Skip to Main Content

Agenda and minutes

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

2.

Fforwm Cyhoeddus Agored

Cofnodion:

Ni wnaeth unrhyw aelod o'r cyhoedd annerch y Pwyllgor fel rhan o'r fforwm agored cyhoeddus.

3.

Adroddiad Monitro'r Gyllideb: Mis 2 (Craffu Chwarterol) pdf icon PDF 373 KB

Cofnodion:

·         Mae'r Pennaeth Cyllid Cynorthwyol yn ystyried ffyrdd newydd o adrodd er mwyn rhoi lefel uwch o ddealltwriaeth i Aelodau tra'n ceisio symleiddio adroddiadau, a bydd yn cyfarfod â chadeiryddion pwyllgorau dethol fel rhan o'r gwaith hwn.

·         Ar hyn o bryd mae diffyg cyffredinol o £2.4 miliwn. Mae gorwariant cyffredinol gwerth £750,000 o fewn y portffolio hwn ac mae rhai arbedion nad ydynt wedi'u canfod.

·         Mae'r rhaglen gyfalaf yn cael ei chyflwyno yn unol â’r gyllideb ond bydd angen llithro ymlaen rywfaint o'r gwariant ar gynllun Heol Crug.

·         Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at ddefnydd y cronfeydd wrth gefn yn 2019-20.  Ar hyn o bryd, mae lefelau'r cronfeydd wrth gefn yn 3.19% o wariant net y gyllideb, sy'n is na'r lefelau priodol, sef 4%-6%, ond dylai'r dyfarniad untro ar gyfer TAW helpu i ailgyflenwi'r rhain.

 

Her yr Aelodau

 

·         Mewn ymateb i fewnbwn gan y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol, trafododd y Pwyllgor hygyrchedd adroddiadau ariannol i'r rhai nad ydynt yn gyfrifyddion, a bu cais am ragor o hyfforddiant a chrynodebau.  Cytunwyd y byddai'r opsiynau hyn yn cael eu harchwilio mewn cyfarfod â chadeiryddion pwyllgorau dethol.

·         Heriodd yr Aelodau berfformiad ariannol buddsoddiadau masnachol a'r effaith ar gyllid y cyngor.  Clywodd yr Aelodau fod costau ariannu Castlegate wedi'u diogelu ond bod yna lleoedd rent ar osod yn wag, gyda deiliadaeth o tua 65%, sy'n golygu nad yw'r awdurdod yn cyrraedd targedau incwm. Bydd gwybodaeth am fuddsoddiad masnachol yn cael ei derbyn gan y pwyllgorau buddsoddi ac archwilio

·         Holodd y Pwyllgor a oedd yn iawn terfynu deiliadaeth gr?p y theatr gerddorol ar y safle.  Atgoffwyd yr Aelodau bod angen ystyried yr unedau fel buddsoddiad masnachol yn hytrach na fel asedau gweithredol sy'n gysylltiedig â chyflawni ein diben

·         Holodd yr Aelodau ynghylch y posibilrwydd o gynyddu incwm ymhellach o ynni adnewyddadwy. Clywodd yr Aelodau fod tariffau bwydo i mewn wedi gostwng felly nid yw ynni haul mor ddeniadol ag o'r blaen er bod technoleg bellach yn rhatach.  Mae diffyg capasiti yn y seilwaith cenedlaethol i gymryd mwy o b?er ac efallai y bydd angen i'r Cyngor fod yn gwmni ynni er mwyn oresgyn hyn neu glymu ffermydd ynni haul i mewn gyda datblygiadau tai newydd.

·         Heriodd yr Aelodau a oeddem yn bod yn rhy uchelgeisiol gyda thargedau arbedion Sir Fynwy yn y dyfodol.  Clywodd yr Aelodau fod y gyllideb hon yn cael ei defnyddio fel cyfrif cynnal nes bod yr arbedion yn cael eu dyrannu i gyllidebau unigol.

·         Ceisiodd yr Aelodau ddeall y manteision masnachol sydd ar gael o'n gallu fel corff cyhoeddus i gynhyrchu incwm. Clywodd yr Aelodau fod y Bwrdd Benthyciadau Gweithfyedd Cyhoeddus yn rhoi mynediad i ni at gyfraddau llog ffafriol.  Fodd bynnag, rydym bob amser yn edrych ar ein hadnoddau ein hunain (benthyca mewnol) cyn edrych i'r tu allan. 

 

Canlyniadau

 

·         Gofynnodd yr Aelodau am fwy o eglurder gyda'r adroddiadau gan ychwanegu crynodeb gweithredol a bydd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol yn cyfarfod â chadeiryddion y Pwyllgorau Dethol i fynd â hyn yn ei flaen

·         Heriodd yr Aelodau y targedau arbedion a pherfformiad  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Gwasanaethau Pobl: Diweddariad blynyddol ar absenoldeb salwch a rheoli presenoldeb pdf icon PDF 70 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ynghyd â’r Adran Gweithrediadau sydd â'r lefelau uchaf o absenoldeb

·         Y tri rheswm pennaf dros absenoldeb oedd iechyd meddwl, heintiau a chyfnodau yn yr ysbyty gyda iechyd meddwl yn cyfrif am 22% o’r absenoldebau

·         Mae'r data iechyd meddwl wedi'i ddadansoddi o fewn yr adroddiad i rannu'r prif ffigwr yn faterion sy'n ymwneud â gwaith a materion personol yn ymwneud â phryder a straen.

