Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, The Rhadyr, Usk, NP15 1GA and remote attendance
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
|
|
I gadarnhau a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 24ain Mai 2022 PDF 133 KB Cofnodion: Cadarnhawyd fod cofnodion y cyfarfod blaenorol yn gofnod cywrain.
|
|
Polisi Tacsis a Llogi Preifat PDF 142 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd y Prif Swyddog Trwyddedu wedi cyflwyno’r adroddiad ar y Polisi Tacsis a Hurio Preifat. Pwrpas yr adroddiad yw hysbysu Aelodau o ofynion y Safonau Statudol ar gyfer Tacsis a Hurio Preifat gan yr Adran Drafnidiaeth a Chanllaw Harmoneiddio Llywodraeth Cymru ar Drwyddedu Cerbydau Tacsi a Hurio Preifat yng Nghymru. Mae’r ddau yn golygu bod angen adolygu’r Polisi ac Amodau Hurio Cerbydau Hackney a Hurio Preifat
Wedi cyflwyno’r adroddiad, gwahoddwyd Aelodau i ofyn cwestiynau:
· Roedd Aelod wedi gofyn sut y mae gwiriadau cofnodion troseddol tramor yn cael eu cynnal os nad oes yna gysylltiad gyda ffeiliau data'r Undeb Ewropeaidd. Esboniwyd fod hyn yn ddibynnol ar ble y mae’r unigolyn wedi bod yn byw cyn symud i’r DU. Mae yna ganllawiau a gwybodaeth gan y Swyddfa Gartref ac ar wefan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Byddent yn cysylltu gyda’r Llysgenhadaeth am Dystysgrif o Ymddygiad Da neu rywbeth tebyg. Wrth ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd nad yw Trwyddedu yn chwarae rhan yn y costau ar gyfer cynnal gwiriadau gan mai’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd sydd yn gyfrifol am hyn. Awgrymwyd bod, yn ddibynnol ar y wlad Ewropeaidd dan sylw, yna bosibilrwydd o wahaniaethu ariannol ar gyfer deiliaid pasbortau Ewropeaidd. Dywedwyd fod problemau yn ymwneud gyda thalu’r costau yn fater i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Pwysleisiwyd pa mor bwysig yw cynnal y gwiriadau cywir. Bydd swyddogion yn gwneud mwy o ymchwil ac yn gwneud ymholiadau gyda’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd er mwyn cadarnhau a oes yna drefniadau i ad-dalu unrhyw berson sydd yn methu fforddio talu’r costau. Awgrymodd Pennaeth Diogelu’r Cyhoedd y byddai gwybodaeth am y gwahaniaeth rhwng gweithiwr o’r DU a gweithiwr o wlad dramor yn ddefnyddiol. Bydd y wybodaeth yma’n cael ei hymchwilio yn ystod y cyfnod ymgynghori. · Roedd Aelod wedi gwneud cais fod gyrwyr yn cael eu profi’n llawn er mwyn cadarnhau eu bod yn ddiogel ar y ffordd, sef prawf os yn bosib ar gyfer gyrwyr tacsis. Cytunwyd y byddai’r pwynt hwn yn cael ei ystyried yn ystod y cyfnod ymgynghori a’r adborth yn cael ei rannu gyda Llywodraeth Cymru · Gofynnwyd i Aelod am y trefniadau gorfodaeth trawsffiniol gan fod Sir Fynwy ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae’r elfen Gymreig wedi ei datganoli i Gymru ond mae hyn yn dilyn polisi’r Adran Drafnidiaeth a bydd mwy o weithio ar y cyd yn digwydd yn y dyfodol.
Yn unol ag argymhellion yr adroddiad, roedd yr Aelodau wedi nodi cynnwys yr adroddiad a’r angen i adolygu ein trefniadau, polisi ac amodau’r drwydded er mwyn cydymffurfio gyda’r Safonau Statudol a chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Yn dilyn pleidlais, roeddem wedi cytuno i gymeradwyo’r broses ymgynghori gyda’r fasnach drwyddedig ar y newidiadau arfaethedig rhwng 14eg Tachwedd a’r 30ain Rhagfyr 2022, ac wedi cytuno i gyflwyno adroddiad pellach i’r Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio i’w ystyried ar 31ain Ionawr.
|
|
Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf. |