Agenda and minutes

Public Rights of Way, Pwyllgor Trwyddedu a Rheleiddio - Dydd Mawrth, 1af Gorffennaf, 2025 11.20 am

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Sir Christopher Edwards ddiddordeb personol nad yw’n rhagfarnu oherwydd fod teulu sydd â chysylltiad gyda’i deulu ei hun drwy blant yn berchen un o’r cartrefi ar hyd y llwybr troed cyhoeddus presennol. Ni chymerodd y Cynghorydd Edwards ran yn y bleidlais.

 

2.

DEDDF PRIFFYRDD 1980 – ADRAN 119 LLWYBR CYHOEDDUS, GORCHYMYN GWYRO, LLWYBR TROED 138 (rhan) GOETRE FAWR pdf icon PDF 151 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd swyddogion yr adroddiad i’r Pwyllgor ystyried cais a gyflwynwyd gan berchennog tir Mount Pleasant i wyro llwybr troed 138 (rhan). Roedd angen i aelodau ystyried y gwrthwynebiad i’r gorchymyn arfaethedig yng nghyswllt y profion cyfreithiol perthnasol sy’n berthnasol i Orchmynion y Ddeddf Priffyrdd dan Adran 119 a gwneud argymhelliad i:

 

a)     Naill ai wneud neu beidio gwneud y gorchymyn.

b)     Pe byddai gorchymyn yn cael ei wneud, ac na chaiff y gorchymyn ei wrthwynebu, rhoi awdurdod i Gwasanaethau Cyfreithiol gadarnhau’r gorchymyn yn ddilynol.

 

Pwyntiau a godwyd yn ystod y drafodaeth:

 

Mewn ymateb i gwestiwn am y posibilrwydd o glwyd mochyn, cadarnhawyd pe derbynnid yr argymhelliad o fewn yr atodlen sy’n cyd-fynd â’r cynllun, y byddai amod  fod y glwyd cerddwyr o safon Prydeinig. Felly, dim ond unwaith mae’r glwyd yn ei lle ac yn cyrraedd safon Prydeinig y gallai’r gorchymyn fod yn llwyddiannus.

 

Yng nghyswllt arwyddion, esboniodd swyddogion y caiff Arolwg Ordnans ei hysbysu lle mae unrhyw newidiadau a chaiff newidiadau i lwybrau eu dangos ar y mapiau ar-lein o fewn ychydig wythnosau. Caiff unrhyw arwyddion eu tynnu o’r hen lwybr i atal defnydd. Caiff arwyddion newydd eu hychwanegu at y llwybr newydd a byddai’n cynnwys bathodyn y Cyngor Sir.

 

Cadarnhawyd y bu’r llwybr presennol yn llwybr caniataol a ddefnyddir gan eiddo cyfagos ar gyfer eu ceffylau. Caiff y clwydi eu cloi yn y top a’r gwaelod fel arfer, felly ni chredir ei fod wedi denu unrhyw hawliau tramwy heb eu cofnodi oherwydd natur a defnydd y llwybr hwnnw.

 

Wrth grynhoi, dywedodd y Cadeirydd fod aelodau’r Pwyllgor wedi ymweld â’r ddau lwybr cyn y cyfarfod. Roedd y Pwyllgor wedi gwrando ar un gwrthwynebiad a gafwyd a’r rhesymau dros y gwrthwynebiad. Nododd y pwyntiau canlynol:

 

  • Nad yw’r llwybr troed yn sylweddol wahanol i’r un presennol.
  • Ei fod yn mynd drwy gae lle nad oes unrhyw gerbydau.
  • Na fydd yn effeithio ar fioamrywiaeth.
  • Ei fod yn debyg o ran hyd.
  • Roedd y llwybr troed gwreiddiol drwy fuarth y fferm yn eithaf anwastad dan droed ac yn eithaf anodd i’w gerdded, tra bod y cae yn wastad ac felly yn fwy hygyrch.
  • Roedd y mater yn ymwneud â golygfeydd yn wrthrychol.
  • Mwy o ddiogelwch ar gyfer y fferm yn yr ardal.

 

Pan roddwyd y mater i bleidlais, penderfynodd y Pwyllgor dderbyn yr argymhelliad:

 

Yng nghyswllt y ddeddfwriaeth, profion, canllawiau a pholisïau perthnasol, bod Pwyllgor Ymgynghori Trwyddedu a Rheoleiddio Hawliau Tramwy yn awdurdodi gwneud orchymyn gwyro ar gyfer Llwybr Troed 138 Goetre Fawr dan Adran 119 Deddf Priffyrdd 1980 ac i gadarnhau’r gorchymyn os na cheir gwrthwynebiad.