 

 

Her yr Aelodau

 

·         Mynegodd yr Aelodau bryderon am staff yn derbyn galwadau ffôn ymosodol a chlywsant am yr arferion sydd ar waith i gefnogi staff.

·         Heriodd yr Aelodau lefel yr ymateb i alwadau ffôn a negeseuon e-bost mewn rhai rhannau o'r sefydliad.  Rhoddwyd y dasg i’r Pennaeth y Gwasanaeth baratoi adroddiad ar hyn ar gyfer y Pwyllgor.  Codwyd materion hefyd gyda systemau TGCh ar gyfer yr Aelodau a chafodd yr Aelodau eu hatgoffa mai mater i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd fyddai hyn

·         Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth am gost ariannol absenoldeb oherwydd salwch a chynigiodd y Rheolwr Gwasanaethau Pobl i ddarparu'r wybodaeth hon i'r Aelodau.

 

Canlyniadau

 

·         Bydd y Rheolwr Gwasanaethau Pobl yn darparu'r gost ariannol ar gyfer y ffigwr o absenoldeb oherwydd salwch a'r data cymharol ar gyfer cynghorau eraill

·         Bydd y Pennaeth Polisi a Llywodraethu'n darparu adroddiad ar drefniadau cyswllt cwsmeriaid

 

 

5.

Newid Hinsawdd: Craffu y Drafft Ymateb cyn ei gymeradwyo pdf icon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Cyflwynwyd ymateb drafft i'r argyfwng hinsawdd i Aelodau yn dilyn gweithdai gyda swyddogion ac aelodau o'r gymuned a oedd wedi nodi mwy na 100 o gamau gweithredu posibl

·         Gofynnwyd i'r Aelodau roi eu barn ar y deg amcan drafft ac ymwneud â datblygu polisïau wrth flaenoriaethu a llunio camau gweithredu posibl i fynd i'r afael â'r rhain. 

·         Pwysleisiodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y newid yn yr hinsawdd na all yr awdurdod lleol wneud hyn ar ei ben ei hun, bydd yn gofyn am gydweithrediad i achub ein planed ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

·         Bydd gwaith parhaus yn cynnwys aelodau o'n cymuned sydd â gwybodaeth wych am y pwnc hwn, yn cynnwys ein hysgolion a'n pobl ifanc

 

Her yr Aelodau

 

·         Teimlai'r Aelodau y dylid canolbwyntio mwy ar weithio gyda busnesau. Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod cwmnïau ynni adnewyddadwy lleol wedi cymryd rhan, ond nid y gymuned fusnes ehangach eto, a chlywodd yr Aelodau y byddai caffael corfforaethol yn mynd i'r afael â hyn hefyd.

·         Heriodd yr Aelodau y ffordd y cafodd ystadegau eu cyflwyno yn y strategaeth a rhoddwyd y dasg i swyddogion wneud y rhain yn fwy hygyrch.

·         Cafwyd trafodaeth am y cysylltiadau rhwng allyriadau cerbydau, ansawdd aer ac effeithiau iechyd a sut y gellid defnyddio'r agenda hon i nodi newidiadau bach a fyddai'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol. Cafwyd awgrym hefyd i lobïo Llywodraeth Cymru i newid ei phenderfyniad i beidio â buddsoddi yn yr M4.

·         Bu'r Aelodau'n ystyried y cynllun gweithredu drafft ac yn cyfrannu ystod eang o syniadau i'w lunio, a helpu'r cyngor i leihau ei ôl troed carbon drwy gymysgedd o gamau symlach a chynigion hirdymor mwy uchelgeisiol ac arloesol. Pwysleisiodd yr Aelodau fod yn rhaid i'r Cyngor arwain a cheisio dylanwadu yn ogystal â'r hyn y gallwn ei wneud yn uniongyrchol. 

 

Canlyniadau

 

·         Ymgymerodd aelodau â datblygu polisi gan helpu i flaenoriaethu'r gweithgaredd a fyddai'n rhan o'r cynllun gweithredu a fyddai'n cyd-fynd â'r strategaeth

·         Cytunwyd y câi'r strategaeth ddrafft ei dosbarthu i bob cyngor cymuned a thref i'w thrafod a chynnig sylwadau arni.

·         Sicrhau bod aelodau pwyllgorau dethol eraill yn ymwybodol o gyfleoedd i gymryd rhan yn y gweithgor.

 

 

6.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 71 KB

Cofnodion:

Cytunwyd bod y cofnodion yn rhai cywir.

 

7.

Blaenraglen gwaith Cymunedau Cryf pdf icon PDF 395 KB

Cofnodion:

Nid oes unrhyw eitemau penodol o'r cyfarfod wedi'u hychwanegu at raglen waith.  Gall eitemau a ddosberthir yn dilyn cwestiynau yn yr her heddiw lywio'r rhaglen waith pan fydd aelodau'n eu hystyried.

 

 

8.

Blaenraglen gwaith y Cabinet a'r Cyngor pdf icon PDF 100 KB

Cofnodion:

Nodwyd Blaenraglen Waith y Cabinet a'r Cyngor.

 

9.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf