Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, Rhadyr, Usk. NP15 1GA

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd.

Cofnodion:

·         Anerchwyd y Pwyllgor gan Mr Andrew Johnson, sy’n byw yn Rhaglan Disgrifiodd Mr Johnson y daith y bu preswylwyr arni i ddatblygu cynnig i ddatblygu cyfleusterau cymunedol ar safle’r hen ysgol.

·         Clywodd aelodau fod y prosiect yn dyddio’n ôl i 2014. Yn dilyn llythyr at y Prif Weithredwyr, cynullwyd gweithgor yn cynnwys aelodau o’r gymuned, aelod y ward leol Cyng Penny Jones, y cyngor cymuned a Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol Cyngor Sir Fynwy ar y pryd.

·         Arweiniodd hyn at gynllun busnes gyda chytundeb gan yr awdurdod lleol i gynnal trosglwyddiad asedau cymunedol (CAT) dwy flynedd os yw Cymdeithas Neuadd Pentref Rhaglan (RVHA) yn parhau i sicrhau cynnydd i gyflawni’r prosiect.

·         Cymeradwywyd hyd at £500,000 gan y Gronfa Loteri Fawr ac yn 2017 cafodd y CAT ei ymestyn am 2 flynedd arall a chafwyd caniatâd cynllunio llawn.

·         Collodd y prosiect ei gyllid loteri ar ddiwedd 2017, ar yr un pryd cyflwynwyd cynllun i godi 111 t? a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Cynllunio a fyddai’n ysgogi c£300,000 mewn cyllid adran 106 ar gyfer prosiectau cymunedol.

·         Ym mis Gorffennaf 2019, 5 mlynedd ar ôl dechrau’r prosiect, cafodd RVHA e-bost yn eu hysbysu na all Cyngor Sir Fynwy ystyried estyniad pellach gan fod yr Adran Addysg yn awr wedi dynodi defnydd arall ar gyfer yr hen ysgol iau.

·         Gwnaed cwyn ffurfiol i Brif Weithredwr y Cyngor a ddywedodd y cafodd RVHA ddigon o amser i ddatblygu eu cynlluniau ac y byddai’r cyngor yn awr yn symud ymlaen gyda’i brosiect ei hun. Cafwyd deiseb gyda 212 llofnod  yn dweud eu bod yn disgwyl i bob partner wneud popeth yn eu grym i gyflawni’r prosiect sy’n cefnogi llawer o brosiectau’r cyngor ei hun.

·         Soniodd Mr Johnson am y 5 peth y maent yn gofyn amdanynt gan y pwyllgor: Cefnogi cais i’r Cabinet am estyniad i’r CAT; gweithredu ar y g?yn a wnaed gan gadeirydd RVHA a chynnal eu hasesiad annibynnol eu hunain o’r ffordd y mae’r pwyllgor gweithredol wedi gweithredu a/neu gyfeirio hyn ar gyfer craffu ar unwaith; i argymell bod y pwyllgor gweithredol yn atal y posibilrwydd o wastraffu mwy o adnoddau ac arian ar astudiaeth ddichonolrwydd ar y safle ar gyfer eu prosiect eu hunain; i ysgogi’r pwyllgor gweithredol fel blaenoriaeth i gyflawni’r 45 cartref i sicrhau tai fforddiadwy yn y sir a derbyn arian adran 106.

 

Canlyniad

 

Gwrandawodd y pwyllgor ar gyfraniad Mr Johnson a chytunodd dderbyn gwybodaeth ychwanegol ganddo drwy e-bost. Bydd y cadeirydd yn edrych ar y mater hwn ac yn galluogi’r pwyllgor  i gytuno os yw’n fater y dymunant ymwneud ag ef fel rhan o’u rhaglen waith.

 

3.

Sicrhau bod Aelodau Cabinet yn atebol o ran eu perfformiad a sut y mae'r gwasanaethau sydd yn cael eu darparu yn cyd-fynd â'r cynllun corfforaethol. pdf icon PDF 426 KB

Cofnodion:

·         Mae’r adroddiad yn cynnwys trosolwg o berfformiad ar y gweithgareddau yn y Cynllun Corfforaethol. Mae’n canolbwyntio ar yr amcanion, camau gweithredu a chynnydd meysydd perthnasol I’r pwyllgor hwn. 

·         Dyrannwyd sgôr cynnydd I bob amcan gyda dangosyddion perfformiad mewn atodiad yn yr adroddiad yn dangos perfformiad wedi’I feincnodi o gymharu ag awdurdodau eraill yng Nghymru.

 

Her Aelodau

 

·         Roedd her am ddiffyg data ansoddol yn y diweddariad cynnydd. Esboniwyd fod swyddogion bob amser yn ceisio cadarnhau cynnydd gyda thystiolaeth meintiol a hefyd ansoddol ond nad oes bob amser ddangosyddion perfformiad cenedlaethol neu leol cyfatebol ar gyfer pob prosiect.

·         Gofynnwyd os yw poblogaeth cymharol h?n y sir yn golygu fod nifer uwch o gartrefi gwag oherwydd hyd y cyfnod profiannaeth neu gartrefi yn eiddo pobl sy’n awr mewn gofal. Cadarnhawyd fod gennym tua 700 o gartrefi gwag yn y sir a bod profiannaeth yn golygu y gallant weithiau gymryd amser i’w gwerthu er na chafodd unrhyw ddadansoddiad penodol ei gwblhau.

·         Holodd aelodau beth sy’n cael ei wneud yn lleol i oresgyn y problemau a achosir gan y cynnydd cymharol araf gyda Cyflymu Cymru ac i roi diweddariad ar gaffaeliad arloesol i sicrhau datrysiadau digidol ar gyfer cludiant gwledig. Clywodd aelodau fod Sir Fynwy bellach yn rhan o dasglu ac y cafodd cynllun seilwaith digidol ei gymeradwyo gan y Cabinet y diwrnod blaenorol a fyddai’n galluogi swyddogion i ymchwilio’r gallu i symud yn gyflym gydag opsiynau eraill pan ddeuant ar gael. Cadarnhawyd fod cyhoeddiad diweddar wedi cadarnhau y dyfarnwyd contractau i ddau gwmni i weithio yn Sir Fynwy am y 12 mis nesaf ac mae hefyd nifer o brosiectau Rhyngrwyd Pethau’n cael eu hymchwilio.

·         Archwiliodd Aelodau y ffigurau ar gyfer rhai heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) a gofyn sut yr hysbysir ymadawyr ysgol am gyfleoedd drwy Ysbrydoli i Gyflawni ac Ysbrydoli i Weithio. Cadarnhawyd fod gennym swyddogion sy’n gweithio’n agos gyda’r ysgolion a Gyrfa Cymru.

·         Heriodd Aelodau os yw’r swyddi sgil uchel a gaiff eu creu yn IQE yn cael eu llenwi gan bobl o gymunedau lleol. Atebodd yr Aelod Cabinet i ddweud fod ffigurau ar gael a’u bod wedi cynyddu ymhellach ers y ffigur a roddir yn yr adroddiad a soniodd am bwysigrwydd cyfleu’r neges i bobl ifanc am y gyrfaoedd yn y ffowndri lled-ddargludyddion cyfansawdd.

·         Cododd Aelodau bryder nad oes gan gyfarwyddwr CCRCD yr adnoddau angenrheidiol i gyflawni’r rhaglen tu hwnt i’r adolygiad porth nesaf. Atebodd yr Aelod Cabinet drwy ddweud fod llawer o gyfleoedd yn dal i fod angen eu cwblhau a’i fod yn hyderus y caiff llamer o gyfleoedd yn yr arfaeth eu gwireddu.

·         Pryder p’un yw’r cwricwlwm yn paratoi pobl ifanc ar gyfer gyrfaoedd mewn TGCh. Awgrymwyd mai mater i’r Prif Swyddog Addysg oedd hynny yn hytrach na’r pwyllgor hwn.

 

Canlyniadau

 

·         Derbyniodd Aelodau yr adroddiad a’i ddefnyddio fel sail i ofyn nifer o gwestiynau i uwch swyddogion a’r pwyllgor gweithredol i geisio sicrwydd am gynnydd ar amcanion yr awdurdod.

 

 

4.

Craffu Chwarterol o Ddatganiad Alltro Monitro Refeniw a Chyfalaf 2018/19. pdf icon PDF 373 KB

Cofnodion:

·         Cadarnhaodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid ei gynlluniau i gwrdd gyda 4 cadeirydd pwyllgor dethol i drafod sut i symleiddio adroddiadau ariannol.

·         Hoffai Aelodau gael mwy o hyfforddiant ar y gyllideb a byddent yn croesawu adroddiadau lefel uwch symlach. Clywodd Aelodau y gall adroddiadau symlach ei gwneud yn anos i ddal y Cabinet i gyfrif os ydynt yn gweld gwahanol lefelau o fanylion.

·         Mae gan yr awdurdod ddiffyg £2.4 miliwn sydd eisoes wedi ei adrodd i’r Cabinet, sicrhawyd 88% o arbedion. Y mwyaf yw gorwariant perthnasol i’r pwyllgor mewn twristiaeth, hamdden a diwylliant fel canlyniad i’r penderfyniad i beidio allgyrchu’r gwasanaeth gan na fydd mwyach yn manteisio o statws elusennol; mae meysydd parcio a chludiant teithwyr hefyd yn gorwario

·         Pe byddai’r awdurdod yn mabwysiadu Rheoliad Ealing ar TAW, clywodd Aelodau y byddai ganddo ran sylweddol mewn dileu’r diffyg.

·         Mae £1.139 miliwn o lithriad yn y gyllideb gyfalaf sy’n berthnasol i’r pwyllgor yn ymwneud â chynllun Heol Crug.

·         Bydd y cronfeydd wrth gefn y rhagwelir gaiff eu tynnu yn gadael y rhain ar 3.19% sy’n is na’r canllaw priodol o rhwng 4% a 6% ac mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn gweithio ar godi hyn yn ôl.

 

Her Aelodau

 

·         Heriodd Aelodau faint o arbedion na fedrir eu cyflawni a holodd os cynhelir profion straen arnynt wrth lunio’r gyllideb. Clywodd Aelodau y defnyddir nifer o lensys yn cynnwys dull gweithredu safonol i ddangos gweithgaredd ac i ba raddau y maent yn cyflawni dyheadau polisi, ond bod llawer o waith yn parhau ar ôl i’w cyflawni unwaith y cawsant eu cytuno. Mae cyflawni arbedion 88% ar-safon neu’n well na ble’r ydym fel arfer ar y pwynt hwn yn y flwyddyn ariannol.

·         Holodd Aelodau pam fod yr awdurdod yn gorwario ar feysydd parcio. Clywodd Aelodau fod hyn yn bennaf oherwydd gostyngiad mewn incwm. Dylai gorfodaeth sifil annog pobl i ddefnyddio gofodau y mae angen talu amdanynt. Mae hefyd ostyngiad yn y defnydd o feysydd parcio yng nghanol y dref wrth i arferion siopa symud ar-lein.

·         Gofynnwyd cwestiwn os yw Sir Fynwy yn cropian tuag at fethdaliad a sut mae ein cronfeydd wrth gefn yn cymharu gydag awdurdodau eraill. Atebodd swyddogion fod ein cronfeydd wrth gefn yn is na llawer o fannau eraill; nid yw hyn yn broblemus a chaiff cynghorau eu hannog i beidio eistedd ar gronfeydd wrth gefn, mae 4-6% yn hollol resymol. Fodd bynnag, atgoffwyd aelodau mai Cyngor Sir Fynwy sydd â’r cyllid isaf fesul pen o unrhyw gyngor yng Nghymru ac mae aelodau hyd yma wedi osgoi gwneud toriadau i wasanaethau rheng-flaen. Clywodd Aelodau nad yw lefelau cronfeydd wrth gefn yn dylanwadu ar fenthyca’r cyngor gan ein bod yn derbyn o Fwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus.

·         Holodd Aelodau beth oedd y sail am ddarogan gaeaf mwyn ar gyfer costau gweithredu. Awgrymwyd fod newid hinsawdd yn golygu ein bod yn debycach o gael gaeafau twymach, gwlypach, ar hyn o bryd caiff gaeafau oerach eu trin fel ad-hoc yn hytrach na chael eu cynnwys mewn ystyriaethau blynyddol.

·         Holodd Aelodau pryd y caiff ymarferiad Bywyd Mynwy ei  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Adroddiad Monitro Blynyddol y Cynllun Datblygu Lleol Cyfredol - Craffu perfformiad blynyddol. pdf icon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Cafodd llawer o’r targedau eu cyflawni ac mae llai o sgorau coch nag yn y cyfnod blaenorol oherwydd y cafodd mwy o anheddau eu cwblhau sef 443 gyda 131, neu 30% ohonynt, yn fforddiadwy a 4 safle tai a ddyrannwyd yn y Cynllun Datblygu Lleol wedi cael caniatâd cynllunio.

·         Mae dros 40 hectar o dir cyflogaeth ar gael, 22 o osodiadau gwyliau i ymwelwyr wedi eu cymeradwyo ac mae cyfraddau unedau gwag ym mhob ardal siopa heblaw Cas-gwent a Brynbuga yn gwneud yn well na chyfartaledd Prydain Fawr.

·         Tynnwyd sylw at dri maes polisi sy’n tanberfformio. Dim ond 4.0 blynedd o gyflenwad tir sydd ar gael; nid yw’r safle strategol a ddyrannwyd yn Vinegar Hill wedi cael caniatâd cynllunio hyd yma a bu gostyngiad mewn datblygiad a ganiateir ar safleoedd tir llwyd yn dangos cwmpas cyfyngedig ar gyfer datblygu tir llwyd yn y sir.

 

Her Aelodau

·         Holodd Aelodau pa wersi a gafodd eu dysgu a aiff i’r Cynllun Datblygu Lleol newydd a chlywyd y cynhelir cyfarfodydd rheolaidd i ddysgu beth sy’n gweithio a beth nad yw wedi gweithio yn cynnwys cwrdd â phobl sy’n cyflwyno safleoedd neilltuol a chwrdd â grwpiau neilltuol tebyg i ffermwyr i siarad am eu heriau megis arallgyfeirio. Mae swyddogion hefyd yn dysgu gan awdurdodau eraill.

·         Holodd Aelodau os yw’r Cynllun Datblygu Lleol newydd yn sôn am ymchwilio anheddiad newydd fel rhan o weledigaeth hirdymor yn hytrach na dim ond tyfu o ehangu aneddiadau presennol. Cadarnhawyd y cafodd hyn ei ystyried ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y dylai hyn fod drwy’r Cynllun Datblygu Strategol ac y byddant yn herio os ydym yn symud ymlaen gydag anheddiad newydd yn y Cynllun Datblygu Lleol ac felly y gall fod yn rhaid i ni aros am gynllun datblygu strategol rhanbarthol.

·         Roedd cwestiwn mewn ymateb i gyfrif y cyflenwad tir 5 mlynedd. Clywodd Aelodau am y broses a chytunodd y Pennaeth Cynllunio, Tai a Llunio Lleoedd i gasglu rhai o’r ffigurau Cymru-gyfan i’w cylchredeg i aelodau.

·         Holodd Aelodau faint o dai a ddatblygwyd o edrych tu fas i’r Cynllun Datblygu Lleol. Clywodd Aelodau y rhoddwyd 360 caniatâd ond na chawsant eu cwblhau eto. Nid yw hyn yn cynnwys y 111 annedd yn Rhaglan a alwyd i mewn gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag nid yw’r rhain yn gyffredinol wedi bod yn boblogaidd gyda phawb yn lleol.

·         Holodd Aelodau am y ffigurau am y cyfraddau lleoedd gwag mewn canol trefi a gasglwyd o arolygon o ardaloedd siopa canolog a chlywyd fod hyn yn cynnwys pob uned manwerthu A1, a allai gynnwys bwytai. Clywodd Aelodau fod mwy o bobl yn defnyddio canol trefi ar gyfer cyfleoedd hamdden a bwyd.

·         Heriodd Aelodau sut y gellid cyflymu datblygu safleoedd. Clywodd Aelodau y gallai hyn gynnwys pethau i wneud safleoedd yn fwy deniadol i ddatblygwyr bach ac mewn rhai achosion ddatblygwyr yn talu am wasanaethau estynedig fel rhan o gytundebau perfformiad cynllunio. Cydnabuwyd hefyd fod safleoedd y cyngor ei hun wedi bod yn araf i ddod ymlaen ond yn y pen draw mae’n rhaid i  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol Cynllunio - Craffu perfformiad blynyddol. pdf icon PDF 257 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Caiff pump cam gweithredu eu hamlygu yn yr adroddiad yn cynnwys adolygiad systemau o’r holl system cynllunio, bu cynnydd mewn cwynion gorfodaeth ar ôl iddi gael ei gwneud yn haws i bobl roi hysbysiad am g?yn gorfodaeth ar-lein; llawer o waith gyda’r tîm digidol i wella’r wefan a sicrhau llai o gliciau i gyrraedd gwybodaeth bwysig. Roedd pryderon nad oedd y gwasanaeth yn ddigon da i gymharu â tharged gorfodaeth Llywodraeth Cymru a chaiff ymchwiliadau  eu cynnal yn gyflymach erbyn hyn. Mae’r tîm yn dda am ddelio gyda cheisiadau cynllunio mawr ac yn gwneud hynny mewn 66 diwrnod ar gyfartaledd, llawer cyflymach na chyfartaledd Cymru.

·         O 11 Dangosydd Perfformiad caiff 6 eu sgorio fel da, un fel teg a phedwar fel bod angen gwella.

·         Sir Fynwy dderbyniodd y nifer fwyaf o geisiadau adeiladu rhestredig yng Nghymru a bu gostyngiad mewn gorfodaeth.

·         Clywodd Aelodau hefyd fod yr awdurdod yn perfformio’n dda ar gael cymeradwyaeth mewn pwyllgor gyda pherthynas waith dda rhwng aelodau a swyddogion.

 

Her Aelodau

 

·         Codwyd pryder bod y cyngor cyn gwneud cais ac asesu’r cais yn cael eu gwneud gan yr un aelod o staff. Clywodd Aelodau fod cyfradd uchel o gymeradwyaethau yn dystiolaeth bod y cyngor cyn gwneud cais yn gweithio gan ei fod yn gostwng y nifer o bobl yn gwneud ceisiadau sy’n annhebygol o lwyddo.

·         Ceisiwyd manylion pellach ar weithredu penderfyniadau dirprwyedig. Clywodd Aelodau fod  95% o dros 1000 o geisiadau wedi eu dirprwyo gyda’r gweddill yn mynd i  bwyllgor. Rôl y pwyllgor cynllunio yw delio gydag achosion cymhleth ac anodd. Nid yw gwaith panel Sir Fynwy yn edrych ar benderfyniadau a ddirprwywyd yn digwydd ym mhob ardal ac mae’n rhoi lefel ychwanegol o ymgysylltu a chraffu.

·         Heriodd Aelodau y swyddogion i feddwl am ddefnyddio technoleg tebyg i drôns ar gyfer rhai ceisiadau. Clywodd Aelodau fod Rheoli Adeiladu yn eu defnyddio er fod angen ystyried rhai materion preifatrwydd. Fodd bynnag, gall gwasanaethau fel Google Earth fod yn ddefnyddiol i ategu dulliau presennol ond nid yw swyddogion yn annog hyn yn lle ymweliadau safle.

 

Canlyniadau

 

·         Fe wnaeth aelodau herio a rhoi sylwadau ar yr adroddiad cyn ei anfon i Lywodraeth Cymru.

 

7.

Cadarnhau ac arwyddo'r cofnodion canlynol:

Cofnodion:

Cafodd y cofnodion eu cadarnhau. 

 

 

8.

Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu - dyddiedig 10fed Ebrill 2019. pdf icon PDF 103 KB

9.

Cyfarfod Arbennig - Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu - dyddiedig 17eg Gorffennaf 2019. pdf icon PDF 77 KB

10.

Rhestr o gamau yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu - dyddiedig 10fed Ebrill 2019. pdf icon PDF 42 KB

Cofnodion:

Dim materion o gonsyrn gyda’r camau gweithredu.

 

11.

Blaenraglen Waith y Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu (i ddilyn). pdf icon PDF 393 KB

Cofnodion:

Cytunodd y cadeirydd i gwrdd gyda chydweithwyr craffu a’r Pennaeth Gwasanaeth i weld os medrid cyfuno rhai o weithdai’r Cynllun Datblygu Lleol. Codwyd pryderon hefyd am amseriad y gweithdai hyn. Awgrymodd y Cadeirydd y gallai’r ychydig o rai nesaf barhau fel y’u trefnwyd ond yr edrychid eto ar y rhai ar ôl mis Rhagfyr.

 

Codwyd mater craffu ar waith GovTech Analyst ar gludiant gwledig ac awgrymwyd ei fod yn eistedd rhwng y pwyllgor a Cymunedau Cryf ac y gallai’r cadeiryddion gwrdd i gadarnhau hyn.

 

Dywedwyd fod craffu’r Pwyllgor Buddsoddiad yn fater sy’n dal i fod angen ei gadarnhau. Awgrymwyd bod hyn yn eistedd gyda’r Pwyllgor Archwilio. Dywedodd y Cadeirydd  bydd yn cwrdd gyda’r Prif Swyddog Adnoddau i drafod hyn.

 

12.

Blaenraglen Waith y Cyngor a'r Cabinet. pdf icon PDF 99 KB

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater.

 

 

13.

Cyfarfod Nesaf.

Dydd Iau 10fed Hydref 2019 am 10.00am.

 

Cofnodion:

Cynhelir y cyfarfod nesf ddydd Iau 10 Hydref 2019 am 10.00am.