Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o fuddiant

 

Roedd y Cadeirydd wedi croesawu’r Cynghorydd Tony Kear i’w gyfarfod cyntaf ac wedi llongyfarch Jonathan Davies ar ei apwyntiad fel Pennaeth Cyllid.  

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd wedi datgan bwriad i siarad.

 

3.

Nodi Rhestr Gweithredoedd y cyfarfod diwethaf pdf icon PDF 305 KB

Cofnodion:

Nodwyd y rhestr o gamau gweithredu fel a ganlyn.

 

1.    Cydweithrediadau Allweddol: Roedd y Rheolwr Perfformiad a Deallusrwydd Data wedi cynnig diweddariad bod yna rhestr ddrafft yn nodi’r cydweithrediadau allweddol wedi ei rhannu gyda’r Tîm  Archwilio Mewnol a’r Tîm Arwain Strategol.  Bydd Archwilio Mewnol yn defnyddio sampl o’r rhestr er mwyn pennu effeithlonrwydd y trefniadau goruchwylio a’r cydweithrediadau. Cytunwyd y bydd yr agweddau yma yn cael eu hadrodd mewn dwy ran  a) y cydweithrediadau (yn y cyfarfod nesaf) a b) canlyniad adolygiad y Tîm Archwilio o effeithlonrwydd. Bydd y Blaenraglen Waith yn cael ei diwygio’n briodol.  [CAM GWEITHREDU  AR AGOR]

 

2.    Darparu ffigyrau twyll: Rhannwyd e-bost gyda’r wybodaeth ag Aelodau’r Pwyllgor.  [CAM GWEITHREDU  WEDI EI GAU]

 

3.    Datganiad o Gyfrifon: Dywedodd y Pennaeth Cyllid fod yna waith yn cael ei wneud er mwyn dod â’r datganiad o gyfrifon archwiliedig yn ôl i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit yn Ionawr  2023. Mae disgwyl newid y dyddiadau cau statudol ar gyfer mis Ionawr. Mae’r gwaith archwilio yn mynd yn ei flaen yn dda ac nid oes dim byd sylweddol wedi ei nodi hyd yma. [CAM GWEITHREDU  AR AGOR]

 

4.    Terfyn Cyflymder 20mya: Esboniwyd nad oes yna gyfle i gario ymlaen unrhyw gronfeydd grant gan Lywodraeth Cymru sydd heb ei wario. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid bob blwyddyn i gynghorau er mwyn cyflwyno cynigion i sicrhau cyllid ar gyfer cynlluniau penodol. Os yw’r cynlluniau yn cael eu hoedi a bod arian heb ei wario, efallai y bydd yr arian yma sydd heb ei wario yn medru parhau yn y dyraniad ar gyfer y flwyddyn nesaf. [CAM GWEITHREDU  WEDI EI GAU]

 

5.    Adroddiad Llamu Ymlaen Archwilio Cymru:  Roedd y Cadeirydd wedi cwrdd â’r Dirprwy Brif Weithredwr (DBW) a’r Prif Archwilydd Mewnol ac yn mynd i wneud cynigion  cadarn yngl?n â’r Blaenraglen Waith am drafodaeth bellach.   

 

Cyfeirio y DBW at y gofrestr risgiau a’r angen i wahaniaethu yr hyn sydd yn disgyn o fewn sgôp y Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit ac unrhyw beth sydd wedyn gorgyffwrdd gyda’r Pwyllgor Craffu Perfformiad a Throsolwg. Mae’r Cynllun Corfforaethol a Chymunedau yn gosod fframwaith polisi ar gyfer y Cyngor. Mae strategaethau caniatáu yn cael eu diweddaru yn unol gyda therm pum mlynedd y Cyngor newydd a bydd yn cael ei graffu cyn cael ei ystyried gan y Cabinet/Cyngor. Mynegodd y DBW mai sgôp y  Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit  yw ceisio sicrwydd am y trefniadau llywodraethu ehangach. 

 

O ran y Cynllun Corfforaethol a Chymunedau, awgrymwyd adroddiad mwy holistaidd  a fydd yn cynnig elfen o sicrwydd ar gyfer y strategaethau caniatáu cyffredinol sydd yn rhan o’r Cynllun. Mae sicrwydd yn cael ei gynnig ar y fframwaith perfformiad ac mae modd darparu adroddiad tebyg ar sut y mae’r polisi fframwaith yn gweithio. Awgrymwyd bod yna drafodaeth rhwng y Cadeirydd a Chadeirydd y Pwyllgor Craffu Perfformiad a Throsolwg.     

 

Roedd Aelod wedi gofyn am y cynnydd sydd wedi ei wneud gyda’r Cynllun Corfforaethol a Chymunedau a dywedwyd mai’r bwriad yw cyflwyno cynllun mwy manwl i’r Cyngor yn Ionawr  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

2022/23 Diweddariad Canol Blwyddyn ar Reoli’r Trysorlys pdf icon PDF 651 KB

Cofnodion:

Roedd y Pennaeth Cyllid wedi cyflwyno Adroddiad Rheoli’r Trysorlys Canol y Flwyddyn 2022/23. Wedi cyflwyno’r adroddiad, gofynnwyd a oedd unrhyw gwestiynau:

 

Roedd Aelod wedi gofyn am golledion Cyfalaf  na sydd wedi eu gwireddu o £500,000 a gofynnwyd a fydd yna broblem yn y dyfodol. Pe bai’r Awdurdod yn gwerthu asedau, byddai yna ddiffyg arian o  fwy na £500,000 ac mae eiddo newydd eu prisio. Gofynnwyd a fyddai hyn yn cynyddu’r diffyg arian sydd ar gael neu’n gwella’r sefyllfa. Esboniwyd fod hyn yn gronfa fuddsoddi sydd yn cael ei rheoli’n allanol, a byddai’n cael ei brisio gan y marchnadoedd.  O ran y colledion cyfalaf o dan reoliadau cyfredol Llywodraeth Cymru, mae’n caniatáu bod modd cario unrhyw golledion ar y fantolen blwyddyn ar ôl blwyddyn heb fod hyn yn effeithio ar y cyfrif incwm a gwariant, a fyddai wedyn yn effeithio ar drethdalwyr y Cyngor. Mae’r rheoliadau yma yn cael eu hadnewyddu bob blwyddyn. Ni fyddai effaith ar y cyfrif refeniw tan fod y cronfeydd hynny wedi eu gwario. 

 

Roedd Aelod wedi gofyn am y colledion cyfalaf o £476,000; p’un ai bod hyn yn ostyngiad dros dro yng ngwerth y cronfeydd eiddo neu’n gyfranddaliadau sydd wedi eu prynu a’n cael eu had-drefnu. Cadarnhawyd fod y rhain yn gronfeydd  cyfun sydd yn cael eu heffeithio gan y marchnadoedd ecwiti a’r cronfeydd eiddo sydd yn cael eu rheoli’n allanol gan ein cynghorwyr Trysorlys. Mae’r buddsoddiad o £4 miliwn sydd mewn cronfeydd cyfun yn cymharu yn erbyn buddsoddiadau eraill o risg mwy isel a dylid ystyried hyn fel buddsoddiad hirdymor. Cyfeiriwyd hefyd ar yr angen i ddal £10 miliwn o falans arian parod o dan y rheoliadau MiFID er mwyn cynnal ein statws yn y marchnadoedd Trysorlys,  

 

Roedd yr Aelod wedi gofyn am y lefel o gysur gyda buddsoddiad o £4 miliwn oherwydd y ‘rate of return’ o 4.5%  a chwestiynwyd a oedd unrhyw gynlluniau i gynyddu’r buddsoddiad mwn cronfeydd cyfun. Dywedwyd fod hyn wedi ei ystyried ar ôl ymgynghori gyda chynghorwyr y Trysorlys, ond roedd yr ansicrwydd a grëwyd gan y pandemig a'r rhyfel Wcráin/Rwsia wedi golygu ein bod wedi atal rhag gweithredu unrhyw gynlluniau.

 

O ran codau’r CIPFA, cadarnhawyd bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i atal rhag adrodd yn chwarterol i’r Pwyllgor hwn a darparu adroddiadau mwy cryno neu’n ffocysu ar feysydd penodol o berfformiad y Trysorlys.

 

Wrth ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd fod ‘EIP’ yn golygu ‘Equal Instalments of Principal’ a’r gwahaniaeth mewn cyfraddau sydd yn adlewyrchu’r holl gynnwrf yn y farchnad eleni.

 

Roedd y Cadeirydd wedi crynhoi gan ddweud ei fod yn disgwyl ymlaen at strategaeth Trysorlys ddiwygiedig a hoffai ddeall mwy am y trefniadau llywodraethu cyffredinol, y maint, galluedd y tîm Trysorlys mewnol  a’r berthynas gyda chynghorwyr y Trysorlys.

 

Yn unol ag argymhellion yr adroddiad, mae’r Pwyllgor wedi adolygu ac wedi gwneud sylw ar weithgareddau rheoli’r Trysorlys  ar gyfer chwe mis cyntaf  y 2022/23, ac yn nodi cydymffurfiaeth gyda’r holl ddangosyddion Trysorlys a Darbodus sydd wedi eu gosod fel rhan o’r Stratgaeth Trysorlys  a gymeradwyed gan y Cyngor  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Adroddiad Cynnydd Chwarter 2 am 6 mis 2022/23 pdf icon PDF 308 KB

Cofnodion:

Roedd y Prif Archwilydd Mewnol wedi cyflwyno Adroddiad Cynnydd Ch2 2022/23. Wedi cyflwyno’r adroddiad, gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor a oedd cwestiynau ganddynt:

 

Roedd Aelod wedi mynegi pryder am swyddi gwag a’r gallu wedyn i gyflenwi’r cynllun awdit blynyddol yn unol â’r safon sydd angen. Dywedwyd fod un o’r swyddi gwag yn cael ei llenwi gan y darparwr archwilio mewnol allanol. 

 

O ran y dangosyddion perfformiad allweddol, nodwyd fod 68% o argymhellion wedi eu derbyn gan y cleientiaid. Esboniwyd fod hyn yn  fater o amseru lle y mae argymhellion, a phan eu bod wedi eu derbyn, maent wedi eu cofnodi ar y cam drafft yn hytrach na’r cam adrodd, ac felly, mae’r ffigur yma yn debygol o fod yn anghywir a bydd yn cael ei ddatrys yn yr adroddiad chwarter nesaf.

 

Roedd Aelod wedi gofyn cwestiwn am y categori uchel parhaus sydd wedi ei ddynodi ar gyfer cynnal a chadw PTU. Roedd y Prif Archwilydd Mewnol wedi cynghori fod hyn yn ymwneud gydag adroddiad dilynol a gyhoeddwyd yn y chwe mis cyntaf. Mae wedi derbyn barn sicrwydd Sylweddol ers hynny, sydd yn dynodi gwelliant sylweddol o’r archwiliad blaenorol ac mae “Uchel” yn sgôr risg o’r archwiliad mewnol. Mae’r adroddiad yn ymdrin â thrafnidiaeth gyhoeddus a bysiau ysgol. Gofynnwyd cwestiwn am y cyfuniad o fysiau newydd a hen gan fod nifer o hen fysiau yn Ne’r Sir a bydd hyn yn creu problemau o ran cynnal a chadw. Awgrymwyd mai’r Rheolwr Gwasanaeth yw’r person gorau i ateb hyn. Mae’r gwaith o ganoli penderfyniadau am y Fflyd, gan gynnwys yr ystyriaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, yn ffurfio rhan o waith ehangach (e.e. bydd datgarboneiddio yn effeithio ar y cyfuniad o fysiau newydd  a hen).  

 

Roedd yr Aelod hefyd wedi cwestiynu’r categori ‘Uchel’ ar gyfer Iechyd a Diogelwch yr Adeiladau am gyfnod hir.  Esboniwyd fod yr asesiad risg archwiliad mewnol wedi ei asesu fel ‘Uchel’ oherwydd yr angen am archwiliad dilynol.

 

Roedd y  Cadeirydd wedi crynhoi pryder y Pwyllgor am y sefyllfa staffio ond cafwyd sicrwydd yn sgil y camau sydd wedi eu cymryd. Wrth ymateb i gwestiwn, dywedodd y Prif Archwilydd Mewnol, ei fod, yn seiliedig ar y 6 mis cyntaf, yn hyderus fod y farn a gyhoeddwyd hyd yma yn bositif ac mae mwy o’r hyn sydd wedi ei nod yn “Sylweddol” a “Helaeth” yn hytrach na’n “Rhesymol” ac nid oes unrhyw farn gyfyngedig eto. Mae gwaith wedi ei flaenoriaethu i nodi unrhyw archwiliadau risg uchel ac nid oes unrhyw faterion sylweddol wedi dod i’r amlwg eto. Nododd fod y nifer o archwiliadau yn gostwng o bosib o CH3 (bydd llai yn cael eu cyhoeddi) ond ni fydd hyn yn effeithio ar yr ansawdd.

 

6.

Diweddariad ar safbwyntiau anffafriol yn deillio o Archwiliadau pdf icon PDF 181 KB

Cofnodion:

Roedd y Prif Archwilydd Mewnol wedi cyflwyno adroddiad ar y Farn Archwilio Mewnol Anffafriol. Wedi cyflwyno’r adroddiad, gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor a oedd cwestiynau ganddynt:

 

Wrth ymateb i gwestiwn,  esboniodd y Prif Archwilydd Mewnol y rhesymau pam fod yna amser wedi mynd cyn cynnal arolygon dilynol, a hynny yn sgil Covid a’r ffaith nad oes modd ymweld ag ysgolion a Hen Orsaf Tyndyrn ond hefyd yn cytuno y dylid fod wedi eu cynnwys yn y cynllun cyn hyn. Bydd yr arolygon dilynol yn cael eu cynnal yn Chwarter 4. 

 

Roedd yr argymhellion yn y cynlluniau gweithredu wedi eu cytuno gyda’r Penaethiaid/Pennaeth Gwasanaeth a bydd yr arolwg dilynol yn cadarnhau a ydynt wedi eu gweithredu ai peidio. Yn y cyfamser, nid oes yna dystiolaeth bod cynnydd wedi ei wneud. Mae’r adroddiad terfynol yn cael ei ddanfon at y Pennaeth/Pennaeth Gwasanaeth a’r Prif Swyddogion sydd yn sicrhau bod yna brosesau er mwyn sicrhau bod y camau hyn yn cael eu gweithredu yn y cyfamser.  Gwnaed sylw fod e.e. y Tîm Cyllid yn yr adran Plant a Phobl Ifanc yn ymwybodol o argymhellion y cynllun gweithredu.  Er mwyn cynnig rhyw fath o sicrwydd,  awgrymwyd y dylid danfon nodyn ysgrifenedig gan y rheolwyr er mwyn diweddaru ar y cynnydd gyda’r cynllun gweithredu yn y cyfamser.  Atgoffwyd y Pwyllgor fod yna adroddiad blynyddol ar y Blaenraglen Waith sydd yn ymdrin gyda’r cynnydd sydd wedi ei wneud o ran yr argymhellion. Mae’r Prif Archwilydd Mewnol yn mynychu cyfarfodydd y Tîm Arwain Strategol er mwyn trafod y datganiad llywodraethiant blynyddol  a’r farn archwilio cyfyngedig. Mae yna waith yn cael ei wneud er mwyn awtomeiddio elfennau o’r broses archwilio mewnol.

 

Roedd y Prif Archwilydd Mewnol wedi cytuno i ail-ddanfon yr adroddiadau at y Penaethiaid/Pennaeth Gwasanaeth yn gofyn am ddiweddariad ar y cynnydd sydd wedi ei wneud er mwyn gweithredu argymhellion.  

 

Roedd Aelod wedi gofyn cwestiwn am y broses sy’n dilyn pan fydd lefel Rhesymol o sicrwydd yn cael ei rhoi a rhoddwyd gwybod bod y gwiriadau gan y tîm archwilio  yn cadarnhau a yw’r argymhellion sylweddol neu gymedrol wedi eu gweithredu. Os oes yna bryderon, yna mae rhai wedi eu cynnwys yn y broses gynllunio archwilio.  Yn gyffredinol, mae barn Rhesymol neu uwch yn ffafriol a byddai’n cael ei ychwanegu at y broses cynllunio archwilio  a’r asesiadau risg yn cael eu gwneud yn flynyddol.  Os nad yw’r argymhellion ar gyfer barn Rhesymol wedi eu gweithredu, efallai y bydd archwiliad dilynol yn cael ei flaenoriaethu.  

 

Roedd y Pwyllgor wedi ystyried argymhellion yr adroddiad fel a ganlyn:

 

1.    Nodwyd y gwelliannau sydd wedi eu gwneud gan y meysydd gwasanaeth ar ôl derbyn y barn archwiliad sicrwydd Cyfyngedig gwreiddiol.

2.    Cytunwyd os yw Aelodau o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit dal yn poeni am unrhyw un o’r farn archwilio sydd wedi ei gyhoeddi neu’r diffyg gwelliannau a nodir mewn adolygiad archwiliad dilynol, dylid ystyried  gwneud cais i alw’r rheolwr gweithredol a’r Pennaeth Gwasanaeth gerbron y Pwyllgor er mwyn cyfiawnhau’r diffyg cynnydd a’u dal yn atebol am wneud gwelliannau yn y dyfodol.   

3.  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon (2021/22) pdf icon PDF 448 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Rheolwr Cysylltiadau Cwsmeriaid wedi cyflwyno Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon (2021/22). Wedi cyflwyno’r adroddiad, gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor a oedd cwestiynau ganddynt:

 

Roedd Aelod wedi gwneud sylw ar y nifer isel o gwynion, ac yn ail, gofynnodd beth oedd wedi dysgu o’r cwynion a oedd wedi eu dilysu fel nad oeddynt yn cael eu hail-adrodd. Nodwyd y bydd y nifer a’r math o gwynion a’r camau gweithredu sydd i’w cymryd oll yn cael eu hadrodd ym mis Chwefror.  Cadarnhawyd hefyd fod manylion yr Ombwdsmon wedi eu cynnwys yn y llythyr yn dilyn ymchwiliad  cam 2. 

 

Cadarnhawyd y bydd cais yr Ombwdsmon am adborth ar adolygiad y Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit o allu’r polisi i ddelio gyda chwynion yn effeithiol, yn cael ei ystyried pan fydd yr adroddiad blynyddol yn cael eu derbyn  yng nghyfarfod Chwefror.

 

Roedd Aelod wedi cwestiynu pa mor anodd yw cysoni canfyddiad yr Ombwdsmon gyda chwyn sydd wedi ei derbyn ac oes modd diystyru’r broses. Gydag ymchwiliadau Cam 2, bydd yr  Ombwdsmon  yn cysylltu gyda’r Cyngor ond yn cadw’r manylion yn anhysbys. Fel arfer, bydd yr unigolyn sydd yn cwyno yn cael ei ail-gyfeirio i gysylltu gyda’r Cyngor. 

 

Cwestiynwyd ffigyrau cwynion 20 neu 21 ac esboniwyd ei fod yn anodd esbonio’r ffigyrau ond efallai eu bod yn cyfeirio at y 2 gwyn a ddatryswyd yn gynnar a’r cwynion sydd wedi eu datrys yn wirfoddol; ar hyn o bryd, dim ond un sydd yn medru cael ei adnabod.  

 

Dywedwyd fod Sir Fynwy i weld yn perfformio’n dda iawn o’i gymharu ag awdurdodau eraill yng Nghymru.

 

Yn unol ar argymhellion yr adroddiad:

 

1.    Roedd y Pwyllgor Llywodraethu a Chraffu wedi nodi cynnwys llythyr blynyddoedd yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus i Gymru  (Atodiad 1) ac wedi hysbysu’r  Ombwdsmon  o’u hystyriaethau ac unrhyw gamau arfaethedig. Mae’r Ombwdsmon wedi ei hysbysu y byddai yna oedi yn ymateb iddynt erbyn y dyddiad a nodwyd yn sgil yr amserlen ar gyfer  cyfarfodydd y Pwyllgor.  

 

2.    Mae’r Awdurdod yn parhau i ymgysylltu gyda gwaith safonau cwynion yr Ombwdsmon, yn rhoi hyfforddiant i staff a’n darparu’r data i’r Ombwdsmon. Rydym hefyd wedi gweithredu polisi cwynion yr Ombwdsmon.

 

 

 

8.

Adolygiad Blynyddol o’r Pwyllgor Buddsoddi pdf icon PDF 383 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Dirprwy Brif Weithredwr a’r Rheolwr Datblygu (sydd hefyd yn ymgymryd â’r rôl Pennaeth Gwasanaethau Landlordiaid) wedi cyflwyno Adolygiad Blynyddol  y Pwyllgor Buddsoddi. Wedi'r adroddiad, gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor a oedd cwestiynau ganddynt:

 

Gofynnodd Aelod am y diffyg gwerthusiad o opsiynau  yn y cais i gymeradwyo newid yng nghyfeiriad y trefniadau llywodraethu, ac yn gyfansoddiadol, sut y bydd penderfyniadau am fuddsoddiadau newydd yn cael eu gwneud.  Roedd yr Aelod hefyd wedi gofyn cwestiwn am y rheoliadau ar fenthyg ar gyfer  arenillion ac adolygiad blynyddol o’r buddsoddiad presennol ar gyfer arenillion.  Wrth ymateb, dywedwyd y byddai gwerthusiad o opsiynau   yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad i’r Cyngor. Esboniwyd fod y Pwyllgor Buddsoddi yn bwriadu dirprwyo lefel sylweddol o fenthyciadau er mwyn cyflawni polisi amcanion a’n sicrhau arenillion.

 

Mae canllaw’r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus yn awgrymu na ddylid caniatáu mynediad at fenthyciadau lle y mae angen gwneud addasiadau sylweddol i’r buddsoddiadau masnachol presennol. Mae’n bwysig cyfuno'r portffolios presennol yn unol gyda’r safon sydd angen.

 

Gofynnodd Aelod am y buddsoddiad Broadway ar gyfer band eang gwledig mewn ardaloedd anodd eu cyrraedd gydag offer di-wifr a mynediad diwifrog a oedd yn newid i weiren galed yn unig. Gofynnwyd a yw canlyniad tebygol y newid mewn buddsoddiad wedi ei asesu a sut y mae’r cynnydd yn cael ei fonitro. Esboniwyd fod yna dri buddsoddiad wedi eu nodi yn yr adroddiad: Broadway, Parc Hamdden Casnewydd a Pharc Busnes Castlegate.  Roedd prosiect Broadway yn cynnwys benthyciad masnachol o £1.9 miliwn gyda Phartneriaid  Broadway, yn seiliedig ar benderfyniad polisi nad yw Sir Fynwy yn elwa o’r band eang Superfast Cymru sydd yn debyg i weddill Cymru. Roedd hyn yn sgil natur wledig y Sir; roedd y Sir wedi cyrraedd 70% o’r trothwy o gyflymder 30Mb+ tra bod rhannau eraill o Gymru yn 95%+. 

 

Roedd y benthyciad masnachol yn seiliedig ar 4 rhan o fuddsoddiad yn cael ei rhyddhau; rhaid i bob rhan gwrdd ag amodau penodol. Hyd yma, mae dwy ran heb eu rhyddhau. Sicrhawyd bod yna gyfleusterau credydau ar gael yn sgil yr oedi cyn derbyn y cyllid mewn talebau’r DCMS gan Lywodraeth y DU, a hynny ar yr amod fod y talebau wedi eu sicrhau.   

 

Wedi'r cytundeb hwn, roedd Broadway wedi dechrau negodi gydag ariannwr marchnad Band Eang Ffeibr ac wedi denu swm sylweddol o fuddsoddiad: gyda chyfran dda yn cael ei chlustnodi ar gyfer Sir Fynwy. Mae’r cwmni wedi newid ei gyfeiriad gyda’r sylfaenydd yn camu i rôl newydd ac yn apwyntio prif weithredwr newydd. Bydd angen i’r Cyngor ystyried rhyddhau mwy o fuddsoddiad neu hawlio’r ddwy ran yn ôl ac mae yna drafodaethau ar waith.  Yn y cyfamser, mae’r cyfleuster credyd wedi ei ddilysu ac ad-daliadau yn cael eu gwneud ac mae’r Cyngor yn derbyn cyfradd llog ar y benthyciad fel yr hyn a geir yn y farchnad gyffredinol. Mae Llywodraeth y DU wedi symud i dalebau ar gyfer ariannu cwmnïau i fuddsoddi mewn band eang ffeibr llawn. Bydd hyn yn elwa Sir Fynwy a’r nifer o eiddo sydd heb y cysylltedd  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Rhaglen Waith ac Amserlen Archwilio Cymru Chwarter 2 pdf icon PDF 218 KB

Cofnodion:

Roedd Swyddogion Archwilio Cymru  wedi rhoi diweddariad ar Raglen Waith ac Amserlen Ch2 Archwilio Cymru a darparu diweddariadau ar lafar  er mwyn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf.

 

Ychwanegwyd un newid i’r archwiliadau o berfformiad ers diwedd Medi ac mae hyn yn cyfeirio at yr adolygiad o ofal sydd yn ystyried rhyddhau cleifion o’r ysbyty, a hynny o safbwynt yr elfennau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r maes gwaith wedi ei gwblhau gyda rhai cyfweliadau i’w cynnal yn Rhagfyr a bydd crynodeb drafft yn cael ei rannu yn y flwyddyn newydd. Hefyd, bydd y gweithdy sicrwydd ac asesu risg yn cael ei gynnal yn gynnar ym mis Chwefror.

 

Rhoddwyd diweddariad nad yw’r  archwiliad o’r adroddiad cyfrifon ar yr agenda heddiw gan fod rhai materion cenedlaethol heb eu datrys. Mae’r archwiliad yn mynd yn dda  gyda’r rhan fwyaf o waith wedi ei gwblhau ac nid oes yna faterion sylweddol ac eithrio’r ddau fater cenedlaethol sydd yn effeithio ar bob awdurdod lleol o ran prisio asedau eiddo (mae hyn bron wedi ei ddatrys) a’r asedau seilwaith.  Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig mesur statudol dros dro tra’n aros am ddatrysiad parhaol. Pan fydd hyn yn ei le, bydd yn bosib symud ymlaen gyda’r archwiliad o gyfrifon. 

 

Mae gwaith yn parhau gyda Chronfa Deddf Eglwys Cymru, Ymddiriedolaeth Cronfa Fferm Ysgol Sir Fynwy a dilysu’r ceisiadau a datganiadau grant.

 

Cytunodd y Pennaeth Cyllid ei fod yn siomedig fod y broses wedi ei hoedi ac yn golygu bod dadansoddiad o wybodaeth mewn modd amserol yn anodd. Cyhoeddwyd y cyfrifon drafft yn Awst ar gyfer y cyhoedd. Mae’r materion cenedlaethol yn siomedig ac wedi oedi’r broses archwilio, gan lleihau’r cyfnod i gau cyfrifon ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol. Mae’r wybodaeth angenrheidiol wedi ei rhoi i Archwilio Cymru ac mae’r  prisiadau wedi eu derbyn.  Mae’r seilwaith o asedau yn cynnwys addasiad i’r nodiadau yn y cyfrifon ac ni ddylai effeithio unrhyw ddatganiad cynradd.  

 

Roedd Aelod o’r Pwyllgor wedi nodi dull gwaith y Cyngor ac nid yw’r broses o  gyfrif yr asedau seilwaith wedi newid o un flwyddyn i’r llall. Cwestiynwyd pryd y daeth Archwilio Cymru yn ymwybodol fod hyn yn fater sylweddol, a phryd y cafodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit ei hysbysu o hyn, esboniwyd hyn fod y mater wedi dod i’r dod o’r amlwg yn ystod yr adolygiadau o sicrwydd ansawdd yn Lloegr dros yr haf a hysbyswyd y Pwyllgor yn Ebrill/Mai. Mae’r holl awdurdodau yn yr un sefyllfa a chydnabuwyd yr holl bwysau ychwanegol sydd yn cael ei greu. 

 

Roedd y Cadeirydd wedi gofyn am wybodaeth am y Pwyllgorau Cyfun Corfforaethol a chafodd wybod fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno deddfwriaeth er mwyn rhoi’r pedair rhanbarth yng Nghymru yr hawl i greu pwyllgorau cyfun corfforaethol i oruchwylio trafnidiaeth strategol, cynllunio strategol a thwf economaidd strategol.  Nid ydynt yn weithredol tra bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn trafod eithriadau treth. Bydd Rhanbarth-Prifddinas Caerdydd yn parhau tan fod rhai o’r rhwystrau wedi eu diddymu. Cadarnhawyd y bydd y Cabinet ar y Pwyllgor Cyfun Corfforaethol yn cynnwys Arweinwyr Cyngor pob  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Blaenraglen Waith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf icon PDF 265 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Blaenraglen Waith.

 

11.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 311 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

12.

Nodi dyddiad y cyfarfod nesaf sef y 26ain o Ionawr 2023 am 2.00pm