Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Remote Meeting. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Nodyn: Watch the meeting here 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Nodi penodiad y Cynghorydd Sir T. Thomas fel Cadeirydd.

Cofnodion:

Cadarnhawyd mai’r Cynghorydd Tudor Thomas yw cadeirydd y pwyllgor.

 

2.

Penodi Is-gadeirydd.

Cofnodion:

Fe wnaeth y Cynghorydd Jo Watkins gynnig y Cynghorydd Louise Brown. Eiliwyd gan y Cynghorydd Maureen Powell a derbyniwyd gan y Cynghorydd Brown

 

3.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

4.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol.

 

5.

Cymorth Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer Plant Bregus pdf icon PDF 757 KB

Rhoi diweddariad i aelodau am y cymorth a roddir yn ystod pandemig Covid-19.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y swyddogion Jane Rodgers a Rebecca Stanton y cyflwyniad ac atebodd gwestiynau aelodau, gydag ymatebion ychwanegol gan Will Mclean.

 

Her:

Yn ystod y cyfnod clo, byddech wedi disgwyl effaith oherwydd nad oedd ysgolion yn atgyfeirio i’ch tîm. O ble daeth yr atgyfeiriadau bryd hynny?

 

Ni wnaeth y gyfradd atgyweirio ostwng yn sylweddol yn ystod y cyfnod clo. Roedd llawer o atgyfeiriadau gan yr Heddlu, yn bennaf yn ymwneud â cham-drin domestig. Roedd hefyd hunan-atgyfeiriadau gan rieni oedd yn ei chael yn anodd gyda’r problemau oedd yn effeithio ar eu teulu yn ystod y cyfnod hwn. Ni ddaeth darpariaeth cymorth cynnar i ben, na chwnsela mewn ysgolion; felly er nad oeddem yn cael atgyfeiriadau’n syth i Gwasanaethau Plant, roedd gennym y cyfathrebu agored hwnnw gyda’r gwasanaethau help a chymorth cynnar. Felly, pan ddaeth problemau i’r amlwg, roedd modd i ni gael  yr atgyfeiriadau. Mae problemau o fewn teuluoedd yn dod yn amlwg er y gallai’r ysgolion fod ar gau – mae ysgolion yn atgyfeirwyr mawr, ond felly hefyd y Gwasanaeth Iechyd a’r Heddlu. Gwelsom gynnydd cyson pan ddaeth ysgolion yn ôl ond yr Heddlu sy’n parhau i atgyfeirio mwyaf.

 

A oes tystiolaeth o gynnydd mewn trais domestig yn ystod cyfnod clo?

 

Yn anffodus, nid ydym dod i wybod am bob cam-drin domestig. Po fwyaf y gallwn greu amodau lle gall plant a phobl ifanc rannu’r hyn sy’n digwydd gartref drwy wasanaethau a ddarperir gan y tîm cymorth i deuluoedd, y mwyaf y gallwn geisio mynd i’r afael â’r problemau hynny yn gynnar. Fel y soniwyd eisoes, mae lefel atgyfeiriadau heddlu wedi cynyddu – mae’r mwyafrif ohonynt yn ymwneud â cam-drin domestig.

 

Yng nghyswllt cyfarfodydd rhieni dan oruchwyliaeth, os yw dau deulu yn cwrdd a fydd risg o drosglwyddo feirws? Ond os dychwelwn i gyfarfodydd rhithiol, a fydd hynny’n effeithio ar gydnerthedd plant?

 

Buom yn glir am beidio troi digidol i ffwrdd yn llwyr – rydym wedi parhau i gynnig y ddau ddull. Rhan o’r rhesymeg dros hynny oedd, os byddwn yn dychwelyd i gyfnod glo llawn, na fydd plant dan anfantais, byddwn yn syml yn cynyddu’r elfen ddigidol. Yn ddi-os, fodd bynnag, bydd effaith ar blant sydd eisiau gweld eu rhieni nad ydyn nhw’n byw gyda nhw. Cafodd ein canolfannau cyswllt a chanolfannau amser teulu asesiad risg manwl, ac mae’r rheoli sy’n mynd gyda sut mae teuluoedd yn chwarae gyda teganau, y system lanhau ac yn y blaen, i gyd yn ei le. Felly, lle’r ydym yn dal i fedru cael cyswllt wyneb-i-wyneb, cafodd y camau angenrheidiol eu rhoi yn eu lle yn gywir.

 

Faint o’ch staff oedd yn fregus ac angen iddynt ynysu, a beth oedd pwysau cyfraddau absenoldeb? A allwn gefnogi hynny fel awdurdod?

 

Bu pwysau cymdeithasol ac emosiynol sylweddol ar staff. Byddwn yn parhau i wneud beth bynnag a fedrwn i gefnogi eu cydnerthedd. Mae mynd i mewn i’r cyfnod hwn yn anodd. Nid yw ein cyfraddau absenoldeb dros y cyfnod wedi bod i’r graddau y mae effaith go iawn ar y gwasanaeth; mewn gwirionedd, buont yn  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Cymorth Seiliedig mewn Ysgol ar gyfer Llesiant Emosiynol pdf icon PDF 2 MB

Trafodaeth gyda’n Seicolegwyr Addysgol arweiniol ar y cymorth a roddir mewn ysgolion i gynorthwyo llesiant emosiynol yn ystod pandemig Covid-19.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Seicolegwyr Addysgol Morwenna Wagstaff a Lucie Doyle y cyflwyniad ac ateb cwestiynau gan aelodau, gydag ymatebion ychwanegol gan Will Mclean a Sharon Randall-Smith.

 

Her:

A yw’r gwasanaeth yn seiliedig yng Ngwent neu yn Sir Fynwy?

 

Gwasanaeth Seicoleg Addysgol Sir Fynwy ydyn ni, er ein bod yn gweithio’n gynyddol ar lefel rhwydwaith gyda’n chydweithwyr rhanbarthol.

 

Mae ADY yn cynnwys gwahanol gyflyrau, sydd angen gwahanol ddulliau gweithredu. Sut y caiff athrawon eu hyfforddi yn y gwahanol feysydd yma?

 

Ydyn, rydyn ni’n cwmpasu holl anghenion ADY. Ynghyd â’r gwaith a ddisgrifiwyd yn y cyflwyniad, mae llawer o linynnau eraill i’r gwaith yr ydym yn ymwneud ag ef, yng nghyswllt strategaeth ADY. Yn neilltuol, mae ein ffocws ar blant gyda ADY, cyfathrebu cymdeithasol, awtistiaeth, ymddygiad heriol ac yn y blaen. Fel Gwasanaeth Seicoleg Addysgol rydym yn cynnig haenau o waith: os yw’n ddisgybl cymhleth, byddem yn ymgysylltu o amgylch y plentyn hwnnw’n unigol gyda gweithwyr proffesiynol eraill, staff a rhieni. Medrem wedyn weithio ar lefel ysgol, gan ddynodi beth mae pob ysgol ei angen – os byddai ysgol yn cael budd o hyfforddiant ysgol gyfan mewn ardal neilltuol, er enghraifft. Rydym hefyd yn meddwl ar lefel systemig am yr hyn y gallwn ei gynnig yn y maes hwnnw ar draws yr awdurdod.

Gan nad oes gennym anghenion ysgol arbennig wedi ei dynodi yn Sir Fynwy, bydd rhai plant yn mynd i’r ysgol tu allan i’r sir. Sut gallwn sicrhau fod y plant mewn ysgol breifat yn cael budd o’r un hyfforddiant a chefnogaeth â rhai mewn ysgolion gwladol?

 

Rydym yn y broses o ymchwilio sut i gyflwyno hyfforddiant. Er nad oes gennym ysgol arbenigol mwyach, mae gennym bedair canolfan adnoddau anghenion arbennig. Yr ydym ni (Dr Wagstaff a Dr Doyle) yn rhan o rwydwaith canolfan adnoddau anghenion  arbennig ar draws Sir Fynwy, sy’n dod â gweithwyr proffesiynol ynghyd o ADY, ein gwasanaeth a phob un o’r canolfannau i ddatblygu’r hyfforddiant a’r sgiliau i gefnogi ein plant gyda’r anghenion mwyaf cymhleth. Pan mae gan blentyn ddatganiad o anghenion addysgol arbennig, rydym yn aml yn ymwneud gyda’r plant hynny sy’n mynychu ysgol tu allan i’r sir, p’un ai yw hynny’n rhan o adolygiadau, gan ddiweddaru cefnogaeth. Gall y rhain fod yn rhai o’n hachosion mwyaf cymhleth. Mae gennym lefel uchel o waith i gefnogi’r plant hynny, gyda’r tîm ADY a chydweithwyr eraill, tebyg i Ofal Cymdeithasol, i sicrhau fod lleoliadau yn addas, bod staff wedi cael hyfforddiant da, a bod ansawdd yr addysg yr hyn y byddem eisiau iddynt.

 

Mae’r hybiau yn seiliedig yn yr ysgolion gwladol, ond a yw’r un gefnogaeth ar gael i ysgolion heb fod yn rhai gwladol?

 

Byddai ein gwasanaeth yn ymwneud ar lefel unigol, h.y. pe byddai angen hyfforddiant unigol am blentyn o Sir Fynwy yn un o’r ysgolion hynny. Mae’r broses yr awn drwyddi cyn lleoli plant mewn ysgol tu allan i’r sir yn helaeth. Bydd y tîm yn ymwneud yn helaeth mewn gweithio gyda’r ysgol, rhieni a gweithwyr proffesiynol iechyd i gyrraedd diagnosis sy’n arwain at ddatganiad  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Dysgu Cyfunol mewn Ysgolion

Adrodd ar yr Awdurdod Lleol a’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg – Cymorth ar gyfer dysgu cyfunol a thrafod y prosesau sicrwydd sydd yn eu lle.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Sharon Randall yr adroddiad ac atebodd gwestiynau Aelodau, gydag ymatebion ychwanegol gan Will Mclean.

 

Her:

Mae ymchwil ddiweddar gan Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Addysg yn dangos fod Cymru ar y gwaelod ar gyfer effeithlonrwydd dysgu gartref. Beth sy’n cael ei wneud i drin hyn?

 

Mae astudiaethau hydredol yn dangos nad oes, dros gyfnod, gymaint o wahaniaeth rhwng dysgu wyneb i wyneb a dysgu o bell ag a gredid yn wreiddiol. Fel bob amser, bydd yr effaith a’r effeithlonrwydd o ansawdd yr addysgu. Ers y cyfnod clo, mae EAS wedi cefnogi ein hysgolion gyda llawer o gyngor a mynediad i ymchwil ac amrywiaeth o ddysgu proffesiynol, yn cynnwys y sgiliau cyffredinol mae athrawon a chynorthwywyr addysgu eu hangen i ddatblygu a chyflwyno dysgu cyfunol effeithlon. Hefyd, sut i archwilio eu sgiliau, ystyried sut olwg sydd ar ddysgu o bell da a chadw dysgu proffesiynol da i gefnogi hynny. Mae cynorthwywyr addysgu mewn un ysgol wedi bod yn ymwneud yn helaeth â hynny ac yn awr yn ei ledaenu ar draws clystyrau lleol eraill. Yn ychwanegol, fel rhanbarth, rydym yn datblygu pecyn cymorth Sicrwydd Ansawdd fydd yn helpu ysgolion i ddynodi lle mae eu cryfderau a’u gwendidau ond hefyd i werthuso sut mae ansawdd yn dechrau edrych. O gymharu gyda rhanbarthau eraill efallai, rydym wedi gwneud camau breision ymlaen wrth benderfynu sut olwg sydd ar ansawdd.

 

Cododd un darn o ymchwil gan y Sefydliad Polisi Addysg yr wythnos diwethaf nifer yr oriau cyswllt yn ystod y cyfnod clo yng Nghymru, gan gydnabod fod y camau a gymerodd Cymru wrth ddarparu offer TG y gorau o blith y pedair cenedl. Roedd amrywiaeth o wahanol fesurau yn yr adroddiad oedd yn wahaniaethol, yn dibynnu ar ba un oedd yn cael ei ystyried. Gobeithio y gallwn gymryd y ddau ddarn o ymchwil gyda’i gilydd a dysgu ohonynt.

 

A fu asesiad o ba mor dda mae plant prydau ysgol am ddim yn wneud o gymharu â phlant nad ydynt yn erbyn prydau ysgol am ddim? A faint o waith cartref sy’n cael ei wneud o gymharu gyda’r sefyllfa cyn-Covid?

 

Yn ystod tymor yr haf, roedd ysgolion yn awyddus iawn i olrhain ymgysylltu pob dysgwr, gyda ffocws neilltuol ar ddisgyblion bregus a’r rhai sy’n derbyn prydau ysgol am ddim. Roedd ysgolion yn cadw cysylltiad rheolaidd i sicrhau fod yr holl offer, gwybodaeth a chymorth angenrheidiol ganddynt. Ar gyfer dysgwyr bregus nad oedd yn ymgysylltu lawn cystal, fe wnaethom edrych ar ymgysylltu drwy fynychu hybiau neu wahanol fathau o gefnogaeth y gallem ei rhoi iddynt. Yn sicr, rydym yn cadw golwg agos ar ddisgyblion prydau ysgol am ddim ac yn ymgysylltu. Mae gennym gyfarfodydd yn fuan gydag ysgolion i fynd drwy eu cynlluniau datblygu ac i edrych ar eu cynlluniau Dysgu Carlam, a sut y byddant yn cefnogi disgyblion prydau ysgol am ddim.  Yr adborth a roddir i ddisgyblion yw llawer o’r dysgu gorau – mae hynny’n dal i fod yn bosibl iawn gyda model dysgu o bell neu ddysgu cyfunol. Bu rhai ysgolion yn defnyddio techneg a  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Blaenraglen Gwaith y Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc pdf icon PDF 498 KB

Cofnodion:

Cynigir cyfarfod ychwanegol ar gyfer mis Tachwedd lle rhoddir diweddariad ar gyn ddisgyblion T? Mounton a darpariaeth ADY yn yr awdurdod. Bydd y cyfarfod ym mis Rhagfyr yn cynnwys papur ar ddigartrefedd ac adolygiad o ddarpariaeth chwarae. Mae hefyd angen rhoi sylw i ddarpariaeth Gymraeg yn Nhrefynwy: cynigir fod hyn hefyd yn cael ei drafod yn y cyfarfod ym mis Rhagfyr.

 

Holodd y swyddog Will Mclean am ddilysrwydd cynnwys cyn ddisgyblion T? Mounton gan y cafodd ei drin yn flaenorol ac y daeth y mater i ben. Awgrymodd y Cynghorydd Brown y byddai diweddariad yn fuddiol i’r pwyllgor, yn gydnaws gyda chraffu darpariaeth ADY, a byddai ganddynt ddiddordeb clywed am y gwahanol ddulliau e.e. byw amgen yng Nghasnewydd. Croesawodd Will Mclean graffu manwl ar ADY ond mynegodd bryder y gallai dilyn lan ar gynnydd cyn ddisgyblion T? Mounton o bosibl dramgwyddo ar eu hawl i fod yn anhysbys. Gofynnodd y Cynghorydd Groucott am ddiweddariadau rheolaidd am ddarpariaeth Gymraeg yn y Fenni. Cytunodd Will Mclean a nododd y bydd yr eitem ym mis Rhagfyr yn cynnwys agweddau ehangach darpariaeth Gymraeg, heb ei chyfyngu i Drefynwy yn unig.

9.

Cynllun Gwaith y Cyngor a’r Cabinet pdf icon PDF 557 KB

10.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 338 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd a llofnodwyd y cofnodion.

 

 

11.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf

Cofnodion:

Cadarnhawyd mai dyddiad y cyfarfod nesaf fydd 8 Rhagfyr 2020, yn disgwyl cadarnhad cyfarfod ym mis Tachwedd.