Agenda and minutes

Special Meeting, Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc - Dydd Mercher, 25ain Tachwedd, 2020 10.00 am

Lleoliad: Remote Meeting. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd Jo Watkins ddatganiad o fuddiant personol ond nid rhagfarnus fel rhiant i blentyn sy’n mynychu Canolfan Adnoddau Arbenigol Cil-y-coed. Gwnaeth Maggie Harris ddatganiad o fuddiant fel llywodraethwr yn Deri View.

 

 

2.

Adroddiad Briffio digartrefedd a chynigion sy'n dod i'r amlwg ar gyfer darpariaeth ddigartrefedd yn y dyfodol pdf icon PDF 569 KB

Ystyried adroddiad sefyllfa ar ddigartrefedd – ein gofynion, ein bylchau a'n cynigion i fynd i'r afael â hwy

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y swyddog Ian Bakewell yr adroddiad a’r cyflwyniad, a bu iddo ateb cwestiynau’r aelodau.

 

Her:

 

Mae angen llety arbenigol a chymorth arbenigol ar nifer o’r ymgeiswyr, nid yw hyn ar gael ar hyn o bryd. Y Beth yr ydym yn ei wneud ar gyfer pobl sydd ag anghenion dwys?

 

Mae diogelu’n flaenoriaeth o ran popeth a wnawn. Mae cysylltiad rhwng lleoliadau a diogelu. Mae’n her o hyd, ond rydym yn rhesymol hyderus yngl?n a nifer lleoliadau sy’n adlewyrchu asesiadau risg a chyfraniad asiantaethau eraill. Y broblem yw, er enghraifft, efallai ein bod wedi lleoli rhywun mewn Gwely a Brecwast ar sail rhesymau diogelu a fyddai fel arall mewn llety a rennir neu Solas. O ganlyniad, efallai mai nad dyma’r lleoliad delfrydol, ond gwnaed y penderfyniad yn dilyn asesiad risg neu ystyriaeth o ran diogelu. Rydym yn symud pobl yn eithaf aml pan mae problemau’n codi. Mae hyn yn flaenoriaeth llwyr i ni ond mae gweithio o fewn ein paramedrau’n heriol iawn.

 

A yw Llywodraeth Cymru’n rhoi unrhyw gyllid er mwyn cefnogi ei safbwynt newydd, calonogol a rhagweithiol ar ddigartrefedd?

 

Mae gennym gyllid digartrefedd Cam 2 ar gyfer nifer o brosiectau tymor byr hyd ar fis Ebrill. Er enghraifft, rydym yn ariannu gweithiwr cyffuriau ac alcohol drwy GDAS. Ar ôl Ebrill y 1af, mae Llywodraeth Cymru’n dweud na fydd dim ar gael, felly mae’n rhaid i ni aros a gweld. Os nad oes unrhyw gyllid ar gael, bydd problem fawr led led Cymru. Rwy’n disgwyl y bydd rhywbeth. Byddwn yn gwybod fis nesaf.

 

A yw pethau mewn trefn o ran darparu mesur tymor byr mewn llety Gwely a Brecwast.

 

Ydyn, y pryder yw’r sefyllfa pe byddai ein B&Bs yn gwrthod rhoi llety. Pe byddai nifer yn gwrthod, byddai’r sefyllfa’n un anodd iawn, ac fel y mae pethau’n sefyll ar hyn o bryd, nid oes gennyf ateb i hyn. Byddem, fwy na thebyg yn chwilio am gymorth er mwyn gwneud rhywbeth tebyg i Gilwern eto. Mae ychydig o gapasiti o fewn y system ac rydym wedi cael sicrwydd o ran llety gan y rhan helaeth hyd at y Nadolig, a rhai hyd at fis Ebrill. Gallwn ddefnyddio cyllid Caledi Llywodraeth Cymru i’n helpu yn hyn o beth. Nid yw, o angenrheidrwydd yn rhoi unrhyw sicrwydd i ni. Rwy’n rhesymol hyderus.

 

A yw gwaith Pobl o ran darparu llety dros dro yn mynd rhagddo?

 

Mae ein cydweithwyr o fewn y tîm Partneriaethau wedi gwneud gwaith helaeth gyda Pobl, o ran ail-fodelu. Yn anffodus, er mwyn gwneud y cytundeb yn dderbynol bu’n rhaid iddynt ddad-gomisiynu dau wasanaeth. Y bwriad yw y bydd gwaith Pobl yn cychwyn ar y 1af o Ebrill – maent wedi bod yn hyblyg a chefnogol iawn.

 

A oes llai o bobl wedi archebu lle mewn B&B yn awr o herwydd Covid, ac a fydd hyn yn achosi problem yn nes ymlaen?

 

Oes, wrth lwc. Cyn Covid, dim ond un B&B yr oeddem yn ei ddefnyddio yn y sir. Rydym wedi gallu elwa o’r diffyg twristiaeth  ...  view the full Cofnodion text for item 2.

3.

Strategaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol

Y wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd o ran cyflawni'r strategaeth.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y swyddogion Will Mclean, Jacquelyn Elias, Morwenna Wagstaff a Lucie Doyle yr adroddiad a bu iddynt ateb cwestiynau’r aelodau.

 

Her:

 

Pa gefnogaeth a fydd yn cael ei roi i athrawon er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth yma, yn ogystal â’r athrawon, yn cael eu plethu’n ddi-dor i mewn i’r ysgolion.

 

Ar hyn o bryd, rydym yn eu galw’n Ganolfannau Adnoddau ‘Anghenion Arbennig’ (CAAA), ond bydd y term yma’n newid – rydym yn gobeithio ail-frandio ein darpariaeth arbenigol. Mae’n rhaid i ysgolion sy’n lletya ein darpariaeth adnoddau weithio mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol. Mae ein Rhwydwaith Anghenion Arbennig Proffesiynol yn ffrwd bwysig iawn o ran datblygu ein perthnasau/cyd-ddibyniaethau. Mae’r ysgolion yma’n darparu addysg arbenigol ar gyfer ein plant sydd fwyaf agored i niwed; felly, mae angen i ni gael sicrwydd ansawdd mai dyma’r addysg orau y gall y plant yma ei dderbyn a sicrwydd bod y staff yn cael eu cefnogi’n ddigonol drwy hyfforddiant a mentrau eraill. Mae diwylliant ac ethos yr ysgolion yn eithriadol bwysig. Mae’n berthynas allweddol sy’n tyfu, ac yn un sy’n bositif iawn. Mae gennym dros 150 o leoedd yn barod ar draws yr awdurdod, a phwysig iawn yw sicrhau bod cysondeb o ran arferion a’n gweledigaeth o ran yr hyn yr ydym eisiau gan y canolfannau adnoddau. Rydym yn gyrru tuag at Ganolfannau Rhagoriaeth o ran ADY; dim ond drwy weithio mewn partneriaeth y bydd hyn yn cael ei gyflawni.

 

Mae dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg wedi tyfu yn Sir Fynwy. A oes gennym unrhyw therapyddion iaith sy’n siarad Cymraeg?

 

Mae’r nifer y gweithwyr proffesiynol sy’n siarad Cymraeg yn Ne Ddwyrain Cymru’n broblem barhaus. Mae sut y mae mynd i’r afael â hyn yn bwnc trafod yn ein consortia. Er enghraifft, ar hyn o bryd, nid oes gennym unrhyw seicolegwyr addysg sy’n siarad Cymraeg, ond gwyddom fod rhai ym Mlaenau Gwent. Rydym yn edrych ar ddefnyddio adnodd gwreiddiol i lenwi’r bwlch wrth i ni fod yn rhagweithiol o ran chwilio am gydweithwyr i ddysgu Cymraeg, neu recriwtio rhai sy’n siarad Cymraeg yn barod. Ar hyn o bryd mae un Therapydd Iaith sy’n siarad Cymraeg o fewn Aneurin Bevan. Byddwn yn parhau i ystyried hyn yn flaenoriaeth drwy ein WESP.

 

Ai y bwriad cadw’r ddarpariaeth ychwanegol arfaethedig ar gyfer Deri View yno unwaith y bydd Deri View wedi cau, a symud i safle’r ysgol uwchradd yn y Fenni, ac adeiladu ysgol Cyfrwng Gymraeg ar y safle?

 

Ein gobaith yw y bydd modd i ni greu cyfleuster CAAA a fydd yn derbyn plant rhwng 3 a 19 oed, gan ddarparu cymorth parhaus. Nid wyf yn rhagweld y bydd CAAA cyfrwng Saesneg yn aros ar safle Deri View. Rydym yn edrych ar ddarpariaeth newydd a fydd yn gwella’r capasiti yn Sir Fynwy. Ar hyn o bryd, yn y gogledd, rydym yn cychwyn gwaith gyda’n rhieni a’n hysgolion ar ddealltwriaeth y dylai addysg barhau o’r amser y mae plant yn cychwyn yn Overmonnow hyd at Ysgol Uwchradd Trefynwy. Yn yr un modd yn ne y sir rhwng Pembroke a  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Blaenraglen Waith y Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc pdf icon PDF 503 KB

Cofnodion:

Nesaf byddwn yn edrych ar y ddarpariaeth chwarae a’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Gofynnodd y Cynghorydd Brown am gael ystyried strategaethau ADY eraill yng Ngwent fel eitem mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

 

5.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf

Cofnodion:

Bydd newid posibl yn digwydd i aelodaeth y pwyllgor. Mae David Hughes-Jones, o bosib, yn camu i lawr a bydd Frances Taylor yn cymryd ei le. Bydd y cyfarfod nesaf ar yr 8fed o Ragfyr, a bydd y gwaith o graffu ar y gyllideb yn digwydd ar y 19fed o Ionawr. Mae’r pwyllgor yn cytuno i symud y cyfarfodydd i ddydd Iau.