Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc - Dydd Mawrth, 17eg Mawrth, 2020 10.00 am

Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, The Rhadyr, Usk, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Buddiannau

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Powell fuddiant fel Llywodraethwr yn Ysgol Brenin Harri VIII.

 

2.

Fforwm Agored Cyhoeddus.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o'r cyhoedd yn bresennol.

 

3.

Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog Addysg - Craffu ar berfformiad y gwasanaeth dros y flwyddyn flaenorol ac ystyried y cyfeiriad strategol ar gyfer 2020-2021 (i ddilyn). pdf icon PDF 246 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog ei adroddiad.  Diben yr adroddiad yw rhoi gwybod i'r cyngor am gynnydd y system addysg yn ystod y 12 mis diwethaf.  Yn 19/20 cyrhaeddwyd cerrig milltir sylweddol.  Mae llawer o ysgolion ar broses wella barhaus a sefydlog.  Mae canlyniadau Estyn yn gwella – 'Da' yw'r canlyniad mwyaf cyffredin, ond nid oes digon o ganlyniadau 'Rhagorol'.  Cafwyd cyllid grant sylweddol drwy Lywodraeth Cymru.  Mae presenoldeb yn gryf iawn, ond mae gwaharddiadau'n destun pryder.  Mae cynnydd yn y dyddiau a gollir fesul disgybl ar lefel gynradd.  Ar lefel Uwchradd, mae cynnydd sylweddol mewn cyfnodau o waharddiadau cyfnod penodol a chyfanswm diwrnodau a gollwyd. Bydd Richard Austin, Prif Swyddog Cynhwysiant, yn dod i mewn i roi rhagor o fanylion ac esboniadau o'r hyn sy'n eu gyrru.  Nodwch nad yw ysgolion unigol yn cael eu henwi yn y data/graffiau.

Herio:

Ers i'r gwaith gael ei wneud gydag ysgolion cynradd y Clwstwr, a yw disgyblion Cyfnod Allweddol 3 yn well eu byd gyda'r newid o'r cynradd i'r uwchradd – a yw'r bwlch wedi lleihau?

Ydy, mae'r Cynghorydd yn cyfeirio at y gwaith rhwng y Brenin Harri VIII a'i glwstwr o ysgolion.  Rydym yn gweld ymdrech ar y cyd ar draws y continwwm dysgu hwnnw wrth sefydlu'r mathau cywir o sgiliau yn gynnar iawn yn yr ysgolion cynradd, sydd wedyn yn caniatáu pontio llawer mwy esmwyth, a chyfradd cynnydd barhaus drwy'r ysgol uwchradd. Rydym am i blant fod yn gwneud yn dda iawn hyd at ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 a phontio'n dda – mae'n bwysig peidio â thanbrisio pa mor enfawr y gall y cyfnod pontio fod o'r cynradd i'r uwchradd, yn enwedig yn emosiynol.  Ceir enghraifft dda o ran mathemateg yn y Brenin Harri a'i chlwstwr: roedd plant yn un o'n hysgolion cynradd a oedd yn cyflawni lefel 6 mewn mathemateg ar ddiwedd y cynradd, ond nid oedd yr athro yn teimlo'n hyderus wrth ddatgan eu bod yn perfformio ar y lefel honno mewn modd cyson – ond roedd cael yr arbenigedd mathemateg o'r ysgol uwchradd yn caniatáu iddynt wneud hynny.  Unwaith y bydd hynny wedyn yn cael ei fodelu i lefel nesaf eu haddysg, gallwn ddechrau codi disgwyliadau h.y. os yw plentyn yn gweithio ar Lefel 6 ar ddiwedd y cynradd, gallwch ddisgwyl y byddant yn A*/A pan fyddant yn dod i gymwysterau TGAU.

A yw ysgolion sy'n gwneud yn dda yn cael eu cymryd fel modelau ar gyfer sut i gyrraedd safonau uwch na'r disgwyl mewn mannau eraill?

Mae llawer iawn o waith ar hyn ar draws y rhanbarth.  Mae’r GCA wedi sefydlu 'Ysgolion Rhwydwaith Arweiniol': maent yn cynghori ac yn cefnogi ysgolion eraill, ceir ymweliadau i weld sut maent yn gweithio (gan gynnwys y rhai y tu allan i'r sir). Mae'r dull newydd o ymdrin â'r cwricwlwm yn seiliedig ar hynny, gyda llwyddiant sylweddol.  Mae llawer o'n hysgolion yn dod yn ysgolion rhwydwaith blaenllaw, ac maent bellach yn estyn allan i helpu eraill.

A oes mwy o gyswllt ag ysgolion Gwent, neu a yw'n gyffredinol ar gyfer De  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Craffu ar yr adroddiad perfformiad ar Ganlyniadau Datblygu Ysgolion (i ddilyn). pdf icon PDF 436 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog yr adroddiad ar ansawdd prosesau gwella ysgolion.  Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi gweld tuedd gynyddol a gwell yn ein perfformiad mewn nifer o feysydd, megis categoreiddio cenedlaethol (mwy o ysgolion yn cael eu hystyried yn 'Wyrdd', dim fel 'Coch') ac yng nghanlyniad arolygiadau Estyn, gyda mwy o ysgolion yn cyflawni 'Da', ac ambell un yn 'Rhagorol'.  Ond rydym yn disgwyl gweld mwy.  Er mwyn sicrhau hyn, yr ydym yn edrych ar ystod ehangach o fesurau a gwaith y mae'r ysgolion yn ei wneud, er mwyn cefnogi'r symudiad hwnnw tuag at welliant pellach.  Dyna sail yr adroddiad.

Herio:

Pam nad oes cymhariaeth â De Ddwyrain Cymru ar yr adroddiad ar gyfer y flwyddyn 19/20?

Nid yw'r data'n rhanbarthol ar gyfer 19/20 ar gael, ond pan fydd ar gael byddwn yn diweddaru'r adroddiad.  Ond roeddem am rannu cynnydd ein hysgolion ein hunain yn y cyfnod hwn cyn gynted ag y gallem.

Sut y gellir sicrhau bod hunanarfarnu o'r un safon?

Ansawdd prosesau cynllunio a hunanarfarnu datblygu'r ysgol: nid oes gofyniad yn awr i ysgol ysgrifennu adroddiad hunanarfarnu, ond ansawdd y broses y mae'n rhaid i'r ysgolion ei rhoi i'r ysgolion caiff barn gywir ei gwerthuso drwy'r ymweliadau Ymgynghorwyr Her.Felly, dros y flwyddyn, bydd Ymgynghorwyr Her yn gweithio gyda'r ysgol i gymedroli'r gwaith a wnânt. Er enghraifft, os oes taith gerdded ddysgu, mae'n ddigon posibl y bydd yr Ymghynghorydd Her yn rhan o hynny. Mae'n ddigon posibl y byddant yn edrych ar gymedroli barn Penaethiaid neu Uwch Arweinwyr ar arsylwadau athrawon, ond byddant yn cymharu'r rheini â chraffu ar lyfrau, ac yn gwrando ar ddysgwyr.  Y dyfarniad yn gyffredinol, felly, yw un yr Ymghynghorydd Her yn seiliedig ar y sylfaen dystiolaeth gyfoethog iawn a ddarperir gan yr ysgolion.

Gan ystyried hynny, pe bai ysgol yn cael ei hunanarfarnu fel 'Da' ond bod y GCA o'r farn ei bod yn 'Ddigonol', pwy fyddai safonwr allanol y lefelau safonol?

Defnyddir y Broses Gategoreiddio Genedlaethol fel crynodeb – pwynt mewn amser – o ble mae'r ysgol.Mae'r wybodaeth a gesglir gan yr Ymghynghorydd Her yn bwydo i mewn i'r adroddiad hwnnw, a bydd y wybodaeth o'r adroddiad Categoreiddio Cenedlaethol yn adlewyrchu ansawdd y prosesau hunanarfarnu yr ydym wedi'u defnyddio yma. Felly mae ei hun wedi bod drwy broses.  Bydd Estyn yn dod i ysgol ac yn edrych arno mewn cipolwg amser, ac nid o reidrwydd yn canolbwyntio ar bopeth yn y model presennol hwn. Mae rhywfaint o sicrwydd o'n safbwynt bod y dyfarniadau rydym yn edrych arnynt yma yn cael eu gwneud gan yr Ymghynghorydd Her, yn seiliedig ar yr hyn y maent wedi'i weld a gweithio arno yn yr ysgol, ac yna caiff hynny ei gymedroli o fewn y GCA drwy eu trafodaethau gyda'u prif Ymgynghorydd Her er mwyn sicrhau cysondeb o fewn y tîm hwnnw hefyd.

Pa bethau fydd yn cael eu rhoi ar waith i helpu ysgolion i yrru tuag at ragoriaeth?

Y llynedd dechreuwyd protocol rhanbarthol ar gyfer edrych ar gynllunio datblygu ysgolion.  Gwahoddwyd ysgolion i sesiynau gweithdy, a  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol. pdf icon PDF 147 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd a llofnodwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ddydd Mawrth 28ain Ionawr 2020 fel cofnod cywir.

 

 

6.

Blaengynllun Gwaith y Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc. pdf icon PDF 287 KB

Cofnodion:

Bydd Richard Austin yn cael ei wahodd i drafod gwaharddiadau.  Mae'r Cadeirydd yn nodi ei bod yn bwysig yn y dyfodol i gael mwy o fewnbwn gan ysgolion yn y pwyllgor hwn.  Mae pryder am golli disgyblion i ysgolion y tu allan i Sir Fynwy – Cas-gwent i Wyedean a'r Fenni i Grug Hywel, er enghraifft. Byddem am gadw cynifer o ddisgyblion cynradd â phosibl ar lefel uwchradd.  Fodd bynnag, mae gweithio mewn clwstwr yn helpu gyda hyn.  Er enghraifft, bydd mwy o blant Goetre mewn ysgolion uwchradd o fis Medi ymlaen oherwydd bod y Clwstwr yn gweithio.

Ar gyfer y diweddariad ADY ym mis Ebrill, mae'r Cynghorydd Brown wedi gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am ddisgyblion T? Mounton yngl?n â'u trefniadau dysgu amgen. Ar gyfer 'Cynnydd o ran diwygio'r Cwricwlwm', byddai'n ddefnyddiol gofyn i ysgolion peilot ddod i'r pwyllgor.  O ran y cyfrwng Cymraeg, mae'r Cadeirydd yn nodi bod yr ysgol newydd yn rhywbeth y mae'r cyhoedd wedi gofyn amdano, ond efallai y bydd yn rhaid gwthio hynny'n ôl fel eitem agenda o ystyried digwyddiadau cyfredol.

 

 

7.

Rhaglen Waith y Cyngor a'r Cabinet. pdf icon PDF 334 KB

Cofnodion:

Ni thrafodwyd dim.

 

 

8.

Cyfarfod Nesaf: Dydd Mawrth 28 Ebrill 2020 am 10.00am.

Cofnodion:

Cynhelir y cyfarfod nesaf ddydd Mawrth 28ain Ebrill 2020, yn amodol ar unrhyw newidiadau oherwydd y coronafeirws.

Er bod diwygiad cyfansoddiadol i bresenoldeb aelodau o bell mewn cyfarfodydd, mae rhai cyfyngiadau technolegol i'w goresgyn o hyd. Mae rhywfaint o arian yn y gyllideb ar gael ar gyfer gwelliannau.  Edrychir ar hyn, yn enwedig yng ngoleuni'r Coronafeirws a'i oblygiadau posibl o ran presenoldeb.