Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Remote Meeting. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd yn bresennol. 

 

3.

Iechyd Meddwl Pobl Ifanc: Trafod gyda’r Gwasanaeth Ieuenctid bryderon plant a phobl ifanc am iechyd meddwl

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Charlie-Jade Atkins a Josh Klein wedi cyflwyno’r adroddiad ac wedi ateb cwestiynau yr Aelodau.

Her:

Pa fath o wybodaeth y mae pobl ifanc yn ei ddymuno, a hynny o ran cydberthynas ac addysg rhyw, problemau gyda delweddau’r corff a chyfryngau cymdeithasol, parch a chaniatâd ayyb? Sut ydym yn medru helpu gyda hyn?

Roeddem wedi cael sgwrs dda iawn yn ddiweddar gyda pherson ifanc mewn ysgol uwchradd, a oedd wedi danfon e-bost at y Pennaeth yn mynegi pryderon ac yn cynnig adborth am yr addysg rhyw. Roeddem wedi cwrdd â hi ac roedd hyn yn ddefnyddiol iawn. Roedd wedi ei brawychu gan ddiffyg dealltwriaeth ei ffrindiau. Roedd y pynciau a drafodwyd yn cynnwys: bod yn ddiogel yn gorfforol ac emosiynol, atal cenhedlu, sut i ddod i adnabod y person sydd yn agos i chi, pwysau gan ffrindiau, gwerthoedd teuluol, gyda phwy y dylid siarad er mwyn cael sgwrs dda, teimladau o euogrwydd a gwarth, cymhlethdod sy’n ymwneud gyda phleser a deimlir gan fenywod, disgwyliadau  a hunanwerth, cywirdeb  anatomegol, ac effaith cyfryngau cymdeithasol fel Instagram. Rydym wedi gweithio gyda llawer o bobl ifanc yn ystod y cyfnod clo  sydd yn wynebu heriau o ran materion fel hunanwerth a delweddau o’r corff, a hynny i’r pwynt fel bod rhai a oedd wedi gweithio gyda ni dros y cyfnod clo wedi penderfynu ymatal rhag rhyngweithio gyda ni ar alwadau fideo. Mae ein ffurflen ganiatâd ar-lein yn cynnwys rhoi dewis i bobl ifanc yngl?n â’r ffordd y maent am ryngweithio gyda ni: mae llawer wedi dewis gwneud hyn drwy ffonio neu drwy neges destun, yn hytrach na galwad fideo.  Mae ‘Pornograffi Dial’ a ‘Sexting’ hefyd yn bryderon sylweddol yn ogystal â gwybod am ble i fynd am help, gwybodaeth a dulliau atal cenhedlu, ynghyd â chaniatâd, rheoli risgiau a’r canlyniadau o fethu gwneud hyn.

Mae’n wych i weld ei fod mor ymwybodol o’r hyn y maent yn dymuno. Dylai clinigau iechyd rhywiol fod yn llai  diraddiol a chlinigol. Efallai y byddai sefydlu is-gr?p yn ddefnyddiol er mwyn gweithio ar y materion yma?

Mae’r bobl ifanc yma eisoes yn cael y sgyrsiau yma ac yn chwilio am bobl i siarad gyda hwy – mae’r  ‘Friday Friendlies’ wedi eu sefydlu er mwyn ateb y galw. Byddai’n beth da i Gynghorwyr i fynychu ac ymuno gyda’r sgyrsiau. Roedd yr Aelod Cabinet Sara Jones wedi mynychu sesiwn yn ddiweddar ar Gydraddoldeb Rhywiol, gan roi’r cyfle iddi siarad a gwrando ar bobl ifanc a oedd yn hynod ddefnyddiol.  

Martyn: Pan ein bod yn siarad am addysg rhyw a chydberthynas, un peth yr ydym yn gweld dro a dro yw pan ein bod yn cyrraedd pwynt argyfwng o ran trais yn erbyn menywod, dynion sydd yn gyfrifol am hyn gan amlaf.   Mae yna broblem sylweddol o ran y  gagendor rhwng dynion a menywod. Wrth edrych ar y cwricwlwm newydd i Gymru, mae yna rôl sylweddol i fudiadau ieuenctid i fod yn yr ysgolion a dylanwadu ar  yr hyn sydd yn cael ei ddysgu.

Rydym yn gweithio ar brosiectau  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Adborth gan Estyn: Diweddariad llafar gan y Prif Swyddog ar yr adborth gan Estyn a dderbyniodd y Cyngor yn ddiweddar.

Cofnodion:

Roedd Will McLean wedi siarad ag aelodau ac wedi ateb eu cwestiynau. Mae’r llythyr yr ydym wedi derbyn gan  Estyn yn adlewyrchu’n dda'r gwaith yr ydym ni, ein hysgolion a chydweithwyr yn y GCA, wedi ei wneud er mwyn sicrhau bod y cyfnod pontio wedi bod mor effeithiol ag sydd yn bosib.  Mae’r llythyr mewn dwy ran: Mawrth-Awst 2020 ac wedi Medi 2020. Mae Gwanwyn 2021 wedi bod yn gyfnod o gyfnod clo a dysgu o bell i lawer a bydd Estyn yn parhau i weithio gyda ni er mwyn asesu a thrafod sut y mae’r cyfnod hwn  wedi ei reoli ‘gystal. Rydym wedi cynnal ein hymweliadau Arolygwyr Cyswllt Awdurdod Lleol bob hanner tymor, er mwyn sicrhau bod Arolygwyr yn deall ein safbwynt a’r penderfyniadau yr ydym yn ei wneud.

Rhai pethau i’w nodi o’r llythyr hwn: o ran Arweinyddiaeth a Chydlafurio, rydym yn bles iawn eu bod yn cydnabod ein cyfathrebu a’n disgwyliadau eglur ar gyfer ysgolion a bod Aelodau wedi gofyn am ddiweddariadau wrth i bethau ddigwydd. Mae ansawdd y cwestiynau a lefel yr heriau gan Aelodau wedi bod yn dda.  

Mae yna sylwadau diddorol yngl?n â’r ffordd yr ydym wedi gweithio ag ysgolion. Nid ydym erioed wedi mabwysiadu ‘un ateb sydd yn addas i bawb’  - rydym yn cydnabod fod pob un ysgol yn meddu ar fathau gwahanol o bwysau,  adeiladau, cymunedau ayyb. Rydym wedi gosod ffiniau a disgwyliadau clir ar gyfer ysgolion ond wedi rhoi’r hyblygrwydd iddynt ymateb mewn modd sydd yn diwallu eu hanghenion lleol. 

Mae’r llythyr yn trafod ein penderfyniad am ddiwedd y tymor: roedd ein plant wedi dychwelyd am dair wythnos yn yr haf, a oedd yn golygu nad oeddem wedi cael wythnos ychwanegol o wyliau yn nhymor yr hydref.  Roedd ysgolion ond wedi cael cynnal 30% o’r disgyblion yn ystod y cyfnod hwn. Yn ei hanfod, roedd plant wedi colli un diwrnod ar ddiwedd tymor yr haf ond wedi elwa o 5 diwrnod yn ystod tymor yr hydref. Yn sgil y lefel isel o ran sut oedd y feirws yn cael ei drosglwyddo yn Sir Fynwy, ni aflonyddwyd ar dymor yr hydref. Roedd y llythyr yn cydnabod na fyddai hyn yn cael effaith gydradd ar ddysgwyr ac rydym wedi mynd i’r afael gyda hyn o ran ein cynllunio a’n disgwyliadau.  

Elfen bositif arall yw bod Estyn wedi siarad gyda’n hysgolion a ddywedodd eu bod yn teimlo ein bod wedi eu cefnogi. Mae’r papur hefyd yn cydnabod y gwaith da a wnaed gan gydweithwyr ym maes addysg a gwasanaethau cymdeithasol er mwyn sicrhau ein bod yn diwallu anghenion dysgwyr mwy bregus. Mae’n sôn am gyflenwi technoleg er mwyn sicrhau bod y dysgu cyfunol yn effeithiol, a’r ffordd y sefydlwyd  hybiau gofal plant, a llefydd yn cael eu sicrhau ar gyfer y plant a oedd eu hangen. Wrth edrych yn ôl, mae modd i ni gydnabod pa mor gyflym y bu ein cydweithwyr yn gweithio, yr ymroddiad a roddwyd ganddynt a sut oeddynt wedi cydweithio gyda Phenaethiaid. Roedd y cyflymder o ran sefydlu  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Blaengynllun Gwaith Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc pdf icon PDF 486 KB

Cofnodion:

Bydd yr Adroddiad Blynyddol drafft yn dod i’r cyfarfod nesaf. Byddai ystyriaeth o’r plant sydd yn derbyn prydau ysgol am ddim a’r plant o deuluoedd sydd ar incwm is yn ddefnyddiol yn y dyfodol agos. Byddwn yn ystyried craffu mwy ar waith y Gwasanaeth Ieuenctid, gyda’r awgrym o un eitem ar gyfer pob cyfarfod er mwyn trafod hyn.

 

 

6.

Cynllunydd Gwaith y Cabinet a’r Cyngor pdf icon PDF 162 KB

7.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 475 KB

·         19 Ionawr 2021

·         11 Chwefror 2021 (Arbennig) – I ddilyn

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         19eg Ionawr 2021

·         11eg Chwefror 2021

Cadarnhawyd y cofnodion ac fe’u llofnodwyd fel cofnod cywrain.  

 

 

8.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf (20 Mai 2021)