Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, The Rhadyr, Usk, NP15 1GA with remote attendance

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant.

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

2.

Cadarnhau a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol.

2a

Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio - Panel Hawliau Tramwy 30ain Ionawr 2023. pdf icon PDF 220 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd y cofnodion.

 

2b

Y Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio - 31ain Ionawr 2023. pdf icon PDF 148 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd y cofnodion.

 

3.

Ffioedd y Ddeddf Gamblo. pdf icon PDF 275 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Trwyddedu yr adroddiad ar Ffioedd y Ddeddf Gamblo. Ar ôl y cyflwyniad, gwahoddwyd Aelodau i ofyn cwestiynau:

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn, esboniodd y Prif Swyddog Trwyddedu fod lefel y ffi yn adlewyrchu cost y broses gais i’r awdurdod gan ychwanegu nad yw sefyllfa economaidd y Sir yn faen prawf. Mae gan y safleoedd a drwyddedwyd ar hyn o bryd ganllawiau llym i’w dilyn ac yn cwblhau asesiad risg ar gyfer pob safle gan roi ystyriaeth i e.e. problemau gamblo a sut mae’n effeithio ar gwsmeriaid. Dywedodd y Pennaeth Diogelu’r Cyhoedd datrysiad i beidio caniatáu casinos yn y Sir sy’n destun adolygiad bob tair blynedd.  Mae’r penderfyniad yn adlewyrchu’r effaith niweidiol ar iechyd, yn arbennig y rhai sydd o fewn y grwpiau economaidd-gymdeithasol is a gwneir ymdrechion i drin gamblo problem ar y stryd fawr. Mae’r Comisiwn Gamblo yn cynnwys gamblo ar-lein.

 

·         Gofynnodd Aelod am gyflwr gwael rhai safleoedd a gofynnodd os oes cysylltiad rhwng adnewyddu trwyddedau â chynnal a chadw safle i gyflwr rhesymol. Cadarnhawyd fod yn rhaid i ddeiliaid trwydded unigol gydymffurfio gyda nifer o feini prawf ar gyfer gweithredu’r safle. Eglurwyd ei fod yn ffi flynyddol ac nid yn adnewyddu. Pan gytunir ar drwydded dan y Ddeddf Gamblo, mae’n drwydded gydol oes a dim od os y caiff yr amodau eu torri, er enghraifft, y gellir ei adolygu. Yn nhermau cyflwr gwael, byddai ymyriad yn dibynnu ar risg posibl i ddiogelwch cyhoedd. Caniateir arwyddion tu fas e. yn gwahodd pobl dan 18 oed i safle dros 18. Mae cysylltiad agos gyda’r Comisiwn Gamblo os oes pryderon a chaiff safleoedd eu monitro’n rheolaidd gan Swyddogion Trwyddedu.

 

 

·         Gan nodi nad yw Sir Fynwy yn darparu gwasanaeth cwnsela gamblo, holodd Aelod am ddarpariaeth llesiant. Awgrymwyd drwy beidio derbyn y gostyngiad mewn ffioedd y byddai mwy o gyllid i gyfrannu at lefel gwasanaeth cwnsela. Cyfeiriodd y Prif Swyddog Trwyddedu at yr adrannau o’r Polisi yn trin problemau gamblo e.e. mae’n rhaid i safleoedd ddatgelu manylion ble mae cyngor ar gael. Mae’n rhaid i bob safle gael asesiad risg unigryw pwrpasol i’w ardal. Caiff ystadegau troseddu eu monitro. Esboniwyd fod gwasanaeth cwnsela Cyngor Ar Bopeth yng Nghasnewydd hefyd yn cynnwys Sir Fynwy.

 

·         Gan fod lefelau ffioedd wedi eu cyfyngu i adfer costau, gofynnodd Aelod am eglurhad os caiff costau llawn eu hadennill ac, os na, os oes adenilliad llawn yn bosibl i ddarparu cyllid i gefnogi’r rhai gyda phroblemau gamblo yn Sir Fynwy. Esboniodd y Swyddog fod fformiwla Cymru gyfan i benderfynu ar ffioedd, yn seiliedig ar nifer o ffactorau a chodir yr uchafswm a ganiateir.

 

·         Mynegodd Aelod bryderon am bobl ifanc yn defnyddio gamblo stryd fawr gan holi pa mor briodol oedd lleoliad siopau betio e.e. drws nesaf i gaffes awyr agored. Esboniodd y Swyddog y caiff penderfyniadau ar bob cais newydd am drwydded eu penderfynu gan y Pwyllgor Trwyddedu a maent yn cael eu hasesu wrth ochr y Polisi e.e. heb fod yn agos at ysgolion, heb fod yn effeithio ar blant neu oedolion bregus. Nid yw  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf.