Agenda and minutes

Pwyllgor Trwyddedu a Rheleiddio - Dydd Mawrth, 8fed Tachwedd, 2022 2.00 pm

Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, The Rhadyr, Usk, NP15 1GA and remote attendance

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

2.

I gadarnhau a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 24ain Mai 2022 pdf icon PDF 133 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd fod cofnodion y cyfarfod blaenorol yn gofnod cywrain.

 

3.

Polisi Tacsis a Llogi Preifat pdf icon PDF 142 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Prif Swyddog Trwyddedu wedi cyflwyno’r adroddiad ar y Polisi Tacsis a Hurio Preifat. Pwrpas yr adroddiad  yw hysbysu Aelodau o ofynion y Safonau Statudol ar gyfer Tacsis a Hurio Preifat gan yr Adran Drafnidiaeth a Chanllaw Harmoneiddio Llywodraeth Cymru ar Drwyddedu Cerbydau Tacsi a Hurio Preifat yng Nghymru. Mae’r ddau yn golygu bod angen adolygu’r Polisi ac Amodau Hurio Cerbydau Hackney a Hurio Preifat

 

Wedi cyflwyno’r adroddiad, gwahoddwyd Aelodau i ofyn cwestiynau:

 

·         Roedd Aelod wedi gofyn sut y mae gwiriadau cofnodion troseddol tramor yn cael eu cynnal os nad oes yna gysylltiad gyda ffeiliau data'r Undeb Ewropeaidd. Esboniwyd fod hyn yn ddibynnol ar ble y mae’r unigolyn wedi bod yn byw cyn symud i’r DU. Mae yna ganllawiau a gwybodaeth gan y Swyddfa Gartref ac ar wefan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Byddent yn cysylltu gyda’r Llysgenhadaeth am Dystysgrif o Ymddygiad Da neu rywbeth tebyg. Wrth ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd nad yw Trwyddedu yn  chwarae rhan yn y costau ar gyfer cynnal gwiriadau gan mai’r  Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd  sydd yn gyfrifol am hyn. Awgrymwyd bod, yn ddibynnol ar y wlad Ewropeaidd dan sylw, yna bosibilrwydd o wahaniaethu ariannol ar gyfer deiliaid pasbortau Ewropeaidd. Dywedwyd fod problemau yn ymwneud gyda thalu’r costau yn fater i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.  Pwysleisiwyd pa mor bwysig yw cynnal y gwiriadau cywir. Bydd swyddogion yn gwneud mwy o ymchwil ac yn gwneud ymholiadau gyda’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd er mwyn cadarnhau a oes yna drefniadau i ad-dalu unrhyw berson sydd yn methu fforddio talu’r costau. Awgrymodd Pennaeth Diogelu’r Cyhoedd y byddai gwybodaeth am y gwahaniaeth rhwng gweithiwr o’r DU a gweithiwr o wlad dramor yn ddefnyddiol. Bydd y wybodaeth yma’n cael ei hymchwilio yn ystod y cyfnod ymgynghori.

·         Roedd Aelod wedi gwneud cais fod gyrwyr yn cael eu profi’n llawn er mwyn cadarnhau eu bod yn ddiogel ar  y ffordd, sef prawf os yn bosib ar gyfer gyrwyr tacsis. Cytunwyd y byddai’r pwynt hwn yn cael ei ystyried yn ystod y cyfnod ymgynghori a’r  adborth yn cael ei rannu gyda Llywodraeth Cymru

·         Gofynnwyd i Aelod am y trefniadau gorfodaeth trawsffiniol gan fod Sir Fynwy ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.   Mae’r elfen  Gymreig wedi ei datganoli i Gymru ond mae hyn yn dilyn polisi’r Adran Drafnidiaeth a bydd mwy o weithio ar y cyd yn digwydd yn y dyfodol.  

 

Yn unol ag argymhellion yr adroddiad, roedd yr Aelodau wedi nodi cynnwys yr adroddiad a’r angen i adolygu ein trefniadau, polisi ac amodau’r drwydded er mwyn cydymffurfio gyda’r Safonau Statudol a chanllawiau Llywodraeth Cymru.  

 

Yn dilyn pleidlais, roeddem wedi cytuno i gymeradwyo’r broses ymgynghori gyda’r fasnach drwyddedig ar y newidiadau arfaethedig rhwng 14eg Tachwedd a’r 30ain Rhagfyr 2022, ac wedi cytuno i gyflwyno adroddiad pellach i’r Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio i’w ystyried ar 31ain Ionawr.  

 

4.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf.