu cerbyd arall. Nid oeddem wedi disgwyl y fath lwyddiant gyda chynnydd o 2,000 o gwsmeriaid. Bydd angen i ni hyrwyddo’r gwasanaeth er mwyn cael mwy o gwsmeriaid a sicrhau nad ydym ar ein colled. Mae llwyth gwaith y tîm cynnal a chadw tiroedd wedi cynyddu’n ddramatig. Rydym yn ceisio rhoi cynnig ar bethau newydd drwy’r amser fel No Mow May. Er bod y rhan fwyaf o bobl yn ymateb yn dda i hyn, mae dal angen esbonio i eraill. Yn cydnabod y trafferthion a ddaw o gael gweithlu sydd yn heneiddio, rydym wedi cyflwyno cynllun dilyniant ymhlith y staff cynnal a chadw tiroedd, gan greu timau i wneud gwaith penodol ac mae ychydig o hyn yn creu incwm – ond rydym wedi cyrraedd  y penllanw ac mae angen i ni fuddsoddi mewn meysydd penodol o fewn y Cyngor.  

Rydym wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau grantiau ar gyfer prosiectau adfywio a gwella canol y trefi ond er mwyn sicrhau bod trefi dal yn edrych ar eu gorau, rhaid i gynnal y seilwaith sydd wedi ei osod. Mae hyn yn ychwanegu costau ond dyma’r peth cywir i’w wneud, yn enwedig wrth i ni ddenu ymwelwyr i ganol y trefi.   

Mae clefyd Chalara (coed ynn) yn effeithio ar y sir gyfan nawr, gyda chynnydd sylweddol yn y nifer o  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Polisi Palmant Caffi - Craffu cyn penderfynu ar y polisi diwygiedig hwn (adroddiad i ddilyn). pdf icon PDF 1 MB

Cofnodion:

Roedd Paul Keeble wedi rhoi cyflwyniad ac ateb cwestiynau’r Aelodau gyda Mark Hand.

Her:

Ym mharagraffau 7 and 7.1, o dan y goblygiadau ar adnoddau: faint fydd yr ymgynghorydd yn costio? A fydd yn cael ei dalu gan y ffi nominal o £10? Os na, pam?

Ni fydd y ffi £10 yn talu am yr adnodd staffio mewnol neu ymgynghorydd a bydd rhaid talu am hyn o’n cyllideb. Nid oes amser gennym gyda’r polisi dros dro i amlinellu ac ymgynghori ar ffi newydd a gofyn i’r Aelod Cabinet i gytuno ar hyn cyn bod y cyfnod cyn-etholiadol yn dechrau. Y ffordd orau yw parhau fel hyn dros dro a datrys hyn unwaith ein bod wedi cadarnhau’r gost o ddarparu’r gwasanaeth a gosod y ffi yn briodol y flwyddyn nesaf.

A oes modd cynnal yr arolwg hwn yn fewnol gan ein gweithwyr ein hunain?

Nid oes digon o staff gennym. Roeddem wedi cael caniatâd yng Ngorffennaf i lenwi nifer o swyddi gwag a chreu rhai newydd; rydym dal yn mynd drwy’r broses hon. Mae llenwi’r swydd yma wedi cymryd amser ac wedi bod yn anodd,    ac mae nifer o swyddi dal yn wag. Nid yw’r adnodd gennym yn fewnol eto, a hynny yn sgil yr holl waith arall sydd yn cael ei wneud gan y tîm.    

Pan fydd y trefniadau wedi eu cytuno a’r meysydd wedi eu nodi, a fydd modd hysbysu’r sawl sydd â nam ar eu golwg bod rhywbeth ar y llawr, os nad oes yna rwystrau diogelwch?  

Os bydd yna  rwystrau diogelwch, byddant wedi eu gorchuddio er mwyn helpu’r sawl sydd â nam ar eu golwg, a byddem yn croesawu unrhyw  awgrymiadau eraill yngl?n â sut i helpu i gynyddu ymwybyddiaeth. Bydd hyn yn rhan o’r broses adolygu, pan ein bod yn ymgysylltu gyda grwpiau gwahanol.  

Mae’r adroddiad yn cyfeirio at ‘gerddwyr’ h.y. y sawl sydd yn cerdded. Ond mae defnyddwyr eraill yn defnyddio’r llwybr - a oes modd defnyddio term gwell?

Mae hyn yn bwynt da ond nid ydym yn sicr pa derm arall y mae modd ei ddefnyddio.  

Rhaid i bawb sydd â thrwydded gael yswiriant atebolrwydd ag isafswm o £5m. Pa sicrwydd ydych wedi derbyn bod pob man trwyddedig wedi sicrhau a’n meddu ar y fath yswiriant?  

Mae yswiriant yn rhan o’r broses drwyddedu – mae’n ddogfen gytunedig gyfreithiol  a byddem angen gweld rhan o’u hyswiriant atebolrwydd cyhoeddus cyn rhoi trwydded. Mae’n amod o’r drwydded.  

A ydym yn delio gydag achosion o gaffis yn mynd y tu hwnt i’w ffiniau?

