Agenda and minutes

Special Meeting, Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu - Dydd Llun, 19eg Hydref, 2020 10.00 am

Lleoliad: Remote Meeting. View directions

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau buddiant.

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o'r cyhoedd yn bresennol.

3.

Adroddiad Monitro Blynyddol Cyfredol y CDLl pdf icon PDF 381 KB

Craffu cyn penderfynu ar y ddau adroddiad cyn eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y swyddogion Rachel Lewis a Craig O'Connor yr adroddiad. Atebodd Craig O'Connor a Mark Hand gwestiynau'r Aelodau.

Her:

Mae'r adroddiad yn nodi bod digon o dir ar gael ar gyfer safleoedd rheoli gwastraff posib - a oes unrhyw un o'r rhain ger Brynbuga?

O ran yr hyn y mae angen i'r CDLl ei gyflawni, mae digon o le o faint digonol. Mae gennym ddigon o safleoedd rheoli gwastraff i fodloni ein gofynion, felly ni fyddai angen i ni ddyrannu mwy. Bydd hyn yn cael ei adolygu fel rhan o'r CDLl newydd, i sicrhau bod gennym ddigon o safleoedd a'n bod yn gynaliadwy wrth fodloni ein gofynion. Nid oes gennym ni'r wybodaeth am safleoedd posib ar gyfer y dyfodol wrth law, yn benodol.

Ym mis Hydref 2019 a mis Chwefror 2020 profodd Sir Fynwy dilywiau. A oedd effaith andwyol ar y gyfradd cwblhau tai yn ystod y cyfnod hwnnw?

Nid ydym yn ymwybodol o ddata penodol ar hynny, ond heb os, byddai effaith wedi bod. Mae safle Kingswood yn Nhrefynwy bron wedi'i gwblhau nawr, ond byddai rhywfaint o effaith wedi bod; mae'n annhebygol a oedd yn arwyddocaol, o ystyried cyfnod cyfyngedig y digwyddiadau llifogydd hynny. Mae'n debyg y byddai angen darn penodol o waith gyda'r datblygwyr i benderfynu arno.

A oes data cyfredol ar gyfer busnesau sydd wedi gorfod cau oherwydd y pandemig?

Mae'n rhy fuan inni gael y data hwn ar hyn o bryd. Mae'n debyg bod yr effeithiau cychwynnol wedi bod yn gyfyngedig, gan fod llawer o arian grant wedi bod ar gael, yn ychwanegol at y cynllun cennad. Mae'n debyg y byddwn yn gweld yr effeithiau go iawn yn ystod y misoedd nesaf, pan na fydd cwmnïau naill ai'n gallu ymgeisio am grantiau, neu pan ddaw'r cynllun cennad i ben. Yn ddiddorol, rydym wedi gweld rhai buddion yn rhai o'n haneddiadau - mae Magwyr, yn benodol, wedi bod yn y wasg - yn yr ystyr bod mwy o bobl yn gweithio gartref wedi golygu bod mwy o bobl yn siopa'n lleol. Mae hyn i'w ddisgwyl. Bellach mae gan Fagwyr 0 lle gwag, felly, gyda 5 busnes newydd yn agor mewn cyfnod cymharol fyr. Mae'r Cynghorydd Strong wedi nodi bod llai o leoedd gwag ym Mrynbuga. Nid yw trefi eraill yn edrych mor iach: mae Trefynwy yn bryder ar hyn o bryd. Rydym yn gweithio gyda'r busnesau a'r grantiau a'r cymhellion sydd ar gael. Mae'n sicr yn rhywbeth y bydd angen i ni ei ystyried yn y CDLl newydd. Bydd annog pobl i siopa'n lleol os ydyn nhw'n gweithio gartref yn bwysig, a sicrhau bod y prif strydoedd hynny yn addas at y diben ac yn eu gwahodd.

Beth allwn ni ei wneud, fel awdurdod, i annog y math iawn o ddatblygiad yng nghanol trefi? A oes gennym weledigaeth o sut olwg fyddai ar ganol tref gynaliadwy?

Ar hyn o bryd mae'r fframwaith Polisi yn canolbwyntio defnyddiau manwerthu ar yr ardal siopa ganolog, gydag ardal gynradd ac eilaidd. Gallem edrych ar symleiddio hynny. Yn y cynllun  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol ar gyfer y Gwasanaeth Cynllunio

pdf icon PDF 659 KB

Craffu cyn penderfynu ar y ddau adroddiad cyn eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y swyddog Philip Thomas yr adroddiad ac ymatebodd i gwestiynau'r Aelodau, gyda sylwadau ychwanegol gan Craig O'Connor.

Her:

A fydd safleoedd problemus Porthdy'r Priordy  a'r T? Gwyn ym Mrynbuga yn agos at frig y Gofrestr Risg?

Rydymyn cadw llygad barcud ar y ddau adeilad hyn. Yr anhawster yw dod o hyd i bartner a all weithio gyda ni i ddarparu gwerth economaidd a defnydd buddiol ar gyfer y cynllun wedi hynny - yn sicr dyma'r anhawster gyda'r porthdy. Rydym yn gwerthfawrogi'r cyflwr y mae ynddo, a'r angen am adfer. Rydym wedi cyflwyno hysbysiadau i'r T? Gwyn, a byddwn yn rhoi diweddariad ar y cynnydd gyda'r ddau achos yn dilyn y cyfarfod hwn.

Mae22A yn Stryd Fynwy, Trefynwy yn achos tebyg. A allai hefyd fod ar flaen y gad mewn unrhyw restr?

Gall, byddwn yn gwirio'r cynnydd ar y safle hwnnw ac yn darparu diweddariad cyn gynted â phosibl.

Rydymwedi gwneud yn dda iawn mewn apeliadau i Lywodraeth Cymru, ond i'r rhai a gollwyd gennym ar apêl, a ydym yn dadansoddi'r rhesymau ac yn dysgu gwersi ganddynt?

Ydym, dylem fod. Rydyn ni'n adrodd pob apêl i'r pwyllgor Cynllunio, ac rydyn ni'n eu codi mewn cyfarfodydd cyswllt Cynllunio, i drafod gyda'r swyddogion achos, neu yng nghyfarfodydd y tîm rheoli datblygu. Os hoffai'r Aelodau gael manylion y ddwy apêl a gollwyd gennym dros y flwyddyn, yna gallwn ddarparu'r rheini, a pherfformio dadansoddiad. Gallem gynnal adolygiad arbennig o'r 12 mis diwethaf ar ddiwedd un o'r pwyllgorau Cynllunio, gan edrych ar y gwersi a ddysgwyd. Fel swyddogion, mae gennym ôl-drafodaeth pwyllgor ar ddiwedd pob mis, ac edrychwn ar yr apeliadau - gallem wneud rhywbeth fel hyn fel adolygiad blynyddol. Byddwn yn rhoi hyn i gadeirydd y pwyllgor. Mae T? Troy yn un o'r adeiladau sydd mewn perygl, yn yr achos hwn nid oedd yr Arolygydd yn cytuno â'n cynigion ar ei gyfer. Mae angen i ni edrych ar yr holl adeiladau sydd mewn perygl gyda'i gilydd, a nodi strategaeth. Mae'n bwysig iawn amddiffyn ein hadeiladau nodweddiadol a chadw ein hasedau treftadaeth.

Crynodeb y Cadeirydd:

Mynegodd Mark Hand a'r pwyllgor eu diolch a'u llongyfarchiadau am y gwaith caled a gyflawnwyd gan y tîm. Mae angen inni edrych yn agos ar y posibiliadau ar gyfer ein sir - mae gennym lawer yn mynd amdanom, ac mae angen inni wneud y gorau o'r pethau hynny. Mae'r pwyllgor yn cytuno i'r argymhellion gael eu cyflwyno.

5.

Blaenraglen Waith Pwyllgor yr Economi a Datblygu pdf icon PDF 486 KB

Cofnodion:

Mae'r Cynghorydd Pavia yn awyddus i fynd ar drywydd mater Caffael. Bydd gweithdai CDLl yn cael eu cynnal; mae'r swyddogion O'Connor a Lewis yn gweithio ar amserlen nawr. Gofynnodd Swyddog Hand am farn ar eu dal am 5yh ddydd Llun. Dywedodd y Cynghorwyr Roden a Strong fod yr amser hwn yn anodd o ystyried cyfarfodydd tref cydamserol. Gofynnodd y Cynghorydd Evans pam na allent ddigwydd yn gynharach yn y dydd. Awgrymodd Swyddog Hand 5yh ar ddiwrnod gwahanol. Awgrymodd y Cynghorydd Roden roi'r cwestiwn i'r Aelodau, a mynd gyda'r penderfyniad mwyafrif - cytunwyd ar hyn.

6.

Rhaglen Waith y Cyngor a'r Cabinet pdf icon PDF 557 KB

7.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd a llofnodwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24ain Medi fel cofnod cywir.

8.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf

Cofnodion:

Cytunwyd y bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 5ed Tachwedd, gyda Chyd-gyfarfod arbennig gyda Chymunedau Cadarn ar 2il Tachwedd.