Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Ni wnaed unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Archwilio’r polisi cyn y penderfyniad yngl?n â dynodi tair Ardal sy’n Sensitif yn Archeolegol (ASAau)
Cyflwynwyd polisi i’r pwyllgor oedd yn cynnig estyniadau i ffiniau Ardaloedd sy’n Sensitif yn Archeolegol (ASAau) cyfredol yn Y Fenni, Trefynwy, Tryleg ac yn cynnig dynodi Ardal sy’n Sensitif yn Archeolegol newydd yn Nhyndyrn. Clywodd aelodau taw Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg a Gwent (YAMG) yw cynghorydd archeolegol y cyngor a taw ystyriaeth berthnasol yw cadwraeth sy’n ymwneud ac olion archeolegol wrth benderfynu am gais cynllun. Bydd y ‘Nodyn Cyngor Cynllunio’ yn amlinellu sut y byddai’r Cyngor yn gweithredu ei ddyletswydd trwy ei weithred Rheoli Datblygu.
Her: · Sut ydyn ni’n cefnogi ymgeiswyr ar hyn o bryd? A fyddwn yn hyrwyddo’r cyngor hwn i bobl? Ar hyn o bryd, mae’r YAMG yn cynnig cyngor i ymgeiswyr yngl?n â hyn. Bydd angen i ni ei hyrwyddo trwy’r sianeli cyfrwng cymdeithasol arferol a thrwy benseiri ac asiantiaid. · Pam deimlo’ch chi’r angen i gynhyrchu’r canllawiau? Pa broblemau oeddech chi’n ceisio mynd i’r afael â? Codwyd yr angen am ganllaw yn dilyn profiadau lle bod cyfyngiadau wedi codi’n hwyr yn y broses gynllunio oedd wedi arwain at oblygiadau amser a chost, lle buasai ymgeiswyr wedi manteisio o wybod am gyfyngiadau’n fwy cynnar yn y broses gynllunio. Mae'r arddull sy’n ymwneud â diogelu a rheoli archeoleg wedi bod yn anghyson gyda dryswch cyffredinol yngl?n â'r lefel o wybodaeth sydd angen ei chyflwyno'n gynnar yn y broses. · A fydd hyn yn cynyddu gwaith arolygu i ymgeiswyr? Bydd gwaith arolygu’n cynyddu, ond bydd modd i’r Cyngor rhoi cyfarwyddyd llawer mwy clir i ymgeiswyr a bydd yn gallu gwneud penderfyniadau mwy gwybodus. · A fydd hyn yn cyfyngu datblygu? Nid ydym yn rhagweld y bydd datblygu’n cael ei gyfyngu. Mae’r estyniad arfaethedig i ffin archeolegol Trefynwy’n digwydd gan fod posibilrwydd uchel o ddarganfyddiadau canoloesol – wrth wybod taw ardal hanesyddol yw’r mwyafrif o Drefynwy, nid yw hyn yn debygol o gyfyngu datblygu'n bellach. Yn Nhryleg, mae wedi bod nifer o ddarganfyddiadau ac mae yna lawer i ddysgu yngl?n â datblygiad Tryleg yn hanesyddol. Serch hynny, nid oes goblygiadau yn ôl datblygu. Nid oedd Tyndyrn wedi’i ddiffinio fel ardal archeolegol ac mae yna ddadleuon cryf y dylai fod. Mae’r ffin o amgylch yr ASA yn Nhyndyrn yn enfawr, ond caiff hyn ei gyfiawnhau oherwydd darganfyddiadau archeolegol yn yr ardal. · Pwy fydd yn cael eu hymgynghori yngl?n â hyn? Bydd Cynghorau Tref a Chymunedol, asiantau a phenseiri yn cael eu hymgynghori a byddwn yn sicrhau ymwybyddiaeth trwy’r wefan, Twitter a Facebook. Bydd pob ymateb yn cael eu dadansoddi, eu hystyried a’u hadrodd yn ôl i’r pwyllgor hwn. · Rydym yn deall yr angen am gydbwysedd, fel ein bod yn diogelu ardaloedd ond ddim yn cyfyngu datblygiad. Ydych chi’n hyderus y gallwch chi gynnig eglurder a thryloywder? Rydym yn teimlo y bydd y cyfarwyddyd yn helpu ymgeiswyr trwy ystyriaeth lawer fwy cynnar yn y broses cynllunio. · Pa brosesau yr ydych wedi eu defnyddio i adnabod ardal newydd o amgylch Tyndyrn? Dadansoddodd YAMG gwybodaeth a phenderfynon ... view the full Cofnodion text for item 2. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Adroddiad Perfformiad yngl?n â darparu Blaengynllun Amgueddfeydd
Daethpwyd ag adroddiad perfformiad i’r pwyllgor er mwyn archwilio datblygiad y gweithrediadau sydd ar ôl sydd wedi'u hamlinellu yn y Blaengynllun Amgueddfeydd, yn dilyn sefydliad MonLife. Cafodd blaengynllun 2017-22 ei gymeradwyo gan Gabinet ym mis Rhagfyr 2016 a’i hysbysu gan adolygiad y gweithredwyd gan ymgynghorwyr Amion ym Mehefin 2015. Mae cyflwyniad manwl sydd ynghlwm fel Atodiad A i’r cofnodion yn amlinellu’r datblygiad sydd wedi’i wneud ar bob un o’r argymhellion a wnaed gan Amion. Trafodir y datblygiadau a wnaed yn erbyn yr argymhellion yn ogystal mewn manyldeb yn atodiadau'r adroddiad perfformiad.
