Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc - Dydd Iau, 9fed Gorffennaf, 2020 10.00 am

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd Powell Ddatganiad o Fuddiant fel un o Lywodraethwyr Ysgol Y Brenin Henri VIII

Gwnaeth y Cynghorydd Hughes-Jones ddatganiad o fuddiant fel un o Lywodraethwr Ysgol Gymraeg y Fenni, Llanvihangel Crucorney a Llan-ffwyst.

Gwnaeth y Cynghorydd Groucott ddatganiad o fuddiant fel un o Lywodraethwr Ysgol y Brenin Henri VIII a Chadeirydd Llywodraethwyr ysgol gynradd Llantilio Pertholey.

Gwnaeth y Cynghorydd Thomas ddatganiad o fuddiant fel un o Lywodraethwr Ysgol Gymraeg y Fenni.

Gwnaeth y Cynghorydd Harris ddatganiad o fuddiant fel un o Lywodraethwr ysgol gynradd Deri View

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Nid oedd aelodau o’r cyhoedd yn bresennol

 

3.

Myfyrdodau ar ysgolion Sir Fynwy trwy'r Cyfnod Clou COVID-19 a dychwelyd i'r ysgol yn yr haf. Diweddariad Llafar - Will McLean

Cofnodion:

Rhoddodd Y Prif Swyddog Will McLean ddiweddariad cyffredinol. Yn dilyn y cyhoeddiad ym mis Mawrth, cyhoeddodd y Llywodraeth gefnogaeth i ddysgwyr sy’n agored i niwed a gofal plant ar gyfer gweithwyr allweddol. Ymatebodd Sir Fynwy i’r cais hwn yn dda iawn. Mae ein holl ysgolion wedi cyflawni’r ddwy agwedd allweddol hon. Y dull a ddefnyddiwyd i ddarparu gofal plant oedd drwy hybiau mewn ysgolion – gweithiodd y model yn arbennig o dda. Edrychom ymhellach ar y galw ym mhob tref, cymerodd yr awdurdod lleol gyfrifoldeb am adnabod a chofrestru plant. Mewn rhai ardaloedd penodol, mae galw mawr ee rhedwyd dau hwb yn y Fenni, yn Llan-ffwyst Fwyaf a Deri View gan fod ysbyty cyffredinol rhanbarth yn y dref; yn Ne y sir roedd hybiau yn Rogiet a Dewstow, ac roedd hybiau pellach yn Thornwell a Monnow yn Nhrefynwy. Yn ogystal â hyn agorwyd Ysgol Rhaglan er mwyn cefnogi ardaloedd gwelid y sir. Un o’r pethau mwyaf positif i ddeillio o’r cyfnod hwn yw’r clystyrau o ysgolion sydd wedi gweithio i gefnogi’r hybiau. Rydym wedi gweld mwy o gydweithio yn ein clystyrau, gan weld gwell cysylltiadau personol rhwng rhai o’r penaethiaid. Yn ystod Gwyliau’r Pasg, rhoddodd MonLife gymorth – rhoddodd hyn gyfle i athrawon gamu i ffwrdd o’r ysgol. Darparodd MonLife gyfuniad o waith ieuenctid, addysg awyr agored a chwaraeon a datblygiad. Croesawyd hyn yn fawr gan rieni a phlant.

Yn ystod tymor yr haf, cadwyd yr saith hwb ar agor, ond daeth yn amlwg bod ysgolion uwchradd eisiau agor er mwyn cynnig cymorth i’w dysgwyr mwyaf agored i niwed a phlant gweithwyr allweddol. O ganlyniad, roedd 11 hwb ar agor. Penderfynom ddarparu gofal plant hyd at Flwyddyn 8. Ychydig iawn o alw oedd am y ddarpariaeth o’i gymharu ag oedran cynradd. Bu modd i’r ysgolion uwchradd roi eu systemau eu hunain ar waith a defnyddio’r amser fel modd o brofi, i raddau, sut y byddent yn gweithredu unwaith y byddai plant yn dychwelyd i’r ysgol. Mae dwy o’n hysgolion uwchradd yn gartref i Uned Adnoddau Anghenion Arbennig, ac roedd y ddwy ysgol ar agor yn ystod y cyfnod dan sylw.

Ar y 22ain o Fehefin, newidiom ein model er mwyn paratoi ar ddychweliad plant i’r ysgol ar y 29ain. Agorodd pob ysgol yn Sir Fynwy eu drysau i ddysgwyr agored i niwed a phlant gweithwyr allweddol. Galluogodd hyn yr hybiau i dderbyn llai o blant, a galluogodd hyn yr ysgolion i roi cynlluniau gweithredol yn eu lle a’u profi. Pwynt pwysig i’w wneud yw bod darparu gofal plant yn ystod y cyfnod hwn wedi rhoi pwysau sylweddol ar ein ysgolion – roedd gennym nifer uchel o blant yn derbyn gofal plant o’i gymharu ag awdurdodau eraill o’r un maint. Dychwelodd 80 o blant yn ystod yr wythnos gyntaf a chododd y nifer i 300 erbyn y diwedd. Gwnaeth gweithwyr MCC yn dda iawn o ran trefnu’r broses, gwnaeth y Penaethiaid yn dda iawn o ran rheoli’r cydbwysedd rhwng darparu ar gyfer plant gweithwyr allweddol a’u dymuniad o weld cymaint o  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Paratoadau ar gyfer dychwelyd i'r ysgol ym mis Medi 2020 - Debbie Harteveld a Kirsty Bevan (GCA) a Will McLean pdf icon PDF 281 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y swyddogion eu hadroddiad. Mae tri cham i’r ymateb sefydliadol; y cyntaf oedd “Addasu at ddibenion gwahanol”, rydym ar hyn o bryd yn yr ail gam (‘ailgydio, dal i fyny a pharatoi’). Bydd y trydydd cam yn cychwyn ym mis Medi (‘Dysgu Cyfunol’). Mae paratoadau’n cael eu gwneud ar gyfer Dysgu Cyfunol, er nad oes sicrwydd eto yngl?n â’r cynlluniau ar gyfer mis Medi. Bydd Cynlluniau Datblygu Ysgolion yn cael eu hadolygu yn ystod tymor yr Hydref.

Her:

A ydym ym gwybod sawl awr y mae disgwyl i rieni helpu eu plant gyda gwaith ysgol? Sut y gellir monitro faint o ddysgu o bell ac ar-lein sydd wedi ei wneud gan ddisgyblion? Mae pryder eto yngl?n â’r bwlch rhwng disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim a disgyblion eraill.

Yr opsiwn gorau fyddai sicrhau bod cymaint o ddisgyblion â phosibl yn dychwelyd ym mis Medi. Byddwn yn parhau i geisio aros ar flaen y gad o ran dysgu integredig a dysgu cyfunol er mwyn gallu adeiladu ar yr arfer sydd wedi ei sefydlu’n barod yn ein hysgolion, pan fydd y sefyllfaoedd yma’n codi. Byddwn yn sicrhau bod ysgolion yn y sefyllfa orau posibl i ddiwallu anghenion dysgwyr ym mis Medi.

Mae’r berthynas rhwng y GCA a’r awdurdod lleol wedi bod yn un adeiladol a gwerthfawr. Bydd y gwaith sydd wedi ei wneud o fudd yn y dyfodol. Nid y teuluoedd a gaiff, yn draddodiadol, eu hystyried yn agored i niwed yw’r unig rai a fydd yn wynebu heriau. Mewn rhai cartrefi, mae rhieni ar alwad 24 awr y dydd, neu mae’r ddau riant yn gweithio llawn amser – mae pob cartref, felly, wedi wynebu problemau a rhwystrau yn ystod y cyfnod yma. Mae pob dysgwr angen cymorth, am resymau gwahanol.

Casgliad y Cadeirydd:

Er gwaethaf yr hyn a ddaw yn sgil cyhoeddiad y prynhawn yma, rydym wedi ein argyhoeddi gan y gwaith y mae’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg wedi ei wneud. Rydym wedi gweld bod pryder yn parhau yngl?n â phlant sy’n agored i niwed, a bydd y Pwyllgor Dethol Plant a Phobl ifanc yn parhau i fonitro’r sefyllfa yn y dyfodol.

 

 

 

5.

Astudiaeth Gwerth am Arian y GCA - Debbie Harteveld (GCA) pdf icon PDF 878 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Dirprwy Gyfarwyddwr Price gyflwyniad i’r pwyllgor. Roedd yr adroddiad wedi ei ysgrifennu gan ymgynghorydd allanol. Diben yr adolygiad yw adlewyrchu ar yr hyn yr ydym yn ei wneud yn dda a bod yn ymwybodol o hyn, yn ogystal â bod yn ymwybodol o’r meysydd y mae angen i ni wella ynddynt. Defnyddiwyd ystod eang o ddata cyfanredol o feysydd amrywiol o fewn yr awdurdod lleol, yn ogystal â thystiolaeth gan arbenigwyr allanol. Daeth yr adolygiad i’r casgliad bod y GDA yn gwneud y pethau iawn, yn eu gwneud yn dda a bod y pethau hyn yn cael effaith.

Her:

A oes problem gyffredinol yn Sir Fynwy o ran dysgu uwchradd, o’i gymharu â’r perfformiad ar lefel gynradd, neu broblem o ran cynnal y perfformiad dros amser?

Cytunodd adroddiad Estyn bod gwelliant wedi digwydd yn gynt ar lefel gynradd nag ar y lefel uwchradd. Mae amser a sylw wedi ei roi er mwyn sicrhau bod arweinyddiaeth dda bellach yn ei lle ar lefel uwchradd. Rydym wedi buddsoddi amser er mwyn sicrhau bod cytundeb rhyngom ni, yr ysgolion a’r GDA yngl?n â’n disgwyliadau o ran y canlyniadau (mae’r disgwyliadau o’r lefel uchaf). Yn anffodus, ni fydd metrigau traddodiadol ar gael yn y dyfodol; yn gyntaf o herwydd y ffordd y mae arholiadau wedi eu heistedd y tro hwn, ni fyddwn yn defnyddio’r data hwn yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. Yn ail, mae’r Gweinidog wedi cyhoeddi na fydd categoreiddio’n debygol o ddigwydd yn y flwyddyn nesaf. Yn drydydd, roeddem yn mynd i mewn i’r flwyddyn nad oedd Estyn yn gwneud arolygon ynddi. Bydd rhaid i ni weithio gyda’r GDA er mwyn dod o hyd i ffyrdd o roi hyder i’r pwyllgor hwn, ac i’r cyngor yn gyffredinol, bod ein ysgolion yn symud yn y cyfeiriad cywir.

Mae Ysgol y Brenin Henri VIII bellach yn cefnogi ysgol arall. Dylai hyn arwain at arweinyddiaeth bositif a gwasgaredig o fewn yr ysgol dan sylw sydd i’w datblygu. Mae’r bartneriaeth bresennol rhwng Cil-y-coed ag Esgob Llandaf yn dwyn ffrwyth. Rydym yn gwneud cynnydd yng Nghas-gwent o dan arweinyddiaeth newydd. Croesawodd Ysgol Uwchradd Trefynwy bennaeth newydd ddoe – fe ddylai hyn ysgogi’r ysgol. Mae’r pedair ysgol felly, mewn sefyllfa gref o ran gwella yn y dyfodol.

Gyda llai o staff, a oes mwy o ddirprwyo wedi digwydd i ysgolion o ran gwella, a sut mae hyn wedi newid eich dull gweithredu?

Mae llai o staff o fewn y GDA, ac mae hyn yn rhan o’n dull o symud tuag at system hunan-wella, a sicrhau bod capasiti’n cael ei adeiladu o fewn cymuned yr ysgol. Yn ei dro, bydd hyn yn cynyddu’r ddirprwyaeth a’r adnoddau i ysgolion. Ein dull yn hyn o beth, yn bennaf, yw annog ysgolion i gyflawni gwasanaethau ar gyfer ysgolion eraill, gan ddarparu safon dysgu priodol a phroffesiynol a sicrwydd ansawdd ar gyfer y fecanwaith dan sylw. Mae hyn, hefyd, yn helpu ysgolion i deimlo’n rhan o’n gwaith. Rhesymol yw mai ymarferwyr o fewn ysgolion yw’r rhai sy’n rhoi’r arweiniad  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Cynllunio Gwaith pdf icon PDF 156 KB

Cofnodion:

Nododd y Cynghorydd Brown mai defnyddiol fyddai cael diweddariad gan y Prif Swyddog ym mis Medi yngl?n â’r cynnydd sy’n cael ei wneud a sut y mae ysgolion wedi ymdopi, problemau lleol a phroblemau’n ymwneud â’r ffin ac ati. Cytunodd y Prif Swyddog Mclean i roi diweddariad ym mis Medi. Cynigiodd y Cynghorydd Groucott y dylid craffu ar y cynnydd posib o ran trais domestig, a sut y mae plant yn cael eu heffeithio.

Casgliad y Cadeirydd:

Mae angen ystyried y cydbwysedd rhwng materion sy’n ymwneud ag addysg a gwasanaethau cymdeithasol plant; wrth edrych yn ôl, mae’n ymddangos bod diffyg cydbwysedd ar brydiau. Yng ngwyneb Covid-19, mae ein blaenoriaethau wedi newid yn sylweddol. Byddwn yn canolbwyntio ar blant yn dychwelyd i’r ysgol, gan wneud yn si?r eu bod yn cael y profiad gorau posibl – bydd hyn yn gyrru’r agenda.

 

 

7.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 613 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd ac arwyddwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf, a gynhaliwyd ar ddydd Mawrth y 17eg o Fawrth, fel cofnod cywir.

 

 

8.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf

Cofnodion:

Mae’r cyfarfod nesaf ar yr 8fed o Fedi am 10.00. Bydd rhag-gyfarfod am 09.30