Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, The Rhadyr, Usk. NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim.

 

2.

Deddf Trwyddedu 2020 Datganiad Polisi pdf icon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe wnaethom ystyried y Polisi Trwyddedu Drafft 2020 cyn ei gyflwyno i'r Cyngor llawn i'w fabwysiadu.

 

Wrth wneud hynny, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Yr ydym ar hyn o bryd yn y cyfnod ymgynghori.   Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, bydd yr adroddiad yn cael ei ailgyflwyno i'r Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio a fydd yn cynnwys unrhyw faterion sydd wedi'u codi yn ystod y cyfnod hwn i'w hystyried gan y Pwyllgor.

 

·         Gan mai dogfen bolisi yw hon, gellir ei hadolygu drwy gydol y cyfnod o bum mlynedd i fynd i'r afael â mân faterion.   Fodd bynnag, er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw faterion o bwys, byddai angen cyfnod o ymgynghori pellach.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd yngl?n ag eitem 21.2 o'r Polisi, nodwyd y gallwch gael hysbysiad digwyddiadau dros dro 10 diwrnod gwaith cyn digwyddiad neu gael hysbysiad digwyddiad dros dro hwyr, sef pum diwrnod gwaith cyn y digwyddiad.  Byddai geiriad yr adran hon o'r ddogfen yn cael ei ddiwygio i'w wneud yn fwy cyfeillgar i'r defnyddiwr.

 

·         Bydd pob deiliad trwydded yn derbyn llythyr yn cadarnhau bod y polisi'n mynd trwy gyfnod ymgynghori.   Bydd y wybodaeth hon ar gael hefyd i'w gweld ar wefan Cyngor Sir Fynwy.  Bydd hysbysiadau hefyd yn cael eu codi yn Neuadd y Sir, Brynbuga ac yn y Siopau un Stop o fewn y Sir yn hysbysu'r cyhoedd bod y polisi'n cael ei ymgynghori.

 

Fe wnaethom nodi’r adroddiad;

 

3.

I gadarnhau ac i arwyddo cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 67 KB

Cofnodion:

Cafodd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio a gynhaliwyd ar 15fed Hydref 2019 eu cadarnhau a'u llofnodi gan y Cadeirydd.

 

Wrth wneud hynny, cafwyd y diweddariadau canlynol:

 

Cofnod 2 - Masnachu ar y Stryd yn y Fenni

 

Nodwyd na fyddai'r Adran Ystadau yn cymryd cyfrifoldeb dros Ganiatadau Masnachu Stryd Bloc o fis Chwefror 2020.  Felly, bydd yr Adran Drwyddedu yn cynnal trafodaethau â Chlerc Cyngor Tref y Fenni gyda'r bwriad o asesu a allai'r Cyngor Tref wneud hyn.

 

Byddai'r Adran Drwyddedu hefyd yn ymchwilio i unrhyw oblygiadau cost ychwanegol i ddigwyddiadau mawr, fel G?yl Fwyd y Fenni, gyda'r bwriad o sicrhau bod y costau hyn yn ddichonadwy ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

Cofnod 3 – cais am drwyddedu Tuk Tuk fel Cerbyd Hurio Preifat

 

Byddai'r mater hwn yn cael ei ymchwilio ymhellach gydag awdurdodau lleol sydd wedi rhoi trwyddedau ar gyfer cerbydau Tuk Tuk ynghylch unrhyw faterion gweithredu a allai fod wedi'u profi. Hyd yma, nid oes unrhyw ymatebion wedi dod i law. 

 

Trefnir taith mewn Tuk Tuk a fydd yn cynnwys Swyddog Trwyddedu a Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio er mwyn asesu materion diogelwch posib y cerbyd.

 

4.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf

Cofnodion:

Dydd Mawrth 14eg Ionawr 2020 am 10.00am.