Mater - cyfarfodydd

Test 4

Cyfarfod: 22/11/2017 - Cabinet (eitem 3c)

3c Canolig 2018/19 i 2021/22 a chynigion cyllideb drafft 2018/19 pdf icon PDF 2 MB

Adran/Wardiau sy’n cael eu Heffeithio: Pob un

 

Diben: I danlinellu’r cyd-destun y bydd y Cynllun Ariannol Canoldymor (MTFP) yn cael ei datblygu o fewn am 2018/19 i 2021/22. 

 

I gytuno’r rhagdybiaethau bydd yn cael eu defnyddio i ddiweddaru’r MTFP, ac i gynnig arwydd cynnar o’r lefel o arbedion cyllideb sydd dal i gael eu darganfod.

 

I roi gwybod i Aelodau am y goblygiadau sy’n deillio o gyhoeddiad cytundeb dros dro Llywodraeth Cymru.

 

I ystyried cyllideb 2018/19 o fewn cyd-destun y Cynllun Ariannol Canoldymor (MTFP) 4 mlynedd sydd i gael ei fabwysiadu o fewn y Cynllun Corfforaethol sydd i ddod

 

I gyflwyno cynigion drafft manwl yngl?n â’r arbedion cyllideb sydd eu hangen er mwyn llenwi’r bwlch rhwng yr adnoddau sydd ar gael a’r angen i wario yn 2018/19, am ddibenion ymgynghori.

 

Awdur: Mark Howcroft - Pennaeth Cyllid Cynorthwyol

 

Manylion Cyswllt: markhowcroft@monmouthshire.gov.uk

 

Penderfyniad:

Bod y rhagdybiaethau cyllidebol a amlinellir ym mharagraffau 3.11 i 3.16 yn yr adroddiad yn cael eu cytuno a'u diweddaru yn ystod y broses gyllidebol pe bai gwybodaeth well ar gael.

 

Bod y Cabinet yn cydnabod yr ymateb drafft i Lywodraeth Cymru ar y setliad dros dro (Atodiad 3).

 

Bod y Cabinet yn cymeradwyo bod y cyfnod ymgynghori a'r cyfle i gyflwyno cynigion amgen yn dod i ben ar 31 Ionawr 2018.

 

Mabwysiadu'r broses gyllidebol (fel yr amlinellwyd ym mharagraffau 3.6 ymlaen) gan gynnwys craffu ac ymgynghori aelodau ar y gyllideb a gynhaliwyd gyda Phwyllgorau dethol ac ymgynghori â’r Cyd-gr?p Gweithredu, y fforwm cyllideb ysgolion a fforymau perthnasol eraill.

 

Bod y Cabinet yn cymeradwyo rhyddhau'r cynigion arbedion cyllideb drafft ar gyfer 2018/19 at ddibenion ymgynghori.

 

Bod y Cabinet yn cytuno i barhau i weithio ar yr ardaloedd sydd eu hangen er mwyn cydbwyso cyllideb 2018/19 a'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig, trwy weithgareddau ehangach sydd wedi'u targedu o fewn cylch gorchwyl Dyfodol Sir Fynwy.

 

Bod y Cabinet yn cytuno i gynnwys cyllideb Dyfodol Sir Fynwy o £200,000 fel ystyriaeth gyllideb sylfaenol o 2018/19 o ystyried y rôl allweddol y mae Dyfodol Sir Fynwy yn chwarae wrth hwyluso dyfodol mwy cynaliadwy ac ariannol fforddiadwy ar gyfer gweithgareddau'r Cyngor.

 

Ystyried mabwysiadu'r cyflog Byw Sylfaenol yn ffurfiol fel rhagdybiaeth cynllunio ariannol yn hytrach na chyflog Byw'r Llywodraeth. Ar gyfer 2018/19 y cyfraddau yw £8.75 yr awr a £8.40 yr awr yn y drefn honno. Byddai hyn â chostau posibl a ddygwyd ymlaen o bwysau 2019/20 o £83.5k.

 

Cytunodd y Cabinet i ddileu agweddau Bathodyn Glas a chlwb brecwast o’r cynigion ymgynghori.  Roedd Cabinet am gynnydd o 4.95% yn Nhreth y Cyngor i fod yn rhagdybiaeth cynllunio ariannol ddiwygiedig ar gyfer 2018/19 (i fyny gan 1%), ond i gadw cynnydd o 3.95% yn Nhreth y Cyngor am y 3 blynedd wedi hynny.

 

Penderfynodd y Cabinet ddarparu ail ymateb i Lywodraeth Cymru ar fwriadau'r gyllideb gan gydnabod datganiad hydref y Canghellor.