4b Effeithlonrwydd Gwasanaethau'r Cyngor - Diweddariad Chwarter 2 PDF 381 KB
Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Cyfan
Diben: Rhoi'r diweddariad chwarterol diweddaraf i'r Cabinet ar sut mae'r cyngor yn perfformio ar set o fesurau sy'n bwysig wrth ffurfio barn ar effeithlonrwydd presennol gwasanaethau'r cyngor.
Awdur: Sian Schofield, Dadansoddydd Data
Richard Jones, Swyddog Polisi a Pherfformiad
Manylion Cyswllt: richardjones@monmouthshire.gov.uk
Penderfyniad:
Bod y Cabinet yn defnyddio'r adroddiad hwn i helpu gyda'u monitro a gwerthuso parhaus o effeithlonrwydd gwasanaethau ac i ba raddau y maen nhw'n cyfrannu at flaenoriaethau'r cyngor o addysgu plant, cefnogaeth i bobl agored i niwed, menter a chreu swyddi a chynnal gwasanaethau lleol hygyrch.
Bod y Cabinet yn defnyddio'r adroddiad hwn i adnabod unrhyw gamau gweithredu sydd angen eu cymryd i yrru gwelliannau, gan sicrhau bod gwasanaethau mor effeithlon ac effeithiol â phosib yng nghyd-destun adnoddau cyfredol.