Mae yna duedd o hyn yn digwydd sydd wedi ei nodi yn yr adran Werthuso, gan fod pobl anabl yn aml yn cael eu heffeithio pan fydd busnesau yn gwthio eu ffiniau ymhellach na’r hyn a ganiateir. Dyma pam, fel rhan o’r polisi dros dro, ein bod angen cynllun sydd yn cael ei fonitro yn aml fel ein bod - pan yn cynnal arolygon - yn medru arolygu’r mannau yma a’n sicrhau eu bod yn gyson gyda’r hyn sydd ar y cynllun. Dylem ystyried  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Ystyried adroddiad a gynhyrchwyd gan y Cynghorydd Sirol V. Smith mewn perthynas â chladdedigaethau ac amlosgiadau. pdf icon PDF 300 KB

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Smith wedi cyflwyno’r adroddiad. Roedd Debra Hill-Howells wedi esbonio gwasanaeth Cyngor Sir Fynwy a Rhian Jackson wedi ateb cwestiynau'r Aelodau.  

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi helpu gyda 7 angladd yn y 3 flwyddyn ariannol ddiwethaf.  Nid oedd y rhain yn ymwneud gyda theuluoedd yn methu talu’r costau am y gwasanaeth angladd ond unigolion heb deulu agos neu wedi ymddieithrio o’u teuluoedd. Rydym yn gofalu ar ôl y broses o gadw llefydd mewn mynwentydd, cynnal gwiriadau fel yr hawl i gladdu'r unigolyn, trefnu’r angladd gyda chyfarwyddwyr angladd, gofalu am y garreg fedd a gofalu am y bedd gyda’r timau cynnal a chadw. Rydym hefyd yn cynnig cymorth a chyngor i’r sawl sydd yn profi’r brofedigaeth.    

Wrth ystyried sut y mae modd i ehangu’r gwasanaeth, rhaid i ni fod yn  realistig, gan mai  un Swyddog Mynwentydd sydd gennym, Rhian Jackson. Mae wedi cynnal trafodaethau o’r blaen gyda chyfarwyddwyr angladd yngl?n ag oes modd gwneud rhywbeth gyda’r gwasanaethau  ‘di-lol’ a beth arall y mae modd i ni wneud fel Awdurdod. Ar y pryd, nid oedd llawer o awch i wneud dim. Mae’r cyfarwyddwyr yn ein hardal eisoes yn cynnig gwasanaeth ‘di-lol’ ond rydym yn hapus i ystyried unrhyw syniadau eraill sydd o bosib yn fuddiol.  

Her:

O ran y 7 angladd yn y 3 flynedd ddiwethaf, a oes yna rywun yn y fath amgylchiadau truenus nad oedd modd cynnal angladd?

Mae hynny’n gywir. Rydym ond yn cynorthwyo ag angladdau lle nad oes teulu agos. Mae’r ysbyty yn ymgymryd â hyn os yw’r person yn marw yn yr ysbyty heb unrhyw arian. Os oes arian ganddynt ond nid yw’r teulu am drefnu’r angladd os ydy’r person wedi marw yn yr ysbyty, byddem yn ymgymryd â’r gwaith hwn.  Felly, mae’n bosib bod yna bobl sydd yn cael trafferth talu am yr angladd ond byddai hyn yn cael ei guddio wrthym a bydd tîm profedigaeth yr ysbyty yn delio gyda hyn. 

Crynodeb y Cadeirydd:

Bydd swyddogion yn trefnu cyfarfod gyda’r Aelod Cabinet Member a’r Cynghorydd Smith er mwyn trafod yr argymhellion mewn mwy o fanylder.  

 

 

6.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol. pdf icon PDF 472 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd y cofnodion ac fe’i llofnodwyd fel cofnod cywrain, a chynigiwyd hyn gan y Cynghorydd Treharne a’i eilio gan y Cynghorydd Smith.

03916731

 

7.

Blaenraglen Waith y Pwyllgor Dethol Cymunedau Cryf. pdf icon PDF 493 KB

Cofnodion:

Mae yna newidiadau wedi bod i’r rhaglen: mae’r cyfarfod nesaf ar 10fed Chwefror  yn mynd i drafod y Strategaeth Iaith Gymraeg a’r Polisi Cyfiawnder Cymdeithasol - a thrafod diwygiadau i'r polisi a’r cynllun gweithredu. Roedd y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ar Reoli C?n i’w drafod ar y diwrnod hwnnw, sydd yn ddarn sylweddol o waith yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus o 3 mis; nodwyd y bydd hyn yn cael ei drafod yng nghyfarfod mis Mawrth, a oedd i’w gynnal yn hwyrach yn Fawrth ond sydd i’w gynnal nawr ynghynt yn sgil yr ystyriaethau cyn-etholiadol. Y dyddiad arfaethedig yw 10fed Mawrth.

Cytunodd yr Aelodau ar 10fed Mawrth am 2pm.

 

 

8.

Blaenraglen Waith y Cabinet a’r Cyngor. pdf icon PDF 258 KB

9.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf.