Skip to Main Content

Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Council Chamber, County Hall, The Rhadyr, Usk, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Derbyniwyd datganiadau buddiant personol, nad ydynt yn rhagfarnol, mewn perthynas ag eitemau 4 a 5 ar yr agenda, fel a ganlyn:

 

Y Cynghorydd Sirol M. Powell: Llywodraethwr Ysgol Uwchradd King Henry VIII.

Mrs. M. Harris: Llywodraethwr Ysgol Gynradd Deri View.

Y Cynghorydd Sirol T. Thomas Llywodraethwr Ysgol Gymraeg y Fenni.

Y Cynghorydd Sirol D. Jones Llywodraethwr Ysgol Gymraeg y Fenni ac Ysgol Gynradd Llanfihangel Crucornau, a Ffederasiwn Ysgolion Cynradd Llan-ffwyst a Llanfihangel Crucornau.

Y Cynghorydd Sirol R. Harris: Llywodraethwr Ysgol Gynradd Deri View ac Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llandeilo Bertholau

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o'r cyhoedd yn bresennol.

 

3.

Cytundeb Partneriaeth Ysgolion a Gynhelir pdf icon PDF 304 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Pwrpas:

Diben yr adroddiad yw i'r aelodau gytuno ar y Cytundeb Partneriaeth Statudol ar ôl ystyried sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor yn ystod ei gyfarfod ym mis Ionawr 2019.

 

Argymhellion:

Argymhellir bod aelodau'n cytuno ar y Cytundeb Partneriaeth Statudol.

 

Materion Allweddol:

1.         Mae'r Cytundeb Partneriaeth yn cynnwys y swyddogaethau statudol hynny y mae'n rhaid eu cynnwys sef:

·         Sut y bydd yr Awdurdod Lleol (ALl) yn hyrwyddo safonau uchel ac yn cefnogi ysgolion yn arbennig y rhai sy'n peri pryder, mewn mesurau arbennig neu sydd angen gwelliant sylweddol, a'r ffactorau y bydd yr ALl yn eu hystyried wrth nodi ysgolion sy'n peri pryder.

·         Y cymorth y bydd yr ALl yn ei ddarparu ar gyfer cyrff llywodraethu lle mae'r awdurdod wedi arfer ei bwerau ymyrryd neu wedi atal yr hawl i gyllideb ddirprwyedig, ac mewn achosion lle mae arolygiad o ysgol yn peri pryder neu pan fydd yr ALl yn penodi llywodraethwyr ychwanegol.

·         Cyfrifoldeb yr Awdurdod Lleol i roi cymorth i lywodraethwyr

·         Yr adroddiadau y mae'r corff llywodraethu yn eu darparu i'r ALl wrth gyflawni ei swyddogaethau.

·         Cyfrifoldeb yr ysgol a'r ALl dros faterion Iechyd a Diogelwch a'u dyletswyddau i gyflogeion a phersonau eraill mewn perthynas â'r mater hwn.

·         Cyfrifoldeb yr ysgol a'r ALl am reoli adeiladau ysgolion a'u gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio a sut y gall y corff llywodraethu arfer ei bwerau i ddarparu cyfleusterau cymunedol; a

·         Dyletswyddau'r ALl o ran talu treuliau a chynnal ysgolion.

 

Yn ogystal, ar gyfer ysgolion sy'n darparu addysg gynradd, rhaid i'r Cytundeb gynnwys:

·         Arfer swyddogaethau gan yr ALl a'r corff llywodraethu a fydd yn hyrwyddo safonau uchel ac yn sicrhau bod disgyblion yn cael eu trosglwyddo'n effeithiol o Gyfnod Allweddol 2 i 3 a;

·         Gosod targedau ALl mewn perthynas â chynlluniau addysg a gosod targedau cyrff llywodraethu mewn perthynas â pherfformiad ac absenoldeb disgyblion.

Ar gyfer ysgolion sy'n darparu addysg uwchradd rhaid i'r Cytundeb gynnwys:

 

·         Arfer swyddogaethau gan yr ALl a'r corff llywodraethu a fydd yn hyrwyddo safonau uchel ac yn sicrhau bod disgyblion yn cael eu trosglwyddo'n effeithiol o Gyfnod Allweddol 2 a 3 ac o gyfnod allweddol 3 i 4;  a

·         Gosod targed mewn perthynas â chynlluniau addysg a gosod targedau cyrff llywodraethu mewn perthynas ag absenoldeb.

2.         Ymgynghorwyd â Phenaethiaid a Chymdeithas Llywodraethwyr Ysgolion Sir Fynwy ar y Cytundeb Partneriaeth a bydd safbwyntiau a sylwadau yn cael eu cynnwys yn y ddogfen derfynol a gyflwynir i'r Cabinet maes o law.

 

Craffu gan Aelodau:

Cyflwynwyd y Cytundeb Partneriaeth gan y Rheolwr Llywodraethu Plant a Phobl Ifanc.  Gwahoddwyd aelodau'r Pwyllgor Dethol i ofyn cwestiynau a rhoi sylwadau fel a ganlyn:

·         Eglurodd y Cynghorydd Sirol M. Groucutt fod y Cytundeb Partneriaeth wedi'i adolygu oherwydd pryderon a godwyd gan Gymdeithas Llywodraethwyr Ysgolion Sir Fynwy; yn bennaf, bod y ddogfen yn nodi swyddogaethau ar gyfer llywodraethwyr a fyddai fel arfer yn faes arweinyddiaeth ysgolion.  Byddai'n rhaid i lywodraethwyr sy'n ymgymryd â swyddogaethau o'r fath ddibynnu dim ond ar wybodaeth a dderbynnir.   Ers yr adolygiad ac ar ôl newid rhywfaint o eiriad, cymeradwyodd y Cynghorydd  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Datganiad Alldro Monitro Refeniw a Chyfalaf 2018/19 pdf icon PDF 1 MB

Cofnodion:

Pwrpas:

1.       Diben yr adroddiad hwn yw rhoi gwybodaeth i'r Aelodau am sefyllfa alldro refeniw a chyfalaf yr Awdurdod yn seiliedig ar lithriad cyfalaf a chymeradwyaeth a gohirio wrth gefn.

2.       Bydd yr adroddiad hwn hefyd yn cael ei ystyried gan Bwyllgorau Dethol fel rhan o'u cyfrifoldeb i:

     asesu a yw monitro cyllidebau effeithiol yn digwydd,

     monitro i ba raddau y caiff cyllidebau eu gwario yn unol â'r gyllideb a'r fframwaith polisi y cytunwyd arnynt,

     herio rhesymoldeb rhagamcanol dros orwariant neu danwariant, a

     monitro cyflawniad enillion neu gynnydd effeithlonrwydd a ragwelir mewn perthynas â chynigion arbedion.

 

3.       Gan gydnabod y diben deublyg i friffio'r Cabinet/holl aelodau o'r sefyllfa gyfunol, a phwyllgorau craffu unigol o agweddau penodol sy'n effeithio ar eu buddiannau portffolio, mae'r olaf wedi'i godio â lliw (gwyrdd) i gynorthwyo aelodau craffu pwyllgorau penodol

 

Argymhellion y cynigiwyd i'r Cabinet:

1.         Bod yr Aelodau'n ystyried alldro refeniw net o warged o £49 mil.

2.       Bod yr aelodau’n cymeradwyo’r gwarged refeniw ar gyfer y flwyddyn sy’n cael ei ddefnyddio i ailgyflenwi’r gronfa gynhyrchu Derbyniadau Cyfalaf wrth gefn, ac yn nodi bod y gronfa wrth gefn buddsoddi â blaenoriaeth wedi’i chau’n effeithiol, gan gydnabod defnydd balansau wrth gefn ar alldro, y llithriad i gronfeydd wrth gefn 2019-20 arfaethedig a’r lefel isel o cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, a fydd yn lleihau'n sylweddol yr hyblygrwydd sydd gan y Cyngor i ail-lunio gwasanaethau a hwyluso newid i liniaru'r her o adnoddau prin wrth symud ymlaen.

3.         Mae'r Aelodau'n nodi graddau'r symudiadau mewn cyfrannau unigol a gyllidebwyd ar falansau ysgolion, ac adroddwyd am fwriadau'r cynllun adfer o ganlyniad i'w newidiadau cymeradwyo i ganllawiau Ariannu Tecach ers mis 2 

4.         Bod yr Aelodau'n nodi bod 81% o'r arbedion pennu cyllideb y cytunwyd arnynt gan y Cyngor llawn o'r blaen a'r camau/arbedion adferol ymhlyg a gynhwyswyd yn y monitro ariannol i wneud iawn am tua 20% o arbedion (£951 mil) a adroddwyd fel rhai a oedd wedi'u gohirio neu heb eu cyflawni gan reolwyr gwasanaethau.

5.         Bod yr Aelodau'n nodi'r monitro gwell o wasanaethau Plant ac anghenion dysgu ychwanegol a gynigir, i ddarparu manylion er enghraifft costau uned cyfartalog, y gweithgaredd a nifer y cyflwyniadau a ragwelir a ddefnyddir wrth ragweld, er mwyn rhoi cyfle cynharach i wasanaethau dynnu sylw at bwysau o ran costau, a mwy o amser i'w datrys drwy gamau unioni yn ystod y flwyddyn.

6.         Bod yr Aelodau'n ystyried y gwariant alldro cyfalaf o £70.31m, gan gyflwyno gorwariant disgwyliedig o £1.015m, yn derbyn ceisiadau llithriadau o £9.9m yn cael eu cymeradwyo a'r rhagdybiaethau cysylltiedig a wnaed ynghylch canlyniadau ariannu net.

Craffu gan Aelodau:

Cyflwynodd y Rheolwyr Cyllid ar gyfer Diogelu ac Iechyd Gofal Cymdeithasol, ac ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yr adroddiad.   Ar ôl cyflwyno'r adroddiad, gwahoddwyd yr Aelodau i ofyn cwestiynau a gwneud sylwadau: 

 

Cyllideb Gwasanaethau Plant

·         Soniodd Aelod am y cynnydd sylweddol yn nifer y Plant sy'n Derbyn Gofal a gofynnodd a yw'r nifer hwn yn debygol o barhau i godi.   Cytunwyd bod tuedd gynyddol ar  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol

6.

Cofnodion 8fed Mai 2019 pdf icon PDF 114 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8fed Mai 2019 fel cofnod cywir.

 

7.

Cofnodion 21ain Mai 2019 pdf icon PDF 87 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21in Mai 2021 fel cofnod cywir.

 

8.

Camau Gweithredu sy'n deillio o'r cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 109 KB

Cofnodion:

Mae'r camau sy'n deillio o gyfarfodydd blaenorol wedi'u hychwanegu at Flaengynllun Gwaith y Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc.

 

9.

Blaengynllun Gwaith y Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Daeth y Prif Swyddog, Plant a Phobl Ifanc i'r cyfarfod a gyda Chadeirydd y Pwyllgor Dethol, nodwyd awgrymiadau ar gyfer sylw'r Pwyllgor yn y dyfodol:

 

·         Newidiadau i God Ymarfer ADY (Tracey Pead, Swyddog Arweiniol Rhanbarthol)

·         Bwrdd Iechyd Trawsnewid a'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol:  Cymorth i blant sydd ag anghenion iechyd meddwl a lles – Dr L. Jones

·         Cynhwysiant mewn ysgolion / rheoli ymddygiad / Gwahardd: Polisi Ymddygiad ALl ar gyfer pob ysgol 

·         Meysydd Risg e.e. pwysau ariannol

·         Newidiadau sy'n ymwneud â'r cynllun 2 flynedd ar gyfer Gwasanaethau Plant a'r effaith ar ysgolion

·         Adroddiad Blynyddol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc – Prif Swyddog, Gofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd

·         Perfformiad Prydau Ysgol am Ddim:  Adroddiad gan Ysgol Cas-gwent

·         Cynlluniau ar gyfer Ysgol Arbennig T? Mounton – craffu cyn i'r Cabinet ystyried yr hyn a fydd yn digwydd i blant o'r fath yn eu hysgolion eu hunain

·         Ysgol Cas-gwent yn colli disgyblion dros ffin y sir.

·         Strategaeth 10 mlynedd Addysg Cyfrwng Cymraeg, ysgol newydd arfaethedig a goblygiadau i Addysg Cyfrwng Cymraeg yn y sir.

·         Ymgysylltu â'r Fforwm Ieuenctid 

·         Strategaeth Gofalwyr Ifanc

·         Digonolrwydd gofal plant

·         Lles – gordewdra, anhwylderau bwyta

·         Canlyniadau arholiadau – newid sylweddol, dim cydgasglu mwyach 

 

Agenda ar gyfer 17eg Medi 2019

·         T? Mounton

·         Monitro'r Gyllideb

 

Yn gynnar ym mis Medi 2019:  Cyd-bwyllgorau Dethol Plant a Phobl Ifanc ac Oedolion

·         Cynllun Corfforaethol 

·         Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog (Gofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd) 

 

 

10.

Cynllunydd Gwaith y Cyngor a'r Cabinet pdf icon PDF 640 KB

Cofnodion:

Unrhyw eitemau i dynnu sylw atynt i graffu neu i weld yr adroddiad yn unig

 

11.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf