Skip to Main Content

Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: The Council Chamber, County Hall, The Rhadyr, Usk, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd Maureen Powell ddatganiad o ddiddordeb personol nad yw’n rhagfarnu, fel aelod o’r Pwyllgor Cyllid ar fwrdd Llywodraethwyr Ysgol Uwchradd y Brenin Henry VIII.

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

3.

Adrodd ar Berfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant pdf icon PDF 542 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y swyddogion adroddiad perfformiad ar gyfer chwarter 2, a oedd yn seiliedig ar y fframwaith perfformiad statudol ac a oedd yn cynnwys dangosyddion perfformiad Llywodraeth Cymru, darparwyd cyd-destun lleol pan fo hynny’n berthnasol. Tynnodd y swyddogion sylw at y pwysau cynyddol sydd ar y gwasanaeth, gan fod nifer uwch o oedolion angen ymyriadau gan y gwasanaethau cymdeithasol. 

 

Clywodd yr aelodau bod y nifer o Blant Sy’n Derbyn Gofal (LAC) wedi cynyddu, sy’n gadarnhaol yn nhermau gallu helpu mwy o blant ond mae hyn yn rhoi pwysau ar y gwasanaeth.  Dywedwyd wrth y pwyllgor bod mwy o bwyslais wedi bod ar gynnig cymorth yn gynnar (early help offer) a chynnig cymorth i deuluoedd (family support offer) a bod yr ymyriadau rhain yn cynorthwyo nifer o deuluoedd. Y gobaith yw y bydd y math yma o wasanaethau yn lleihau’r nifer o atgyfeiriadau sy’n cael eu gwneud. Clywodd aelodau y bydd y Tîm Teuluoedd Ynghyd (families together team) yn helpu plant i adael gofal ac ail ymuno â’u teuluoedd yn ystod yr 18 mis nesaf.

 

Eglurodd y swyddogion bod angen cynyddu’r ddarpariaeth gofal maethu mewnol, am nad yw’n diwallu’r galw ar hyn o bryd. Eglurwyd bod strategaeth yn ei lle ar hyn o bryd sy’n canolbwyntio ar recriwtio a chadw staff sy’n ymwneud â gwaith cymdeithasol am eu bod yn cael anhawster recriwtio staff i’r tîm diogelu plant gan fod natur y rôl yn golygu bod pwysau mawr ar ysgwyddau’r staff.

 

Her:

 

  • Rydych wedi nodi bod ein niferoedd LAC wedi cynyddu a bod hyn yn groes i’r tuedd a welir yng Nghymru, a’ch eglurhad yn yr adroddiad yw mai am ein bod yn dod yn fwy ymwybodol o achosion diogelu plant y mae’r niferoedd yn cynyddu. A yw ein prosesau asesu yr yn fath â phrosesau cynghorau eraill?  Pam bod ein niferoedd yn uwch?

 

Mae asesiad trylwyr yn cael ei wneud cyn i unrhyw blentyn ymuno â’r rhestr diogelwch.  Mae’ch cwestiwn yn un anodd i’w ateb am nad oes targed delfrydol ar gyfer nifer ein achosion.   Rwy’n hyderus bod ein prosesau’n union fel y dylent fod. Gall ein arferion newid a gwella bob amser, ond a fyddai hynny’n gostwng y niferoedd? Mae’n anodd dweud. Nid yw gweld niferoedd yn codi neu’n gostwng yn fater cadarnhaol nac yn un negyddol. Yr hyn sy’n bwysig yw penderfynu a yw ein trothwy’n gywir. Mae ein dull o weithio’n un aml-asiantaeth sy’n seiliedig ar batrwm Gwent. 

 

  • Rydych wedi crybwyll anawsterau o ran recriwtio? A oes unrhyw ffordd o wneud y swydd yn un mwy amrywiol?

 

Rydym yn ail edrych ar sut y dylem strwythuro a rheoli llwyth gwaith y Gwasanaethau Cymdeithasol yn rheolaidd, ac mae’r holl staff cymwys yn gwneud elfennau o’r  gwaith, ond mae rhai timau’n gwneud mwy ohono a dyma’r darlun a welir ledled Cymru. Rydym yn adolygu hyn yn barhaus ac rydym yn teimlo bod y strwythur cywir yn ei le gennym ar hyn o bryd o ran y ffordd yr ydym yn rheoli gwaith y tîm ac yn creu’r diwylliant cywir.

 

·           Rydych  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Adroddiad Monitro'r Gyllideb - Mis 7 pdf icon PDF 311 KB

Cofnodion:

Awgrymodd y swyddogion mai doeth fyddai trafod yr Adroddiad Monitro Cyllideb ar gyfer Mis 7 ar y cyd â’r cynigion drafft o ran Cyfalaf a Refeniw ar gyfer 2020-21 gan fod yr adroddiad monitro cyllideb yn darparu’r cyd-destun ehangach o ran yr heriau a wynebir yn y flwyddyn bresennol ac hefyd yn y dyfodol.

 

Clywodd yr aelodau bod y cyngor yn wynebu heriau enfawr ar ddiwedd mis 7. Mae gorwariant gwasanaethau’n sylweddol o’u cymharu â gorwariant blynyddoedd diweddar. Eglurodd y swyddogion ein bod wedi llwyddo i reoli gorwariant yn ystod blynyddoedd blaenorol, a’n bod fel arfer, ar adeg alldro’r cyllideb, yn adennill y costau neu hyd yn oed yn dychwelyd gwarged, ac rydym yn parhau i ymdrechu i fod yn yr un sefyllfa eleni.

 

Ym mharagraff 3.2 mae tabl sy’n dangos gwarged net o 4m ar gyfer y cyngor.  O ran cyd-destun, mae’r rhain yn deillio o 3 maes:

 

·         Pwysau ar y Gwasanaethau Plant a Phlant sy’n Derbyn Gofal

·         Pwysau o fewn gofal cymdeithasol i oedolion

·         Cefnogaeth ar gyfer plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol

 

Eglurodd y swyddogion, gan nad oes gennym lefelau uchel o gronfeydd wrth gefn, rydym wedi gorfod rhoi cynlluniau adfer yn eu lle er mwyn ymateb i’r sefyllfa yr ydym ynddi. Nod y cynlluniau adfer yw lleihau gwariant dianghenraid ac, ble mae hynny’n bosibl, creu arbedion pellach a cheisio cael gafael ar y sefyllfa bresennol.

 

Cyfeiriwyd y pwyllgor at baragraff 3.10 yn yr adroddiad, sy’n dangos y sefyllfa yr ydym ynddi ar hyn o bryd ac sy’n rhoi gwybodaeth yngl?n â’n cynllun gweithredu.  Dywedodd y swyddogion ein bod yn rhag-weld diffyg o £3.987m ac rydym yn ffodus y byddwn yn gallu talu’r dyfarniad cyflog i athrawon yn y flwyddyn ariannol bresennol, gan fod £310 mil ohono’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru.  Bydd yr arbediad TAW o ganlyniad i reol Ealing, sy’n ymwneud ag incwm gwasanaethau hamdden, hefyd yn helpu’r sefyllfa.  Clywodd yr aelodau bod ymgynghorwyr wedi eu penodi i weithio gyda ni ar yr arbediad hwn er mwyn rhoi’r cyfle gorau posib i ni lwyddo. Clywodd y pwyllgor bod gennym bellach yr hyblygrwydd i ddefnyddio derbyniadau cyfalaf i dalu costau sy’n gysylltiedig â diwygio gwasanaeth.  Cyn hyn, roedd angen caniatâd ond bellach, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, gall y Cyngor wneud y penderfyniad. Ymhellach i hyn, rydym wedi bod yn edrych yn fanwl ar ein gwariant er mwyn dod o hyd i gostau sy’n ymwneud â diwygio gwasanaeth. O ganlyniad rydym wedi canfod dros £2m o gostau diwygio y gellid eu talu gan ddefnyddio derbyniadau cyfalaf.

 

Gall pwysau’r gaeaf fod yn her o hyd o ran y gyllideb, yn ogystal â’r meysydd gwasanaeth anweddol sy’n rhoi pwysau mawr, yn enwedig gwasanaethau plant, fodd bynnag, rydym yn edrych ar ble rydym yn sefyll o ran hyn, ymhell cyn y sefyllfa gyllidol alldro. 

 

O ran y sefyllfa cyfalaf, mae tanwariant bychan yn gysylltiedig ag Ysgolion y 21ain Ganrif. Dangosir derbyniadau cyfalaf yn yr adroddiad ac mae’r penderfyniad i ddefnyddio derbyniadau cyfalaf mewn ffordd hyblyg wedi  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Craffu ar gynigion y gyllideb ddrafft ar gyfer 2020/21 pdf icon PDF 187 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

O gofio bod cyd-destun cynigion y gyllideb wedi eu gosod yn Adroddiad Monitro’r Gyllideb Mis 7, dywedodd y Cadeirydd y byddai’n ddefnyddiol pe byddai’r swyddogion yn cyflwyno’r prif bwyntiau cyn symud ymlaen at y cwestiynau.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid bod y broses o osod cyllidebau’n cychwyn, bob blwyddyn, gydag asesiad o’r gyllideb sylfaenol, y pwysau y gwyddom amdanynt, Setliad Llywodraeth Cymru a mewnbwn Treth Cyngor, ac yna mae angen ceisio cau’r bwlch gyda chynigion ar gyfer arbedion.  Pwysleisiodd y swyddogion ein bod wedi gorfod lleihau’r gyllideb dros sawl blwyddyn, felly wrth ystyried pwysau £9.7 miliwn ac yna pwysau o ran cyflogres, mae’r pwysau bellach yn gyfystyr â £11.25 miliwn. Eglurwyd, er bod Llywodraeth Cymru wedi ariannu’r dyfarniad cyflog i athrawon, nid yw hyn wedi mynd yn ddigon pell o ran cwrdd â’r £11.2 miliwn. Eglurodd yr aelod cabinet bod gennym fwy o gostau sydd angen eu talu, a’n bod yn gorfod cynnig arbedion sy’n amhoblogaidd yn y pen draw gan arwain at yr angen i godi treth cyngor.

 

Mae’r meysydd sy’n rhoi’r pwysau ariannol mwyaf, o fewn cylch gwaith y pwyllgor, wedi eu trafod eisoes, yn enwedig y pwysau o £3 miliwn ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal, a’r £5 miliwn ar gyfer plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, sef yr un pwysau dro ar ôl tro.

 

Her:

 

  • A oes costau cudd yn y ffigurau rhain a fyddai’n cyfiawnhau’r angen am ysgol arbennig?

 

Rydych yn gywir wrth ddweud bod pwysau ar wasanaeth trafnidiaeth cartref i’r ysgol mewn sir wledig. Mae dadleuon dros ysgol arbennig wedi eu cyflwyno droeon ond mae’n rhaid amau a ellid sefydlu un sy’n effeithiol o ran sgôp a graddfa ar gyfer Sir Fynwy.  Mae hyd yn oed cario plant o’r gogledd i’r de yn gostus ac rydym wedi cytuno i ddod â chynigion ger bron o ran cefnogi plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

 

·           Mae’r Aelod Cabinet wedi crybwyll cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru i drafod fformiwla cyllido a’n cais am gyllid gwaelodol. A oes modd i chi ein diweddaru ar gynnydd os gwelwch yn dda? Ac a oes mod i chi roi sicrwydd ni, pe byddai cyllid ychwanegol yn cael ei roi, y byddech yn ystyried tynnu’r toriad o 2% i gyllidebau ysgolion unigol yn ôl?

 

Pe byddai cyllid gwaelodol yn cael ei gytuno, byddai’n rhoi £833 mil ychwanegol, a phe byddem yn llwyddo i sicrhau’r arian yma, byddem yn ail edrych ar y toriad o 2% i gyllidebau ysgolion unigol. Ni allaf roi ateb pendant, gan fod hyn yn ddibynnol ar p’unai y byddwn yn derbyn cyllid ychwanegol neu beidio, ond o ran cynnydd, rydym yn ymwybodol bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru. 

 

·           Felly, pe na byddem yn derbyn cyllid ychwanegol, sut y byddai disgwyl i ysgolion ymdopi â thoriad o 2% i’w cyllideb, oherwydd mae’n anochel bellach ein bod yn sôn am gostau staff?

 

Mae hwn yn gwestiwn anodd i’w ateb gan nad yw penderfyniadau ar staff yn cael eu gwneud gan y corff llywodraethu.  Mewn nifer  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Y diweddaraf ar ganlyniadau Cyfnod Allweddol 4

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y prif swyddog dros addysg gyflwyniad byr i’r adroddiad, gan ddweud bod llawer o waith dadansoddi data’n cael ei wneud cyn cyflwyno’r fath adroddiad i’r pwyllgor.  Mae cynnydd yng nghyfnod allweddol 4 wedi bod yn faes sydd wedi derbyn cryn sylw ers sawl blwyddyn bellach. Clywodd y pwyllgor bod y fframwaith o ran adrodd yn ôl wedi newid. A bod eglurhad o’r fframwaith adrodd yn ôl newydd wedi ei drafod yng nghyfarfod diwethaf y pwyllgor. 

 

Eglurodd yr EAS fod yr adroddiad hwn yn amserol o ystyried y cwricwlwm newydd.   Cyflwynodd yr EAS yr adroddiad, gan fynd ag aelodau trwyddo a rhoi eglurhad manwl ar y data a’r canfyddiadau.  Clywodd yr aelodau mai rhan o’r stori’n unig y gall data ei ddangos a bod safon y dysgu hefyd yn hanfodol.  Eglurodd y prif swyddog dros addysg bod hyfforddiant ar ddata ar gyfer llywodraethwyr wedi cael ei adolygu a bod cyfle yn awr i feddwl am ein disgwyliadau, sef bod ysgolion uwchradd yn perfformio’n well nag y maent ar hyn o bryd ac nad yw pethau’n dirywio wedi i blant adael ysgolion cynradd.  Cyflwynodd yr heriau o ran sut mae ysgolion yn cymharu gyda’u teuluoedd o ysgolion, er mwyn gwneud cymhariaeth go iawn a dywedodd bod trafodaethau’n cael eu cynnal yn barhaus gydag ysgolion uwchradd er mwyn deall y cynnydd y maent yn ei wneud a’r newidiadau y byddant yn eu gwneud er mwyn sicrhau bod y canlyniadau’n cael eu cyrraedd.

 

Her:

 

  • Mae gennyf bryderon ynghylch y garfan o blant sy’n derbyn Prydau Ysgol am Ddim a’r holl anawsterau y mae’r plant yma’n eu hwynebu, a’m mhryder yw sut y mae’r cyngor yn ymateb i’r tlodi yma.  Mae gennym bocedi o dlodi difrifol yn y sir hon, felly nid lleihau’r bwlch o ran cyrhaeddiad addysgol yn unig yw’r nod, mae hyn yn ymwneud â sut yr ydym yn ymateb i ddarlun llawer ehangach ac effaith y tlodi yma.  Byddem yn croesawu clywed gan Ysgol y Brenin Henri yngl?n â sut y maent yn ymateb i hyn.  Fe ddylai’r ysgol edrych ar y nifer fechan o bant sy’n agored iawn i niwed sydd yno ac edrych ar sut y gallent gefnogi pob un ohonynt. Gan gydnabod y bydd yr EAS yn edrych ar hyn, fe hoffem gynnig ein bod yn gwahodd Ysgol y Brenin Henri i’r pwyllgor er mwyn edrych ar y rhesymau ehangach pam nad yw pobl ifanc yn cyflawni eu potensial.

 

Rwy’n cydnabod eich safbwyntiau ar y mater hwn, ac yn fy nau adroddiad prif swyddog diwethaf, fe geisiais egluro i’r aelodau pa mor gymhleth yw’r mater hwn, ac egluro effaith Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE’s) ac yn benodol ei effaith ar ddysgwyr. Mae’n bwysig ein bod yn mynd gam ymhellach na chanfod pwy yw’r plant yma, a gwneud ymyriadau er mwyn eu helpu. Mae angen i ni gymryd yr holl boblogaeth fregus i ystyriaeth, a’r hyn yr wyf yn ei olygu wrth hyn yw’r plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn ogystal â phlant sy’n derbyn prydau  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Cynllun Busnes y Gwasanaeth Cyflawni Addysg pdf icon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr EAS eu hadroddiad a oedd yn cynnwys eu Cynllun Busnes ac atodiad y llywodraeth leol, y mae ymgynghoriad yn digwydd arnynt ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.  Eglurwyd eu bod yn cyflwyno’r cynllun hwn i bwyllgorau craffu pob cyngor a’r swyddogion gweithredol am eu bod yn perthyn i’r 5 cyngor a’u bod yn gorff nid-er-elw. Tynnwyd sylw’r aelodau at baragraff 3.8 er mwyn dangos y cysylltiad rhwng blaenoriaethau Sir Fynwy a’u blaenoriaethau cyffredinol, gan awgrymu meysydd y mae angen i ni barhau i weithio’n gydweithredol arnynt.   Pwysleisiwyd hefyd, ym mharagraff 3.24, y risgiau, cyn gwahodd cwestiynau.

 

Her:

 

  • Rydych yn cyfeirio at risgiau Sir Fynwy ym mharagraff 3.24 ac rydych hefyd wedi crybwyll gwaharddiadau mewn ysgolion, felly dyma gwestiwn i’r prif swyddog dros addysg, ai toriadau i gefnogaeth staff, megis cynorthwywyr dosbarth sy’n gyfrifol am y cynnydd mewn gwaharddiadau mewn ysgolion?

Does bosib mai ffordd effeithiol o leihau’r nifer o waharddiadau fyddai cynyddu’r cyllid?  

A dyma gwestiwn i’r EAS – os ydych yn ymgymryd â chwricwlwm newydd, a’ch bod hefyd angen codi safonau o ran y cwricwlwm presennol, yn ogystal â pharatoi ar gyfer y cwricwlwm newydd, a oes gennych ddigon o gyllid i wneud y ddau?

 

Prif Swyddog – Rydym yn cydnabod bod hyn yn achosi pryder cynyddol, a rhoddwyd cydnabyddiaeth i hyn gennyf yng nghynllun y llynedd. Rydym wedi rhoi Cefnogaeth Atgyfeirio Disgyblion mewn i’r ysgolion ar sail cynllun peilot er mwyn gweld a fydd y gefnogaeth yn gweithio, ond o ran cynorthwywyr athrawon a staff cefnogol, wrth edrych ar y niferoedd, nid ydynt mor llwm ag y maent yn ymddangos. Y llynedd roeddem yn canolbwyntio ar leihau gwaharddiadau, ond eleni rydym yn edrych ar y rhesymau dros y gwaharddiadau ac yn gweithio mewn partneriaeth er mwyn cefnogi’r disgyblion.

 

EAS – Rydym yn hyderus y gallwn, o fewn y model ariannu presennol, lwyddo. Rydym eisoes wedi datblygu set o ddisgwyliadau cyffredin ar draws Cymru.

 

Casgliad

 

Mynnodd y pwyllgor bod yr EAS yn atebol heddiw, ac o gofio ein bod yn eu hariannu, mae hon yn swyddogaeth bwysig iawn. Rydym wedi ystyried eu blaenoriaethau a sut mae’r blaenoriaethau rheiny’n alinio â’n blaenoriaethau ni ac rydym yn fodlon gyda’r aliniad. Yn ogystal, rhoddwyd hyder i ni gan yr EAS bod ganddynt gyllid i gyflawni’r Cynllun Busnes felly rydym yn hapus i’w gefnogi.

 

8.

Strategaethau Cyrhaeddiad

Cofnodion:

Croesawodd y pwyllgor y cyfle i gyfarfod yn uniongyrchol gyda phennaeth a dirprwy bennaeth Ysgol Uwchradd Cas-gwent er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’u ffactorau llwyddiant o ran gwella cyrhaeddiad disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim yn ogystal â thrafod yr heriau y maent yn eu hwynebu fel ysgol sydd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.  Cyflwynodd y pennaeth y dirprwy bennaeth Kelly Bowden sy’n Bencampwr Prydau Ysgol am Ddim yn Ysgol Uwchradd Cas-gwent.  Rhoddwyd gwybod i’r aelodau bod Prydau Ysgol am Ddim yn fater cymhleth a bod yr ysgol wedi gweithio ar nifer o strategaethau, ac wedi troi cefn ar rai ohonynt.  Cyfaddefodd yr ysgol nad yw’r canlyniadau ar gyfer plant sy’n derbyn prydau ysgol am ddim cystal ag y dylent fod, a bod hyn yn ddarlun a welir ar draws Cymru.

 

Eglurodd yr ysgol eu bod yn edrych ar fesur ehangach na’r 5 TGAU yn unig, a chyflwynwyd gwybodaeth (atodiad 1) er mwyn dangos rhai o’r mesurau ehangach rheiny. Eglurwyd eu bod wedi penderfynu asesu’r plant sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim ar draws yr ysgol gyfan, ac nid y plant sy’n nghyfnod allweddol 4 yn unig. Dywedwyd mai un o’r mesurau sydd wedi bod fwyaf effeithiol yw gwneud ymweliadau â’r cartref i siarad gyda theuluoedd er mwyn deall y ffordd orau o gefnogi anghenion y plentyn.

 

Ffactorau allweddol eraill yw safon uchel o ddysgu a chwricwlwm sy’n addas ar gyfer anghenion dysgwyr. Bu iddynt gadarnhau bod yr arolwg yr ymgymerwyd â hi wedi dangos bod plant yn teimlo’n ddiogel yn eu hysgol a bod hyn yn rhywbeth y maent yn falch ohono.  Pan ofynnwyd i blant pa werthoedd sy’n bwysig iddynt, cydraddoldeb oedd ar y brig, ni waeth beth fo cefndir y plentyn, ac eglurwyd y byddai’r 5 gwerth oedd ar y brig yn ffurfio rhan o ddatganiad cenhadaeth yr ysgol, wrth i’r plant chwarae rhan allweddol wrth osod cyfeiriad ac ethos yr ysgol. 

 

Her:

 

  • Gallaf ddychmygu bod symud o ysgol gynradd i ysgol uwchradd yn gam enfawr i bob plentyn, ond yn enwedig i bobl ifanc sy’n agored i niwed, a gallaf ddychmygu ei bod yn hawdd iawn syrthio’n ôl, felly beth ydych chi’n wneud gyda’r ysgolion cynradd er mwyn rhoi’r cyfle gorau posibl i’r disgyblion wrth iddynt gychwyn yn yr ysgol uwchradd?

 

Rydym yn adeiladu cwricwlwm newydd ac rydym yn gweithio gyda’r ysgolion cynradd lleol er mwyn deall pa blant y mae angen i ni eu cefnogi, gan y bydd rhai o’r plant yn mynd i Wyedean ac nid Cas-gwent.  Rydym yn hyderus bod gennym reolaeth dros y sefyllfa.  Cymaint yw’n ffydd mewn swyddogion ymgysylltu â’r teulu, rydym wedi penodi ail un.

 

  • A ydych chi wedi gwerthuso eistedd TGAU dros 3 blynedd yn hytrach na 2?

Rydym yn teimlo mai mynd yn ôl at eistedd TGAU dros gyfnod o 2 flynedd yw’r peth iawn i’w wneud i’n dysgwyr.  Rydym yn edrych ar adeiladu’r cwricwlwm a byddwn yn monitro’r effaith, oherwydd nid ydym yn gwybod sut y bydd cymwysterau’n edrych yn y dyfodol.

 

9.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 110 KB

9a

Cydbwyllgor Dethol Oedolion, Plant a Phobl Ifanc - 5ed Medi 2019 pdf icon PDF 88 KB

10.

Blaengynllun Gwaith y Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc pdf icon PDF 382 KB

Cofnodion:

Nodwyd, gydag ychwanegiadau o gyfarfod heddiw:

 

  • Gwahodd Ysgol Uwchradd y Brenin Henri VIII i siarad am eu strategaethau o ran cefnogi disgyblion sy’n agored I niwed

 

  • Anghenion Dysgu Ychwanegol – Canlyniadau ar gyfer disgyblion sy’n Nghategorïau A a B a disgyblion o ran Mounton House.

 

 

11.

Rhaglen Waith y Cyngor a'r Cabinet pdf icon PDF 520 KB

Cofnodion:

Nodwyd

 

 

12.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf

Cofnodion:

Dydd Mawrth 17fed o Fawrth 2020 am 10.00am.