Agenda and minutes

Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu - Dydd Iau, 10fed Mehefin, 2021 10.00 am

Lleoliad: County Hall, Usk with Remote Attendance

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Nodi apwyntiad y Cynghorydd Sir P. Jordan fel Cadeirydd.

Cofnodion:

Nodwyd apwyntiad y Cynghorydd Sir P. Jordan fel Cadeirydd.

 

2.

Apwyntio Is-Gadeirydd

Cofnodion:

Cafodd y Cynghorydd Richard Roden ei gynnig gan y Cynghorydd Davies a’i eilio gan y Cynghorydd Jordan.

 

3.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

4.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd yn bresennol

 

5.

Yn ystyried Datganiad Uchelgais Economïau’r Dyfodol a’r cyswllt gyda’r darlun rhanbarthol gyda chyfeiriad lleol (adroddiad i ddilyn). pdf icon PDF 141 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cath Fallon a Hannah Jones yr adroddiad gyda chyfraniadau ychwanegol gan Sara Jones, Aelod o’r Cabinet ac atebodd gwestiynau aelodau gyda Frances O’Brien a James Woodcock.

 

Her:

Sut ydyn ni’n annog busnesau i ddod i’r sir o’r tu allan, pan nad oes gennym unrhyw safleoedd yn barod eto? Mae safleoedd oedd wedi eu clustnodi’n flaenorol ar gyfer B1/B2 yn awr wedi cael caniatâd am ddefnydd preswyl – oes yna ddim gostyngiad yn y sefyllfaoedd sydd ar gael felly? A fydd busnesau felly’n cael eu denu i leoedd yn Ne Ddwyrain Cymru fel Casnewydd, gan arwain at i weithwyr fyw yn Sir Fynwy ond gweithio y tu allan i’r sir?

 

Mae ein cydweithwyr yn yr adran Cynllunio yn galw am hyn o bryd ar gyfer safleoedd ymgeisiol. Bu problemau gyda’r galw yn y gorffennol, a dyna pam yr aeth peth tir diwydiannol ar gyfer tai. Ond yn ddiweddar, mae rhai safleoedd oedd dan glo am dipyn yn dechrau ailagor. Bu nifer ohonom, yn cynnwys y Prif Weithredwr, mewn trafodaethau gyda busnesau sy’n dymuno dod i Sir Fynwy ar y safleoedd hynny, sy’n galonogol iawn.

 

Wrth ddelio gydag ymholiadau fel y cyrhaeddant, rydym yn gwneud chwiliadau pwrpasol gyda’n hasiantau lleol i sicrhau ein bod yn darparu’r eiddo cywir ar gyfer y busnes cywir. Fodd bynnag, rydym mewn sefyllfa gyda’n busnesau cynhenid (yn arbennig yng ngogledd y sir) sy’n dod yn gyfyngedig o ran safleoedd. Rydym yn gwneud llawer o waith gyda nhw ar sail unigol ar hyn o bryd i weld sut y gallent ehangu yn lleol – gan eu rhoi mewn cysylltiad gyda Cynllunio – neu edrych ar safleoedd eraill posibl. Mae hyn ar sail dydd-i-ddydd. Mae’n gynnig lleol pwrpasol a rydym yn canfod fod busnesau yn gwerthfawrogi ac yn manteisio o’r gwasanaeth hwnnw. Gall ymholiadau mewnfuddsoddi naill ai ddod yn uniongyrchol gan fusnesau, neu yn fwy aml, drwy Lywodraeth Cymru. Anelwn ddeall anghenion y busnes yn nhermau safle ac unrhyw ymholiadau eraill sydd ganddynt wrth iddynt ystyried adleoli posibl. Mae dynodi safleoedd yn rhan allweddol o hynny ond hefyd ddeall sgiliau posibl neu anghenion staff y dyfodol, ac unrhyw gymorth y gallwn ni neu sefydliadau partner ei roi. Mae cyllid hefyd yn faes sy’n ysgogi nifer o ymholiadau, yn nhermau cyllid grant neu’r buddsoddiad sydd ar gael, yn arbennig o’r sector cyhoeddus. Rydym yn cefnogi ymholiadau ym mhob un o’r meysydd hynny ac yn eu cysylltu gyda sefydliadau eraill a all roi cymorth. Caiff yr ymholiadau a gawn gan Lywodraeth Cymru yn aml eu rhannu gyda nifer o awdurdodau; gall sefydliad edrych ar nifer o opsiynau wrth iddynt geisio adleoli.  Weithiau gallwn gael adborth ar y penderfyniad a wnaeth sefydliad wrth ddewis eu lleoliad. Yn anffodus, serch hynny, weithiau nid yw’n bosibl deall y rhesymau tu ôl  benderfyniad terfynol busnes am eu dewis o leoliad.

 

Yn nhermau mewnfuddsoddiad, a sut mae hynny’n gweithio ar draws y rhanbarth, mae gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd rôl allweddol wrth geisio cefnogi a chydlynu cyfleoedd mewnfuddsoddiad a sgyrsiau. Maent hefyd yn cysylltu gyda Llywodraeth Cymru  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Blaengynllun Gwaith y Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu pdf icon PDF 600 KB

Cofnodion:

Bydd y cyfarfod nesaf yn ystyried Adfywio Canol Trefi a chynigion, a ph’un ai a ddylai ail-drefnu canol trefi barhau oherwydd y pandemig.

 

7.

Cynllunydd Gwaith y Cyngor a’r Cabinet. pdf icon PDF 163 KB

8.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 458 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd y cofnodion..

 

 

9.

Cyfarfod nesaf: Dydd Llun, 15 Gorffennaf 2021 am 10.00am.