Y dyfodol sydd yn yr arfaeth i'r gwasanaeth yw ymgymryd ag astudiaeth ddichonoldeb gynhwysfawr er mwyn egluro’r opsiynau, y costau a’r camau, yn ogystal â’r prosiect Strategaeth Dreftadaeth er mwyn hysbysu cyfleoedd cyllid yn y dyfodol. Mewn trafodaethau â chyllidwyr, cadarnhawyd y bydd angen cwblhau'r 'broses adolygu casgliadau' er mwyn hysbysu unrhyw gais am gyllid yn y dyfodol ar gyfer y siop ganolog. Clywodd Aelodau nad yw costau'r astudiaeth ddichonoldeb yn hysbys ar hyn o bryd ac y bydd angen archwilio unrhyw ffynhonnell cyllid allanol.
Her:
· Pam y cymerodd hi gymaint o amser i fynd i’r afael â’r argymhellion ers i Amion gwblhau'r adolygiad yn 2015 a'r adolygiad i'r Cabinet yn 2016? Pam ydych chi'n adolygu hyn nawr? Cafodd y mwyafrif o weithrediadau sylfaenol eu delio â yn 2017. Gweithred yw hon yr amlinellir yng Nghynllun Corfforaethol y Cyngor ac achosodd y gwaith ar y Model Cyflenwi Amgen rhywfaint o oedi. Nawr bod MonLife wedi’i sefydlu, mae’n amser i ni symud ymlaen. Gweithred enfawr oedd y weithred sylfaenol o amgylch adeiladau a’r siop ganolog cafwyd ei sefydlu mewn sefyllfa ariannu eithaf gwahanol. Mae yna gynllun strategol newydd ar gyfer cyllid loteri treftadaeth, sydd wedi gwneud y bidio’n fwy cystadleuol, ac felly rydym wedi torri’r argymhelliad i lawr i brosiectau penodol. Nawr bod amgueddfeydd wedi’u sefydlu o fewn MonLife, nid oes angen iddynt wneud y pethau hyn ar eu pennau eu hun. Y rheswm am rai o’r oedi yw meddwl am y profiad. · Pa argymhellion Amion nad ydynt yn cael eu cymryd ymlaen? Roedd rhai o argymhellion Amion yn cynnwys cau rhai amgueddfeydd ac ni chariwyd y rheini ymlaen oherwydd y teimlad oedd ei fod yn bwysig cael presenoldeb ym mhob un o'r 3 dref. Awgrymodd Amion hefyd y gallai rhai arddangosfeydd gweithredu trwy leoliadau nad ydynt yn amgueddfeydd mewn trefi eraill. Serch hynny, archwilion ni'r posibilrwydd o weithio â manwerthwyr er mwyn sefydlu amgueddfeydd bach a phenderfynon ni bod y 4 tref yn unigryw dros ben a thra bod y cyswllt yn bwysig iawn, mae’r stori leol yn bwysig yn ogystal. Yr argymhelliad olaf oedd sefydlu corff datblygu ar wahân cafodd ei ddisodli gan MonLife. · Nid oes gan Gil-y-coed, yn wahanol i’r trefi eraill, lleoliad sefydlog i arddangos eu darganfyddiadau ac wrth adnabod nad y castell yw’r lleoliad mwyaf addas i arddangos darnau, mae yna dal gyfle i arddangos casgliad Cil-y-coed ac i adrodd stori Gwastatiroedd Gwent a goresgyniad y Rhufeinwyr ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Blaen-raglen Waith y Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu PDF 488 KB Cofnodion: · Caiff eitemau sydd wedi’u gohirio o’r cyfarfod heddiw eu dilyn a'u rhaglennu · Bydd y Cadeirydd, yr Is-gadeirydd a’r Rheolwr Archwilio’n cwrdd â swyddogion i drafod ehangder archwiliadau yn y dyfodol sy’n ymwneud â’r Strategaeth Fuddsoddi. · Mae’r gweithdy CDLl oedd wedi’i drefnu am y 14eg o Hydref wedi’i ohirio, serch hynny bydd gweithdai sydd wedi’u rhaglennu yn y dyfodol yn parhau fel y cynlluniwyd.
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd cofnodion y cyfarfod blaenorol y’i cynhaliwyd ar y 5ed o Fedi 2019 eu cadarnhau a’u llofnodi fel cofnod cywir.
|
|
I gadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf fel ar y 14eg Tachwedd 2019 |